Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r isddewislen

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Cymraeg

Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?

 ATODIAD

Y Gwir am y Tad, y Mab, a’r Ysbryd Glân

Y Gwir am y Tad, y Mab, a’r Ysbryd Glân

MAE pobl sy’n credu yn y Drindod yn dweud bod Duw yn dri pherson—y Tad, y Mab, a’r Ysbryd Glân. Dywedir bod pob un o’r tri pherson hyn yn gyfartal, yn hollalluog, a heb ddechreuad. Yn ôl dysgeidiaeth y Drindod, Y Tad sydd Dduw, y Mab sydd Dduw, a’r Ysbryd Glân sydd Dduw, eto dim ond un Duw sydd.

 Mae llawer sy’n credu yn y Drindod yn cyfaddef nad ydyn nhw’n medru esbonio’r ddysgeidiaeth. Ond efallai eu bod nhw’n credu mai dyna beth mae’r Beibl yn ei ddysgu. Mae’n werth nodi nad yw’r gair “Trindod” i’w weld o gwbl yn y Beibl. Ond a yw’r syniad o Drindod i’w gael yno? I ateb y cwestiwn hwn, gadewch inni edrych ar adnod y mae amddiffynwyr y Drindod yn cyfeirio ati i ategu’r ddysgeidiaeth honno.

“DUW OEDD Y GAIR”

Dywed Ioan 1:1: “Yn y dechreuad yr oedd y Gair; yr oedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair.” Yn nes ymlaen yn yr un bennod, mae’r apostol Ioan yn dangos yn glir mai Iesu yw “y Gair.” (Ioan 1:14) Gan fod y Gair yn cael ei alw’n Dduw, mae rhai felly yn dod i’r casgliad fod y Tad a’r Mab yn rhan o’r un Duw.

Cofiwch mai Groeg oedd iaith wreiddiol rhan hon y Beibl. Yn ddiweddarach, cyfieithwyd y testun Groeg i ieithoedd eraill. Sut bynnag, dewisodd nifer o gyfieithwyr y Beibl beidio â defnyddio’r ymadrodd “Duw oedd y Gair.” Pam? Ar sail eu dealltwriaeth nhw o Roeg y Beibl, penderfynodd y cyfieithwyr hynny y dylid trosi’r ymadrodd “Duw oedd y Gair” mewn ffordd wahanol. Sut felly? Dyma rai esiamplau: “A natur Duw oedd y Gair.” (Y Bedwaredd Efengyl, G. Morgan Jones, 1930) “Dwyfol oedd y Logos [Gair].” (A New Translation of the Bible) “Roedd y Gair gyda Duw ac o’r un natur.” (The Translator’s New Testament) Yn ôl y cyfieithiadau hyn, nid Duw ei hun yw’r Gair. Oherwydd ei safle uchel ymhlith creaduriaid Jehofa, cyfeirir at y Gair fel “duw.” Yma, mae’r gair “duw” yn golygu “un cadarn.”

CAEL MWY O FFEITHIAU

Mae Groeg y Beibl yn anghyfarwydd i’r rhan fwyaf o bobl. Felly, a oes modd gwybod beth yn union roedd yr apostol Ioan yn ei feddwl? Meddyliwch am y sefyllfa hon: Mae athro ysgol yn esbonio pwnc i’w ddisgyblion. Wedyn, mae’r disgyblion yn anghytuno ar sut y dylid deall yr esboniad. Sut gall y disgyblion ddatrys y dryswch? Gallen nhw ofyn i’r athro am fwy o  wybodaeth. Yn sicr, byddai dysgu mwy am y pwnc yn eu helpu nhw i ddeall pethau yn well. Yn yr un modd, er mwyn deall Ioan 1:1 yn well, gallwch edrych ar beth arall sydd gan Efengyl Ioan i’w ddweud am safle Iesu. Bydd ffeithiau ychwanegol ar y pwnc yn eich helpu chi i ddod i’r casgliad cywir.

