Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

 PENNOD 12

Defnyddio Geiriau Adeiladol

Defnyddio Geiriau Adeiladol

“Nid oes yr un gair drwg i ddod allan o’ch genau, dim ond geiriau da, sydd er adeiladaeth.”—EFFESIAID 4:29.

1-3. (a) Pa rodd rydyn ni wedi ei derbyn gan Jehofa, ond sut gallwn ni ei chamddefnyddio? (b) Er mwyn aros yng nghariad Duw, sut dylen ni ddefnyddio’r iaith y mae Jehofa wedi ei rhoi inni?

SUT byddet ti’n teimlo petaet ti wedi rhoi anrheg i ffrind ac yntau wedi ei chamddefnyddio? Dychmyga dy fod ti wedi rhoi car iddo ac wedyn yn clywed ei fod yn gyrru’n beryglus gan achosi niwed i bobl eraill. Oni fyddet ti’n hynod o siomedig?

2 Mae iaith yn rhodd oddi wrth Jehofa, Rhoddwr “pob rhoi da a phob rhodd berffaith.” (Iago 1:17) Iaith yw’r rhodd sydd yn gwneud y teulu dynol yn wahanol i’r anifeiliaid. Mae’n caniatáu inni fynegi nid yn unig ein syniadau ond hefyd ein teimladau. Ond fel car, mae iaith yn medru cael ei chamddefnyddio. Mae’n rhaid fod Jehofa yn siomi o glywed iaith yn cael ei defnyddio i frifo pobl eraill.

3 Er mwyn aros yng nghariad Duw, mae’n rhaid inni ddefnyddio iaith fel yr oedd Jehofa yn ei fwriadu. Mae Jehofa yn hollol eglur ynglŷn â’r math o iaith sydd yn ei blesio. Dywed ei Air: “Nid oes yr un gair drwg i ddod allan o’ch genau, dim ond geiriau da, sydd er adeiladaeth yn ôl yr angen, ac felly’n dwyn bendith i’r sawl sy’n eu clywed.” (Effesiaid 4:29) Gad inni drafod pam y mae  angen inni wylio ein tafodau, pa fath o siarad y dylen ni ei osgoi, a sut gallwn ni ddefnyddio geiriau mewn ffordd adeiladol.

RHESYMAU DROS WYLIO EIN TAFODAU

4, 5. Sut mae rhai diarhebion yn y Beibl yn disgrifio grym geiriau?

4 Un rheswm pwysig dros wylio ein tafodau yw bod geiriau yn bwerus. Dywed Diarhebion 15:4: “Y mae tafod tyner yn bren bywiol, ond tafod garw yn dryllio’r ysbryd.” Mae geiriau caredig yn gallu codi’r galon. Ar y llaw arall, mae geiriau garw yn digalonni. Yn wir, mae geiriau yn gallu brifo eraill neu’n gallu eu hiacháu.—Diarhebion 18:21.

5 Dihareb arall sy’n disgrifio pŵer geiriau yw hon: “Y mae geiriau’r straegar fel brath cleddyf.” (Diarhebion 12:18) Gall geiriau difeddwl frifo eraill yn emosiynol a chwalu perthynas yn llwyr. A wyt ti wedi cael dy drywanu gan gleddyf geiriol erioed? Mae hanner arall y ddihareb yn rhoi’r ochr gadarnhaol: “Ond y mae tafod y doeth yn iacháu.” Gall geiriau cysurus ffrindiau  doeth leddfu dolur calon ac adfer perthynas dda. Wyt ti’n cofio teimlo’n well ar ôl clywed geiriau caredig? (Darllen Diarhebion 16:24.) Unwaith y byddwn ni’n deall pa mor bwerus yw geiriau, fe fyddwn ni eisiau eu defnyddio nhw i iacháu eraill yn hytrach na’i brifo.

Mae geiriau tyner yn adfywio

6. Pam mae rheoli’r tafod yn anodd?

6 Dim ots pa mor galed rydyn ni’n gweithio, ni allwn ni feistroli ein tafod yn llwyr. Dyma’r ail reswm, felly, dros wylio ein tafod: Dylanwad negyddol pechod ac amherffeithrwydd. O galon a meddwl dyn y mae geiriau yn deillio ac mae “gogwydd ei feddwl yn ddrwg o’i ieuenctid.” (Genesis 8:21; Luc 6:45) Mae hi’n dipyn o ymdrech, felly, i ffrwyno ein tafodau. (Darllen Iago 3:2-4.) Er na fedrwn ni reoli ein tafodau yn berffaith, fe allwn ni ddal ati i wella’r ffordd rydyn ni’n siarad. Yn union fel y mae nofiwr yn gorfod brwydro yn erbyn y llif, mae’n rhaid i ninnau hefyd ymladd yn erbyn ein natur bechadurus er mwyn rheoli ein tafodau.

