Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r isddewislen

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Cymraeg

“Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw”

 PENNOD 11

“Bydded Priodas Mewn Parch”

“Bydded Priodas Mewn Parch”

“Llawenha yng ngwraig dy ieuenctid.”—DIARHEBION 5:18.

1, 2. Pa gwestiwn y byddwn ni yn ei ystyried, a pham?

WYT ti wedi priodi? Os felly, a yw’r briodas yn un hapus, neu a wyt ti’n wynebu problemau priodasol difrifol? Wyt ti a’th gymar wedi dechrau ymbellhau? A fyddet ti’n dweud mai baich yn hytrach na bendith yw dy briodas? Os felly, mae’n debyg dy fod ti’n teimlo’n drist oherwydd bod y berthynas gynnes rhyngoch chi bellach wedi oeri. Fel Cristion, rwyt ti’n dymuno i’th briodas ddod â chlod i Jehofa ac felly, mae’r sefyllfa ddrwg yn peri loes calon iti. Er hynny, paid â meddwl bod y sefyllfa yn anobeithiol.

2 Mae llawer o Gristnogion priod sydd heddiw’n hapus yn gallu edrych yn ôl ar adegau pan oedd eu priodasau dan straen. Ond eto, fe lwyddon nhw i gryfhau eu perthynas. Gelli di hefyd lwyddo i wella dy briodas. Ym mha ffordd?

CLOSIO AT DDUW AC AT DY GYMAR

3, 4. Sut bydd parau priod yn agosáu at ei gilydd drwy agosáu at Dduw? Eglura.

3 Os gwnewch chi ymdrech i glosio at Dduw, fe fyddi di a’th gymar yn closio at eich gilydd. Pam? Ystyria hyn: Dychmyga fynydd uchel sydd â gwaelod llydan a chopa  cul. Mae dyn yn sefyll ar waelod un ochr a dynes yn sefyll ar waelod yr ochr arall. Mae’r ddau yn dechrau dringo. Ar ddechrau’r daith, mae’r ddau yn bell oddi wrth ei gilydd. Ond, wrth iddyn nhw ddringo tuag at y copa, mae’r pellter rhyngddyn nhw yn mynd yn llai. Wyt ti’n gweld y wers yn yr eglureb hon?

4 Mae dy ymdrech i wasanaethu Jehofa yn debyg i’r ymdrech sydd ei hangen i ddringo mynydd. Gan dy fod ti’n caru Jehofa, rwyt ti eisoes yn gweithio’n galed i ddringo, fel petai. Fodd bynnag, os wyt ti a’th gymar wedi ymbellhau, mae fel petaech chi’n dringo ar ochrau gwahanol y mynydd. Ond, beth sy’n digwydd wrth ichi barhau i ddringo? Er bod pellter mawr rhyngoch chi ar  y dechrau, bydd pob cam rydych chi yn ei gymryd i glosio at Dduw—i ddringo’r mynydd fel petai—yn dod â thi’n nes at dy gymar. Yn wir, nesáu at Dduw yw’r ffordd i nesáu at dy gymar. Ond sut mae gwneud hynny mewn gwirionedd?

Bydd deall egwyddorion y Beibl a’u rhoi ar waith yn cryfhau eich priodas

5. (a) Beth yw un ffordd i glosio at Jehofa ac at dy gymar? (b) Beth yw agwedd Jehofa tuag at briodas?

5 Un ffordd bwysig o ddringo, fel petai, yw i ti a’th gymar ddilyn cyngor y Beibl ar briodas. (Salm 25:4; Eseia 48:17, 18) Ystyria’r pwynt mae’r apostol Paul yn ei wneud. Fe ddywedodd: “Bydded priodas mewn parch gan bawb.” (Hebreaid 13:4) Beth mae hyn yn ei olygu? Os ydyn ni’n parchu rhywbeth, rydyn ni yn ei ystyried yn werthfawr a phwysig. Dyna’n union sut y mae Jehofa yn edrych ar briodas.

