Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

 RHAN 15

Proffwyd Alltud yn Cael Cipolwg ar y Dyfodol

Proffwyd Alltud yn Cael Cipolwg ar y Dyfodol

Daniel yn proffwydo am Deyrnas Dduw a dyfodiad y Meseia. Cwymp Babilon

ROEDD Daniel yn ddyn ifanc ffyddlon ac fe’i cymerwyd yn alltud i Fabilon cyn i Jerwsalem gael ei dinistrio. Rhoddodd y Babiloniaid rywfaint o ryddid i Daniel ac i alltudion Iddewig eraill o deyrnas Jwda. Trwy gydol ei oes hir ym Mabilon, cafodd Daniel ei fendithio’n fawr gan Dduw. Cafodd ei achub o ffau’r llewod a chafodd weledigaethau o’r dyfodol pell. Mae proffwydoliaethau pwysicaf Daniel yn ymwneud â’r Meseia a’i deyrnas.

Daniel yn cael gwybod pryd byddai’r Meseia yn dod. Dywedodd angel wrth Daniel pryd y dylai pobl Dduw ddisgwyl y “tywysog eneiniog” neu’r Meseia—69 wythnos o flynyddoedd ar ôl y gorchymyn i ailadeiladu muriau Jerwsalem. Gan fod saith diwrnod mewn wythnos, mae wythnos o flynyddoedd yn golygu saith mlynedd. Daeth y gorchymyn i adfer Jerwsalem ym 455 COG, ymhell ar ôl amser Daniel. Dyma oedd dechrau’r 69 “wythnos” a aeth ymlaen am 483 o flynyddoedd gan orffen yn y flwyddyn 29 OG. Yn rhan nesaf y llyfryn hwn, cawn weld beth ddigwyddodd yn y flwyddyn honno. Rhagwelodd Daniel hefyd y byddai’r Meseia yn cael ei ladd, i wneud iawn am bechod.—Daniel 9:24-26.

Byddai’r Meseia yn dod yn Frenin yn y nef. Mewn gweledigaeth o’r nef ei hun, fe welodd Daniel y Meseia, “un fel mab dyn,” yn dod o flaen gorsedd Jehofa. Rhoddodd Jehofa iddo “arglwyddiaeth a gogoniant a brenhiniaeth.” Byddai’r frenhiniaeth neu’r Deyrnas honno yn para am byth. Dysgodd Daniel rywbeth arall am y Deyrnas Feseianaidd—byddai pobl eraill yn cyd-lywodraethu gyda’r Brenin, grŵp a elwir yn “bobl saint y Goruchaf.”—Daniel 7:13, 14, 27.

Bydd y Deyrnas yn dinistrio llywodraethau’r byd hwn. Rhoddodd Duw’r gallu i Daniel ddehongli breuddwyd a oedd wedi drysu Nebuchadnesar, brenin Babilon. Roedd y brenin wedi gweld delw anferth gyda phen aur, bron a breichiau o arian, bol a chluniau o bres, coesau o haearn, a thraed yn gymysgedd o haearn a chlai. Daeth carreg wedi ei naddu o’r mynydd a tharo’r ddelw ar ei thraed bregus a’i malurio’n llwyr. Esboniodd Daniel fod rhannau gwahanol o’r ddelw yn cynrychioli cyfres hir o rymoedd y byd, yn dechrau gyda Babilon, y pen aur. Fe wnaeth Daniel ragweld y byddai Teyrnas Dduw yn gweithredu yng nghyfnod yr un olaf o’r grymoedd hynny. Fe fyddai’n dryllio llywodraethau’r byd drwg hwn i gyd, ac yn rheoli am byth.—Daniel, pennod 2.

Ac yntau bellach yn hen ddyn, fe welodd Daniel gwymp Babilon. Yn union fel y rhagfynegwyd gan y proffwydi, cafodd y ddinas ei gorchfygu gan y Brenin Cyrus. Yn fuan wedyn, cafodd yr Iddewon eu rhyddhau, 70 mlynedd yn union ar ôl i’w mamwlad gael ei gadael yn ddiffaith. O dan arweiniad llywodraethwyr, offeiriaid, a phroffwydi ffyddlon, fe wnaeth yr Iddewon ailadeiladu Jerwsalem ac adfer teml Jehofa. Ond, beth fyddai’n digwydd ar ddiwedd y 483 o flynyddoedd?

​—Yn seiliedig ar lyfr Daniel.