7, 8. I ba raddau rydyn ni’n atebol i Jehofa am y ffordd rydyn ni’n siarad?

7 Trydydd rheswm dros wylio ein tafodau yw bod Jehofa yn ein dwyn i gyfrif am ein geiriau. Mae’r ffordd rydyn ni’n siarad yn effeithio nid yn unig ar ein perthynas â’n cyd-ddyn ond hefyd ar ein perthynas â Jehofa. Dywed Iago 1:26: “Os yw rhywun yn tybio ei fod yn grefyddol, ac yntau’n methu ffrwyno’i dafod, ac yn wir yn twyllo’i galon ei hun, yna ofer yw crefydd hwnnw.” Fel y gwelon ni yn y bennod flaenorol, mae ein geiriau yn rhan annatod o’n gwasanaeth i Dduw. Os nad yw ein tafod wedi ei ffrwyno—a’n sgwrs yn wenwyn ac yn falais i gyd—fe all ein holl wasanaeth Cristnogol fod yn hollol ddiwerth yng ngolwg Duw.  Onid yw’r syniad hwnnw yn ddigon i sobri dyn?—Iago 3:8-10.

8 Mae hi’n amlwg, felly, fod gennyn ni resymau cryf dros wylio’r ffordd rydyn ni’n siarad. Cyn inni ystyried iaith sy’n llesol ac adeiladol, gad inni drafod y math o iaith na ddylai byth fod yn rhan o fywyd gwir Gristion.

IAITH DDINISTRIOL

9, 10. (a) Pa fath o iaith sy’n gyffredin iawn heddiw? (b) Pam mae angen inni wrthod defnyddio iaith anweddus? (Gweler hefyd y troednodyn.)

9 Iaith anweddus. Mae rhegi, cabledd, a geiriau anweddus yn perthyn i iaith bob dydd llawer o bobl heddiw. Mae llawer yn rhegi i roi ergyd i’w geiriau neu i lenwi bylchau yn eu geirfa. Mae digrifwyr yn aml yn defnyddio iaith sy’n fudr ac yn rhywiol awgrymog er mwyn gwneud i bobl chwerthin. Ond nid peth doniol yw iaith fras neu anweddus. Ryw ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, dywedodd yr apostol Paul wrth y gynulleidfa yn Colosae y dylen nhw roi heibio ‘bryntni o’u genau.’ (Colosiaid 3:8) Dywedodd Paul wrth yr Effesiaid fod ‘pethau anweddus’ ymhlith y pethau y dylai Cristnogion ‘beidio hyd yn oed â’u henwi.’—Effesiaid 5:3, 4.

10 Mae iaith anweddus yn ffiaidd gan Jehofa a hefyd gan y rhai sy’n caru Jehofa. Yn wir, oherwydd ein cariad tuag at Jehofa, rydyn ni’n dewis peidio â defnyddio iaith o’r fath. Mae “amhurdeb,” sy’n gallu cynnwys amhurdeb o ran iaith, yn cael ei restru gan Paul ymhlith “gweithredoedd y cnawd.” (Galatiaid 5:19-21) Mater difrifol yw hyn. Gall aelod o’r gynulleidfa gael ei ddiarddel os yw’n anwybyddu cyngor ac yn dal i ddefnyddio iaith  sy’n hyrwyddo’r hyn sy’n llwyr anfoesol, gwarthus, a llygredig. *

11, 12. (a) Beth yw clecs, a sut gall cario clecs achosi niwed? (b) Pam dylai addolwyr Jehofa osgoi iaith enllibus?

