Neidio i'r cynnwys

Beth Sy’n Digwydd ar ôl Inni Farw?

Beth Sy’n Digwydd ar ôl Inni Farw?

Ateb y Beibl

 Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r byw yn gwybod eu bod nhw’n mynd i farw, ond dydy’r meirw’n gwybod dim byd!” (Pregethwr 9:5; Salm 146:4) Felly, ar ôl inni farw, rydyn ni’n peidio â bod. Nid yw’r meirw yn gallu meddwl, teimlo, na gweithredu.

“Byddi’n mynd yn ôl i’r pridd”

 Esboniodd Duw beth sy’n digwydd ar ôl inni farw pan siaradodd â’r dyn cyntaf Adda. Oherwydd i Adda fod yn anufudd, dywedodd Duw wrtho: “Pridd wyt ti, a byddi’n mynd yn ôl i’r pridd.” (Genesis 3:19) Cyn i Dduw greu Adda “o’r pridd,” nid oedd Adda’n bod. (Genesis 2:7) Yn yr un modd, pan fu farw Adda, aeth yn ôl i’r pridd gan beidio â bod.

 Mae’r un peth yn digwydd i’r rhai sy’n marw heddiw. Wrth drafod bodau dynol ac anifeiliaid fel ei gilydd, mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r ddau wedi dod o’r pridd ac yn mynd yn ôl i’r pridd.”​—Pregethwr 3:19, 20.

Nid diwedd popeth o reidrwydd yw marwolaeth

 Yn aml, mae’r Beibl yn cymharu marwolaeth â chwsg. (Salm 13:3; Ioan 11:11-14; Actau 7:60, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Nid yw rhywun sy’n cysgu’n drwm yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o’i gwmpas. Yn yr un modd, nid yw’r meirw yn gwybod dim. Ond mae’r Beibl yn dangos bod Duw yn gallu deffro’r meirw o’u cwsg fel petai, a rhoi bywyd yn ôl iddyn nhw. (Job 14:13-15) I’r rhai y mae Duw’n eu hatgyfodi, nid diwedd popeth yw marwolaeth.