Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

 PENNOD 17

“Adeiladu Eich Hunain ar Sylfaen Eich Ffydd Holl-Sanctaidd”

“Adeiladu Eich Hunain ar Sylfaen Eich Ffydd Holl-Sanctaidd”

“[Adeiladwch] eich hunain ar sylfaen eich ffydd holl-sanctaidd, . . . cadwch eich hunain yng nghariad Duw.”—JWDAS 20, 21.

1, 2. Pa waith adeiladu rwyt ti’n ei wneud, a pham mae safon dy waith mor bwysig?

RWYT yn gweithio’n galed ar brosiect adeiladu. Rwyt ti wedi bod wrthi ers rhai blynyddoedd bellach ond parhau fydd y gwaith ymhell i’r dyfodol. Hyd yn hyn mae’r gwaith wedi bod yn dipyn o her ond eto yn bleserus. Doed a ddelo, rwyt yn benderfynol o ddal ati oherwydd bod safon dy waith yn mynd i effeithio ar dy fywyd a hyd yn oed ar dy ddyfodol. Pam felly? Oherwydd ti yw’r adeilad!

2 Roedd y disgybl Jwdas yn trafod y gwaith adeiladu hwn pan anogodd Cristnogion i ‘gadw eu hunain yng nghariad Duw.’ Dangosodd mai “eich adeiladu eich hunain ar sylfaen eich ffydd holl-sanctaidd” oedd y ffordd i wneud hyn. (Jwdas 20, 21) Sut gelli di dy adeiladu dy hun a chryfhau dy ffydd er mwyn aros yng nghariad Duw? Gad inni ystyried tair agwedd ar y gwaith adeiladu ysbrydol sydd o’th flaen.

ADEILADU FFYDD YNG NGOFYNION CYFIAWN JEHOFA

3-5. (a) Sut byddai Satan yn hoffi dylanwadu ar eich agwedd tuag at ofynion Jehofa? (b) Sut dylen ni edrych ar ofynion Duw, a sut dylai hynny effeithio ar ein teimladau? Rho eglureb.

3 Yn gyntaf oll, mae’n rhaid inni adeiladu ein ffydd yng  nghyfraith Duw. Wrth astudio’r llyfr hwn rwyt ti wedi ystyried nifer o ofynion cyfiawn Jehofa ynglŷn ag ymddygiad. Beth ydy dy farn di am y gofynion hyn? Mae Satan am iti gredu bod deddfau, egwyddorion, a safonau Jehofa yn rhy gul neu hyd yn oed yn ormesol. Mae Satan wedi defnyddio’r dacteg hon ers iddi lwyddo mor dda yn Eden. (Genesis 3:1-6) A fydd ei dacteg yn llwyddo yn dy achos di? Mae hynny’n dibynnu ar dy safbwynt.

4 Ystyria’r eglureb ganlynol: Wrth iti gerdded mewn parc, rwyt ti’n sylwi bod rhan o’r parc yr ochr draw i ffens uchel. Mae’r ochr arall yn edrych yn ddeniadol. Fe elli di deimlo bod y ffens yn rhwystr diangen ar dy ryddid. Ond wrth iti edrych drwyddi, rwyt ti’n sylwi ar lew yn stelcian o lech i lwyn ar ôl ei brae! Yn fwyaf sydyn, rwyt yn gweld mai pwrpas y ffens yw dy ddiogelu. A oes anifail rheibus yn dy hela di ar hyn o bryd? Rhybuddia Gair Duw: “Ymddisgyblwch a byddwch effro. Y mae eich gwrthwynebydd, y diafol, yn prowla o gwmpas fel llew yn rhuo, gan chwilio am rywun i’w lyncu.”—1 Pedr 5:8.

5 Heliwr ffyrnig yw Satan. Gan nad yw Jehofa yn dymuno inni gael ein dal, y mae wedi rhoi deddfau inni i’n cadw ni’n ddiogel rhag “cynllwynion y diafol.” (Effesiaid 6:11) Felly, bob tro rydyn ni’n myfyrio ar ddeddfau Duw, dylen ni weld cariad ein Tad nefol. O edrych arnyn nhw fel hynny, mae’n amlwg fod deddfau Duw yn ein cadw ni’n ddiogel ac yn hapus. Ysgrifennodd Iago: “Ond am y sawl a roes sylw dyfal i berffaith gyfraith rhyddid ac a ddaliodd ati . . . bydd hwnnw yn ddedwydd yn ei weithredoedd.”—Iago 1:25.

