DIM ond wyth mlwydd oed oedd Joseia pan ddaeth yn frenin ar y ddau lwyth yn ne Israel. Roedd yn dal yn blentyn. Felly, ar y dechrau, roedd pobl hŷn yn ei helpu i deyrnasu.

Ar ôl i Joseia deyrnasu am saith mlynedd, dechreuodd geisio dod i adnabod Jehofa. Dilynodd esiampl brenhinoedd da fel Dafydd, Jehosaffat, a Heseceia. Yna, ac yntau’n dal yn ei arddegau, fe wnaeth Joseia rywbeth hynod o ddewr.

Roedd yr Israeliaid wedi bod yn ddrwg iawn am flynyddoedd. Roedden nhw’n addoli gau dduwiau ac yn ymgrymu o flaen delwau. Felly, aeth Joseia a’i ddynion ati i gael gwared ar gau grefydd o’r wlad. Tasg anferth oedd hon gan fod gymaint o bobl yn addoli gau dduwiau. Wyt ti’n gweld Joseia a’i ddynion yn y llun yn malu’r delwau?

Ar ôl hynny, penododd Joseia dri dyn i arolygu’r gwaith o atgyweirio teml Jehofa. Casglwyd arian gan y bobl a’i roi i’r dynion i dalu am y gwaith. Tra oedd y gwaith yn cael ei wneud, daeth Hilceia yr archoffeiriad o hyd i rywbeth pwysig iawn. Llyfr cyfraith Jehofa oedd hwn, y copi roedd Moses ei hun wedi ei ysgrifennu amser maith yn ôl. Roedd wedi bod ar goll ers blynyddoedd lawer.

Aethon nhw â’r llyfr at Joseia, a gofynnodd ef iddyn nhw ei ddarllen iddo. Wrth i Joseia wrando ar y geiriau, sylweddolodd nad oedd y bobl wedi cadw cyfraith Jehofa. Teimlodd mor drist am hynny nes iddo rwygo ei ddillad, fel y gweli di yn y llun. Dywedodd: ‘Mae Jehofa yn flin gyda ni am nad oedd ein hynafiaid yn cadw’r gorchmynion sydd yn y llyfr hwn.’

Gorchmynnodd Joseia i’r archoffeiriad Hilceia gael gwybod beth oedd Jehofa am ei wneud iddyn nhw. Aeth Hilceia at y broffwydes Hulda a gofyn am neges i’r brenin gan Jehofa. Dywedodd hi: ‘Bydd Jerwsalem a’r holl bobl sydd wedi addoli gau dduwiau a llenwi’r wlad â drygioni yn cael eu cosbi. Ond oherwydd dy fod ti, Joseia, wedi gwneud daioni, fydd y gosb ddim yn digwydd tra dy fod ti’n fyw.’