WEDI DY YSGOGI GAN GARIAD TUAG AT JEHOFA

6. Beth mae cyd-destun cyngor Paul am briodas yn ei ddangos, a pham mae’n bwysig cofio hyn?

6 Wrth gwrs, fel gweision Duw, rwyt ti a’th gymar eisoes yn gwybod bod priodas yn werthfawr, yn gysegredig hyd yn oed. Jehofa ei hun a sefydlodd briodas. (Darllen Mathew 19:4-6.) Ond, os ydych chi’n wynebu problemau priodasol, efallai na fydd gwybod hyn yn ddigon i wneud ichi barchu a charu eich gilydd. Beth, felly, all eich helpu chi? Sylwch yn ofalus ar eiriau Paul. Nid yw’n dweud, “peth parchus yw priodas” ond, yn hytrach, “bydded priodas mewn parch.” Nid sylw cyffredinol sydd yma, ond anogaeth. * Gall cofio hynny eich helpu chi i ailgynnau’r parch yn eich priodas. Sut felly?

7. (a) Pa orchmynion Ysgrythurol rydyn ni’n ufuddhau iddyn nhw, a pham? (b) Pa ganlyniadau da sy’n dod o fod yn ufudd?

 7 Ystyria am ennyd sut rwyt ti’n teimlo am orchmynion Ysgrythurol eraill, fel ein dyletswydd i wneud disgyblion neu’r anogaeth i gyfarfod gyda’n gilydd er mwyn addoli Jehofa. (Mathew 28:19; Hebreaid 10:24, 25) Ar adegau, gall ufuddhau i’r gorchmynion hyn fod yn dipyn o her. Gall yr ymateb yn y weinidogaeth fod yn negyddol, neu gall ennill bywoliaeth yn dy flino gymaint nes bod mynd i’r cyfarfodydd Cristnogol yn ymdrech fawr. Ond, er hynny, rwyt ti’n dal ati i bregethu am y Deyrnas, ac i fynd i’r cyfarfodydd. Ni all neb dy rwystro di—dim hyd yn oed Satan! Pam felly? Oherwydd dy fod ti’n caru Jehofa ac yn dymuno ufuddhau i’w orchmynion. (1 Ioan 5:3) Beth yw’r canlyniad? Mae cael rhan yn y gwaith pregethu a mynd i’r cyfarfodydd yn rhoi i ti’r tawelwch meddwl a’r llawenydd sy’n dod o wneud ewyllys Duw. Ac mae’r teimladau hynny, yn eu tro, yn rhoi nerth i ti. (Nehemeia 8:10) Beth yw’r wers yma?

8, 9. (a) Beth all ein hysgogi ni i wrando ar yr anogaeth i barchu priodas, a pham? (b) Pa ddau bwynt y byddwn ni yn eu hystyried nesaf?

8 Mae dy gariad tuag at Jehofa yn dy ysgogi ti i bregethu a mynd i’r cyfarfodydd er gwaethaf anawsterau. Yn yr un modd, gall dy gariad tuag at Jehofa dy helpu di i ddilyn y cyngor: “Bydded [eich] priodas mewn parch,” hyd yn oed pan fo hynny’n anodd. (Hebreaid 13:4; Salm 18:29; Pregethwr 5:4) Mae Jehofa yn bendithio dy ymdrechion i bregethu ac i fynychu’r cyfarfodydd, ac fe fydd yn bendithio dy ymdrechion i wella dy briodas.—1 Thesaloniaid 1:3; Hebreaid 6:10.

9 Beth gelli di ei wneud, felly, i wella dy briodas?  Mae’n rhaid iti osgoi ymddygiad a fydd yn ei niweidio. Yn ogystal, mae’n rhaid iti gymryd camau a fydd yn tynhau’r cwlwm priodas.

OSGOI GEIRIAU AC YMDDYGIAD SY’N AMHARCHU PRIODAS

10, 11. (a) Pa ymddygiad sy’n niweidio priodas? (b) Beth dylen ni ei drafod â’n cymar?

10 Rai blynyddoedd yn ôl, fe ddywedodd gwraig Gristnogol: “Dw i’n gweddïo ar Jehofa am y nerth i ddod trwyddi.” Dod trwy beth? Mae hi’n esbonio: “Mae fy ngŵr yn fy nharo â geiriau. Does dim cleisiau i’w gweld ar fy nghorff ond mae ei eiriau cas, fel ‘Ti’n faich!’ a ‘Ti’n dda i ddim!’ wedi creithio fy nghalon i.” Mae’r wraig hon yn codi pwnc difrifol, sef geiriau cas o fewn priodas.

