Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r isddewislen

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Cymraeg

“Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw”

 PENNOD 5

Sut Mae Cadw ar Wahân i’r Byd?

Sut Mae Cadw ar Wahân i’r Byd?

‘Nid ydych yn perthyn i’r byd.’—IOAN 15:19.

1. Beth wnaeth Iesu ei bwysleisio ar ei noson olaf ar y ddaear fel dyn?

YN YSTOD ei noson olaf ar y ddaear fel dyn, mynegodd Iesu ei bryderon dwys dros ei ddilynwyr. Fe weddïodd ar ei Dad: “Nid wyf yn gweddïo ar i ti eu cymryd allan o’r byd, ond ar i ti eu cadw’n ddiogel rhag yr Un drwg. Nid ydynt yn perthyn i’r byd, fel nad wyf finnau’n perthyn i’r byd.” (Ioan 17:15, 16) Mae gweddi Iesu yn dangos ei gariad mawr tuag at ei ddilynwyr ac yn pwysleisio’r hyn a ddywedodd wrth rai ohonyn nhw yn gynharach y noson honno: ‘Nid ydych yn perthyn i’r byd.’ (Ioan 15:19) I Iesu, roedd yn bwysig iawn fod ei ddilynwyr yn eu cadw eu hunain ar wahân i’r byd!

2. Beth yw’r “byd” y cyfeiriodd Iesu ato?

2 Yma, mae’r “byd” yn cyfeirio at y ddynoliaeth sydd wedi ei dieithrio oddi wrth Dduw. Mae’r “byd” hwn o dan reolaeth Satan ac felly yn hunanol ac yn falch. (Ioan 14:30; Effesiaid 2:2; 1 Ioan 5:19) Yn wir, mae “cyfeillgarwch â’r byd [hwnnw] yn elyniaeth tuag at Dduw.” (Iago 4:4) Ond sut mae’n bosibl inni fyw yn y byd a chadw ar wahân iddo ar yr un pryd? Trwy (1) aros yn deyrngar i Deyrnas Dduw yng ngofal Crist ac yn niwtral o ran gwleidyddiaeth y byd, (2) gwrthsefyll ysbryd y byd, (3) gwisgo’n weddus ac yn drwsiadus, (4) cadw ein bywyd yn syml, a (5) gwisgo ein holl arfogaeth ysbrydol.

 AROS YN DEYRNGAR AC YN NIWTRAL

3. (a) Beth oedd agwedd Iesu at wleidyddiaeth? (b) Pam gellir dweud bod dilynwyr eneiniog Iesu yn llysgenhadon? (Gweler y troednodyn.)

3 Yn hytrach nag ymhél â gwleidyddiaeth, canolbwyntiodd Iesu ar bregethu Teyrnas Dduw, sef y llywodraeth nefol y byddai ef yn Frenin arni. (Daniel 7:13, 14; Luc 4:43; 17:20, 21) Felly dywedodd Iesu gerbron y Rhaglaw Rhufeinig Pontius Pilat: “Nid yw fy nheyrnas i o’r byd hwn.” (Ioan 18:36) Mae dilynwyr Crist yn efelychu ei esiampl drwy fod yn deyrngar iddo ef a’i Deyrnas a thrwy gyhoeddi’r Deyrnas honno ledled y byd. (Mathew 24:14) Ysgrifennodd yr apostol Paul: “Cenhadon dros Grist ydym ni . . . Deisyf yr ydym dros Grist, cymoder chwi â Duw.” *2 Corinthiaid 5:20; Effesiaid 6:19, 20.

4. Sut mae Cristnogion wedi dangos eu bod nhw’n deyrngar i Deyrnas Dduw? (Gweler y blwch  “Niwtraliaeth y Cristnogion Cynnar.”)

