FE YSGRIFENNA person oedd wedi colli rhywun trwy farwolaeth: “Yn blentyn yn Lloegr, fe gefais i fy nysgu i beidio â rhoi mynegiant i’m teimladau yn gyhoeddus. Fe alla’ i gofio fy nhad, cyn-filwr, yn dweud wrthyf â’i enau ynghau, ‘Paid ti â chrio!’ pan ’roedd rhywbeth wedi achosi poen i mi. ’Fedra’ i ddim cofio a gusanodd neu a gofleidiodd mam unrhyw un ohonon ni blant (’roedd ’na bedwar ohonon ni). ’Roeddwn i’n 56 pan welais fy nhad yn marw. Fe deimlais golled enfawr. Ac eto, ar y cychwyn, ’fedrwn i ddim wylo.”

Yn rhai diwylliannau, mae pobl yn mynegi’u teimladau yn agored. Boed nhw’n llon neu’n drist, mae eraill yn gwybod sut maen’ nhw’n teimlo. Ar y llaw arall, yn rhai rhannau’r byd, yn enwedig yng ngogledd Ewrop a Phrydain, mae pobl, dynion yn arbennig, wedi cael eu cyflyru i guddio’u teimladau, i ymatal rhag mynegi’u hemosiynau, i fod yn galed â’u hunain ac i beidio ag amlygu’r hyn sy’n eu calonnau. Ond wedi i chi ddioddef colli rhywun annwyl, oes rhywbeth allan o’i le rywsut mewn rhoi mynegiant i dristwch eich galar? Be’ mae’r Beibl yn ei ddweud?

Y Rhai A Wylodd yn y Beibl

Fe ysgrifennwyd y Beibl gan Hebreaid o ardal glannau dwyreiniol Môr y Canoldir, oedd yn bobl oedd wedi arfer rhoi llwyr fynegiant i’w teimladau. Mae e’n cynnwys llawer enghraifft o unigolion a ddangosodd dristwch eu galar yn agored. Fe alarodd y Brenin Dafydd oherwydd colli ei fab Amnon a lofruddiwyd. I ddweud y gwir, ’roedd “yn wylo’n chwerw.” (2 Samuel 13:28-39) Fe dristaodd yn fawr hyd yn oed o golli’i fab twyllodrus Absalom, a oedd wedi ceisio cipio’r frenhiniaeth. Mae cofnod y Beibl yn dweud wrthyn ni: “Cynhyrfodd y brenin [Dafydd], ac aeth i fyny i’r llofft uwchben y porth ac wylo; ac wrth fynd, yr oedd yn dweud fel hyn, ‘O Absalom fy mab, fy mab Absalom! O na fyddwn i wedi cael marw yn dy le, O Absalom fy mab, fy mab!’” (2 Samuel 18:33) Fe alarodd Dafydd fel unrhyw dad normal. A sawl gwaith mae rhieni wedi dymuno cael marw yn lle eu plant! Mae’n ymddangos mor annaturiol i blentyn farw o flaen rhiant.

Sut ymatebodd Iesu i farw ei gyfaill Lasarus? Fe wylodd e wrth agosáu at ei fedd. (Ioan 11:30-38) Yn ddiweddarach, fe wylodd Mair Magdalen wrth iddi agosáu at feddrod Iesu. (Ioan 20:11-16) Mae’n wir nad ydi Cristion sydd â dealltwriaeth ynglŷn â gobaith y Beibl am yr atgyfodiad, yn tristáu gymaint fel nad oes cysuro arno, fel y gwna rhai nad  oes ganddyn’ nhw sail Feiblaidd eglur am yr hyn a gredant ynglŷn â chyflwr y meirw. Ond ac yntau’n fod dynol a chanddo deimladau normal, mae’r gwir Gristion, hyd yn oed â gobaith yr atgyfodiad ganddo, yn tristáu’n fawr ac yn galaru oherwydd colli unrhyw un sy’n annwyl iddo.—1 Thesaloniaid 4:13, 14.

