Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r isddewislen

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Cymraeg

“Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw”

 PENNOD 13

Dathliadau Sy’n Annerbyniol i Dduw

Dathliadau Sy’n Annerbyniol i Dduw

“Gwnewch yn siŵr beth sy’n gymeradwy gan yr Arglwydd.”—EFFESIAID 5:10.

1. Pa fath o bobl y mae Jehofa yn eu tynnu tuag ato, a pham y dylen nhw aros yn ysbrydol effro?

DYWEDODD Iesu y byddai “gwir addolwyr yn addoli’r Tad mewn ysbryd a gwirionedd, oherwydd rhai felly y mae’r Tad yn eu ceisio i fod yn addolwyr iddo.” (Ioan 4:23) Mae Jehofa yn tynnu rhai felly ato ef a’i fab fel y mae wedi ei wneud yn dy achos di. (Ioan 6:44) Dyna iti fraint! Ond, mae’n rhaid i’r rhai sy’n caru gwirioneddau’r Beibl ‘wneud yn siŵr beth sy’n gymeradwy gan yr Arglwydd,’ oherwydd y mae Satan yn feistr ar dwyllo pobl.—Effesiaid 5:10; Datguddiad 12:9.

2. Beth yw barn Jehofa ynglŷn â’r rhai sy’n cymysgu gwir grefydd â gau grefydd?

2 Ystyria yr hyn a ddigwyddodd wrth ymyl Mynydd Sinai pan ofynnodd yr Israeliaid i Aaron wneud duw iddyn nhw. Ildiodd Aaron i’w perswâd a gwneud llo aur, gan awgrymu bod y ddelw yn cynrychioli Jehofa. “Yfory bydd gŵyl i’r ARGLWYDD,” meddai. A oedd Jehofa yn fodlon ar y cymysgedd hwn o wir grefydd a gau grefydd? Nac oedd. Oherwydd hyn, cafodd rhyw 3,000 o eilunaddolwyr eu rhoi i farwolaeth. (Exodus 32:1-6, 10, 28) A’r wers? Os ydyn ni am aros yng nghariad Duw, mae’n rhaid inni beidio â “chyffwrdd â dim aflan,” a gwarchod y gwirionedd yn selog rhag unrhyw fath o lygredd.—Eseia 52:11; Eseciel 44:23; Galatiaid 5:9.

3, 4. Pam y dylen ni edrych ar draddodiadau a dathliadau poblogaidd yng ngoleuni egwyddorion y Beibl?

 3 Roedd yr apostolion yn amddiffyn y gynulleidfa rhag gwrthgiliad, ond ar ôl iddyn nhw farw, dechreuodd rhai Cristnogion honedig fabwysiadu arferion, dathliadau a gwyliau paganaidd a’u galw yn rhai Cristnogol. (2 Thesaloniaid 2:7, 10) Wrth iti ystyried rhai o’r dathliadau hyn, sylwa sut y maen nhw’n adlewyrchu ysbryd y byd. Yn gyffredinol, mae gan ddathliadau’r byd yr un themâu: Maen nhw’n apelio at chwantau’r cnawd, ac maen nhw’n hyrwyddo gau gredoau ac ysbrydegaeth—nodweddion amlwg o “Fabilon Fawr.” * (Datguddiad 18:2-4, 23) Cofia hefyd fod Jehofa wedi gweld yr arferion ffiaidd a oedd wrth wraidd llawer o draddodiadau poblogaidd. Mae’n debyg fod y dathliadau hyn yr un mor wrthun iddo heddiw. Onid y peth pwysicaf inni yw safbwynt Duw?—2 Ioan 6, 7.

4 Fel gwir Gristnogion, fe wyddon ni fod rhai dathliadau yn annerbyniol i Jehofa. Ond, mae’n rhaid bod yn benderfynol o beidio â chymryd rhan ynddyn nhw. Bydd edrych ar y rhesymau pam nad ydyn nhw’n dderbyniol i Jehofa yn cryfhau ein penderfyniad i osgoi pob peth a allai ein rhwystro ni rhag aros yng nghariad Duw.