4 Oherwydd bod llysgenhadon yn cynrychioli brenin neu wlad arall, dydyn nhw ddim yn ymyrryd ym materion mewnol y gwledydd lle maen nhw’n gweithio; maen nhw’n aros yn niwtral. Sut bynnag, y mae llysgenhadon yn cefnogi’r wlad y maen nhw yn ei chynrychioli. Mae’r un peth yn wir yn achos dilynwyr eneiniog Crist, gan fod eu ‘dinasyddiaeth yn y nefoedd.’ (Philipiaid 3:20) Maen nhw wedi pregethu’r Deyrnas yn selog ac, o ganlyniad i hynny, mae miliynau o ‘ddefaid eraill’ Crist wedi eu cymodi â Duw. (Ioan 10:16; Mathew 25:31-40) Mae’r rhain yn cynorthwyo  brodyr eneiniog Iesu. Mae’r ddau grŵp yn aros yn gwbl niwtral ym materion gwleidyddol y byd, ac yn cefnogi’r Deyrnas Feseianaidd yn un praidd unedig.—Darllen Eseia 2:2-4.

5. Sut mae’r gynulleidfa Gristnogol yn wahanol i Israel gynt, a sut mae Cristnogion yn dangos y gwahaniaeth hwn?

 5 Nid teyrngarwch i Grist yw’r unig reswm y mae gwir Gristnogion yn aros yn niwtral. Yn wahanol i’r Israeliaid gynt a oedd wedi derbyn tiriogaeth eu gwlad gan Dduw, rydyn ni’n rhan o frawdoliaeth ryngwladol. (Mathew 28:19; 1 Pedr 2:9) Felly, petaen ni’n cefnogi pleidiau gwleidyddol lleol, byddai hynny’n chwalu ein hundod Cristnogol a’n rhyddid moesol i siarad am y Deyrnas. (1 Corinthiaid 1:10) Ar ben hynny, yn ystod rhyfeloedd, yn lle caru ein cyd-addolwyr fel y mae Duw yn ei orchymyn, fe fydden ni’n ymladd yn eu herbyn. (Ioan 13:34, 35; 1 Ioan 3:10-12) Roedd gan Iesu reswm da, felly, dros ddweud wrth ei ddisgyblion am ostwng y cleddyf. Fe ddywedodd y dylen nhw garu eu gelynion hyd yn oed.—Mathew 5:44; 26:52; gweler y blwch  “Ydw i Bob Amser yn Niwtral?”

6. Sut mae dy ymgysegriad i Dduw yn effeithio ar dy berthynas â Chesar?

6 Fel gwir Gristnogion, rydyn ni wedi cysegru ein bywydau i Dduw, ac nid i unrhyw ddyn, nac ychwaith i sefydliad dynol, na chenedl. Dywed 1 Corinthiaid 6:19, 20: “Oni wyddoch . . . nad yr eiddoch eich hunain mohonoch? Oherwydd prynwyd chwi am bris.” Felly, er bod disgyblion Iesu yn ymostwng yn gymharol i “Gesar” ac yn talu’r parch a’r trethi sy’n ddyledus iddo, maen nhw’n rhoi ‘pethau Duw i Dduw.’ (Marc 12:17; Rhufeiniaid 13:1-7) Mae hyn yn cynnwys eu haddoliad, eu cariad, a’u hufudd-dod teyrngar. Os bydd angen, maen nhw’n barod i farw dros eu Duw.—Luc 4:8; 10:27; darllen Actau 5:29; Rhufeiniaid 14:8.

GWRTHSEFYLL “YSBRYD Y BYD”

7, 8. Beth yw “ysbryd y byd,” a sut mae’r ysbryd hwn “ar waith” mewn pobl anufudd?

7 Ffordd arall y mae Cristnogion yn cadw ar wahân  i’r byd yw drwy wrthsefyll ei ysbryd drwg. Ysgrifennodd Paul: “Nid ysbryd y byd a dderbyniasom, ond yr Ysbryd sydd oddi wrth Dduw.” (1 Corinthiaid 2:12) Dywedodd wrth yr Effesiaid: “Yr oeddech yn byw yn ôl ffordd y byd hwn, mewn ufudd-dod i dywysog galluoedd yr awyr, yr ysbryd sydd yn awr ar waith yn y rhai sy’n anufudd i Dduw.”—Effesiaid 2:2, 3.

