“OS OES ’NA rywbeth y medra’i ’i wneud, ’does ond yn rhaid i chi roi gwybod imi.” Dyma mae llawer ohonon ni’n ei ddweud wrth y ffrind neu berthynas sy’ newydd gael profedigaeth. O, ’rydyn ni’n ei feddwl e’n ddiffuant. Fe fydden ni’n gwneud unrhyw beth i helpu. Ond ydi’r un galarus yn rhoi galwad i ni a dweud: “’Rydw i wedi meddwl am rywbeth y medrwch chi’i wneud i fy helpu i”? Nid fel arfer. Mae’n amlwg, efallai y bydd yn rhaid i ni fod yn addas flaengar os ydyn ni i wir gynorthwyo a chysuro un sy’n galaru.

Fe ddywed dihareb yn y Beibl: “Fel afalau aur ar addurniadau o arian, felly y mae gair a leferir yn ei bryd.” (Diarhebion 15:23; 25:11) Mae ’na ddoethineb mewn gwybod beth i’w ddweud a beth i beidio â’i ddweud, beth i’w wneud a beth i beidio â’i wneud. Dyma rai awgrymiadau Ysgrythurol y mae rhai pobl alarus wedi cael budd ohonyn’ nhw.

Beth i’w Wneud . . .

Gwrando: Byddwch “yn gyflym i wrando,” meddai Iago 1:19. Un o’r pethau mwya’ buddiol y medrwch chi ei wneud ydi rhannu poen profedigaeth yr un galarus trwy wrando. Yn eu trallod, efallai y bydd angen ar rai pobl siarad am eu hanwylyn a fu farw, am y ddamwain neu’r salwch a achosodd y farwolaeth, neu am eu teimladau ers y farwolaeth. Felly gofynnwch: “Hoffech chi siarad amdano?” Gadewch iddyn’ nhw benderfynu. Gan ddwyn i gof yr amser y bu ei dad farw, fe ddywedodd un gŵr ifanc: “Fe gefais i help gwirioneddol pan ofynnodd eraill beth ddigwyddodd ac yna gwrando’n astud.” Gwrandewch yn amyneddgar a chyda chydymdeimlad heb deimlo o angenrheidrwydd fod yn rhaid i chi gynnig atebion neu esboniad. Caniatewch iddyn’ nhw fynegi beth bynnag y maen’ nhw am ei rannu.

Rhoi cynhaliaeth: Sicrhewch nhw iddyn’ nhw wneud popeth oedd yn bosib’ (neu beth bynnag arall y gwyddoch ei fod yn wir ac yn gadarnhaol). Sicrhewch nhw nad ydi’r hyn maen’ nhw’n ei deimlo—tristwch, dicter, euogrwydd, neu rhyw emosiwn arall—efallai ddim yn anghyffredin o gwbl. Dywedwch wrthyn’ nhw am eraill y gwyddoch amdanyn’ nhw sy’ wedi gwella’n llwyddiannus wedi colled debyg. Mae “geiriau teg” fel hyn yn “iechyd i’r corff,” meddai Diarhebion 16:24.—1 Thesaloniaid 5:11, 14.

Bod ar gael: Sicrhewch eich bod ar gael, nid dim ond am yr ychydig ddyddiau cynta’ pan mae llawer o berthnasau a ffrindiau’n bresennol, ond hyd yn oed fisoedd yn ddiweddarach pan fydd eraill wedi dychwelyd i’w trefn arferol. Fel hyn fe brofwch mai chi ydi’r “cyfaill,” sy’n gefn i ffrind yn amser “adfyd.” (Diarhebion 17:17) “Fe sicrhaodd ein ffrindiau fod ein nosweithiau’n brysur fel  nad oedd yn rhaid i ni dreulio gormod o amser gartre’ ar ein pennau ein hunain,” eglura Teresea, y bu farw ei phlentyn mewn damwain car. “Fe helpodd hynny ni i ymdopi â’r teimlad gwag oedd gennyn ni.” Am flynyddoedd wedyn, gall dyddiadau arbennig, megis dyddiad priodas neu ddyddiad y farwolaeth, fod yn adeg boenus sy’n pwyso ar y rhai sy’ wedi goroesi. Pam nad nodi dyddiadau o’r fath ar eich calendr fel y medrwch chi, pan ddon’ nhw, fod ar gael i roi cefnogaeth cydymdeimladol os bydd angen?

