Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r isddewislen

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Cymraeg

“Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw”

 PENNOD 4

Pam Dylen Ni Barchu Awdurdod?

Pam Dylen Ni Barchu Awdurdod?

“Rhowch barch i bawb.”—1 PEDR 2:17.

1, 2. (a) Pa frwydr rydyn ni’n ei hwynebu o ran parchu awdurdod? (b) Pa gwestiynau y byddwn ni yn eu hystyried?

WYT ti erioed wedi gweld plentyn bach yn gorfod gwneud rhywbeth nad oedd ef eisiau ei wneud? Mae’r olwg ar ei wyneb yn dweud y cwbl. Mae’n clywed llais Mam neu Dad, ac mae’n gwybod y dylai wrando arnyn nhw. Ond y tro hwn, nid yw ef eisiau ufuddhau. Mewn ffordd, rydyn ni i gyd yn wynebu’r un frwydr.

2 Dydy parchu awdurdod ddim bob amser yn hawdd. Wyt ti weithiau’n ei chael hi’n anodd parchu’r rhai sydd â rhywfaint o awdurdod arnat ti? Os felly, nid ti yw’r unig un i deimlo fel hyn. Yn y byd sydd ohoni, does fawr o neb yn parchu awdurdod. Ond eto, mae’r Beibl yn dweud bod angen dangos parch tuag at y rhai sy’n ben arnon ni. (Diarhebion 24:21) Yn wir, mae’n rhaid gwneud hyn os ydyn ni am aros yng nghariad Duw. Ond, yn naturiol, bydd rhai cwestiynau’n codi. Pam gall parchu awdurdod fod mor anodd? Pam mae Jehofa yn gofyn hyn gennyn ni, a beth fydd yn ein helpu ni i gydymffurfio? Ac yn olaf, sut gallwn ni barchu awdurdod?

PAM GALL HYN FOD YN HER?

3, 4. Sut cychwynnodd pechod ac amherffeithrwydd, a pham mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd inni barchu awdurdod?

3 Gad inni ystyried dau reswm pam y mae’n gallu bod mor anodd i barchu awdurdod. Yn gyntaf, rydyn ni’n  amherffaith, ac yn ail, mae’r rhai sydd ag awdurdod arnon ni hefyd yn amherffaith. Mae hanes pechod ac amherffeithrwydd yn mynd yn ôl i ardd Eden pan wrthryfelodd Adda ac Efa yn erbyn awdurdod Duw. Gwrthryfela, felly, oedd cychwyn pechod. Ers hynny, mae’r duedd i wrthryfela yn rhan o’n natur.—Genesis 2:15-17; 3:1-7; Salm 51:5; Rhufeiniaid 5:12.

4 Oherwydd ein natur bechadurus, mae’n hawdd inni fod yn falch ac yn ffroenuchel, tra bo rhaid inni weithio’n galed i feithrin agwedd ostyngedig. Hyd yn oed ar ôl gwasanaethu Duw yn ffyddlon am flynyddoedd, fe all rhywun droi’n ystyfnig ac yn falch. Er enghraifft, meddylia am Cora, a lynodd yn ffyddlon wrth bobl Dduw drwy sawl cyfnod anodd. Ond eto, roedd yn chwenychu mwy o awdurdod iddo’i hun ac fe wrthryfelodd yn erbyn Moses, y dyn mwyaf gostyngedig ar wyneb y ddaear. (Numeri 12:3; 16:1-3) Meddylia, hefyd, am y Brenin Usseia a aeth yn ei falchder i mewn i deml Jehofa a chyflawni gwaith y dylai neb ond yr offeiriad ei wneud. (2 Cronicl 26:16-21) Yn y ddau achos, fe gostiodd eu gwrthryfeloedd yn ddrud. Eto i gyd, rydyn ni’n medru dysgu o’u hesiampl ddrwg. Mae’n rhaid inni frwydro yn erbyn y balchder hwnnw sy’n gwneud parchu awdurdod yn anodd.

