Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r isddewislen

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Cymraeg

“Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw”

 PENNOD 8

Mae Duw yn Caru Pobl Sydd yn Lân ac yn Bur

Mae Duw yn Caru Pobl Sydd yn Lân ac yn Bur

“Yr wyt . . . yn bur i’r rhai pur.”—SALM 18:25, 26.

1-3. (a) Pam y mae mam eisiau gweld ei mab yn lân ac yn dwt? (b) Pam mae Jehofa eisiau i’w addolwyr fod yn lân, a pham byddwn ni eisiau cadw’n lân?

MAE Mam yn hwylio i fynd allan gyda’i bachgen bach. Mae hi wedi sicrhau ei fod wedi cael bath a bod ei ddillad yn lân ac yn dwt. Mae hi’n gwybod bod glendid yn bwysig i’w iechyd. Mae hi hefyd yn gwybod bod y ffordd y mae’n edrych yn adlewyrchu ar ei rieni.

2 Mae ein Tad nefol Jehofa yn dymuno i’w weision fod yn lân. Dywed ei Air: “Yr wyt . . . yn bur i’r rhai pur.” * (Salm 18:24-26) Mae Jehofa yn ein caru ni, ac yn gwybod  bod cadw’n lân yn llesol inni. Mae hefyd yn disgwyl i’w Dystion ddod â chlod iddo ef a’i enw sanctaidd, a gallwn ni wneud hynny drwy gadw’n lân ac ymddwyn yn dda.—Eseciel 36:22; darllen 1 Pedr 2:12.

3 Mae gwybod bod Duw yn caru pobl lân yn rhoi rheswm inni gadw’n lân. Gan ein bod ni’n caru Duw, rydyn ni eisiau byw mewn ffordd sy’n dod â chlod iddo. Rydyn ni eisiau aros yn ei gariad. Gad inni edrych ar y rhesymau dros gadw’n lân, ar yr hyn y mae cadw’n lân yn ei olygu, ac ar sut y gallwn ni gadw’n lân. O wneud hyn y mae modd inni weld lle y medrwn ni wella.

PAM MAE ANGEN CADW’N LÂN?

4, 5. (a) Beth yw’r prif reswm dros gadw’n lân? (b) Sut mae glendid Jehofa i’w weld yn y greadigaeth?

4 Mae Jehofa yn gosod esiampl inni. Dywed ei Air: “Byddwch, felly, yn efelychwyr Duw.” (Effesiaid 5:1) Dyma’r prif reswm, felly, dros gadw’n lân: Mae ein Duw, Jehofa, yn lân, yn bur, ac yn sanctaidd ym mhob ffordd.—Darllen Lefiticus 11:44, 45.

5 Fel llawer iawn o briodoleddau Jehofa, rydyn ni’n gweld ei lendid a’i burdeb yn ei greadigaeth. (Rhufeiniaid 1:20) Fe gynlluniodd y ddaear i fod yn gartref glân i’r ddynoliaeth. Mae Jehofa wedi sefydlu cylchredau ecolegol sy’n puro’r awyr a’r dŵr. Mae rhai microbau’n medru trin gwastraff peryglus a’i wneud yn ddiogel. Mae gwyddonwyr wedi defnyddio rhai micro-organeddau i lanhau gollyngiadau olew a llygredd sydd wedi digwydd trwy esgeulustod pobl hunanol a barus. Yn amlwg, mae glendid yn bwysig i’r Creawdwr. (Jeremeia 10:12) Fe ddylai hefyd fod yn bwysig i ni.

6, 7. Sut roedd Cyfraith Moses yn pwysleisio pwysigrwydd glendid wrth addoli Jehofa?