6. Beth yw’r ffordd orau i adeiladu ein ffydd yng ngorchmynion ac egwyddorion cyfiawn Duw? Rho enghraifft.

6 Byw yn ôl gorchmynion Duw yw’r ffordd orau i adeiladu ein ffydd ynddo Ef ac yn noethineb ei ddeddfau. Mae  ‘Cyfraith Crist’ yn cynnwys y gorchymyn i ddysgu eraill i ‘gadw’r holl orchmynion a roddodd’ Iesu. (Galatiaid 6:2; Mathew 28:19, 20) Pwysig iawn i Gristnogion yw’r gorchymyn i ddod at ei gilydd er mwyn addoli Duw a chalonogi ei gilydd. (Hebreaid 10:24, 25) Un arall o orchmynion Duw yw’r anogaeth i weddïo yn gyson ar Jehofa o’r galon. (Mathew 6:5-8; 1 Thesaloniaid 5:17) Wrth inni ddilyn y gorchmynion hyn bob dydd, rydyn ni’n gweld yn eglur pa mor llesol ydyn nhw. Mae ufuddhau iddyn nhw yn dod â llawenydd a bodlonrwydd na chawn ni yn unman arall yn y byd cythryblus hwn. Wrth iti feddwl am y ffordd y mae byw yn ôl deddfau Duw wedi bod o les iti, onid yw dy ffydd ynddyn nhw’n tyfu?

7, 8. Sut mae’r Beibl yn calonogi’r rhai sy’n poeni na fyddan nhw’n medru aros ar lwybr cyfiawn Duw?

7 Weithiau, mae rhai’n poeni na fyddan nhw’n medru cadw deddfau Duw wrth i’r blynyddoedd fynd heibio. Os dyna’r ffordd rwyt ti’n teimlo, cofia’r geiriau hyn: “Myfi yw’r ARGLWYDD dy Dduw, sy’n dy ddysgu er dy les, ac yn dy arwain yn y ffordd y dylit ei cherdded. Pe bait wedi  gwrando ar fy ngorchymyn, byddai dy heddwch fel yr afon, a’th gyfiawnder fel tonnau’r môr.” (Eseia 48:17, 18) Wyt ti erioed wedi ystyried pa mor galonogol yw’r geiriau hynny?

8 Yma, mae Jehofa yn ein hatgoffa ni fod ufuddhau iddo yn dod â bendithion, a hynny mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, bydd ein heddwch fel afon—yn llifo’n llonydd a diderfyn. Yn ail, bydd ein cyfiawnder fel tonnau’r môr. O sefyll ar lan y môr ac edrych ar y tonnau yn treiglo i mewn un ar ôl y llall, onid wyt ti’n cael rhyw ymdeimlad o’r tragwyddol? Rwyt ti’n gwybod y bydd y tonnau’n torri ar y traeth hwnnw am byth. Mae Jehofa yn dweud y gall dy gyfiawnder di fod fel hynny. Cyn belled â’th fod ti’n gwneud dy orau i aros yn ffyddlon iddo, ni fydd Jehofa byth yn gadael iti syrthio. (Darllen Salm 55:22.) Onid yw addewidion fel hyn yn adeiladu dy ffydd yn Jehofa a’i ofynion cyfiawn?

“MYND YMLAEN AT Y TYFIANT LLAWN”

9, 10. (a) Pam y dylai Cristion fynd ymlaen at y tyfiant llawn? (b) Sut mae agwedd ysbrydol yn dod â llawenydd?

9 Gwelir yr ail agwedd ar dy waith adeiladu yn y geiriau ysbrydoledig hyn: ‘Gadewch inni . . . fynd ymlaen at y tyfiant llawn.’ (Hebreaid 6:1) Mae cyrraedd tyfiant llawn yn ysbrydol yn un o amcanion pwysicaf y Cristion. Dydy perffeithrwydd ddim yn bosibl i Gristnogion ar hyn o bryd, ond y mae tyfiant llawn o fewn eu cyrraedd. Ar ben hynny, gall Cristnogion sy’n aeddfed yn ysbrydol gael mwy o bleser o wasanaethu Jehofa. Sut felly?