5. Sut mae arweinwyr amherffaith wedi camddefnyddio eu hawdurdod?

5 Ar y llaw arall, mae camddefnyddio grym gan arweinwyr amherffaith wedi tanseilio parch tuag at awdurdod. Mae llawer wedi cam-drin eraill yn greulon ac yn ormesol. Yn wir, mae hanes yn dangos bod dyn yn aml wedi camddefnyddio grym. (Darllen Pregethwr 8:9.) Er enghraifft, dyn da a gostyngedig oedd Saul pan gafodd ei ddewis yn frenin gan Jehofa. Ond, cafodd balchder a chenfigen y llaw uchaf arno; a dechreuodd erlid y dyn ffyddlon Dafydd. (1 Samuel 9:20, 21; 10:20-22; 18: 7-11) Un o frenhinoedd gorau Israel oedd Dafydd ond eto fe gamddefnyddiodd ei rym drwy ddwyn gwraig Ureia yr Hethiad a gyrru’r dyn diniwed hwnnw i flaen y gad i gael ei ladd. (2 Samuel 11:1-17) Felly, mae amherffeithrwydd yn ei gwneud hi’n anodd i bobl ddefnyddio grym yn y ffordd iawn. Ac mae’n waeth byth pan fo’r rhai mewn grym heb unrhyw barch tuag at Jehofa. Ar ôl disgrifio’r erledigaeth greulon roedd rhai pabau Catholig yn gyfrifol amdani, dywedodd un gwleidydd Prydeinig: “Tuedd grym yw llygru, ac mae grym llwyr yn llygru’n llwyr.” Gyda hynny mewn golwg, gad inni ystyried y cwestiwn: Pam dylen ni barchu awdurdod?

PAM DYLEN NI BARCHU AWDURDOD?

6, 7. (a) Beth rydyn ni yn ei wneud oherwydd ein bod ni’n caru Jehofa, a pham? (b) Pa agwedd sydd ei hangen er mwyn ildio, a sut gallwn ni ddangos yr agwedd honno?

6 Cariad yw’r rheswm dros barchu awdurdod—ein cariad tuag at Jehofa, at ein cyd-ddyn, a hyd yn oed aton ni ein hunain. Oherwydd ein bod ni’n caru Jehofa uwchlaw popeth arall, rydyn ni eisiau llawenhau ei galon. (Darllen Diarhebion 27:11; Marc 12:29, 30.) Gwyddon ni fod ei hawl i reoli’r bydysawd wedi cael ei herio ar y ddaear ers y gwrthryfel yn Eden, a bod y rhan fwyaf o ddynolryw wedi ochri gyda Satan a gwrthod teyrnasiad Jehofa. Ond rydyn ni’n hapus i ochri â Jehofa. Mae geiriau Datguddiad 4:11 yn ennyn ymateb brwd ynon ni. Mae’n gwbl glir inni mai Jehofa yw’r un sydd â’r hawl i reoli’r bydysawd! Rydyn ni’n cefnogi sofraniaeth Jehofa ac yn derbyn ei awdurdod yn ein bywydau bob dydd.

7 Mae parch o’r fath yn gofyn inni ufuddhau ac ildio. Rydyn ni’n ufuddhau i Jehofa am ein bod ni’n ei garu. Ond bydd adegau yn siŵr o godi pan fydd hynny’n anodd iawn. Ar adegau felly, bydd rhaid inni, fel y bachgen bach ar ddechrau’r bennod, ddysgu ildio. Roedd Iesu yn ildio i  ewyllys ei Dad, hyd yn oed pan oedd hynny yn edrych yn anodd tu hwnt. “Gwneler dy ewyllys di, nid fy ewyllys i,” meddai wrth ei Dad.—Luc 22:42.

8. (a) Beth sydd ei angen i ildio i awdurdod Jehofa heddiw, a sut mae Jehofa yn teimlo am hyn? (b) Beth all ein helpu ni i dderbyn cyngor a disgyblaeth? (Gweler y blwch  “Gwrando ar Gyngor a Derbyn Ddisgyblaeth.”)

8 Wrth gwrs, nid yw Jehofa yn siarad â ni’n bersonol heddiw; mae’n defnyddio ei Air a’i gynrychiolwyr ar y ddaear. Felly, byddwn ni’n ildio i awdurdod Jehofa drwy barchu’r rhai y mae Jehofa naill ai wedi rhoi awdurdod iddyn nhw, neu wedi caniatáu iddyn nhw aros mewn awdurdod. Petawn ni’n gwrthryfela yn eu herbyn—drwy wrthod eu cyngor Ysgrythurol er enghraifft—byddai hynny yn digio Duw. Pan oedd yr Israeliaid yn grwgnach ac yn gwrthryfela yn erbyn Moses, roedd Jehofa yn gweld hynny’r un fath â gwrthryfela yn ei erbyn Ef.—Numeri 14:26, 27.