Y NADOLIG—ADDOLI’R HAUL DAN ENW ARALL

5. Pam y gallwn ni fod yn sicr na chafodd Iesu ei eni ar 25 Rhagfyr?

5 Dydy’r Beibl ddim yn dweud unrhyw beth am ddathlu pen-blwydd Iesu. Yn wir, does neb yn gwybod yn union pryd y cafodd Iesu ei eni. Ond, gallwn fod yn sicr na  chafodd ei eni ar 25 Rhagfyr. * Yn un peth, mae Luc yn dweud bod y “bugeiliaid allan yn y wlad yn gwarchod eu praidd liw nos” pan gafodd Iesu ei eni. (Luc 2:8-11) Ar ddiwedd mis Rhagfyr, ceir glaw oer ac eira ym Methlehem ac felly roedd bugeiliaid yn cadw eu preiddiau dan do. Ni fyddai’r bugeiliaid wedi bod “allan yn y wlad . . . liw nos” ar yr adeg honno. Ar ben hynny, roedd Joseff a Mair wedi mynd i Fethlehem oherwydd bod Cesar Awgwstws wedi trefnu cyfrifiad. (Luc 2:1-7) Mae’n annhebygol y byddai Cesar wedi gorchymyn pobl a oedd eisoes yn casáu awdurdod y Rhufeiniaid i deithio yn ôl i drefi eu cyndadau yng nghanol y gaeaf.

6, 7. (a) Beth yw tarddiad llawer o draddodiadau’r Nadolig? (b) Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y rhoi Nadoligaidd a’r rhoi Cristnogol?

6 Mae gwreiddiau’r Nadolig i’w cael nid yn y Beibl ond mewn hen wyliau paganaidd, fel gŵyl Satwrnalia sy’n anrhydeddu Sadwrn, sef duw amaeth y Rhufeiniaid. Yn ôl y New Catholic Encyclopedia, roedd addolwyr Mithras yn dathlu “pen-blwydd yr haul anorchfygedig” ar 25 Rhagfyr. Mae’n ychwanegu: “Dechreuodd gŵyl y Nadolig ar adeg pan oedd cwlt yr haul ar ei anterth yn Rhufain,” sef ryw dair canrif wedi marwolaeth Crist.

Rhoi o’r galon y mae gwir Gristnogion

7 Fel rhan o’r dathliadau, roedd paganiaid yn cyfnewid anrhegion ac yn gwledda, arferion a gafodd eu trosglwyddo i’r Nadolig. Ond, roedd yr ysbryd y tu ôl i’r cyfnewid anrhegion hwnnw yn groes i gyngor 2 Corinthiaid 9:7: “Rhaid i bawb roi o wirfodd ei galon, nid o anfodd neu o raid, oherwydd rhoddwr llawen y mae Duw’n ei garu.” Gellir dweud yr un peth am lawer o’r rhoi sy’n digwydd  adeg y Nadolig heddiw. Cariad sy’n ysgogi gwir Gristnogion i roi anrhegion. Dydy eu haelioni ddim yn gyfyngedig i ddyddiadau arbennig, a dydyn nhw ddim yn disgwyl cael anrhegion yn ôl. (Luc 14:12-14; darllen Actau 20:35.) Ar ben hynny, maen nhw’n falch o fod yn rhydd o wallgofrwydd y Nadolig, ac o osgoi’r baich ariannol a’r ddyled y mae llawer yn ei hwynebu adeg honno o’r flwyddyn.—Mathew 11:28-30; Ioan 8:32.

8. Ai anrhegion pen-blwydd a roddwyd i Iesu gan y sêr-ddewiniaid? Eglura.

8 Ond, oni roddodd y sêr-ddewiniaid anrhegion pen-blwydd i Iesu? Naddo. Yn unol â’r traddodiad bryd hynny, arwydd o barch tuag at berson o fri oedd yr anrhegion hynny. (1 Brenhinoedd 10:1, 2, 10, 13; Mathew 2:2, 11) Yn wir, ni wnaethon nhw ymweld â Iesu ar y noson y cafodd ei eni. Pan gyrhaeddodd y sêr-ddewiniaid, nid baban  mewn preseb oedd Iesu ond bachgen sawl mis oed a oedd yn byw mewn tŷ.