10 Bydd Cristion aeddfed ac ysbrydol yn edrych ar bethau o safbwynt Jehofa. (Ioan 4:23) Ysgrifennodd Paul: “Y sawl sydd â’u bodolaeth ar wastad y cnawd, ar bethau’r cnawd y mae eu bryd; ond y sawl sydd ar wastad  yr Ysbryd, ar bethau’r Ysbryd y mae eu bryd.” (Rhufeiniaid 8:5) Dydy edrych ar bethau o safbwynt y cnawd ddim yn dod â llawenydd, oherwydd y mae’n tueddu i ganolbwyntio ar y tymor byr, ac ar bethau materol a hunanol. Mae’r rhai sydd ag agwedd ysbrydol yn llawen oherwydd eu bod yn canolbwyntio ar y Duw llawen, Jehofa. Mae rhywun ysbrydol yn awyddus iawn i blesio Jehofa ac yn llawenhau hyd yn oed o dan brawf. Sut felly? Mae treialon yn rhoi’r cyfle inni brofi bod Satan yn gelwyddog, ac i feithrin uniondeb, er mawr lawenydd i’n Tad nefol.—Diarhebion 27:11; darllen Iago 1:2, 3.

11, 12. (a) Beth ddywedodd Paul am “synhwyrau” y Cristion, a beth yw ystyr y geiriau “wedi eu disgyblu”? (b) Pa hyfforddi sydd ei angen ar y corff er mwyn iddo ddatblygu’n iawn a dod yn ddeheuig?

11 Trwy hyfforddi ac ymarfer y mae’r Cristion yn datblygu’n ysbrydol ac yn aeddfedu. Ystyria’r adnod hon: “Pobl wedi cyrraedd eu llawn dwf sy’n cymryd bwyd cryf; y mae eu synhwyrau hwy, trwy ymarfer, wedi eu disgyblu i farnu rhwng da a drwg.” (Hebreaid 5:14) Pan ddywedodd Paul fod ein synhwyrau “wedi eu disgyblu,” defnyddiodd air Groeg a oedd yn perthyn i fyd y gampfa yn y ganrif gyntaf. Gellir ei drosi fel “wedi eu hyfforddi fel mabolgampwr.” Ystyria’r hyn y mae’r fath hyfforddi yn ei olygu.

Mae corff mabolgampwr yn cael ei hyfforddi drwy ymarfer

12 Ar adeg ein geni, nid oedd ein cyrff wedi eu hyfforddi o gwbl. Ar y dechrau, ni all babi bach reoli ei freichiau a’i goesau’n iawn. Felly, mae’n chwifio ei freichiau yn afreolus a hyd yn oed yn taro ei wyneb ei hun weithiau. Ond yn araf bach, mae’n dysgu disgyblu ei gorff. Mae’r babi’n cropian, mae’r plentyn yn cerdded ac wedyn yn rhedeg. *  Ond beth am y mabolgampwr? Nid yw gallu’r mabolgampwr i neidio a throi drwy’r awyr yn osgeiddig a chywir yn digwydd ar hap. Mae angen blynyddoedd o hyfforddi. Mae’r Beibl yn cydnabod bod ‘peth gwerth’ i ymarfer corff. Ond cymaint mwy gwerthfawr yw hyfforddi ein synhwyrau ysbrydol!—1 Timotheus 4:8.

13. Sut gallwn ni hyfforddi neu ddisgyblu ein synhwyrau ysbrydol?

13 Yn y llyfr hwn, rydyn ni wedi trafod llawer a fydd yn dy helpu i hyfforddi dy synhwyrau ysbrydol er mwyn aros yn ffyddlon i Jehofa. Gweddïa ar Jehofa am y penderfyniadau rwyt yn eu gwneud yn dy fywyd pob dydd. Gofynna i ti dy hun: ‘Pa ddeddfau neu egwyddorion y Beibl sy’n berthnasol yma? Sut gallaf eu rhoi ar waith? Pa ddewis fydd yn plesio fy Nhad nefol?’ (Darllen Diarhebion 3:5, 6; Iago 1:5.) Bob tro rwyt ti’n gwneud hyn, rwyt ti’n hyfforddi dy synhwyrau. Bydd hyn yn dy helpu i ddatblygu’n ysbrydol ac i aros yn ysbrydol gryf.

14. Os ydyn ni am wneud cynnydd ysbrydol, am beth y dylen ni fagu blas, ond pa rybudd y dylen ni ei gadw mewn cof?

14 Er ei bod hi’n bosibl i Gristion gyrraedd y tyfiant llawn, mae lle bob amser i wneud cynnydd ysbrydol. Dywedodd Paul: “Pobl wedi cyrraedd eu llawn dwf sy’n cymryd bwyd cryf.” Mae bwyd cryf ysbrydol yn hanfodol i adeiladu dy ffydd. Doethineb yw rhoi ar waith yr hyn rwyt ti’n ei ddysgu a “doethineb yw’r pennaf peth,” meddai’r  Beibl. Mae’n rhaid inni fagu blas am y gwirioneddau a gawn oddi wrth ein Tad nefol. (Diarhebion 4:5-7; 1 Pedr 2:2) Wrth gwrs, nid yw datblygu gwybodaeth a doethineb dwyfol yn rheswm dros deimlo ein bod ni’n well nag eraill. Mae’n rhaid inni sicrhau nad yw balchder nac unrhyw wendid arall yn cael lle i dyfu yn ein calonnau. Ysgrifennodd Paul: “Profwch eich hunain i weld a ydych yn y ffydd; chwiliwch eich hunain.”—2 Corinthiaid 13:5.