8 Grym anweledig sy’n ysgogi pobl i fod yn anufudd i Dduw yw “ysbryd” y byd. Mae’n hyrwyddo “trachwant y cnawd, a thrachwant y llygaid.” (1 Ioan 2:16; 1 Timotheus 6:9, 10) Mae’r ysbryd hwn mor bwerus oherwydd ei fod yn apelio at ein natur bechadurus. Mae’n gyfrwys ac mae’n treiddio i bob man. Mae’r ysbryd hwn “ar waith” mewn pobl, ac yn raddol, mae’n meithrin tueddiadau hunanol, trahaus, ac uchelgeisiol, yn ogystal ag ysbryd annibynnol a gwrthryfelgar o ran moesau. * Yn araf bach, mae ysbryd y byd yn gwneud i dueddiadau’r Diafol dyfu yng nghalonnau pobl.—Ioan 8:44; Actau 13:10; 1 Ioan 3:8, 10.

9. Sut gall ysbryd y byd dreiddio i’n meddyliau a’n calonnau?

9 A all ysbryd y byd fwrw gwreiddiau yn dy feddwl a’th galon di? Gall, os nad wyt ti’n wyliadwrus. (Darllen Diarhebion 4:23.) Mae ei ddylanwad yn dechrau’n ddistaw bach, efallai drwy gymdeithasu â rhai sy’n ymddangos yn dda ond nad ydyn nhw mewn gwirionedd yn caru Jehofa. (Diarhebion 13:20; 1 Corinthiaid 15:33) Fe elli di amsugno’r ysbryd drygionus hwnnw drwy edrych ar ddeunydd darllen anweddus, gwefannau Rhyngrwyd pornograffig neu wrthgiliol, a thrwy adloniant anfoesol, a chwaraeon tra chystadleuol—mewn gwirionedd  drwy ddylanwad unrhyw un neu unrhyw beth sy’n hyrwyddo meddylfryd Satan a’i drefn.

10. Sut gallwn ni wrthsefyll ysbryd y byd?

10 Sut gallwn ni wrthsefyll ysbryd cyfrwys y byd a’n cadw ein hunain yng nghariad Duw? Dim ond drwy fanteisio’n llawn ar ddarpariaethau ysbrydol Jehofa a thrwy weddïo’n ddi-baid am ei ysbryd glân. Mae Jehofa yn  llawer mwy pwerus na’r Diafol a’r byd drygionus o dan ei reolaeth. (1 Ioan 4:4) Pwysig iawn, felly, yw inni aros yn agos at Jehofa drwy weddïo arno.

GWISG AC YMDDANGOSIAD GWEDDUS

11. Sut mae ysbryd y byd wedi dylanwadu ar safonau gwisg?

11 Mae gwisg a glendid personol rhywun yn adlewyrchu ei feddylfryd. Mewn llawer o wledydd mae safonau gwisg wedi gwaethygu gymaint nes bod un cyflwynydd teledu wedi awgrymu na fydd dim byd ar ôl i buteiniaid ei wisgo cyn bo hir. Mae’r ffasiwn hwn—“gormod o gnawd a dim digon o ddillad” yng ngeiriau un papur newydd—yn effeithio hyd yn oed ar enethod ifanc iawn. Ffasiwn arall sy’n dangos ysbryd gwrthryfelgar ynghyd â diffyg urddas a hunan-barch yw gwisgo’n flêr.

12, 13. Pa egwyddorion dylen ni eu hystyried wrth benderfynu beth i’w wisgo?

12 Fel gweision Jehofa, dylen ni bob amser ‘wisgo dillad gweddus,’ sydd, ynghyd â “gweithredoedd da,” yn addas i bawb “sy’n honni bod yn dduwiol”—boed yn ddyn neu’n ddynes. Wrth gwrs, ‘cadw ein hunain yng nghariad Duw’ yw ein nod yn hytrach na thynnu sylw aton ni’n hunain. (1 Timotheus 2:9, 10; Jwdas 21) Y wisg harddaf yw “cymeriad cêl y galon . . . Dyna sy’n werthfawr yng ngolwg Duw.”—1 Pedr 3:3, 4.