11 Mor drist yw priodas Gristnogol lle mae’r gŵr a’r wraig yn taflu geiriau creulon at ei gilydd ac yn peri niwed emosiynol sy’n anodd ei iacháu! Yn amlwg, does dim parch mewn priodas lle mae geiriau cas i’w clywed yn aml. Sut mae dy briodas di yn hyn o beth? Un ffordd o wybod yw drwy ofyn i’th gymar, “Sut mae fy ngeiriau yn effeithio arnat ti?” Os ydy dy gymar yn teimlo bod dy eiriau yn brifo’n emosiynol, mae’n rhaid iti wneud rhywbeth i wella’r sefyllfa.—Galatiaid 5:15; darllen Effesiaid 4:31.

12. Sut gall dy wasanaeth i Dduw fod yn ofer?

12 Cofia fod y ffordd rwyt ti’n siarad â’th gymar yn effeithio ar dy berthynas â Jehofa. Dywed y Beibl: “Os yw rhywun yn tybio ei fod yn grefyddol, ac yntau’n methu ffrwyno’i dafod, ac yn wir yn twyllo’i galon ei hun, yna ofer yw crefydd hwnnw.” (Iago 1:26) Ni ellir gwahanu dy eiriau oddi wrth dy wasanaeth i Dduw. Ni  all Cristion fod yn angel pen ffordd ac yn gythraul pen tân. Paid â thwyllo dy hun. Mae hwn yn fater hynod o ddifrifol. (Darllen 1 Pedr 3:7.) Fe elli di fod yn alluog ac yn selog, ond os wyt ti’n frwnt dy dafod gyda’th gymar, rwyt ti’n amharchu dy briodas a bydd dy wasanaeth i Dduw yn ofer.

13. Sut gall rhywun frifo ei gymar yn emosiynol?

13 Dylai pobl briod fod yn effro i beidio ag achosi poen emosiynol mewn ffyrdd llai amlwg. Ystyria ddwy esiampl: Mae mam sengl yn ffonio dyn priod yn y gynulleidfa yn rheolaidd i ofyn am gyngor, ac maen nhw’n siarad am yn hir; mae dyn sengl yn treulio cryn dipyn o’i amser yn y weinidogaeth yng nghwmni chwaer briod. Efallai fod gan y bobl briod hyn fwriadau da, ond eto sut mae eu hymddygiad yn effeithio ar eu partneriaid? Dywedodd un wraig: “Mae gweld fy ngŵr yn rhoi cymaint o sylw i chwaer arall yn y gynulleidfa yn fy mrifo i. Mae’n gwneud imi deimlo fel nad ydw i’n bwysig iddo.”

14. (a) Pa gyfrifoldeb sydd gan bobl briod yn ôl Genesis 2:24? (b) Beth dylen ni ei ofyn inni ein hunain?

14 Nid yw teimladau’r wraig hon ac eraill sydd mewn sefyllfaoedd tebyg yn afresymol. Mae eu partneriaid yn anwybyddu cyfarwyddyd syml Duw: “Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a’i fam, ac yn glynu wrth ei wraig.(Genesis 2:24) Wrth gwrs, mae pobl briod yn dal i barchu eu rhieni a charu eu cyd-gredinwyr, ond mae Duw yn dweud yn glir mai tuag at eu partneriaid y mae eu prif ddyletswydd. Felly, pan fo Cristnogion priod yn treulio gormod o amser gyda rhai o’r rhyw arall ac yn meithrin perthynas rhy agos gyda nhw, maen nhw yn rhoi eu priodasau dan straen. Ai dyna sy’n gyfrifol am y  tensiwn yn dy briodas di? Gofynna i ti dy hun, ‘Ydw i’n rhoi i’m cymar yr amser, y sylw a’r cariad y mae ef neu hi yn ei haeddu?’

15. Yn ôl Mathew 5:28, pam dylai Cristnogion priod beidio â rhoi sylw amhriodol i rywun o’r rhyw arall?

15 Mae rhoi gormod o sylw i rywun nad yw’n ŵr  neu’n wraig iti yn beryglus am reswm arall hefyd. Peth hawdd yw i gyfeillgarwch rhy agos droi’n berthynas ramantus ac mae hyn wedi digwydd i rai Cristnogion priod. (Mathew 5:28) Yn ei dro, gall y cyswllt emosiynol hwn arwain at ymddygiad sy’n niweidio’r briodas yn fwy fyth. Ystyria gyngor yr apostol Paul ar y pwnc.