Os gwelwch chi wir angen, peidiwch ag aros i rywun eich gwahodd—gweithredwch yn addas flaengar

Bod yn addas flaengar: Oes ’na negesau sy’ angen eu gwneud? Oes angen rhywun i warchod y plant? Oes angen lle i aros ar ffrindiau a pherthnasau sy’n ymweld? Yn aml mae pobl sy’ newydd gael profedigaeth wedi’u syfrdanu gymaint fel na wyddan’ nhw be’ sy’ angen iddyn’ nhw ei wneud, heb sôn am ddweud wrth eraill sut y medran’ nhw helpu. Felly os ydych chi’n gweld gwir angen, peidiwch ag aros i rywun ofyn i chi; byddwch yn flaengar. (1 Corinthiaid 10:24; cymharer 1 Ioan 3:17, 18.) Fe atgofia un wraig y bu farw ei gŵr: “Fe ddywedodd llawer, ‘Os oes ’na unrhyw beth y medra’i ’i wneud, rhowch wybod.’ Ond nid gofyn wnaeth un ffrind. Fe aeth hi ar ei hunion i mewn i’r ystafell wely, tynnu’r dillad oddi ar y gwely, a golchi’r cyfnasau a faeddwyd gan ei farw. Fe gymerodd un arall fwced, dŵr, a thaclau glanhau a sgwrio’r ryg y bu i’m gŵr gyfogi arno. Rai wythnosau’n ddiweddarach, daeth un o henuriaid y gynulleidfa draw yn ei ddillad gwaith gyda’i dŵls gwaith a dweud, ‘’Rwy’n gwybod fod yn rhaid bod ’na rywbeth eisiau’i drwsio. Be ydi e?’ Mor annwyl ydi’r dyn hwnnw yn fy ngolwg i am drwsio’r drws oedd yn crogi ar ddim ond un colyn ac am atgyweirio teclyn trydan!”—Cymharer Iago 1:27.

Bod yn lletygar: Mae’r Beibl yn ein hatgoffa ni, “Peidiwch ag anghofio lletygarwch.” (Hebreaid 13:2) Fe ddylen ni fod yn lletygar yn arbennig tuag at y rhai galarus. Yn hytrach na gwahoddiad “dowch unrhyw amser,” pennwch ddyddiad ac amser. Os gwrthodan’ nhw, peidiwch â rhoi i fyny’n rhy hawdd. Efallai y bydd angen perswâd tyner.  Fe all eu bod nhw wedi gwrthod eich gwahoddiad am fod arnyn’ nhw ofn colli rheolaeth ar eu hemosiynau o flaen eraill. Neu efallai eu bod nhw’n teimlo’n euog ynglŷn â mwynhau pryd o fwyd a chymdeithasu ar adeg o’r fath. Cofiwch am y wraig letygar Lydia y sonia’r Beibl amdani. Wedi cael gwahoddiad i’w thŷ, fe ddywed Luc, “Mynnodd ein cael yno.”—Actau 16:15

Bod yn amyneddgar a dangos eich bod yn deall: Peidiwch â synnu gormod at yr hyn y gall rhai galarus yn eu profedigaeth ei ddweud ar y cychwyn. Cofiwch, efallai eu bod nhw’n teimlo’n ddig ac yn euog. Os anelir ffrwydradau emosiynol atoch chi, fe fydd angen dealltwriaeth ac amynedd arnoch chi i osgoi ymateb yn flin. Mae’r Beibl yn cymeradwyo, “Gwisgwch amdanoch dynerwch calon, tiriondeb, gostyngeiddrwydd, addfwynder ac amynedd.”—Colosiaid 3:12, 13.

Ysgrifennu llythyr: Yn aml fe anghofir am werth llythyr neu gerdyn cydymdeimlo. Ei fantais? Mae Cindy, a gollodd ei mam i’r cancr, yn ateb: “Fe ysgrifennodd un ffrind lythyr hyfryd ata’ i. Fe helpodd hynny’n wirioneddol oherwydd y medrwn ei ddarllen e drosodd a throsodd.” Fe all llythyr neu gerdyn anogaeth o’r fath fod “yn fyr,” ond fe ddylai ddod o’r galon. (Hebreaid 13:22) Fe fedr ddweud eich bod chi’n gofidio a bod gennych atgofion arbennig am yr un marw, neu fe all ddangos fel y cyffyrddwyd eich bywyd chi gan y person a fu farw.