Wylo neu Beidio

Beth am ein hymateb ni heddiw? Ydych chi’n ei chael hi’n anodd i ddangos eich teimladau, neu’n teimlo’n chwithig o wneud hynny? Beth mae cynghorwyr yn ei gymeradwyo? Yn aml yr hyn a wna eu hagweddau modern nhw ydi dim ond adleisio doethineb ysbrydoledig y Beibl. Maen’ nhw’n dweud y dylen ni roi mynegiant i dristwch ein galar, nid ei atal. Mae hyn yn ein hatgoffa ni am wŷr ffyddlon gynt, megis Job, Dafydd, a Jeremeia, y gwelir yn y Beibl fel ’roedden’ nhw’n mynegi tristwch eu galar. Yn bendant ’doedden nhw ddim yn cadw’u teimladau iddyn’ nhw’u hunain. Felly, peth annoeth ydi torri’ch cysylltiad â phobl. (Diarhebion 18:1) Wrth  gwrs, mae gan ddiwylliannau gwahanol ffyrdd gwahanol o roi mynegiant i’w galar, a hynny’n dibynnu hefyd ar gredoau crefyddol y pryd. *

Beth os ydych chi’n teimlo fel wylo? Mae’n rhan o’r natur ddynol i wylo. Ystyriwch eto achlysur marw Lasarus, pan ‘gynhyrfwyd ysbryd Iesu . . . a thorrodd i wylo.’ (Ioan 11:33, 35) Fe ddangosodd e felly fod wylo yn ymateb normal i farw anwylyn.

Peth normal ydi galaru ac wylo pan fo anwylyn yn marw

Fe gefnogir hyn gan achos mam, Anne, a oedd wedi colli ei babi Rachel oherwydd SMSB (Syndrom Marw Sydyn Baban). Dyma sylw ei gŵr: “Y peth rhyfedd oedd na chriodd Anne na minnau yn yr angladd. ’Roedd pawb arall yn wylo.” Fe ymatebodd Anne i hyn: “Gwir, ond ’rydw i wedi crio digon droson ni’n dau. ’Rwy’n credu iddo fy nharo yn go iawn ychydig wythnosau wedi’r drasiedi, pan ’roeddwn un diwrnod o’r diwedd ar fy mhen fy hun yn y tŷ. Fe griais drwy’r dydd ar ei hyd. Ond ’rwy’n credu i hynny fy helpu. ’Roeddwn yn teimlo’n well wedi gwneud. ’Roedd yn rhaid i mi roi mynegiant i alar colli fy mabi. ’Rydw i’n wirioneddol gredu y dylech chi ganiatáu i bobl sy’n galaru wylo. Er mai ymateb naturiol ydi i eraill ddweud, ‘Peidiwch â chrio,’ ’dyw hynny ddim yn helpu mewn gwirionedd.”

Sut Mae Rhai yn Ymateb

Sut mae rhai wedi ymateb wedi iddyn’ nhw dorri’u calonnau’n lân oherwydd colli anwylyn? Er enghraifft, ystyriwch Juanita. Fe ŵyr hi sut deimlad ydi colli babi. Bum gwaith ’roedd hi wedi colli babi cyn ei eni. ’Nawr ’roedd hi’n feichiog eto. Felly pan achosodd damwain car iddi orfod aros cyfnod yn yr ysbyty, ’roedd hi’n naturiol yn bryderus. Bythefnos yn ddiweddarach daeth gwewyr esgor arni—cyn ei hamser. Yn fuan wedyn ganed Vanessa fach—yn pwyso ychydig dros ddeubwys. “’Roeddwn i wrth fy modd,” atgofia Juanita. “O’r diwedd mi roeddwn i’n fam!”

Ond byr oedd ei hapusrwydd. Bedwar diwrnod yn ddiweddarach bu farw Vanessa. Meddai Juanita gan atgofio: “’Roeddwn i’n teimlo mor wag. Fe gymerwyd  fy mamolaeth oddi arnaf. ’Roeddwn i’n teimlo’n anghyflawn. Mor boenus oedd dychwelyd adre’ i’r ystafell ’roedden ni wedi’i pharatoi ar gyfer Vanessa ac i edrych ar y dillad isa’ bach ’roeddwn i wedi’u prynu ar ei chyfer hi. Am y mis neu ddau canlynol, ’roeddwn i’n ail fyw dydd ei geni hi. ’Doeddwn i ddim eisiau gwneud dim â neb.”