‘BYDDED Y GWELY YN DDIHALOG’

16. Pa orchymyn mae Paul yn ei roi ynglŷn â phriodas?

16 Yn syth ar ôl annog Cristnogion i barchu priodas, mae Paul yn rhybuddio: “Bydded . . . [y] gwely yn ddihalog; oherwydd bydd Duw yn barnu puteinwyr a godinebwyr.” (Hebreaid 13:4) Mae’r gair “gwely” yma yn cyfeirio at y berthynas rywiol. Bydd perthynas rywiol yn “ddihalog” os yw’n foesol lân ac wedi ei chyfyngu i’r briodas yn unig. Mae Cristnogion yn dilyn y cyngor ysbrydoledig hwn: “Llawenha yng ngwraig dy ieuenctid.”—Diarhebion 5:18.

17. (a) Pam nad yw agwedd y byd tuag at odinebu o bwys i Gristnogion? (b) Sut gallwn ni ddilyn esiampl Job?

17 Mae’r rhai sy’n cael perthynas rywiol y tu allan i’r briodas yn llwyr ddirmygu cyfreithiau moesol Duw. Mae’n wir fod llawer heddiw yn gweld godineb fel ymddygiad lled dderbyniol. Ond eto, ni ddylai agweddau pobl eraill ddylanwadu ar safbwynt y Cristion. Mae’r Cristion yn sylweddoli mai Duw nid dyn fydd yn “barnu puteinwyr a godinebwyr” yn y pen draw. (Hebreaid 10:31; 12:29) Felly, mae Cristnogion yn glynu wrth safonau Jehofa yn hyn o beth. (Darllen Rhufeiniaid 12:9.) Cofia eiriau Job: “Gwneuthum gytundeb â’m llygaid i beidio â llygadu merch.” (Job 31:1) Yn wir, er mwyn osgoi cymryd hyd yn oed y cam cyntaf ar  lwybr a all arwain at odinebu, mae gwir Gristnogion yn eu disgyblu eu hunain i beidio ag edrych mewn blys ar rywun nad yw’n ŵr neu’n wraig iddyn nhw.—Gweler yr Atodiad, “Agwedd y Beibl Tuag at Ysgaru a Gwahanu”.

18. (a) Yng ngolwg Jehofa, pa mor ddifrifol yw godineb? (b) Pa debygrwydd sydd rhwng godinebu ac eilunaddoli?

18 Yng ngolwg Jehofa, pa mor ddifrifol yw godineb? Mae cyfraith Moses yn dangos inni sut mae Jehofa yn teimlo am hyn. Yn Israel gynt, roedd godineb ac eilunaddoliaeth yn rhai o’r troseddau a oedd yn haeddu’r gosb eithaf. (Lefiticus 20:2, 10) A elli di weld y tebygrwydd rhwng y ddau drosedd hynny? Wel, petai Israeliad yn addoli eilun, fe fyddai’n torri’r cyfamod rhyngddo ef a Jehofa. A phetai Israeliad yn godinebu, fe fyddai’n torri’r cyfamod rhyngddo ef a’i gymar. Byddai’r ddau yn euog o frad. (Exodus 19:5, 6; Deuteronomium 5:9; darllen Malachi 2:14.) Felly, yng ngolwg Jehofa, yr un mor euog oedd y ddau.—Salm 33:4.

19. Beth all gryfhau ein penderfyniad i beidio byth â godinebu, a pham?

19 Wrth gwrs, dydy Cristnogion ddim yn byw o dan Gyfraith Moses. Ond, bydd cofio pa mor ddifrifol oedd godinebu yn Israel yn helpu’r Cristion i fod yn benderfynol o beidio â gwneud y fath beth. Pam felly? Ystyria’r gymhariaeth hon: A fyddet ti’n mynd i mewn i eglwys ac yn mynd ar dy bennau gliniau ac yn gweddïo gerbron delw? ‘Na fyddwn, byth!’ byddet ti’n ei ddweud. A fyddai cael cynnig arian mawr yn dy demtio di? ‘Dim o gwbl!’ rwyt ti’n siŵr o ateb. Mae hyd yn oed y syniad o fradychu Jehofa drwy addoli delw yn ffiaidd gan y gwir Gristion. Yn yr un modd, dylai Cristion ffieiddio wrth y syniad o fradychu ei Dduw Jehofa  yn ogystal â’i gymar drwy odinebu—ni waeth pa mor gryf yw’r temtasiwn. (Salm 51:1, 4; Colosiaid 3:5) Fyddwn ni byth eisiau gwneud unrhyw beth sy’n peri i Satan lawenhau ac sy’n dod ag amarch ar Jehofa ac ar briodas.

