Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

 RHAN 13

Beth Mae’n Rhaid Inni ei Wneud i Blesio Duw?

Beth Mae’n Rhaid Inni ei Wneud i Blesio Duw?

Osgowch beth sy’n ddrwg. 1 Corinthiaid 6:9, 10

Os ydyn ni’n caru Jehofah, fyddwn ni ddim yn gwneud pethau y mae’n eu casáu.

Nid yw Jehofah eisiau inni ddwyn, meddwi, na chamddefnyddio cyffuriau.

Mae Duw yn casáu llofruddiaeth, erthyliad, a gweithredoedd hoyw. Nid yw Duw eisiau inni fod yn farus nac i ymladd yn erbyn pobl eraill.

Ddylwn ni ddim addoli delwau nac arfer ysbrydegaeth.

Yn y Baradwys sydd i ddod ar y ddaear, ni fydd unrhyw le i bobl ddrwg.

 Gwnewch beth sy’n dda. Mathew 7:12

I foddhau Duw, mae’n rhaid inni geisio bod yn debyg iddo.

Dangoswch gariad tuag at eraill drwy fod yn garedig a rhoi yn hael.

Byddwch yn onest.

Byddwch yn faddeugar ac yn drugarog.

Siaradwch â phobl am Jehofah a’i bwrpas.Eseia 43:10.