13 Cofia hefyd fod ein gwisg a’n hymddangosiad yn gallu lliwio agweddau pobl eraill tuag at wir addoliad. Mae bod yn weddus yn ystyr moesol y gair yn cyfleu’r syniad o barchu teimladau a barn pobl eraill. Ein nod, felly, yw rhoi cydwybod pobl eraill o flaen ein hawliau personol ni. Yn anad dim, rydyn ni eisiau dod â chlod i Jehofa a’i bobl a’n cymeradwyo ein hunain  fel gweinidogion Duw, gan wneud ‘popeth er gogoniant Duw.’—1 Corinthiaid 4:9; 10:31; 2 Corinthiaid 6:3, 4; 7:1.

Ydy’r ffordd rydw i’n edrych yn anrhydeddu Jehofa?

14. Pa gwestiynau y dylen ni eu gofyn ynglŷn â’n glendid personol a’r ffordd rydyn ni’n edrych?

14 Mae’n bwysicach byth ein bod ni’n drwsiadus ac yn lân wrth gymryd rhan yn y weinidogaeth neu wrth fynychu cyfarfodydd Cristnogol. Gofynna i di dy hun: ‘Ydy’r ffordd rydw i’n edrych neu fy niffyg glendid personol yn tynnu sylw diangen ata i? Ydy’r pethau hyn yn codi embaras ar eraill? Ydw i’n teimlo bod fy hawliau personol yn fwy pwysig na bod yn gymwys i wasanaethu’r gynulleidfa?’—Salm 68:6; Philipiaid 4:5; 1 Pedr 5:6.

15. Pam nad yw Gair Duw yn gosod rhestr o reolau ynglŷn â gwisg, steiliau gwallt, a glendid personol?

15 Dydy’r Beibl ddim yn gosod rheolau i Gristnogion ynglŷn â gwisg, ymddangosiad a glendid personol. Mae Jehofa am inni fod yn rhydd i ddewis, ac i feddwl droston ni’n hunain. Mae ef eisiau inni fod yn bobl aeddfed sy’n rhesymu ar egwyddorion y Beibl, ac yn bobl “y mae eu synhwyrau hwy, trwy ymarfer, wedi eu disgyblu i farnu rhwng da a drwg.” (Hebreaid 5:14) Yn bennaf oll, mae ef eisiau i gariad—cariad tuag at Dduw a chymydog—lywio  popeth rydyn ni’n ei wneud. (Darllen Marc 12:30, 31.) O fewn y ffiniau hynny, mae lle i amrywiaeth mawr o ran gwisg a steiliau gwallt. Rydyn ni’n gweld hyn yng ngwisgoedd lliwgar pobl Jehofa ym mhob rhan o’r byd.

CADW EIN BYWYD YN SYML

16. Sut mae ysbryd y byd yn tynnu’n groes i ddysgeidiaeth Iesu, a pha gwestiynau dylen ni eu gofyn?

16 Mae ysbryd y byd yn twyllo miliynau o bobl i feddwl bod hapusrwydd yn dibynnu ar arian a phethau materol. Ond dywedodd Iesu: “Er cymaint ei gyfoeth, nid yw bywyd neb yn dibynnu ar ei feddiannau.” (Luc 12:15) Doedd Iesu ddim yn argymell bywyd asgetig, hynny yw, ymarfer hunanddisgyblaeth eithafol. Yn hytrach, roedd yn dysgu bod gwir hapusrwydd yn dod i’r bobl sy’n  ymwybodol o’u hangen ysbrydol ac sydd â bywyd syml, sef un â ffocws ar eu perthynas â Duw. (Mathew 5:3; 6:22, troednodyn) Gofynna: ‘Ydw i’n credu Iesu yn hyn o beth, neu ydy “tad pob celwydd” yn dylanwadu arna i? (Ioan 8:44) Beth mae fy ngeiriau, fy ngobeithion, fy mlaenoriaethau, a’m ffordd o fyw yn ei ddatgelu?’—Luc 6:45; 21:34-36; 2 Ioan 6.