Gweddïo gyda nhw: Peidiwch â dibrisio gwerth eich gweddïau yng ngŵydd ac ar ran y rhai sy’ mewn profedigaeth. Fe ddywed y Beibl: “Peth grymus iawn . . . yw gweddi daer dyn da.” (Iago 5:16) Er enghraifft, fe all eich clywed chi’n gweddïo drostyn’ nhw helpu lliniaru teimladau negyddol megis euogrwydd.—Cymharer Iago 5:13-15.

Beth i Beidio â’i Wneud . . .

Fe all eich presenoldeb chi yn yr ysbyty fod yn galondid i’r galarus yn eu profedigaeth

Peidiwch â chadw draw am na wyddoch beth i’w ddweud na’i wneud: ‘’Rwy’n siwr fod angen iddyn’ nhw fod ar eu pennau eu hunain ar hyn o bryd,’ gallen ni fod yn ei ddweud wrthyn ni’n hunain. Ond efallai mai’r gwirionedd ydi ein bod ni’n cadw draw am fod arnon ni ofn dweud neu wneud yr hyn sy’n anghywir. Fodd bynnag, gall cael ei anwybyddu gan gyfeillion, perthnasau, neu gyd-gredinwyr wneud i’r un galarus deimlo’n fwy unig, gan ychwanegu at y boen. Cofiwch, y geiriau a’r gweithredoedd mwya’ caredig ydi’r rhai symla’ yn aml. (Effesiaid 4:32) Fe all eich presenoldeb chi’n unig fod yn foddion anogaeth. (Cymharer Actau 28:15.) Wrth ddwyn i gof y dydd y bu farw ei merch, fe ddywed Teresea: “O fewn awr, ’roedd cyntedd yr ysbyty yn llawn gan ein ffrindiau ni; ’roedd yr henuriaid i gyd yno gyda’u gwragedd. ’Roedd rhai o’r merched yno yn eu taclau cyrlio gwallt, ’roedd rhai yn eu dillad gwaith. Yn syml fe ollyngson’ nhw bob peth a dod. Fe ddywedodd llawer wrthyn ni na wydden’ nhw ddim beth i’w ddweud, ond ’doedd dim gwahaniaeth oherwydd ’roedden’ nhw yno.”

Peidio â phwyso arnyn’ nhw i ymatal rhag mynegi eu galar: Efallai ein bod ni eisiau dweud, ‘Dyna ni, ’nawr, ’na ni, peidiwch â chrio.’ Ond fe all mai gwell fyddai gadael i’r dagrau lifo. “’Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig caniatáu i rai galarus wylo a llwyr ymollwng,” medd Katherine, gan fyfyrio ar farw’i gŵr. Ymwrthodwch â’r duedd i ddweud wrth eraill sut y dylen’ nhw deimlo. A pheidiwch â’i chymryd hi’n ganiataol fod yn rhaid i chi guddio’ch teimladau chi er mwyn amddiffyn eu rhai nhw. Yn hytrach, “wylwch gyda’r rhai sy’n wylo,” mae’r Beibl yn ei gymeradwyo.—Rhufeiniaid 12:15.

Peidio â bod yn rhy awyddus i’w cynghori nhw i gael gwared â dillad neu eiddo personol  arall yr ymadawedig cyn eu bod nhw’n barod: Fe allen ni deimlo y byddai’n well iddyn’ nhw roi gwrthrychau sy’n codi atgofion o’r neilltu am eu bod nhw rywfodd yn ymestyn y galar. Ond efallai nad gwir y dywediad “Yr hyn ni welir, a anghofir” yn y cyswllt hwn. Fe all mai angen yr un mewn profedigaeth ydi gollwng yr ymadawedig yn ara’ deg. Cofiwch ddisgrifiad y Beibl o ymateb y patriarch Jacob pan arweiniwyd e i gredu i’w fab ifanc Joseff gael ei ladd gan anifail gwyllt. Wedi i ddilledyn llaes Joseff a drochwyd mewn gwaed gael ei gyflwyno i Jacob, “galarodd am ei fab am amser hir. A daeth pob un o’i feibion a’i ferched i’w gysuro, ond gwrthododd dderbyn cysur.”—Genesis 37:31-35.