HANES PEN-BLWYDDI YN Y BEIBL

9. Beth sy’n arwyddocaol am y dathliadau pen-blwydd a ddisgrifir yn y Beibl?

9 Er bod genedigaeth babi bob amser yn achos llawenydd, does dim sôn yn y Beibl am weision Duw yn dathlu pen-blwyddi. (Salm 127:3) Ai cyd-ddigwyddiad ydy hyn? Nage, oherwydd y mae’r Beibl yn sôn am ddau ddathliad pen-blwydd, sef pen-blwydd Pharo a phenblwydd Herod Antipas. (Darllen Genesis 40:20-22; Marc 6:21-29.) Mae’r ddau yn cael eu portreadu yn anffafriol, yn enwedig yn achos pen-blwydd Herod pan dorrwyd pen Ioan Fedyddiwr.

10, 11. Beth oedd safbwynt y Cristnogion cynnar tuag at ddathlu pen-blwyddi, a pham?

 10 Yn ôl The World Book Encyclopedia: “Roedd Cristnogion cynnar yn ystyried dathlu genedigaeth rhywun yn arferiad paganaidd.” Roedd y Groegiaid gynt, er enghraifft, yn credu bod gan bob unigolyn ysbryd gwarcheidiol a oedd yn bresennol ar adeg ei enedigaeth i’w warchod o hynny ymlaen. Dywed y llyfr The Lore of Birthdays fod gan yr ysbryd hwnnw “berthynas gyfriniol â’r duw yr oedd yr unigolyn yn rhannu pen-blwydd ag ef.” Mae hanes hir hefyd i’r cysylltiad rhwng pen-blwyddi ac astroleg a horosgopau.

11 Yn ogystal â gwrthod dathlu pen-blwyddi oherwydd eu gwreiddiau paganaidd a’u cysylltiadau ag ysbrydegaeth, mae’n debyg fod egwyddor arall wedi lliwio safbwynt gweision Duw. Pa egwyddor? A hwythau’n bobl ostyngedig, doedden nhw ddim yn teimlo bod eu dyfodiad i’r byd yn achlysur pwysig y dylid ei ddathlu. * (Micha 6:8; Luc 9:48) Yn hytrach, clodfori Jehofa a wnaethon nhw gan ddiolch iddo am eu bywydau. *Salm 8:3, 4; 36:9; Datguddiad 4:11.

12. Sut gall dydd marw fod yn well na dydd geni?

12 Dywed Pregethwr 7:1: “Y mae enw da yn well nag ennaint gwerthfawr, a dydd marw yn well na dydd geni.” Ar ‘ddydd marw,’ mae pob un ffyddlon yn ddiogel yng nghof Duw ac mae eu hatgyfodiad yn sicr. (Job 14:14, 15) Yr hyn sy’n creu “enw da” inni gerbron Duw yw ein gwasanaeth ffyddlon iddo. Mae’n arwyddocaol, felly, mai marwolaeth Iesu yn hytrach na’i enedigaeth yw’r unig achlysur y gorchmynnir Cristnogion i’w goffáu. Mae “enw” rhagorol  Iesu yn allwedd i’n hiachawdwriaeth.—Hebreaid 1:3, 4; Luc 22:17-20.

Y PASG—GŴYL FFRWYTHLONDEB MEWN GWISG NEWYDD

13, 14. Beth yw tarddiad llawer o draddodiadau’r Pasg?

13 Dywedir bod y Pasg yn dathlu atgyfodiad Crist, ond y gwir yw bod gwreiddiau’r ŵyl i’w cael mewn crefyddau paganaidd. Mae’r enw Saesneg Easter wedi cael ei gysylltu ag Eostre, neu Ostara, duwies y wawr a’r gwanwyn i’r Eingl-Sacsoniaid. A sut daeth wyau a chwningod i fod yn rhan o’r Pasg? Yn ei llyfr Sêrs a Rybana, Astudiaeth o’r Canu Gwasael, dywed Rhiannon Ifans fod “i’r ŵy arwyddocâd ffrwythlonol er dyddiau cynnar iawn ac yn arbennig felly ym myd adenedigaeth a dychweliad i fywyd.” Mae’r ysgyfarnog a’r gwningen wedi bod yn symbolau ffrwythlondeb ers tro byd. Felly, defod ffrwythlondeb yw’r Pasg, wedi ei gwisgo i edrych fel dathliad o atgyfodiad Crist. *