17. Beth yw rhai o’r bendithion a ddaw i bobl sy’n cadw bywyd syml?

17 “Profir gan ei gweithredoedd fod doethineb Duw yn iawn,” meddai Iesu. (Mathew 11:19) Ystyria rai o fendithion a ddaw i’r rhai sy’n cadw bywyd syml. Maen nhw’n cael pleser yng ngwasanaeth y Deyrnas. (Mathew 11:29, 30) Maen nhw’n osgoi pryderon diangen ac yn eu harbed eu hunain rhag llawer o boen meddwl. (Darllen 1 Timotheus 6:9, 10.) Oherwydd eu bod yn fodlon ar fywyd syml, mae ganddyn nhw fwy o amser ar gyfer eu teuluoedd a’u ffrindiau Cristnogol. Maen nhw’n debygol hefyd o gysgu’n well. (Pregethwr 5:12) Maen nhw’n profi bod rhoi yn dod â’r llawenydd mwyaf. (Actau 20:35) Maen nhw’n dawel eu meddwl ac yn “gorlifo â gobaith.” (Rhufeiniaid 15:13; Mathew 6:31, 32) Mae’r bendithion hyn yn wirioneddol amhrisiadwy!

GWISGO “HOLL ARFOGAETH DUW”

18. Sut mae’r Beibl yn disgrifio’r gelyn, ei ddulliau, a natur y frwydr rydyn ni’n ei hwynebu?

18 Mae’r rhai sy’n eu cadw eu hunain yng nghariad Duw yn cael eu hamddiffyn rhag Satan, sydd â’i fryd ar ddwyn nid yn unig hapusrwydd Cristnogion ond eu bywydau tragwyddol hefyd. (1 Pedr 5:8) “Nid â meidrolion yr ydym yn yr afael,” meddai Paul, “ond â thywysogaethau ac awdurdodau, â llywodraethwyr tywyllwch y byd hwn, â phwerau ysbrydol drygionus yn y nefolion leoedd.” (Effesiaid 6:12)  Awgryma’r geiriau “yr ydym yn yr afael,” fod hon yn frwydr wyneb yn wyneb, ac nid un y gallwn ni ei hennill o ddiogelwch rhyw loches dan ddaear fel petai. Ar ben hynny, mae’r termau “tywysogaethau,” “awdurdodau,” a “llywodraethwyr” yn awgrymu mai ymosodiadau wedi eu cynllunio’n fwriadol gan y cythreuliaid yw’r rhain.

19. Disgrifia arfogaeth ysbrydol y Cristion.

19 Er gwaethaf ein diffygion dynol fe allwn ni ennill y frwydr. Sut felly? Trwy wisgo “holl arfogaeth Duw.” (Effesiaid 6:13) Fel hyn y disgrifia Effesiaid 6:14-18 yr arfogaeth honno: “Safwch, ynteu, â gwirionedd yn wregys am eich canol, a chyfiawnder yn arfwisg ar eich dwyfron, a pharodrwydd i gyhoeddi Efengyl tangnefedd yn esgidiau am eich traed. Heblaw hyn oll, ymarfogwch â tharian ffydd; â hon byddwch yn gallu diffodd holl saethau tanllyd yr Un drwg. Derbyniwch helm [sef gobaith] iachawdwriaeth a chleddyf yr Ysbryd, sef gair Duw. Ymrowch i weddi ac ymbil, gan weddïo bob amser yn yr Ysbryd.”