CRYFHAU DY BRIODAS

20. Beth sydd wedi digwydd mewn rhai priodasau? Rho eglureb.

20 Yn ogystal ag osgoi ymddygiad a all niweidio dy briodas, beth gelli di ei wneud i ailadeiladu dy barch tuag at dy gymar? I ateb hynny, meddylia am briodas fel tŷ, ac am y geiriau a gweithredoedd caredig, a’r cymwynasau parchus rhwng gŵr a gwraig fel y dodrefn sy’n gwneud y tŷ yn ddeniadol. Os ydych chi’n agos at eich gilydd, bydd eich priodas fel tŷ cynnes, llawn dodrefn hardd sy’n ei wneud yn lliwgar a chlyd. Os bydd dy gariad yn oeri, mae fel petai’r dodrefn yn diflannu’n araf bach nes bod y briodas mor foel a diaddurn â thŷ gwag. Ond, gan dy fod ti’n dymuno ufuddhau i orchymyn Duw i barchu priodas, fe fyddi di’n edrych am ffordd i wella’r sefyllfa. Wedi’r cwbl, mae rhywbeth gwerthfawr yn werth ei drwsio. Sut gelli di wneud hynny? Dywed Gair Duw: “Fe adeiledir tŷ trwy ddoethineb, a’i sicrhau trwy wybodaeth. Trwy ddeall y llenwir ystafelloedd â phob eiddo gwerthfawr a dymunol.” (Diarhebion 24:3, 4) Beth a wnelo’r geiriau hyn â phriodas?

21. Sut gallwn ni fynd ati yn raddol i gryfhau ein priodas? (Gweler hefyd y blwch  “Sut Gallaf Wella Fy Mhriodas?”)

21 Ymhlith yr eiddo gwerthfawr sy’n llenwi cartref hapus yw rhinweddau fel gwir gariad, ofn Duw, a ffydd gadarn. (Diarhebion 15:16, 17; 1 Pedr 1:7) Dyma’r pethau sy’n creu priodas sefydlog. Ond a wnaethost ti  sylwi ar sut mae’r ystafelloedd yn y tŷ yn cael eu llenwi â phethau dymunol? “Trwy ddeall.” Yn wir, mae dod i ddeall egwyddorion y Beibl a’u rhoi ar waith yn medru trawsnewid y ffordd y mae’r gŵr a’r wraig yn meddwl ac yn eu hysgogi i ailgynnau’r cariad a fu rhyngddyn nhw. (Rhufeiniaid 12:2; Philipiaid 1:9) Felly, bob tro rwyt ti a’th gymar yn ystyried adnodau o’r Beibl gyda’ch gilydd drwy edrych, er enghraifft, ar destun y dydd, neu ar erthyglau sy’n berthnasol i briodas yn y Watchtower neu’r Awake!, mae fel petaech chi’n edrych ar ddodrefnyn hardd ar gyfer eich tŷ. Pan fyddwch chi’n rhoi’r cyngor hwn ar waith yn eich priodas, mae fel petaech chi’n dod â rhywbeth hardd i mewn i’ch “ystafelloedd.” O ganlyniad, fe all y cynhesrwydd a fu unwaith yn eich priodas ddod yn ei ôl.

22. Pa foddhad sy’n dod o weithio’n galed i gryfhau ein priodas?

22 Wrth gwrs, mae ailddodrefnu tŷ yn medru cymryd cryn dipyn o amser ac ymdrech. Ond eto, os gwnei di weithio’n galed i wneud dy ran, fe fyddi di’n teimlo tawelwch meddwl o ganlyniad i wybod dy fod ti’n ufuddhau i’r gorchymyn: “Rhowch y blaen i’ch gilydd mewn parch.” (Rhufeiniaid 12:10; Salm 147:11) Yn anad dim, fe fydd dy ymdrechion i barchu dy briodas yn dy gadw di yng nghariad Duw.

^ Par. 6 Mae’r cyd-destun yn dangos bod cyngor Paul ar briodas yn rhan o gyfres o orchmynion i Gristnogion.—Hebreaid 13:1-5.