Ymateb eithafol? Efallai ei bod hi’n anodd i eraill ddeall, ond y mae’r rheiny, fel Juanita, sydd wedi byw trwy’r fath brofiad yn egluro iddyn’ nhw alaru’n hiraethus am eu babi yn union fel y bydden’ nhw am rywun a oedd wedi byw am beth amser. Maen’ nhw’n dweud, y cerir plentyn gan ei rieni ymhell cyn ei eni. Mae ’na asio agos arbennig gyda’r fam. Pan fo’r babi hwnnw’n marw, mae’r fam yn teimlo fod person real wedi’i golli. A hynny sydd angen i eraill ei ddeall.

Sut y Gall Dicter ac Euogrwydd Effeithio Arnoch Chi

Fe fynegodd mam arall ei theimladau pan ddywedwyd wrthi i’w mab chwe mlwydd oed farw’n annisgwyl oherwydd problem gynhwynol â’i galon. “Fe brofais i un ymateb ar ôl y llall—fferdod, methu credu, euogrwydd, a dicter tuag at fy ngŵr a’r meddyg am beidio â sylweddoli mor ddifrifol oedd ei gyflwr e.”

Gall dicter fod yn arwydd arall o boen galar. Dicter at feddygon a nyrsus efallai, yn teimlo y gallen’ nhw fod wedi gwneud rhagor i ofalu am yr un marw. Neu fe all fod yn ddicter at gyfeillion a pherthnasau sydd, mae’n ymddangos, yn dweud neu yn gwneud y peth anghywir. Mae rhai yn digio wrth yr ymadawedig am anwybyddu’i iechyd. Mae Stella’n atgofio: “Rydw i’n cofio bod yn ddig gyda’m gŵr oherwydd fe wyddwn y gallai pethau fod wedi bod yn wahanol. ’Roedd e wedi bod yn wael iawn, ond ’roedd e wedi anwybyddu rhybuddion y meddyg.” Ac weithiau mae ’na ddicter at yr ymadawedig oherwydd y beichiau a ddaw i ran y goroeswr yn sgîl y farwolaeth.

Mae rhai yn teimlo’n euog oherwydd dicter—hynny ydi, efallai eu bod nhw’n eu condemnio’u hunain am eu bod nhw’n teimlo’n ddig. Mae eraill yn eu beio’u hunain am farwolaeth eu hanwylyn. “’Fyddai e ddim wedi marw,” maen’ nhw’n eu hargyhoeddi eu hunain, “petawn i ’mond wedi ei orfodi i fynd at y meddyg yn gynt” neu “ei orfodi i weld meddyg arall” neu “ei orfodi i ofalu am ei iechyd yn well.”

Trawma ofnadwy ydi colli plentyn—fe all cydymdeimlad ac empathi diffuant helpu’r rhieni

I eraill mae’r euogrwydd yn mynd ymhellach na  hynny, yn enwedig os bu i’w hanwylyn farw’n sydyn, annisgwyl. Maen’ nhw’n dechrau atgofio’r adegau pan fuon’ nhw’n ddig wrth yr ymadawedig, neu pan fuon’ nhw’n dadlau ag e. Neu fe all eu bod nhw’n teimlo na fuon’ nhw yn hollol yr hyn y dylen’ nhw fod wedi bod i’r ymadawedig.

Mae proses alaru a hiraethu hir llawer mam yn cefnogi’r hyn a ddywed llawer arbenigwr, fod colli plentyn yn gadael bwlch parhaol ym mywyd y rhieni, ac mae hynny’n arbennig o wir am y fam.

Colli Priod

Mae colli priod yn fath arall o drawma, yn enwedig os bu i’r ddau fyw bywyd prysur gyda’i gilydd. Fe all olygu diwedd ar ddull o fywyd a rannwyd ganddyn’ nhw, ar deithio, gwaith, adloniant, a chyd-ddibyniaeth.

Mae Eunice yn egluro beth ddigwyddodd pan fu farw ei gŵr yn sydyn o drawiad ar y galon. “Am yr wythnos gynta’, ’roeddwn i mewn cyflwr o fferdod emosiynol, fel petawn i wedi peidio â bod. ’Fedrwn i ddim hyd yn oed flasu nac arogleuo. Eto ’roedd fy synnwyr rhesymeg i’n parhau ond fel petai e wedi’i ddatgysylltu. Oherwydd imi fod gyda’m gŵr wrth iddyn’ nhw geisio ei sefydlogi e gan ddefnyddio ACY  (Adfywhau Calon-Ysgyfeiniol) a meddyginiaeth, ’wnes i ddim dioddef gan yr arwyddion gwadu arferol. Er hynny, ’roedd ’na deimlad dwys o rwystredigaeth, fel petawn i’n gwylio car yn mynd dros glogwyn a minnau’n methu â gwneud dim ynghylch y peth.”

