Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

 RHAN 9

Pryd Bydd Paradwys yn Dod?

Pryd Bydd Paradwys yn Dod?

Mae trafferthion yn y byd yn profi y bydd Teyrnas Dduw yn gweithredu’n fuan. Luc 21:​10, 11; 2 Timotheus 3:​1-5

Rhagfynegodd y Beibl lawer o’r pethau sy’n digwydd heddiw. Dywedodd y byddai pobl yn caru arian, yn anufudd i’w rhieni, yn ffyrnig, ac yn caru pleserau.

Byddai daeargrynfeydd dirfawr, rhyfeloedd, newyn, ac afiechydon i’w gweld yn y byd. Mae’r pethau hyn yn digwydd nawr.

Hefyd, dywedodd Iesu byddai’r newydd da am y Deyrnas yn cael ei bregethu drwy’r byd i gyd.—Mathew 24:⁠14.

 Bydd y Deyrnas yn cael gwared ar ddrygioni. 2 Pedr 3:​13

Yn fuan, bydd Jehofah yn dinistrio pobl ddrwg.

Bydd Satan a’r cythreuliaid yn cael eu cosbi.

Bydd y rhai sy’n gwrando ar Dduw yn goroesi ac yn byw mewn byd newydd cyfiawn heb ofn. Bydd y byd yn llawn pobl gariadus sy’n ymddiried yn ei gilydd.