11 Clecs maleisus ac enllib. Mae’r rhan fwyaf ohonon ni, o bryd i’w gilydd, yn siarad am bobl eraill a’u bywydau. Ai peth drwg yw hyn? Nid bob amser. Weithiau rydyn ni’n rhannu newyddion da am bobl eraill, ac yn sôn am bwy sydd newydd gael ei fedyddio neu bwy sydd angen gair o galondid. Yn y ganrif gyntaf, roedd Cristnogion yn dangos diddordeb mawr ym mywydau ei gilydd ac roedden nhw’n rhannu gwybodaeth briodol ynglŷn â’u cyd-gredinwyr. (Effesiaid 6:21, 22; Colosiaid 4:8, 9) Sut bynnag, mae cario clecs maleisus sy’n camliwio’r ffeithiau neu sy’n datgelu materion preifat yn peri niwed. Yn fwy difrifol fyth, fe all arwain at enllib, sydd bob amser yn niweidiol. Enllibio yw cyhuddo rhywun ar gam; pardduo enw da rhywun. Gwnaeth y Phariseaid, er enghraifft, enllibio Iesu drwy ddweud celwyddau maleisus amdano er mwyn tanseilio ei enw da. (Mathew 9:32-34; 12:22-24) Yn aml, mae enllib yn codi cynnen.—Diarhebion 26:20.

12 Nid peth dibwys yng ngolwg Jehofa yw defnyddio iaith i ddifenwi eraill neu i greu anghydfod. Mae Duw yn casáu’r rhai sy’n “codi cynnen.” (Diarhebion 6:16-19) Y gair Groeg am “enllibiwr” yw di·aʹbo·los, sydd hefyd  yn un o deitlau Satan. Ef yw’r “Diafol,” yr enllibiwr drwg sy’n cyhuddo Duw. (Datguddiad 12:9, 10) Yn sicr, fe fydden ni eisiau osgoi iaith a fyddai’n gwneud diafol ohonon ni. Does dim lle yn y gynulleidfa am iaith enllibus sy’n meithrin gweithredoedd y cnawd fel “casineb, ffraeo . . . rhaniadau.” (Galatiaid 5:19-21, beibl.net) Felly, cyn iti ailadrodd newyddion am rywun arall, gofynna i ti dy hun: ‘Ydy hyn yn wir? A fyddai’n garedig i mi ailadrodd hyn? Ydy rhannu’r wybodaeth yn gwbl angenrheidiol?’—Darllen 1 Thesaloniaid 4:11.

13, 14. (a) Pa effaith y mae iaith ddifrïol yn ei chael ar y rhai sy’n gorfod gwrando arni? (b) Beth yw difenwi, a pha sefyllfa beryglus sy’n wynebu’r sawl sy’n defnyddio iaith o’r fath?

13 Iaith ddifrïol. Fel y dywedwyd eisoes, mae geiriau’n gallu brifo. A ninnau’n amherffaith, rydyn ni i gyd, o bryd i’w gilydd, yn dweud pethau rydyn ni yn eu difaru. Ond mae’r Beibl yn sôn am y math o iaith na ddylai Cristnogion byth ei defnyddio yn y teulu nac yn y gynulleidfa. Anogaeth Paul i Gristnogion yw: “Bwriwch ymaith oddi wrthych bob chwerwder, llid, digofaint, twrw, a sen.” (Effesiaid 4:31) Mae cyfieithiadau eraill wedi trosi’r gair “sen” gydag ymadroddion sy’n cyfateb i “iaith ddifrïol,” “geiriau drwg,” “iaith niweidiol,” a “iaith sarhaus.” Mae iaith ddifrïol—gan gynnwys galw enwau cas a beirniadu’n llym a di-baid—yn bychanu eraill ac yn gwneud iddyn nhw deimlo’n ddiwerth. Mae iaith ddifrïol yn effeithio’n arbennig o ddrwg ar galonnau tyner plant.—Colosiaid 3:21.

14 Mae’r Beibl yn condemnio difenwi yn y geiriau cryfaf posibl. Mae unrhyw un sy’n parhau i ddifenwi eraill drwy arfer iaith ddifrïol, fychanol, a sarhaus yn sefyll ar dir peryglus. Os yw’n anwybyddu pob ymdrech i’w helpu i newid ei ffordd, fe all gael ei ddiarddel o’r  gynulleidfa. Os na fydd yn newid, fe all golli’r cyfle i fyw yn y byd newydd. (1 Corinthiaid 5:11-13; 6:9, 10) Yn amlwg, felly, mae hi’n amhosibl inni aros yng nghariad Duw os ydyn ni’n parhau i ddefnyddio iaith sy’n anweddus, celwyddog, ac angharedig. Mae iaith o’r fath yn ddinistriol.