9. Pam mae cariad tuag at ein cyd-ddyn yn gwneud inni barchu awdurdod? Rho esiampl.

9 Rheswm arall dros barchu awdurdod yw cariad at ein cyd-ddyn. Sut felly? Wel, dychmyga dy fod ti’n filwr mewn byddin. Er mwyn i’r fyddin ennill y frwydr, mae angen i bob milwr gydweithredu. Rhaid i bawb barchu’r gadwyn awdurdod ac ufuddhau iddi. Petaet ti’n tanseilio’r drefn honno drwy wrthryfela, fe all hynny beryglu bywydau dy gyd-filwyr. Wrth gwrs, yn wahanol i fyddinoedd dynol, dim ond daioni y mae byddinoedd Jehofa yn ei wneud. Mae’r Beibl yn cyfeirio at Jehofa fel “ARGLWYDD y Lluoedd” gannoedd o weithiau. (1 Samuel 1:3) Ef yw Pennaeth byddin enfawr o angylion nerthol. Weithiau, mae Jehofa yn galw ei weision ar y ddaear yn fyddin. (Salm 68:11; Eseciel 37:1-10) Petaswn ni’n rhyfela yn erbyn y rhai y mae Jehofa wedi eu gosod mewn awdurdod, gallai hynny beryglu ein cyd-filwyr ysbrydol. Pan fo Cristion yn gwrthryfela yn erbyn y rhai sydd wedi eu penodi’n henuriaid, gall eraill yn y gynulleidfa ddioddef hefyd. (1 Corinthiaid 12:14, 25, 26) Pan fo  plentyn yn gwrthryfela, gall yr holl deulu ddioddef. Felly, byddwn ni’n caru ein cyd-ddyn drwy barchu awdurdod a bod yn barod i gydweithredu.

10, 11. Sut mae meddwl am fanteision ufudd-dod yn ein helpu i barchu awdurdod?

10 Rydyn ni hefyd yn parchu awdurdod oherwydd bod hynny er ein lles. Yn aml iawn, pan fydd Jehofa yn gofyn inni barchu awdurdod, y mae’n rhestru’r manteision. Er enghraifft, mae’n dweud wrth blant am fod yn ufudd i’w rhieni er mwyn cael bywyd hir a hapus. (Deuteronomium 5:16; Effesiaid 6:2, 3) Mae’n dweud wrthon ni am barchu’r henuriaid er mwyn osgoi niwed ysbrydol. (Hebreaid 13:7, 17) Ac mae’n dweud wrthon ni am ufuddhau i’r awdurdodau sy’n ben er mwyn ein diogelwch.—Rhufeiniaid 13:4.

11 Mae gwybod pam mae Jehofa yn gofyn inni fod yn ufudd yn ein helpu ni i barchu awdurdod. Gad inni, felly, ystyried sut y gallwn ni barchu awdurdod mewn tair sefyllfa.

 PARCH YN Y TEULU

12. Pa rôl y mae Jehofa yn ei rhoi i’r gŵr a’r tad yn y teulu, a sut gall dyn gyflawni’r rôl honno?

12 Jehofa ei hun a sefydlodd y teulu. Duw trefn fuodd Jehofa erioed ac mae wedi trefnu’r teulu i weithio’n rhwydd. (1 Corinthiaid 14:33) I’r gŵr a’r tad y mae Jehofa yn rhoi’r awdurdod fel pen y teulu. Mae’r gŵr yn dangos parch at yr un sy’n Ben arno ef, Crist Iesu, drwy efelychu’r ffordd y mae Iesu yn gweithredu fel Pen y gynulleidfa. (Effesiaid 5:23) Felly, ni ddylai’r gŵr gefnu ar ei gyfrifoldeb, ond fe ddylai ei ysgwyddo fel dyn. Ni ddylai fod yn ormesol neu’n llym, ond dylai fod yn gariadus, yn rhesymol, ac yn garedig. Y mae’n cofio mai awdurdod cymharol sydd ganddo. Nid yw byth yn uwch nag awdurdod Jehofa.

Bydd tad Cristnogol yn efelychu Crist yn ei rôl fel penteulu

13. Sut gall gwraig a mam gyflawni ei rôl yn y teulu mewn modd sy’n plesio Jehofa?

13 Helpu ei gŵr a bod yn gymar iddo yw rôl y wraig a’r fam. Mae ganddi hi, hefyd, awdurdod yn y teulu, gan fod y Beibl yn sôn am ‘gyfarwyddyd y fam.’ (Diarhebion 1:8) Wrth gwrs, mae ei hawdurdod hi yn is nag awdurdod ei gŵr. Bydd gwraig Gristnogol yn parchu awdurdod ei gŵr drwy ei helpu i gyflawni ei rôl fel penteulu. Dydy hi ddim yn ei fychanu nac yn ceisio dylanwadu yn amhriodol arno, nac ychwaith yn  cymryd ei rôl drosodd. Yn hytrach, mae hi’n ei gefnogi ac yn cydweithredu ag ef. Pan na fydd hi’n hoffi ei benderfyniadau, fe all fynegi ei theimladau’n barchus ac yn ymostyngar. Gall hyn fod yn her os nad yw ei gŵr yn grediniwr, ond fe all ei hymddygiad gostyngedig ddenu ei gŵr at Jehofa.—Darllen 1 Pedr 3:1.