14 A fyddai Jehofa yn fodlon inni goffáu atgyfodiad ei Fab drwy ddefnyddio defodau ffrwythlondeb ffiaidd? Na fyddai, byth! (2 Corinthiaid 6:17, 18) Yn wir, nid yw’r Ysgrythurau yn rhoi na gorchymyn na chaniatâd i unrhyw un goffáu atgyfodiad Iesu. Mae’r sawl sy’n dilyn traddodiadau paganaidd y Pasg yn anffyddlon ar sawl cyfrif.

GWREIDDIAU NOS GALAN GAEAF

15. Beth yw tarddiad Nos Galan Gaeaf, a beth yw arwyddocâd dyddiad yr ŵyl hon?

15 Mae Nos Galan Gaeaf, a elwir hefyd yn Noswyl yr Holl Saint, yn enwog am wrachod, bwganod, a phob math o betheuach hyll. Mae’r gwreiddiau i’w cael yn hen fyd  y Celtiaid. Ar noson y lleuad lawn sydd agosaf at 1 Tachwedd, roedd y Celtiaid yn dathlu gŵyl Samhain, sy’n golygu “Diwedd yr Haf.” Roedden nhw’n credu bod y llen rhwng y byd dynol a’r byd goruwchnaturiol yn agor yn ystod Samhain a bod ysbrydion da a drwg yn crwydro’r ddaear. Credid bod eneidiau’r meirw yn dychwelyd i’w cartrefi a byddai’r teulu yn gadael bwyd a diod allan i fodloni’r ymwelwyr arallfydol. Felly, wrth fynd o gwmpas y tai, wedi eu gwisgo fel bwganod neu wrachod ac yn bygwth pobl â chastiau os nad ydyn nhw’n cael rhywbeth, mae plant heddiw yn cadw defodau’r Samhain yn fyw.

TRADDODDIADAU’R DIWRNOD PRIODAS

16, 17. (a) Pam dylai Cristnogion sy’n trefnu priodas ystyried traddodiadau priodas eu cymunedau yng ngoleuni egwyddorion y Beibl? (b) O ran traddodiadau fel taflu reis neu gonffeti, beth dylai Cristnogion ei ystyried?

16 Mae’r amser yn dod yn fuan pan na fydd llais priodfab a phriodferch yn cael ei glywed ym Mabilon Fawr byth mwy. (Datguddiad 18:23) Pam felly? Yn rhannol oherwydd bod ei thraddodiadau yn gysylltiedig â dewiniaeth. Gall y traddodiadau hyn ddifwyno priodas o’r diwrnod cyntaf.—Marc 10:6-9.

17 Mae gan bob gwlad ei thraddodiadau ei hun. Mae rhai’n edrych yn ddigon diniwed ond maen nhw’n deillio o arferion Babilonaidd i roi ‘lwc dda’ i’r rhai sy’n priodi a’u gwesteion. (Eseia 65:11) Un o’r traddodiadau hyn yw taflu reis neu gonffeti. Mae’n bosibl fod y traddodiad hwn yn tarddu o’r syniad fod bwyd yn tawelu ysbrydion drwg a’u rhwystro rhag niweidio’r pâr priod. Ar ben hynny, y mae hen gysylltiad cyfriniol rhwng reis, ffrwythlondeb, hapusrwydd, a hir oes. Yn amlwg, felly, bydd pawb sy’n dymuno aros yng nghariad Duw yn cadw draw rhag y fath draddodiadau llygredig.—Darllen 2 Corinthiaid 6:14-18.