GEIRIAU ADEILADOL

15. Beth yw geiriau adeiladol?

15 Sut gallwn ni siarad mewn ffordd sy’n plesio Jehofa? Cofia, mae Gair Duw yn ein hannog i ddefnyddio “dim ond geiriau da, sydd er adeiladaeth.” (Effesiaid 4:29) Pan ydyn ni’n defnyddio geiriau sy’n adeiladu, yn calonogi, ac yn rhoi nerth i eraill, rydyn ni’n plesio Jehofa. Mae hyn yn gofyn am feddwl a phwyll. Dydy’r Beibl ddim yn gosod rheolau ynglŷn â’n hiaith nac yn cynnwys rhestr o eiriau y dylen ni eu defnyddio. Cofia, y dylai “geiriau da sydd er adeiladaeth” fod yn weddus, yn wir, ac yn garedig. Wrth gadw’r tair nodwedd hyn mewn cof, gad inni ystyried rhai esiamplau penodol o iaith adeiladol.—Gweler y blwch “Ydw i’n Siarad yn Adeiladol?”

16, 17. (a) Pam dylen ni ganmol eraill? (b) Pa gyfleon sydd gennyn ni i ganmol eraill yn y gynulleidfa? ac yn y teulu?

16 Canmoliaeth ddiffuant. Mae Jehofa a Iesu ill dau yn gwybod bod angen rhoi canmoliaeth a chymeradwyaeth. (Mathew 3:17; 25:19-23; Ioan 1:47) Fel Cristnogion, dylen ni fod yn barod i ganmol eraill yn ddiffuant. Pam felly? Dywed Diarhebion 15:23: “Beth sy’n well na gair yn ei bryd?” Sut rwyt ti’n teimlo pan fo rhywun yn dy ganmol di? Onid yw’n codi dy galon? Yn wir, mae gair o ganmoliaeth yn dangos bod rhywun arall yn dy weld di’n bwysig a’r gwaith rwyt  ti yn ei wneud yn werth chweil. Mae hyn yn codi dy hyder a gwneud iti eisiau gweithio’n galetach. Gan dy fod ti’n hoff o dderbyn canmoliaeth, oni ddylet ti, yn dy dro, fod yn barod i roi canmoliaeth.—Darllen Mathew 7:12.

17 Dysga edrych am y daioni mewn eraill a’u canmol. Yn y gynulleidfa, efallai y byddi di’n clywed anerchiad gwych neu’n sylwi ar rywun ifanc sy’n gwneud cynnydd ysbrydol neu’n gweld rhywun mewn oed sydd bob amser yn y cyfarfodydd er gwaethaf problemau henaint. Gall gair o ganmoliaeth ddiffuant gyffwrdd â’u calonnau a’u cryfhau’n ysbrydol. Yn y teulu, mae’n bwysig fod y gŵr a’r wraig yn clywed geiriau cynnes o ganmoliaeth oddi wrth ei gilydd. (Diarhebion 31:10, 28) Mae plant sy’n cael digon o sylw a chariad yn ffynnu. Fel y mae golau haul a dŵr yn hanfodol i blanhigyn, felly y mae canmoliaeth a chymeradwyaeth yn hanfodol i blentyn. Os oes gennyt ti blant, chwilia am bob cyfle i’w canmol am eu rhinweddau a’u hymdrechion da. Bydd canmoliaeth o’r fath yn meithrin dewrder yn dy blant yn ogystal â’r hyder a’r awydd i wneud yr hyn sy’n iawn.

18, 19. Pam dylen ni wneud ein gorau i annog a chysuro ein cyd-gredinwyr, a sut gallwn ni wneud hyn?

18 Anogaeth a chysur. Mae Jehofa yn caru’r “rhai isel eu hysbryd” a’r “rhai cystuddiol.” (Eseia 57:15) Mae ei Air yn ein hannog ni i ‘galonogi ein gilydd’ ac i ‘gysuro’r gwangalon.’ (1 Thesaloniaid 5:11, 14) Gallwn ni fod yn sicr fod Duw yn gwerthfawrogi ein hymdrechion i annog a chysuro’r rhai sydd wedi cael eu llethu gan dristwch.