15. Pam mae cariad yn hanfodol i’n cynnydd ysbrydol?

15 Gall prosiect i godi tŷ ddod i ben, ond nid dyna ddiwedd ar y gwaith. Mae gwaith cynnal a chadw’n hanfodol, ac efallai y bydd angen codi estyniad ryw bryd yn y dyfodol. Beth sydd ei angen arnon ni er mwyn aeddfedu fel Cristnogion a chadw ein hagwedd ysbrydol? Yn anad dim, mae angen cariad. Mae’n rhaid inni dyfu yn ein cariad tuag at Jehofa a’n cyd-gredinwyr. Heb gariad, mae ein holl wybodaeth a’n gweithredoedd i gyd yn ddiwerth—yn ddim byd ond twrw mawr. (1 Corinthiaid 13:1-3) Ond gyda chariad, medrwn ni gyrraedd ein llawn dwf fel Cristnogion a pharhau i wneud cynnydd ysbrydol.

CADW DY FEDDWL AR Y GOBAITH

16. Pa fath o feddwl y mae Satan yn ei hyrwyddo, a beth mae Jehofa wedi ei roi er mwyn inni ein hamddiffyn ein hunain?

16 Gad inni ystyried un agwedd arall ar dy brosiect adeiladu. Er mwyn bod yn wir Gristion, mae’n rhaid iti warchod dy feddyliau. Mae meddyliau negyddol, digalondid, pesimistiaeth, ac anobaith wedi bod yn arfau effeithiol yn nwylo Satan, rheolwr y byd hwn, erioed. (Effesiaid 2:2) Mae’r agweddau hyn yr un mor beryglus i Gristion ag y mae pydredd sych i adeilad pren. Ond, i’n hamddiffyn ein hunain, mae Jehofa wedi rhoi arf inni—gobaith.

17. Sut mae’r Beibl yn dangos pa mor bwysig yw gobaith?

17 Mae’r Beibl yn rhestru’r holl arfogaeth ysbrydol sydd  ei hangen arnon ni yn ein brwydr yn erbyn Satan a’r byd hwn. Rhan bwysig o’r arfogaeth yw’r helm, sef “gobaith iachawdwriaeth.” (1 Thesaloniaid 5:8) Roedd milwr yn gwybod na fyddai’n para’n hir ar faes y gad heb wisgo ei helm. Yng nghyfnod y Beibl, roedd yr helm fel arfer wedi ei gwneud o fetel ac yn cael ei gwisgo ar ben cap o ledr neu ffelt. Byddai’n gwarchod y milwr rhag ergydion i’w ben. Fel y mae helm yn amddiffyn y pen, felly y mae gobaith yn amddiffyn dy feddwl.

18, 19. O ran cadw gobaith yn fyw, pa esiampl osododd Iesu, a sut gallwn ni ddilyn ei esiampl?

18 Iesu Grist a osododd yr esiampl orau o ran cadw gobaith yn fyw. Cofia’r hyn a ddioddefodd ar ei noson olaf ar y ddaear. Cafodd ei fradychu gan un o’i ffrindiau agosaf a’i wadu gan un arall. Fe wnaeth y lleill gefnu arno a ffoi. Trodd ei bobl ei hun yn ei erbyn a gweiddi’n groch am iddo gael ei ladd gan y milwyr Rhufeinig a hynny yn y modd mwyaf poenus. Teg yw dweud bod Iesu wedi dioddef treialon sy’n waeth nag unrhyw beth y byddwn ni’n ei wynebu. Beth a’i helpodd? Dywed Hebreaid 12:2 fod Iesu yn medru dioddef oherwydd “y llawenydd oedd o’i flaen, . . . ac y mae wedi eistedd ar ddeheulaw gorseddfainc Duw.” Ni wnaeth Iesu erioed golli golwg ar “y llawenydd oedd o’i flaen.”