18. Pa egwyddorion yn y Beibl sy’n rhoi arweiniad i bobl sy’n priodi yn ogystal â’r gwesteion?

 18 Yn yr un modd, bydd gweision Duw yn ofalus i osgoi arferion a all danseilio urddas Cristnogol y briodas neu’r wledd sy’n dilyn, neu a all bechu cydwybod pobl eraill. Er enghraifft, maen nhw’n osgoi rhoi areithiau sydd wedi eu britho â sylwadau sarcastig neu rywiol awgrymog a fydden nhw ddim yn chwarae castiau na dweud dim a all godi embaras ar y cwpl a’i gwesteion. (Diarhebion 26:18, 19; Luc 6:31; 10:27) Maen nhw hefyd yn osgoi mynd dros ben llestri drwy fynnu cael gwledd briodas sy’n adlewyrchu “balchder mewn meddiannau.” (1 Ioan 2:16) Os wyt ti’n trefnu priodas, paid ag anghofio bod Jehofa yn dymuno iti gael diwrnod i’w gofio heb unrhyw beth i’w ddifaru. *

CODI GWYDRAU—GWEITHRED GREFYDDOL?

19, 20. Beth mae un ffynhonnell yn ei ddweud am darddiad cynnig llwncdestun, a pham nad yw’r traddodiad hwn yn dderbyniol i Gristnogion?

19 Traddodiad cyffredin mewn priodasau ac ar adegau cymdeithasol eraill yw codi gwydrau neu gynnig llwncdestun. Dywed yr International Handbook on Alcohol and Culture (1995): “Tarddiad y llwncdestun modern, yn ôl pob tebyg, yw’r hen ddiod-offrymau, sef y diodydd cysegredig a gynigiwyd i’r duwiau . . . yn gyfnewid am ateb i’r weddi am ‘hir oes!’ neu ‘iechyd da!’”

20 Wrth gwrs, efallai nad yw pobl yn ystyried bod codi gwydrau yn weithred grefyddol neu ofergoelus. Ond eto, fe ellir ystyried bod codi gwydrau yn ffordd o ofyn i’r “nef,” sef y goruwchnaturiol, am fendith a hynny mewn modd sy’n groes i gyfarwyddyd yr Ysgrythurau.—Ioan 14:6; 16:23. *

 “CASEWCH DDRYGIONI, CARWCH DDAIONI”

21. Er nad oes ganddyn nhw naws grefyddol, pa ddathliadau y dylai Cristnogion eu hosgoi, a pham?

21 Ffasiwn arall a gefnogwyd yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gan Fabilon Fawr yw’r carnifal blynyddol neu’r Mardi Gras. Yn adlewyrchu safonau isel y byd, mae’r gwyliau hyn llawn dawnsio anweddus, ac mae rhai yn cefnogi ac yn dathlu bywyd hoyw. A fyddai’n briodol i rywun sy’n caru Jehofa ac yn casáu drygioni fynychu neu wylio digwyddiadau o’r fath? (Salm 1:1, 2; Amos 5:15) Gymaint yn well fyddai efelychu agwedd y Salmydd pan weddïodd: “Tro ymaith fy llygaid rhag gweld gwagedd.”—Salm 119:37.

22. Pryd y mae Cristion yn rhydd i ddilyn ei gydwybod ei hun o ran ymuno mewn dathliadau?

22 Bydd y Cristion yn ofalus i beidio â rhoi’r argraff ei fod yn ymuno mewn dathliadau anysgrythurol. Dywed Paul: “Beth bynnag a wnewch, prun ai bwyta, neu yfed, neu unrhyw beth arall, gwnewch bopeth er gogoniant Duw.” (1 Corinthiaid 10:31; gweler y blwch  “Gwneud Penderfyniadau Doeth.”) Ar y llaw arall, os nad yw’r ŵyl neu’r traddodiad bellach yn gysylltiedig â gau grefydd, os nad yw’n rhan o seremoni wleidyddol neu wladgarol nac yn groes i egwyddorion y Beibl, yna mae pob Cristion yn rhydd i ddewis cymryd rhan neu beidio. Ar yr un pryd, bydd yn ystyried teimladau pobl eraill er mwyn peidio â bod yn faen tramgwydd iddyn nhw.

GOGONEDDU DUW MEWN GAIR A GWEITHRED

23, 24. Sut gallwn ni roi tystiolaeth dda ynglŷn â safonau cyfiawn Jehofa?