Er enghraifft, ystyriwch beth mae Ioan yn mynd ymlaen i’w ddweud ym mhennod 1, adnod 18: “Nid oes neb wedi gweld Duw [Hollalluog] erioed.” Ond mae pobl wedi gweld Iesu, y Mab, oherwydd fe ddywed Ioan: “A daeth y Gair [Iesu] yn gnawd a phreswylio yn ein plith . . . gwelsom ei ogoniant ef.” (Ioan 1:14) Sut felly roedd hi’n bosibl i’r Mab fod yn rhan o’r Duw Hollalluog? Mae Ioan hefyd yn dweud bod y Gair “gyda Duw.” Ond sut gall rhywun fod yn unigolyn, ac ar yr un pryd, fod gyda’r unigolyn hwnnw? Ar ben hynny, fel y cofnodir yn Ioan 17:3, mae Iesu’n gwahaniaethu’n glir rhyngddo ef ei hun a’i Dad nefol. Mae’n defnyddio’r ymadrodd “yr unig wir Dduw” wrth sôn am ei Dad. Tua diwedd ei Efengyl mae Ioan yn crynhoi drwy ddweud: “Y mae’r rhain wedi eu cofnodi er mwyn i chwi gredu mai Iesu yw’r Meseia, Mab Duw.” (Ioan 20:31) Sylwch mai Mab Duw ac nid Duw y gelwir Iesu. Mae’r wybodaeth ychwanegol hon o Efengyl Ioan yn dangos sut dylen ni ddeall Ioan 1:1. Mae Iesu, y Gair, yn “dduw” yn yr ystyr fod ganddo safle uchel, ond nid yr Hollalluog Dduw mohono.

CADARNHAU’R FFEITHIAU

Meddyliwch eto am yr athro ysgol a’r disgyblion. Dychmygwch fod rhai yn dal yn ansicr hyd yn oed ar ôl gwrando ar esboniad pellach yr athro. Beth gallen nhw ei wneud? Gallen nhw holi athro arall a gofyn am fwy o wybodaeth ar yr un pwnc. Os yw’r ail athro yn cadarnhau esboniad yr un cyntaf, bydd amheuon y rhan fwyaf o’r disgyblion yn diflannu. Yn yr un modd, os nad ydych chi’n sicr o’r hyn mae llyfr Ioan yn ei ddweud am y berthynas rhwng Iesu a Duw’r Hollalluog, gallwch chwilio yn llyfrau eraill y Beibl am fwy o wybodaeth. Er enghraifft, ystyriwch yr hyn yr ysgrifennodd Mathew. Ynglŷn â diwedd y drefn bresennol, mae’n dyfynnu Iesu yn dweud:  “Ond am y dydd hwnnw a’r awr ni ŵyr neb, nac angylion y nef, na’r Mab, neb ond y Tad yn unig.” (Mathew 24:36) Sut mae’r geiriau hyn yn cadarnhau nad yr Hollalluog Dduw yw Iesu?

Dywed Iesu fod y Tad yn gwybod mwy na’r Mab. Petai Iesu yn rhan o’r Duw Hollalluog, fe fyddai’n gwybod yr un ffeithiau â’i Dad. Felly, ni all y Mab a’r Tad fod yn gyfartal. Ond eto, bydd rhai’n dadlau: ‘Roedd gan Iesu ddwy natur. Fel dyn mae’n siarad yma.’ Ond hyd yn oed petai hynny’n wir, beth am yr ysbryd glân? Os yw’r ysbryd glân yn rhan o’r un Duw â’r Tad, pam nad yw Iesu yn dweud bod yr ysbryd glân yn gwybod yr hyn y mae’r Tad yn ei wybod?

Wrth i chi barhau i astudio, fe ddewch yn gyfarwydd â rhannau eraill o’r Beibl sy’n ymwneud â’r pwnc hwn. Byddan nhw’n cadarnhau’r gwir am y Tad, y Mab, a’r ysbryd glân.—⁠Salm 90:2; Actau 7:55; Colosiaid 1:15.