Neidio i'r cynnwys

Ai Amdo Turin Yw’r Un a Roddwyd i Lapio Corff Iesu?

Ai Amdo Turin Yw’r Un a Roddwyd i Lapio Corff Iesu?

Ateb y Beibl

 Nid oes sôn am Amdo Turin yn y Beibl. Mae llawer yn credu mai hwn yw’r lliain a ddefnyddiwyd i lapio corff Iesu Grist. O ganlyniad, mae rhai yn ystyried yr amdo yn un o greiriau mwyaf sanctaidd y Byd Cred. Fe’i cedwir mewn eglwys gadeiriol yn Turin, yr Eidal, mewn cas gwydr soffistigedig.

 Ydy’r Beibl yn cefnogi’r syniad mai Amdo Turin oedd amdo Iesu? Nac ydy.

 Ystyriwch dair ffaith am yr amdo sy’n wahanol i’r hyn mae’r Beibl yn ei ddweud.

  1.   Mae’r amdo yn un darn o liain sy’n mesur 442 wrth 113 centimetr (14 troedfedd 6 modfedd wrth 3 troedfedd 8 modfedd) gyda stribyn ychwanegol 8 centimetr (3 modfedd) o led i lawr un ochr.

     Mae’r Beibl yn dweud: Lapiwyd corff Iesu, nid mewn un lliain cyfan, ond mewn nifer o stribedi o liain. Lapiwyd ei ben mewn cadach arall. Ar ôl i Iesu gael ei atgyfodi, aeth un o’i apostolion i mewn i’r bedd gwag a gweld y “stribedi o liain yn gorwedd yno.” Mae’r Beibl yn ychwanegu: “Gwelodd hefyd y cadach oedd wedi bod am wyneb Iesu, ond roedd hwnnw wedi ei blygu a’i osod o’r neilltu ar wahân i’r stribedi lliain.”—Ioan 20:6, 7.

  2.   Ar yr amdo y mae marciau y tybir eu bod yn staeniau gwaed, wedi dod o gorff heb ei olchi.

     Mae’r Beibl yn dweud: Ar ôl i Iesu farw fe wnaeth y disgyblion baratoi’r corff “yn unol ag arferion claddu’r Iddewon.” (Ioan 19:39-42, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Roedd hyn yn golygu golchi’r corff a’i drin ag olew a sbeisys cyn ei gladdu. (Mathew 26:12; Actau 9:37) Felly, fe fyddai disgyblion Iesu wedi golchi ei gorff cyn ei lapio mewn llieiniau.

  3.   Ar yr amdo y mae delwedd dyn “wedi ei osod ar ei hyd ar un hanner yr amdo, a’r hanner arall wedi ei blygu dros ei ben i orchuddio tu blaen y corff yn gyfan,” yn ôl yr Encyclopædia Britannica.

     Mae’r Beibl yn dweud: Roedd disgyblion Iesu yn trafod ei farwolaeth, y bedd gwag, a thystiolaeth y merched a ddywedodd “eu bod nhw wedi gweld angylion, a bod y rheiny wedi dweud wrthyn nhw fod Iesu’n fyw.” (Luc 24:15-24) Pe bai’r amdo wedi bod ym medd Iesu gyda’r delweddau arni’n amlwg, mae’n sicr y byddai’r disgyblion wedi trafod hynny. Ond nid yw’r Beibl yn dweud dim am unrhyw drafodaeth o’r fath.

A ddylai’r amdo gael ei ddwysbarchu?

 Na ddylai. Hyd yn oed pe bai’r amdo yn hollol ddilys, byddai’n anghywir i’w drin yn sanctaidd. Ystyriwch egwyddorion o’r Beibl sy’n dangos pam.

  1.   Mae dwysbarchu creiriau yn ddiangen. Esboniodd Iesu: “Ysbryd yw Duw, a rhaid i’w addolwyr ef addoli mewn ysbryd a gwirionedd.” (Ioan 4:24. BCND) Ni ddefnyddir creiriau nac eiconau crefyddol mewn gwir addoliad.

  2.   Mae dwysbarchu creiriau wedi’i wahardd. Mae’r Deg Gorchymyn yn gwahardd addoli eilunod. (Deuteronomium 5:6-10) Mae’r Beibl hefyd yn gorchymyn i Gristnogion: “Ymgadwch rhag eilunod.” (1 Ioan 5:21, BCND) Efallai bydd rhai yn dadlau eu bod nhw’n gweld yr amdo nid fel eilun ond fel eicon, neu symbol, o’u cred. Sut bynnag, mae eicon yn troi’n eilun i’r person sy’n ei ddwysbarchu. a Felly, ni fydd neb sydd eisiau plesio Duw yn addoli nac yn dwysbarchu unrhyw wrthrych, gan gynnwys yr amdo.

a Eilun yw unrhyw ddelw, ffurf neu symbol sy’n cael ei addoli.