Peidio â dweud, ‘Mi fedrwch chi gael babi arall’: “’Roeddwn i’n teimlo’n ddig wrth bobl yn dweud wrthyf y medrwn gael plentyn arall,” ydi atgof mam a gollodd blentyn trwy farw. Efallai fod eu bwriadau nhw’n dda, ond i’r rhiant sy’n  hiraethu mewn galar, mae geiriau sy’n awgrymu y gellir cymryd lle’r plentyn a gollwyd ‘fel brath cleddyf.’ (Diarhebion 12:18) ’Fedr un plentyn fyth gymryd lle un arall. Pam? Am fod pob un yn unigryw.

Peidio â mynd allan o’ch ffordd i osgoi sôn am yr ymadawedig: “’Fyddai llawer o bobl ddim hyd yn oed yn crybwyll enw fy mab Jimmy na siarad amdano,” ydi atgo’ un fam. “Rhaid cyfadde’ fy mod yn cael fy mrifo braidd pan wnâi eraill hynny.” Felly peidiwch â meddwl fod yn rhaid i chi newid y sgwrs pan grybwyllir enw’r ymadawedig. Gofynnwch i’r person a oes arno angen siarad am ei anwylyn. (Cymharer Job 1:18, 19 a 10:1.) Yn eu profedigaeth mae rhai pobl yn gwerthfawrogi clywed ffrindiau yn sôn am nodweddion arbennig oedd yn gwneud yr ymadawedig yn annwyl yn eu golwg nhw.—Cymharer Actau 9:36-39.

Peidio â bod yn rhy barod i ddweud, ‘Dyna oedd orau’: ’Dyw dod o hyd i rywbeth cadarnhaol i’w ddweud am y farwolaeth ddim bob amser yn ‘gysur i’r gwan-galon’ sy’n galaru. (1 Thesaloniaid 5:14) Wrth gofio pan fu farw ei mam, fe ddywedodd un wraig ifanc: “Fe fyddai eraill yn dweud, ‘Dyw hi ddim yn diodde’ neu, ‘O leia’ mae hi mewn heddwch.’ Ond ’doeddwn i ddim am glywed hynny.” I’r rhai sy’n goroesi fe all sylwadau o’r fath awgrymu na ddylen’ nhw ddim teimlo’n drist neu nad oedd y golled ddim yn arwyddocaol. Fodd bynnag, fe allen’ nhw fod yn teimlo’n drist tu hwnt am eu bod nhw’n teimlo colli’u hanwylyn yn fawr iawn.

Efallai mai gwell fyddai peidio â dweud, ‘Rwy’n gwybod sut ’rydych chi’n teimlo’: Ydych chi wir? Er enghraifft, ydi hi’n bosib’ i chi wybod beth mae rhiant yn ei deimlo pan mae plentyn yn marw os nad ydych chi wedi profi’r fath golled eich hun? A hyd yn oed os ydych chi, rhaid sylweddoli efallai nad ydi eraill ddim yn teimlo yn union fel ’roeddech chi’n teimlo. (Cymharer Galarnad 1:12.) Ar y llaw arall, os ydi hi’n ymddangos yn addas, fe all fod peth budd o ddweud sut y bu i chi ddod dros golli’ch anwylyn chi. Fe ganfu un fam y lladdwyd ei merch hi, galondid pan adroddodd mam merch arall a fu farw, sut y daeth hi i fyw bywyd normal eto. Fe ddywedodd hi: “’Wnaeth mam y ferch farw ddim rhagymadroddi ei stori gyda ‘Mi wn i sut ’rydych chi’n teimlo.’ Yn syml fe ddywedodd hi wrthyf sut ’roedd pethau iddi hi a chaniatau i mi uniaethu â nhw.”

Mae helpu person sy’ mewn profedigaeth yn gofyn am dosturi, dirnadaeth, a llawer o gariad ar eich rhan chi. Peidiwch â disgwyl i’r un galarus ddod atoch chi. Peidiwch â dim ond dweud, “Os oes ’na unrhyw beth y medra’ i ’i wneud . . .” Mynnwch ddarganfod yr “unrhyw beth” hwnnw eich hun, ac yna gweithredu’n addas flaengar.

Mae rhai cwestiynau’n aros: Beth am obaith y Beibl ynglŷn ag atgyfodiad? Beth all e ei olygu i chi a’ch anwylyn sy’ wedi marw? Sut medrwn ni fod yn sicr ei fod e’n obaith dibynadwy?