23 I lawer o bobl, mae dathlu gwyliau poblogaidd yn gyfle i deuluoedd a ffrindiau ddod at ei gilydd. Felly, os yw rhywun yn camddeall ein safiad Ysgrythurol ac yn ein  cyhuddo o fod yn eithafol neu’n ddideimlad, fe allwn ni esbonio’n garedig fod treulio amser gyda’n teuluoedd a’n ffrindiau yn bwysig iawn i Dystion Jehofa. (Diarhebion 11:25; Pregethwr 3:12, 13; 2 Corinthiaid 9:7) Rydyn ni’n mwynhau cymdeithasu drwy gydol y flwyddyn, ond oherwydd ein cariad tuag at Dduw a’i safonau cyfiawn, dydyn ni ddim eisiau difetha achlysuron hapus drwy ei ddigio.—Gweler y blwch  “Gwir Addoliad yn Dod â Gwir Lawenydd.”

24 Gyda’r rhai sydd â gwir ddiddordeb, mae rhai Tystion wedi llwyddo i esbonio eu safiad drwy ddangos y wybodaeth ym mhennod 16 o’r llyfr Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu? * Ond rhaid cofio mai ennill calonnau yn hytrach nag ennill dadleuon yw’r nod. Felly, dangosa barch bob amser tuag at eraill, paid â cholli dy dymer, a “bydded eich gair bob amser yn rasol, wedi ei flasu â halen.”—Colosiaid 4:6.

25, 26. Sut gall rhieni helpu eu plant i dyfu yn eu ffydd ac yn eu cariad tuag at Jehofa?

25 Mae Tystion Jehofa yn gwybod pam y maen nhw’n dewis gwneud rhai pethau ac yn ymgadw rhag pethau eraill. (Hebreaid 5:14) Chi rieni, dysgwch eich plant i resymu ar egwyddorion y Beibl. Helpwch nhw i adeiladu eu fydd, i ymddiried yng nghariad Duw, ac i roi atebion Ysgrythurol i’r rhai sy’n herio eu daliadau.—Eseia 48:17, 18; 1 Pedr 3:15.

26 Mae’r rhai sy’n addoli Duw “mewn ysbryd a gwirionedd” nid yn unig yn osgoi dathliadau anysgrythurol ond yn gwneud ymdrech i fod yn onest ym mhob peth. (Ioan 4:23) Ym marn llawer heddiw, dydy bod yn onest ddim yn talu. Ond, fel y gwelwn ni yn y bennod nesaf, ffyrdd Duw sydd orau bob amser.

^ Par. 3 Gweler y blwch  “A Ddylwn i Ymuno yn y Dathliadau?” Rhestrir nifer o wyliau crefyddol a dathliadau yn y Watch Tower Publications Index, a gyhoeddir gan Dystion Jehofa.

^ Par. 5 Yn ôl cronoleg y Beibl a ffynonellau hanesyddol eraill, mae’n debyg i Iesu gael ei eni yn y flwyddyn 2 COG ym mis Ethanim y calendr Iddewig sy’n cyfateb i Fedi/Hydref yn ein calendr ni.—Gweler Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu, tudalennau 221-222, ac Insight on the Scriptures, Cyfrol 2, tudalennau 56-57, y ddau wedi eu cyhoeddi gan Dystion Jehofa.

^ Par. 11 Roedd Cyfraith Moses yn gofyn i ddynes gyflwyno offrwm dros bechod ar ôl iddi roi genedigaeth. (Lefiticus 12:1-8) Roedd hyn yn atgoffa’r rhieni o’r ffaith eu bod nhw’n trosglwyddo pechod i’w plant. Byddai’r ddeddf hon wedi helpu’r Israeliaid i gadw agwedd gytbwys tuag at enedigaeth eu plant ac i beidio â dilyn arferion paganaidd ynglŷn â phenblwyddi.—Salm 51:5.

^ Par. 13 Roedd Eostre (neu Eastre) hefyd yn dduwies ffrwythlondeb. Yn ôl The Dictionary of Mythology, “yr oedd hi’n berchen ar ysgyfarnog yn y lleuad a oedd yn hoff o wyau ac weithiau fe’i portreadwyd gyda phen ysgyfarnog.”

^ Par. 18 Gweler y tair erthygl sy’n sôn am briodasau a phartis yn y Watchtower, 15 Hydref 2006, tudalennau 18-31.

^ Par. 20 Gweler y Watchtower, 15 Chwefror 2007, tudalennau 30-31.

^ Par. 24 Cyhoeddir gan Dystion Jehofa.