14. Sut gall plant ddod â llawenydd i’w rhieni ac i Jehofa?

14 Mae plant sy’n ufudd i’w rhieni yn dod â phleser mawr i Jehofa. Hefyd, maen nhw’n dod ag anrhydedd a llawenydd i’w rhieni. (Diarhebion 10:1) Mewn teuluoedd rhiant sengl, mae plant yr un mor ufudd, gan sylweddoli bod angen mwy o gefnogaeth a chydweithrediad mewn sefyllfa o’r fath. Mewn teuluoedd lle mae pawb yn cyflawni’r rôl y mae Duw wedi ei rhoi iddyn nhw, ceir heddwch a llawenydd. Ac mae hyn yn dod ag anrhydedd i’r Un a sefydlodd y teulu, Jehofa Dduw.—Effesiaid 3:14, 15.

 PARCH YN Y GYNULLEIDFA

15. (a) Yn y gynulleidfa, sut gallwn ni barchu awdurdod Jehofa? (b) Pa egwyddorion all ein helpu ni i fod yn ufudd i’n harweinwyr? (Gweler y blwch  “Ufuddhewch i’ch Arweinwyr”.)

15 Mae Jehofa wedi penodi ei Fab fel Rheolwr ar y gynulleidfa Gristnogol. (Colosiaid 1:13) Mae Iesu, yn ei dro, wedi penodi’r “gwas ffyddlon a chall” i ofalu am anghenion ysbrydol pobl Dduw ar y ddaear. (Mathew 24:45-47) Y gwas hwnnw yw’r Corff Llywodraethol Tystion Jehofa. Fel y digwyddodd yng nghynulleidfa Gristnogol y ganrif gyntaf, mae henuriaid heddiw yn cael cyfarwyddyd a chyngor gan y Corff Llywodraethol naill ai’n uniongyrchol neu drwy ei gynrychiolwyr, er enghraifft yr arolygwyr teithiol. Trwy barchu awdurdod yr henuriaid Cristnogol, rydyn ni’n ufuddhau i Jehofa.—Darllen 1 Thesaloniaid 5:12; Hebreaid 13:17.

16. Ym mha ystyr y mae henuriaid yn cael eu penodi drwy ysbryd glân Duw?

16 Dydy’r henuriaid na’r gweision gweinidogaethol ddim yn berffaith. Fel ninnau, mae ganddyn nhw eu ffaeleddau. Ond eto, mae’r henuriaid yn rhodd i’r gynulleidfa i’w helpu i aros yn ysbrydol gryf. (Effesiaid 4:8, 11) Mae’r henuriaid yn cael eu penodi drwy’r ysbryd glân. (Actau 20:28) Sut felly? Oherwydd bod rhaid iddyn nhw gwrdd â’r gofynion a restrir yng Ngair ysbrydoledig Duw. (1 Timotheus 3:1-7, 12; Titus 1:5-9) Ar ben hynny, pan fydd yr henuriaid yn ystyried i ba raddau y mae brawd yn cwrdd â’r gofynion Ysgrythurol, byddan nhw’n gweddïo’n daer am arweiniad ysbryd glân Jehofa.

17. Yng ngweithgareddau’r gynulleidfa, pam mae merched weithiau yn gorchuddio eu pennau?

17 O bryd i’w gilydd, fe all sefyllfa godi yn y gynulleidfa lle nad oes henuriaid na gweision gweinidogaethol ar gael i gyflawni gwaith y bydden nhw fel arfer yn ei wneud,  fel arwain cyfarfod ar gyfer y weinidogaeth. Pan fydd hyn yn digwydd, gall brodyr eraill sydd wedi eu bedyddio gyflawni’r gwaith. Os nad oes brawd ar gael, yna fe all chwiorydd cymwys sefyll yn y bwlch. Fodd bynnag, pan fo dynes yn cyflawni rôl sydd fel arfer yn cael ei chyflawni gan ddyn bedyddiedig, mae hi’n gorchuddio ei phen. * (1 Corinthiaid 11:3-10) Nid yw hyn yn iselhau gwragedd. Yn hytrach, mae’n rhoi cyfle i barchu trefn penteuluaeth Jehofa yn y teulu ac yn y gynulleidfa.