20. Sut mae ein sefyllfa ni’n wahanol i sefyllfa milwyr go iawn?

20 Gan fod yr arfogaeth ysbrydol hon yn rhodd gan Dduw, fe fydd yn sicr o’n hamddiffyn, cyn belled ein bod ni yn ei gwisgo drwy’r amser. Yn wahanol i filwyr go iawn, sydd weithiau’n treulio cyfnodau hir i ffwrdd o faes y gad, mae Cristnogion yn wynebu brwydr na fydd yn peidio nes bydd Duw yn dinistrio byd Satan a bwrw’r holl ysbrydion drwg i’r dyfnder. (Datguddiad 12:17; 20:1-3) Felly, os wyt ti’n ei chael hi’n anodd trechu gwendidau neu chwantau amhriodol, paid â rhoi’r gorau iddi. Rydyn ni i gyd yn gorfod “cernodio” ein hunain er mwyn aros yn ffyddlon i Jehofa. (1 Corinthiaid 9:27) Yn wir, petaet ti ddim yn brwydro, dyna’r adeg y dylet ti boeni!

21. Sut gallwn ni ennill ein brwydr ysbrydol?

21 Ni allwn ni ennill y frwydr hon yn ein nerth ein  hunain. Dyna pam mae Paul yn ein hatgoffa ni fod angen inni “weddïo bob amser yn yr Ysbryd.” Ar yr un pryd, dylen ni wrando ar Jehofa drwy astudio ei Air a manteisio ar bob cyfle i gymdeithasu â’n “cyd-filwyr,” gan nad ydyn ni’n ymladd ar ein pennau ein hunain. (Philemon 2; Hebreaid 10:24, 25) Bydd y rhai sy’n gwneud hyn yn llwyddo i amddiffyn eu ffydd yn erbyn pob ymosodiad ac i ennill y dydd.

BYDDA’N BAROD I AMDDIFFYN DY FFYDD

22, 23. (a) Pam dylen ni fod yn barod bob amser i amddiffyn ein ffydd, a pha gwestiynau y dylen ni eu gofyn i ni’n hunain? (b) Beth fyddwn ni’n ei ystyried yn y bennod nesaf?

22 “Gan nad ydych yn perthyn i’r byd,” meddai Iesu, “mae’r byd yn eich casáu chwi.” (Ioan 15:19) Felly, mae’n rhaid i Gristnogion fod yn barod bob amser i amddiffyn eu ffydd, a hynny mewn modd parchus ac addfwyn. (Darllen 1 Pedr 3:15.) Gofynna i ti dy hun: ‘Ydw i’n deall pam mae Tystion Jehofa weithiau’n gwneud safiad amhoblogaidd? Petaswn i’n wynebu’r fath benderfyniad, ydw i’n hollol sicr fod yr hyn mae’r Beibl a’r gwas ffyddlon a chall yn ei ddweud yn iawn? (Mathew 24:45; Ioan 17:17) A phan fydd rhaid imi ddewis yr hyn sy’n iawn yng ngolwg Jehofa, ydw i’n barod i fod yn wahanol ac yn falch o fod yn wahanol?’—Salm 34:2; Mathew 10:32, 33.

23 Weithiau, bydd ein penderfyniad i aros ar wahân i’r byd yn cael ei brofi mewn ffordd fwy cyfrwys. Er enghraifft, fel y dywedwyd eisoes, mae’r Diafol yn defnyddio adloniant bydol i geisio hudo gweision Jehofa i’r byd. Sut gallwn ni ddewis adloniant iach a fydd yn cadw ein cydwybod yn lân? Byddwn ni’n ystyried hynny yn y bennod nesaf.

^ Par. 3 Ers Pentecost 33 OG, mae Crist wedi bod yn Frenin ar ei gynulleidfa o ddilynwyr eneiniog ar y ddaear. (Colosiaid 1:13) Ym 1914, derbyniodd Crist awdurdod fel brenin ac “aeth brenhiniaeth y byd yn eiddo” iddo ef. Felly, mae Cristnogion eneiniog bellach yn llysgenhadon dros y Deyrnas Feseianaidd.—Datguddiad 11:15.

^ Par. 8 Gweler Reasoning From the Scriptures, tudalennau 389-393, a gyhoeddir gan Dystion Jehofa.