Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

Os Ydy Cwpl yn Caru ei Gilydd, Ydy Hi’n Iawn Iddyn Nhw Fyw Gyda’i Gilydd Heb Briodi?

Os Ydy Cwpl yn Caru ei Gilydd, Ydy Hi’n Iawn Iddyn Nhw Fyw Gyda’i Gilydd Heb Briodi?

Ateb y Beibl

Mae’r Beibl yn dweud yn glir: “Bydd Duw yn barnu pawb sy’n anfoesol.” (Hebreaid 13:4) Mae’r gair Groeg am anfoesoldeb rhywiol, por·neiʹa, yn cynnwys rhyw cyn priodi. Felly, fe fyddai’n ddrwg yng ngolwg Duw i gwpl sydd heb briodi fyw gyda’i gilydd—hyd yn oed os ydyn nhw’n bwriadu priodi nes ymlaen.

Beth os yw’r cwpl dros eu pen a’u clustiau mewn cariad? Mae Duw yn disgwyl iddyn nhw briodi cyn cael rhyw. Duw a’n creodd ni â’r gallu i garu. Prif rinwedd Duw yw cariad. (1 Ioan 4:8) Felly, mae rheswm da gan Dduw i fynnu bod rhyw i gyplau sy’n briod i’w gilydd yn unig.