6 Rheswm arall dros gadw’n lân yw bod Jehofa yn  disgwyl i’w addolwyr fod yn lân. Yn y Gyfraith a roddodd Jehofa i Israel, roedd glendid yn rhan annatod o addoliad. Ar Ddydd y Cymod, roedd yn rhaid i’r archoffeiriad ymolchi ddwywaith. (Lefiticus 16:4, 23, 24) Roedd yn rhaid i’r offeiriaid olchi eu dwylo a’u traed cyn iddyn nhw offrymu i Jehofa. (Exodus 30:17-21; 2 Cronicl 4:6) Roedd y Gyfraith yn rhestru rhyw 70 o bethau a fyddai’n achosi aflendid corfforol neu seremonïol. Petai Israeliad mewn cyflwr aflan, ni fyddai’n cael addoli, a hynny, mewn rhai achosion, o dan gosb marwolaeth. (Lefiticus 15:31) Petai rhywun yn gwrthod ei buro ei hun drwy olchi ei gorff a’i ddillad, fe fyddai’n cael ei ‘dorri ymaith o blith y cynulliad.’—Numeri 19:17-20.

7 Er nad ydyn ni o dan Gyfraith Moses, mae’r enghraifft hon yn ein helpu ni i ddeall meddwl Duw. Yn amlwg, roedd y Gyfraith yn pwysleisio bod glendid yn angenrheidiol ar gyfer addoli Duw. Dydy Jehofa ddim wedi newid. (Malachi 3:6) Dim ond addoliad ‘pur a dilychwin’ sy’n dderbyniol ganddo. (Iago 1:27) Felly, pwysig yw gwybod beth yw gofynion Duw yn hyn o beth.

BETH YW GLENDID YNG NGOLWG DUW?

8. Ym mha ffyrdd mae Jehofa yn disgwyl inni gadw’n lân?

8 Yn y Beibl, mae mwy i lendid na glendid corfforol. Mae bod yn lân yng ngolwg Duw yn cyffwrdd â phob agwedd ar ein bywydau. Mae Jehofa yn disgwyl inni gadw’n lân mewn pedair ffordd—yn ysbrydol, yn foesol, yn feddyliol ac yn gorfforol. Gad inni ystyried y rhain fesul un.

9, 10. Beth mae’n ei olygu i gadw’n ysbrydol lân, a beth y bydd gwir Gristnogion yn ei osgoi?

9 Glendid ysbrydol. Yn syml, mae cadw’n ysbrydol lân yn golygu peidio â chymysgu gwir addoliad â gau addoliad. Pan adawodd yr Israeliaid Fabilon, dyma’r cyngor  ysbrydoledig a gawson nhw: “Ymaith â chwi! Peidiwch â chyffwrdd â dim aflan. . . . Glanhewch eich hunain.” (Eseia 52:11) Roedd yr Israeliaid yn dychwelyd i’w gwlad yn bennaf er mwyn ailsefydlu addoliad Jehofa. Roedd yn rhaid i’w haddoliad fod yn lân, heb ei lygru gan ddysgeidiaethau ac arferion crefyddol Babilon a oedd yn amharchu Duw.

10 Heddiw, mae’n rhaid i wir Gristnogion fod yn ofalus i beidio â chael eu llygru gan gau grefydd. (Darllen 1 Corinthiaid 10:21.) Mae angen bod yn wyliadwrus oherwydd bod dylanwad gau grefydd i’w weld ym mhobman. Mae gau-ddysgeidiaethau crefyddol, fel, er enghraifft, y syniad fod rhywbeth ynon ni yn goroesi ar ôl marwolaeth, wedi dylanwadu ar draddodiadau, gweithgareddau a defodau mewn llawer o wledydd. (Pregethwr 9:5, 6, 10) Mae gwir Gristnogion yn osgoi arferion sy’n deillio o gredoau gau grefydd. * Fyddwn ni ddim yn gadael i neb bwyso arnon ni i gefnu ar safonau’r Beibl ynglŷn ag addoli.—Actau 5:29.

11. Beth mae glendid moesol yn ei olygu, a pham mae’n hanfodol inni gadw’n lân yn hyn o beth?

11 Glendid moesol. Mae cadw’n foesol lân yn gofyn inni osgoi pob math o anfoesoldeb rhywiol. (Darllen Effesiaid 5:5.) Mae’n hanfodol ein bod ni’n aros yn foesol lân. Fel y gwelwn ym mhennod nesaf y llyfr hwn, mae’n rhaid inni ‘ffoi oddi wrth buteindra’ os ydyn ni am aros yng nghariad Duw. Ni fydd pobl sy’n rhywiol anfoesol ac yn ddiedifar yn “etifeddu Teyrnas Dduw.” (1 Corinthiaid 6:9, 10, 18) Yng ngolwg Duw, mae rhai felly yn “ffiaidd.” Os nad ydyn nhw’n cadw’n foesol lân, “eu rhan hwy fydd . . . yr ail farwolaeth.”—Datguddiad 21:8.