’Wylodd hi? “Wrth gwrs y gwnes i, yn enwedig wrth ddarllen y cannoedd o gardiau cydymdeimlo a dderbyniais. Fe griais i uwchben bob un. Fe’m helpodd i wynebu gweddill y dydd. Ond ’fedrai dim helpu pan ofynnwyd i mi dro ar ôl tro sut ’roeddwn i’n teimlo. Yn amlwg, ’roeddwn i’n druenus.”

Beth helpodd Eunice i fyw drwy dristwch ei galar? “Heb i mi sylweddoli hynny, yn ddiarwybod i mi fy hun fe wnes i’r penderfyniad i fynd ymlaen â’m bywyd,” meddai hi. “Fodd bynnag, yr hyn sy’n dal i’m brifo i o hyd ydi cofio nad ydi fy ngŵr, oedd yn caru bywyd gymaint, ddim yma i’w fwynhau e.”

“Peidiwch â Gadael i Eraill Reoli . . . ”

Mae awduron Leavetaking—When and How to Say Goodbye yn cynghori: “Peidiwch â gadael i eraill reoli sut y dylech chi weithredu neu deimlo. Mae’r broses alaru yn gweithio’n wahanol i bawb. Fe all eraill feddwl—a rhoi gwybod i chi eu bod nhw’n meddwl—eich bod yn hiraethu gormod mewn galar neu dim digon. Maddeuwch iddyn’ nhw ac anghofiwch am y peth. Wrth geisio’ch gorfodi’ch hun i ffitio patrwm a grewyd gan eraill neu gan gymdeithas yn gyffredinol, ’rydych chi’n rhwystro’ch twf tuag at adfer iechyd emosiynol.”

Wrth gwrs, mae gwahanol bobl yn trin poen eu galar mewn ffyrdd gwahanol. ’Dydyn ni ddim yn ceisio awgrymu fod un ffordd o angenrheidrwydd yn well nag un arall ar gyfer pob unigolyn. Fodd bynnag, mae perygl pan fo’r emosiwn yn sefyll yn hir yn ei unfan, a’r person sy’n dioddef mewn galar yn methu â derbyn realiti’r sefyllfa. Yna fe all y bydd angen help gan ffrindiau tosturiol. Mae’r Beibl yn dweud: “Y mae cyfaill yn gyfaill bob amser; ar gyfer adfyd y genir brawd.” Felly peidiwch â bod ofn wylo, a cheisio help a siarad.—Diarhebion 17:17.

Mae hiraethu mewn galar yn ymateb naturiol i golled, a ’does ’na ddim o’i le i’ch galar chi fod yn amlwg i bawb. Ond mae ’na gwestiynau pellach y mae angen eu hateb nhw: ‘Sut fedra’i fyw gyda’m galar? Ai peth normal ydi teimlo’n euog a dig? Sut dylwn i ymdrin â’r ymatebion hyn? Beth all fy helpu i oddef y golled a’r galar?’ Fe fydd yr adran nesa’n ateb y cwestiynau hynny ac eraill.

^ Par. 8 Er enghraifft, mae gan yr Yoruba-iaid yn Nigeria gred draddodiadol yn ailymgnawdoliad yr enaid. Felly pan fo mam yn colli plentyn, mae galar dwys am gyfnod byr yn unig, oherwydd fel mae dihareb Yoruba yn dweud: “Y dŵr a dywalltwyd. Ni thorrwyd mo’r calabash (llestr).” Yn ôl yr Yoruba-iaid, mae hyn yn golygu fod y calabash sy’n cario’r dŵr, y fam, yn medru cario plentyn arall—ailymgnawdoliad o’r un marw efallai. ’Dyw Tystion Jehofah ddim yn dilyn unrhyw draddodiadau sy’n seiliedig ar ofergoelion yn deillio o syniadau gau ynglŷn â’r enaid anfarwol ac ailymgnawdoliad, nad oes sail iddyn’ nhw yn y Beibl.—Pregethwr 9:5, 10; Eseciel 18:4, 20.