PARCH AT AWDURDOD SECIWLAR

18, 19. (a) Sut byddet ti’n esbonio’r egwyddorion yn Rhufeiniaid 13:1-7? (b) Sut rydyn ni’n dangos parch at awdurdodau seciwlar?

18 Mae gwir Gristnogion yn ofalus i gadw at yr egwyddorion yn Rhufeiniaid 13:1-7. (Darllen.) Wrth iti ddarllen yr adnodau hyn, fe weli di mai’r llywodraethau dynol yw’r “awdurdodau sy’n ben.” Tra bo’r llywodraethau hyn yn cael caniatâd gan Jehofa i barhau, maen nhw’n gwneud gwaith pwysig yn cadw rhywfaint o gyfraith a threfn ac yn darparu gwasanaethau angenrheidiol. Rydyn ni’n dangos parch at yr awdurdodau hyn trwy gadw’r gyfraith. Rydyn ni’n gwneud yn siŵr ein bod ni’n talu unrhyw dreth sy’n ddyledus, yn llenwi unrhyw ffurflenni y mae’r llywodraeth yn gofyn amdanynt, ac yn cydymffurfio ag unrhyw gyfraith sy’n berthnasol i ni, i’n teulu, i’n busnes, neu i’n heiddo. Ond dydyn ni ddim yn ymostwng i awdurdodau seciwlar os ydyn nhw’n gofyn inni fod yn anufudd i Dduw. Fe fyddwn ni’n rhoi’r un ateb â’r apostolion: “Rhaid ufuddhau i Dduw yn hytrach nag i ddynion.”—Actau 5:28, 29; gweler y blwch  “I Bwy y Dylwn Ufuddhau?”

 19 Mae ein hagwedd hefyd yn dangos parch tuag at yr awdurdodau seciwlar. Weithiau bydd rhaid inni ddelio’n uniongyrchol gyda swyddogion y llywodraeth. Roedd yr apostol Paul yn ymddangos o flaen y Brenin Herod Agripa a’r Rhaglaw Ffestus. Roedd gan y dynion hyn ffaeleddau difrifol, ond roedd Paul yn eu hannerch nhw â pharch. (Actau 26:2, 25) Rydyn ni’n dilyn esiampl Paul, p’un a ydyn ni’n siarad â rheolwr pwysig neu â heddwas lleol. Yn yr ysgol, mae Cristnogion ifanc yn dangos parch tuag at bawb sy’n gweithio yno. Wrth gwrs, rydyn ni’n dangos parch nid yn unig tuag at y rhai sy’n gefnogol i’n credoau, ond hefyd tuag at y rhai sy’n elyniaethus i Dystion Jehofa. Mewn gwirionedd, dylai ein parch fod yn amlwg i anghredinwyr yn gyffredinol.—Darllen Rhufeiniaid 12:17, 18; 1 Pedr 3:15.

20, 21. Pa fendithion sy’n dod o ddangos parch priodol at awdurdod?

20 Ysgrifennodd yr apostol Pedr: “Rhowch barch i bawb.” (1 Pedr 2:17) Felly, rydyn ni eisiau bod yn hael wrth ddangos parch at eraill. Gall parch diffuant wneud argraff ddofn ar bobl. Peth prin iawn yw parch erbyn hyn. Ond, o’i ddangos, fe fyddwn ni’n dilyn gorchymyn Iesu: “Boed i’ch goleuni chwithau lewyrchu gerbron eraill, er mwyn iddynt weld eich gweithredoedd da chwi a gogoneddu eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd.”—Mathew 5:16.

21 Yn y byd tywyll hwn, mae pobl â chalonnau da yn cael eu denu at oleuni ysbrydol. Gall ein parch ni, yn y teulu, yn y gynulleidfa, ac yng nghyd-destunau seciwlar ddenu eraill i rodio gyda ni yn y goleuni. Dyna i ti syniad braf! Ond, hyd yn oed os nad yw hynny’n digwydd, mae un peth yn sicr: mae ein parch at bobl eraill yn plesio Jehofa Dduw ac yn ein cadw yn ei gariad. Pa wobr sy’n well na hynny?

^ Par. 17 Mae’r erthygl “Gorchuddio’r Pen—Pryd a Pham?” yn trafod ffyrdd ymarferol o roi’r egwyddor hon ar waith.