12, 13. Beth yw’r cysylltiad rhwng meddyliau a gweithredoedd, a sut gallwn ni gadw ein meddyliau’n lân?

 12 Glendid meddyliol. Mae meddyliau yn arwain at weithredoedd. Os ydyn ni’n meddwl am bethau drwg, yn hwyr neu’n hwyrach fe fyddwn ni’n gwneud pethau drwg. (Mathew 5:28; 15:18-20) Ond os ydyn ni’n cadw ein meddyliau yn bur ac yn lân, fe fydd hynny yn ein hysgogi ni i gadw ein hymddygiad yn lân. (Darllen Philipiaid 4:8.) Sut gallwn ni gadw ein meddyliau’n lân? Un ffordd yw drwy osgoi adloniant a allai halogi ein meddwl. * Ar ben hynny, fe allwn ni lenwi ein meddyliau â syniadau pur drwy astudio Gair Duw yn rheolaidd.—Salm 19:8, 9.

13 I aros yng nghariad Duw, mae’n hanfodol ein bod ni yn ein cadw ein hunain yn lân yn ysbrydol, yn foesol, ac yn feddyliol. Ceir trafodaeth bellach ar yr agweddau hyn ym mhenodau eraill y llyfr hwn. Ond nawr gad inni ystyried y bedwaredd agwedd—glendid corfforol.

SUT MAE CADW’N GORFFOROL LÂN?

14. Pam mae glendid corfforol yn fwy na mater personol?

14 Mae glendid corfforol yn golygu cadw ein cyrff a phob man o’n cwmpas yn lân. Ai mater personol i ni’n unig ydy hwn? Nage, mae ein glendid personol yn bwysig i Jehofa, nid yn unig oherwydd bod glendid yn fuddiol inni, ond oherwydd ein bod ni’n cynrychioli Duw. Meddylia am y bachgen ar ddechrau’r bennod. Mae gweld plentyn sydd bob amser yn fudr ac yn flêr yn siŵr o godi cwestiynau am ei rieni. Fyddwn ni ddim eisiau i’n ffordd o fyw adlewyrchu yn wael ar ein Tad nefol nac ar y neges rydyn ni’n ei phregethu. Dywed Gair Duw: “Nid  ydym yn gosod unrhyw faen tramgwydd ar lwybr neb, rhag cael bai ar ein gweinidogaeth. Yn hytrach, ym mhob peth yr ydym yn ein cymeradwyo ein hunain fel gweinidogion Duw.” (2 Corinthiaid 6:3, 4) Sut, felly, gallwn ni gadw’n gorfforol lân?

15, 16. Beth mae glendid personol yn ei gynnwys, a beth am gyflwr ein dillad?

15 Ein glendid a’n taclusrwydd personol. Er bod diwylliannau ac amodau byw yn amrywio o wlad i wlad, mae’n bosibl, fel arfer, inni ddod o hyd i ddigon o ddŵr a sebon i ymolchi’n rheolaidd a gwneud yn siŵr bod ein plant yn lân. Arfer da yw golchi ein dwylo mewn dŵr a sebon cyn bwyta neu baratoi bwyd, ar ôl mynd i’r toiled, ac ar ôl newid clwt y babi. Gall golchi dwylo mewn dŵr a sebon ein harbed ni rhag mynd yn sâl ac fe all hyd yn oed  achub bywydau. Fe all hefyd rwystro firysau a bacteria rhag lledaenu, a helpu pobl i osgoi heintiau sy’n achosi’r dolur rhydd. Mewn gwledydd lle nad oes systemau carthffosiaeth, gellir claddu’r carthion, fel roedden nhw yn ei wneud yn Israel gynt.—Deuteronomium 23:12, 13.