Mae defnyddio geiriau adeiladol i galonogi eraill yn plesio Jehofa

19 Beth gelli di ei ddweud i gysuro Cristion sy’n isel ei  ysbryd? Paid â meddwl dy fod ti’n gorfod datrys y broblem. Yn aml iawn, geiriau caredig yw’r cyfan sydd ei angen. Rho wybod iddyn nhw dy fod ti eisiau helpu. Os ydyn nhw’n cytuno iti weddïo’n uchel gyda nhw, gofynna i Jehofa i’w helpu nhw ddeall cymaint y mae Ef ac eraill yn eu caru. (Iago 5:14, 15) Dyweda wrthyn nhw pa mor werthfawr ydyn nhw i’r gynulleidfa. (1 Corinthiaid 12:12-26) Darllena adnod o’r Beibl sy’n dangos bod Jehofa yn eu caru fel unigolion. (Salm 34:18; Mathew 10:29-31) Rho ddigon o amser iddyn nhw a siarada o’r galon. Bydd dy eiriau caredig o anogaeth yn eu helpu i ddeall cymaint y maen nhw yn ei olygu i eraill.—Darllen Diarhebion 12:25.

20, 21. Beth sy’n gwneud cyngor yn effeithiol?

20 Cyngor effeithiol. A ninnau’n bobl amherffaith, bydd angen cyngor arnon ni o bryd i’w gilydd. Mae’r Beibl yn annog: “Gwrando ar gyngor, a derbyn ddisgyblaeth, er mwyn iti fod yn ddoeth yn y diwedd.” (Diarhebion 19:20) Nid yr henuriaid yw’r unig rai sy’n gallu rhoi cyngor. Mae rhieni yn rhoi cyngor i’w plant. (Effesiaid 6:4) Efallai y bydd angen i chwiorydd aeddfed roi cyngor i chwiorydd ifanc. (Titus 2:3-5) Os  ydyn ni’n caru eraill, byddwn ni eisiau rhoi cyngor mewn modd hawdd ei dderbyn ac mewn ffordd na fydd yn digalonni neb. Ystyria dri pheth a fydd yn sicrhau bod ein cyngor yn effeithiol: agwedd a chymhellion yr un sy’n rhoi’r cyngor, sail y cyngor, a’r modd y mae’n cael ei roi.

21 Mae cyngor effeithiol yn dechrau gyda’r un sydd yn ei roi. Bydd cyngor yn llawer haws ei dderbyn os wyt ti’n gwybod bod yr un sydd yn ei roi yn dy garu di ac nad oes ganddo unrhyw gymhellion cudd na drwgdeimlad tuag atat ti. Felly, oni ddylet ti gofio hyn y tro nesaf y byddi di’n rhoi cyngor i rywun. Mae cyngor effeithiol hefyd wedi ei seilio ar Air Duw. (2 Timotheus 3:16) P’un a fyddwn ni’n dyfynnu’n uniongyrchol o’r Beibl neu beidio, dylai ein cyngor fod yn seiliedig ar yr Ysgrythurau. Felly, mae henuriaid yn ofalus i beidio â gwthio eu safbwynt ar eraill ac ni fyddan nhw byth yn gwyrdroi’r Ysgrythurau i gefnogi barn bersonol. Mae cyngor yn fwy effeithiol os yw’n cael ei roi yn y ffordd iawn. Mae cyngor sydd wedi ei flasu â halen caredigrwydd bob amser yn haws ei dderbyn ac mae’n parchu urddas y sawl sydd yn ei dderbyn.—Colosiaid 4:6.

22. Sut byddi di’n defnyddio’r iaith y mae Jehofa wedi ei rhoi iti?

22 Yn sicr, rhodd werthfawr gan Dduw yw iaith. Oherwydd ein cariad tuag at Jehofa, byddwn ni’n ofalus i beidio â’i chamddefnyddio. Mae’n rhaid inni gofio bod gan ein geiriau rym naill ai i adeiladu neu i dynnu i lawr. Gad inni, felly, wneud pob ymdrech i ddefnyddio iaith “er adeiladaeth.” Bydd ein geiriau yn fendith i’r rhai o’n cwmpas ac yn ein helpu i aros yng nghariad Duw.

^ Par. 10 Mae’r geiriau “amhurdeb” ac “aflendid,” fel y’u defnyddir yn y Beibl yn dermau eang eu hystyr sy’n golygu nifer o bechodau gwahanol. Er nad yw pob math o amhurdeb yn gofyn am gamau barnwrol, fe all unigolyn sy’n parhau mewn amhurdeb difrifol gael ei ddiarddel o’r gynulleidfa os nad yw’n edifarhau.—2 Corinthiaid 12:21; Effesiaid 4:19; gweler “Questions From Readers” yn y Watchtower, 15 Gorffennaf 2006.