BOBL annwyl! Wyt ti’n gweld ble mae Daniel? Mae yng nghanol y llewod, ond eto dydyn nhw ddim yn ymosod arno. Wyt ti’n gwybod pam? Pwy a roddodd Daniel yma gyda’r llewod? Gad inni weld.

Erbyn hyn, Dareius oedd brenin Babilon. Oherwydd bod Daniel yn ddyn caredig a chall, roedd Dareius yn hoff iawn ohono. Dewisodd Daniel i fod yn un o brif lywodraethwyr ei deyrnas. Ond roedd y llywodraethwyr eraill yn genfigennus. Felly, wyt ti’n gwybod beth wnaethon nhw?

Aethon nhw at Dareius a dweud: ‘O frenin, rydyn ni i gyd yn meddwl y dylech chi wahardd pawb rhag gweddïo ar unrhyw dduw neu ddyn ar wahân i chi am dri deg diwrnod. Os bydd rhywun yn torri’r gyfraith, bydd yn cael ei daflu i’r llewod.’ Nid oedd Dareius yn gwybod pam roedden nhw am wneud y fath gyfraith. Ond roedd yn hoffi’r syniad, ac felly fe gytunodd, a llofnododd y ddogfen. Ar ôl hynny, doedd dim modd newid y gyfraith.

Pan glywodd Daniel am y gyfraith, aeth adref i weddïo yn ôl ei arfer. Roedd y dynion drwg yn gwybod na fyddai Daniel yn rhoi’r gorau i weddïo ar Jehofa. Roedden nhw’n hapus iawn, oherwydd roedd hi’n edrych fel petai eu cynllwyn i gael gwared ar Daniel yn llwyddo.

Pan sylweddolodd Dareius fod ei ddynion wedi creu’r gyfraith er mwyn dal Daniel, roedd yn drist iawn. Ond ni fedrai newid y gyfraith, ac felly roedd yn gorfod gorchymyn i Daniel gael ei daflu i ffau’r llewod. Er hynny, dywedodd y brenin wrth Daniel: ‘Gobeithio bydd dy Dduw, yr un rwyt ti’n ei addoli, yn dy achub di.’

Y noson honno, nid oedd Dareius yn medru cysgu. Drannoeth, cododd yn gynnar a brysiodd yn ôl i ffau’r llewod. Wyt ti’n ei weld yn y llun? ‘Daniel, gwas y Duw byw!’ bloeddiodd y brenin. ‘Ydy’r Duw rwyt ti’n ei addoli wedi dy achub rhag y llewod?’

‘Do,’ atebodd Daniel. ‘Anfonodd ei angel i gau cegau’r llewod, a dydyn nhw ddim wedi fy mrifo.’

Roedd y brenin wrth ei fodd a dywedodd wrth ei weision am godi Daniel allan o’r ffau. Yna, gorchmynnodd iddyn nhw gydio yn y cynllwynwyr a’u taflu i’r pydew. Hyd yn oed cyn iddyn nhw gyrraedd y gwaelod, roedd y llewod wedi eu dal a’u llarpio.

Ysgrifennodd Dareius at bawb yn ei deyrnas: ‘Rydw i’n gorchymyn fod pawb i barchu Duw Daniel. Mae’n gwneud gwyrthiau rhyfeddol. Mae wedi achub Daniel rhag cael ei fwyta gan y llewod.’