Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

 RHAN 7

Pwy Oedd Iesu?

Pwy Oedd Iesu?

Fe wnaeth Jehofah anfon Iesu i’r ddaear. 1 Ioan 4:9

Os ydyn ni am blesio Jehofah, mae’n rhaid inni wrando ar ei fab. Ymhell cyn i Jehofah greu Adda, fe greodd angel grymus yn y nefoedd.

Ymhen amser, anfonodd Jehofah yr angel hwn i gael ei eni ym Methlehem trwy wyryf o’r enw Mair. Cafodd y plentyn ei enwi’n Iesu.—Ioan 6:​38.

Fel dyn ar y ddaear, roedd Iesu’n adlewyrchu priodoleddau Duw yn berffaith. Roedd Iesu’n gariadus, yn garedig, ac yn hawdd mynd ato. Heb ofn, fe ddysgodd eraill y gwir am Jehofah.

 Fe wnaeth Iesu waith da, ond roedd rhai yn ei gasáu. 1 Pedr 2:​21-​24

Fe wnaeth Iesu iacháu’r rhai sâl, a chodi pobl o farw’n fyw.

Gan fod Iesu’n tynnu sylw at gau ddysgeidiaeth a drygioni’r arweinwyr crefyddol, roedden nhw’n ei gasáu.

Fe wnaeth yr arweinwyr crefyddol berswadio’r Rhufeiniaid i guro Iesu a’i ladd.