16 I fod yn lân ac yn daclus, mae angen inni olchi ein dillad yn rheolaidd hefyd. Does dim angen i Gristion brynu dillad drud na dilyn y ffasiynau diweddaraf, ond fe ddylai ei ddillad fod yn daclus, yn lân, ac yn weddus. (Darllen 1 Timotheus 2:9, 10.) Le bynnag yr ydyn ni, dylai ein gwisg fod “yn addurn . . . i athrawiaeth Duw, ein Gwaredwr.”—Titus 2:10.

17. Pam dylai ein cartrefi a’n heiddo fod yn lân ac yn daclus?

17 Ein heiddo. Efallai dydyn ni ddim yn byw mewn tŷ crand ond fe ddylai ein cartref fod mor lân â phosibl. Os ydyn ni’n defnyddio car i fynd i’r cyfarfodydd neu ar gyfer y weinidogaeth, fe ddylen ni wneud ein gorau i gadw’r tu mewn a’r tu allan yn lân. Cofia fod tŷ glân a gardd daclus yn rhan o’n tystiolaeth Gristnogol. Wedi’r cwbl, rydyn ni’n dysgu bod Jehofa yn Dduw glân sy’n mynd i “ddinistrio’r rhai sy’n dinistrio’r ddaear,” a bod ei Deyrnas ar fin troi’r ddaear yn baradwys. (Datguddiad 11:18; Luc 23:43) Yn sicr, mae’n bwysig i’n heiddo ddangos i bawb ein bod ni eisoes yn byw mewn ffordd a fydd yn dderbyniol yn y byd newydd glân.

Mae glendid corfforol yn golygu cadw ein cyrff a phob man o’n cwmpas yn lân

18. Sut gallwn ni ddangos parch tuag at Neuadd y Deyrnas?

18 Ein haddoldai. Mae ein cariad tuag at Jehofa yn gwneud inni barchu ein Neuadd y Deyrnas fel canolfan gwir addoliad yn ein hardal. Pan fydd ymwelwyr yn dod, rydyn ni eisiau i’r neuadd wneud argraff ffafriol arnyn nhw. Felly, mae’n rhaid glanhau’r neuadd yn rheolaidd a gwneud y gwaith cynnal a chadw. Mae gwirfoddoli i lanhau ac i atgyweirio ein haddoldy yn fraint. (2 Cronicl  34:10) Rydyn ni’n teimlo’r un ffordd am Neuaddau Cynulliad neu unrhyw le arall rydyn ni yn ei ddefnyddio ar gyfer cynulliadau neu gynadleddau.

OSGOI ARFERION SY’N LLYGRU

19. Beth sy’n rhaid inni ei osgoi i gadw’n gorfforol lân, a sut mae’r Beibl yn ein helpu ni yn hyn o beth?

19 I gadw ein hunain yn gorfforol lân, dylen ni osgoi arferion sy’n halogi’r corff, fel ysmygu a chamddefnyddio alcohol, cyffuriau, neu sylweddau eraill a all ein caethiwo ni. Dydy’r Beibl ddim yn rhestru pob arferiad aflan a ffiaidd sy’n gyffredin heddiw, ond mae’n rhoi egwyddorion sydd yn ein helpu i ddeall sut mae Jehofa yn teimlo am y pethau hyn. Mae caru Jehofa a deall ei safonau yn gwneud inni ymddwyn mewn ffordd sy’n ei blesio. Gad inni ystyried pum egwyddor Ysgrythurol.

20, 21. Pa arferion y mae Jehofa eisiau inni eu hosgoi, a pham byddwn ni eisiau gwneud hyn?

20 “Gan fod gennym yr addewidion hyn, gyfeillion annwyl, ymlanhawn oddi wrth bob peth sy’n halogi cnawd ac ysbryd, gan berffeithio ein sancteiddrwydd yn ofn Duw.” (2 Corinthiaid 7:1) Dydy Jehofa ddim eisiau inni fod yn gaeth i arferion sy’n llygru ein cyrff ac sy’n niweidio ein hysbryd, hynny yw, prif agwedd ein meddwl. Felly, mae’n rhaid inni osgoi mynd yn gaeth i unrhyw beth sy’n niweidio ein hiechyd corfforol neu feddyliol.