19 Pa lawenydd oedd o flaen Iesu? Wel, o ddyfalbarhau, roedd Iesu yn gwybod y byddai’n cyfrannu at sancteiddio enw Jehofa. Fe fyddai’n profi y tu hwnt i amheuaeth fod Satan yn gelwyddog. Dyna’r rheswm pennaf dros lawenydd Iesu. Fe wyddai hefyd y byddai Jehofa yn ei wobrwyo’n hael am ei ffyddlondeb a byddai’n dychwelyd at ei Dad mewn byr o dro. Roedd Iesu’n meddwl am y gobaith hwn trwy’r dyddiau caletaf. Mae’n rhaid inni wneud yr un fath. Mae llawenydd o’n blaenau ni hefyd. Mae Jehofa  yn rhoi inni’r fraint o helpu i sancteiddio ei enw mawr. Gallwn ni brofi Satan yn gelwyddog drwy ddewis Jehofa yn Benarglwydd a thrwy ein cadw ein hunain yng nghariad ein Tad, ni waeth pa dreialon a themtasiynau sy’n dod i’n rhan.

20. Beth all dy helpu di i feddwl yn gadarnhaol ac i gadw dy obaith yn fyw?

20 Nid yn unig y mae Jehofa yn fodlon gwobrwyo ei weision ffyddlon—y mae’n awyddus i wneud hynny. (Eseia 30:18; darllen Malachi 3:10.) Mae rhoi i’w weision ddeisyfiadau cyfiawn eu calonnau yn plesio Jehofa yn fawr iawn. (Salm 37:4) Felly, cadw dy feddwl ar y gobaith sydd o’th flaen. Paid byth ag ildio i feddylfryd negyddol, llygredig a gwyrdroëdig byd Satan. Os wyt ti’n sylweddoli bod agweddau’r byd hwn yn dechrau treiddio i’th feddwl neu i’th galon di, gweddïa’n daer ar Jehofa am ‘dangnefedd Duw, sydd goruwch pob deall.’ Bydd y tangnefedd hwnnw yn gwarchod dros dy galon a’th feddyliau.—Philipiaid 4:6, 7.

21, 22. (a) Pa obaith gogoneddus sydd o flaen aelodau’r “dyrfa fawr”? (b) Pa agwedd ar y gobaith Cristnogol sy’n apelio fwyaf atat ti, a beth yw dy benderfyniad?

21 Onid yw’r gobaith sydd gennyt yn un gwefreiddiol!  Os wyt ti’n rhan o’r “dyrfa fawr” a fydd yn “dod allan o’r gorthrymder mawr,” meddylia am y bywyd sydd o’th flaen. (Datguddiad 7:9, 14) Mewn byd heb Satan a’i gythreuliaid, cei ryddhad sy’n anodd iawn ei ddychmygu ar hyn o bryd. Wedi’r cwbl, pwy ohonon ni sy’n gwybod beth yw bywyd heb ddylanwad drwg Satan? Ond heb y pwysau hynny, llawenydd pur fydd gweithio i droi’r ddaear yn baradwys dan arweiniad Iesu a’r 144,000 a fydd yn llywodraethu gydag ef yn y nef. Pleser fydd gweld diwedd ar bob salwch, llesgedd, ac anabledd. Gwefr fydd croesawu ein hanwyliaid yn ôl yn yr atgyfodiad. Hyfrydwch fydd byw bywyd fel yr oedd Duw yn ei fwriadu! Ac wrth inni dyfu’n berffaith, bydd y wobr fwyaf ar y gorwel, un y mae sôn amdani yn Rhufeiniaid 8:21, sef ‘rhyddid a gogoniant plant Duw.’

22 Mae Jehofa yn dymuno iti gael mwy o ryddid nag y gelli di hyd yn oed ei ddychmygu. Ufudd-dod yw’r ffordd i’r rhyddid hwnnw. Onid yw’n werth pob ymdrech i fod yn ufudd i Jehofa bob dydd? Dal ati, felly, i’th adeiladu dy hun ar sylfaen dy ffydd holl-sanctaidd, fel y gelli di aros yng nghariad Duw am byth!

^ Par. 12 Dywed gwyddonwyr ein bod ni’n datblygu synnwyr arbennig o’r enw propriodderbyniaeth, sef ein synnwyr o gyfeiriadaeth y corff a lleoliad ei aelodau. Dyma’r synnwyr sydd yn rhoi iti’r gallu i guro dy ddwylo â’th lygaid ar gau. Roedd un ddynes a gollodd y synnwyr hwn yn methu sefyll, cerdded, a hyd yn oed codi ar ei heistedd.