21 Mae’r Beibl yn esbonio pam y dylen ni ymlanhau “oddi wrth bob peth sy’n halogi cnawd ac ysbryd.” Sylwa fod 2 Corinthiaid 7:1 yn dechrau gyda’r geiriau: “Gan fod gennym yr addewidion hyn.” Pa addewidion? Yn yr adnodau blaenorol, mae Jehofa yn addo: “Fe’ch derbyniaf chwi, a byddaf i chwi yn dad.” (2 Corinthiaid 6:17, 18) Meddylia am hynny. Mae Jehofa yn addo y bydd yn gofalu amdanat ac yn dy garu di fel y mae tad yn caru ei  blentyn. Ond, er mwyn i Jehofa gyflawni’r addewidion hyn, mae’n rhaid iti osgoi arferion sy’n halogi “cnawd ac ysbryd.” Ffolineb llwyr fyddai gadael i unrhyw arferiad ffiaidd ddinistrio’r berthynas glòs rhyngot ti a Jehofa!

22-25. Pa egwyddorion Ysgrythurol a all ein helpu ni i osgoi arferion aflan?

22 “Câr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon ac â’th holl enaid ac â’th holl feddwl.” (Mathew 22:37) Dywedodd Iesu mai hwn oedd y gorchymyn pwysicaf oll. (Mathew 22:38) Mae Jehofa yn deilwng o’n cariad. Os ydyn ni’n ei garu â’n holl galon, â’n holl enaid, ac â’n holl feddwl, mae’n rhaid inni osgoi unrhyw arferion a all roi terfyn ar ein bywydau cyn pryd neu a all bylu’r galluoedd meddyliol y mae Duw wedi eu rhoi inni.

23 [Jehofa] sy’n rhoi i bawb fywyd ac anadl a’r cwbl oll.” (Actau 17:24, 25) Mae bywyd yn rhodd gan Dduw. Rydyn ni’n caru’r Rhoddwr ac felly rydyn ni’n parchu’r rhodd. Byddwn ni’n osgoi unrhyw arferion sy’n peryglu ein hiechyd, oherwydd y byddai hynny yn llwyr amharchu rhodd bywyd.—Salm 36:9.

24 “Câr dy gymydog fel ti dy hun.” (Mathew 22:39) Yn aml iawn, mae arferion aflan yn effeithio ar bobl eraill hefyd. Er enghraifft, gall pobl nad ydyn nhw’n ysmygu ddioddef effeithiau mwg ail-law. Mae rhywun sy’n niweidio pobl o’i gwmpas yn mynd yn groes i’r gorchymyn i garu ei gymydog. Mae hefyd yn tanseilio’r honiad ei fod yn caru Duw.—1 Ioan 4:20, 21.

25 “Dwg ar gof iddynt eu bod i ymostwng i’r awdurdodau sy’n llywodraethu, i fod yn ufudd iddynt.” (Titus 3:1) Mewn llawer o wledydd, bydd rhywun sy’n defnyddio rhai cyffuriau neu’n meddu arnyn nhw yn torri’r Gyfraith. Fydd gwir Gristnogion ddim yn meddu  ar gyffuriau anghyfreithlon nac yn eu defnyddio.—Rhufeiniaid 13:1.

26. (a) I aros yng nghariad Duw, beth mae’n rhaid inni ei wneud? (b) Pam mai aros yn lân yng ngolwg Duw yw’r ffordd orau i fyw?

26 I aros yng nghariad Duw, mae’n rhaid inni gadw’n lân, nid yn unig mewn rhai pethau ond ym mhob peth. Mae cefnu ar arferion drwg heb lithro’n ôl yn gallu bod yn anodd, ond y mae’n bosibl. * Yn wir, does dim ffordd well o fyw, oherwydd mae Jehofa bob amser yn ein dysgu ni er ein lles. (Darllen Eseia 48:17.) Yn bwysicaf oll, drwy gadw’n lân, fe fyddwn ni’n adlewyrchu’n dda ar y Duw rydyn ni’n ei garu a byddwn ni’n aros yn ei gariad.

^ Par. 2 Mae’r gair Hebraeg “pur” yn cyfeirio nid yn unig at lendid moesol ac ysbrydol ond hefyd at lendid corfforol.

^ Par. 12 Ceir trafodaeth ar sut i ddewis adloniant iach ym Mhennod 6 y llyfr hwn.

^ Par. 67 Mae’r enw wedi ei newid.