Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r isddewislen

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Cymraeg

Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?

 PENNOD PEDWAR

Pwy Yw Iesu Grist?

Pwy Yw Iesu Grist?
  • Beth yw rôl arbennig Iesu?

  • O le y daeth ef?

  • Sut un oedd ef?

1, 2. (a) Pam nad yw gwybod am rywun enwog yn golygu eich bod chi yn ei adnabod yn iawn? (b) Pa ansicrwydd sydd ynglŷn â Iesu?

MAE llawer o bobl enwog yn y byd. Mae rhai yn adnabyddus yn eu milltir sgwâr, eraill yn y gymuned ehangach neu drwy’r wlad i gyd. Mae rhai’n fyd-enwog. Sut bynnag, nid yw gwybod enw rhywun enwog yn golygu eich bod chi yn ei adnabod yn iawn. Fyddwch chi ddim yn gwybod manylion ei gefndir na sut un yw ef mewn gwirionedd.

2 Mae pobl ledled y byd wedi clywed rhywbeth am Iesu Grist, er iddo fyw ar y ddaear tua 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Ond eto, mae llawer yn ansicr ynglŷn â phwy yn union oedd Iesu. Mae rhai yn dweud mai dyn da oedd ef a dim mwy na hynny. Mae rhai eraill yn dal mai proffwyd yn unig oedd ef. Mae rhai eraill eto yn credu mai Iesu yw Duw, un y dylen ni ei addoli. Beth yw’r gwir?

3. Pam ei bod hi’n bwysig i chi ddod i adnabod Jehofa Dduw a Iesu Grist?

3 Pwysig iawn yw gwybod y gwir am Iesu. Pam? Oherwydd bod y Beibl yn dweud: “A hyn yw bywyd tragwyddol: dy adnabod di, yr unig wir Dduw, a’r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist.” (Ioan 17:3) Yn wir, gall dod i adnabod Jehofa Dduw a Iesu Grist arwain at fywyd tragwyddol mewn paradwys ar y ddaear. (Ioan 14:6) Ar ben hynny, yn Iesu gwelwn yr esiampl orau o’r ffordd y  dylen ni fyw a thrin eraill. (Ioan 13:34, 35) Ym mhennod gyntaf y llyfr hwn, fe wnaethon ni drafod y gwir am Dduw. Nesaf, byddwn ni’n ystyried yr hyn mae’r Beibl yn wir ddysgu am Iesu Grist.

Y MESEIA ADDAWEDIG

4. Beth mae’r teitlau “Meseia” a “Christ” yn ei olygu?

4 Ymhell cyn i Iesu gael ei eni, rhagfynegodd y Beibl ddyfodiad yr un y byddai Duw yn ei anfon fel y Meseia, neu’r Crist. Ystyr y teitlau “Meseia” (yn tarddu o air Hebraeg) a “Christ” (yn tarddu o air Groeg) yw “Un Eneiniog.” Byddai’r Un addawedig hwn yn cael ei eneinio, hynny yw, ei benodi gan Dduw i rôl arbennig.  Yn nes ymlaen yn y llyfr hwn, byddwn yn dysgu mwy am le canolog y Meseia yng nghyflawniad addewidion Duw. Byddwn hefyd yn dysgu am y bendithion sydd ar gael inni hyd yn oed heddiw drwy Iesu. Cyn i Iesu gael ei eni, mae’n debyg fod llawer yn gofyn, ‘Pwy fydd y Meseia?’

5. O beth roedd disgyblion Iesu yn gwbl sicr yn achos Iesu?

5 Yng nghanrif gyntaf yr Oes Gyffredin (OG), roedd disgyblion Iesu o Nasareth yn gwbl sicr mai ef oedd y Meseia addawedig. (Ioan 1:41) Fe wnaeth un o’r disgyblion, dyn o’r enw Simon Pedr, ddweud yn gwbl agored wrth Iesu: “Ti yw’r Meseia.” (Mathew 16:16) Sut, felly, gallai’r disgyblion fod yn sicr—a ninnau hefyd—mai Iesu oedd y Meseia addawedig?

6. Pa esiampl sy’n dangos sut mae Jehofa wedi helpu rhai ffyddlon i adnabod y Meseia?

6 Rhagfynegwyd llawer o fanylion am y Meseia gan broffwydi Duw a oedd yn byw cyn amser Iesu. Byddai’r manylion hyn yn helpu pobl i’w adnabod. Meddyliwch am hyn: Dychmygwch eich bod chi’n mynd i orsaf neu faes awyr prysur i nôl rhywun nad ydych chi erioed wedi ei weld o’r blaen. Help mawr fyddai gwybod ychydig o fanylion amdano. Yn yr un modd, drwy gyfrwng proffwydi’r Beibl, rhoddodd Jehofa ddisgrifiad eithaf manwl o’r hyn y byddai’r Meseia yn ei wneud a’r pethau a fyddai’n digwydd iddo. Byddai cyflawniad y proffwydoliaethau niferus hyn yn helpu pobl ffyddlon i’w adnabod heb unrhyw amheuaeth.

7. Pa ddwy broffwydoliaeth gafodd eu cyflawni yn achos Iesu?

7 Ystyriwch ddwy esiampl yn unig. Yn gyntaf, dros 700 mlynedd o flaen llaw, rhagfynegodd y proffwyd Micha y byddai’r Un addawedig yn cael ei eni ym Methlehem, tref fechan yng ngwlad Jwda. (Micha 5:2) Lle yn union cafodd Iesu ei eni? Yn yr union dref honno! (Mathew 2:1, 3-9) Yn ail, ganrifoedd ymlaen llaw, fe wnaeth y broffwydoliaeth a  gofnodwyd yn Daniel 9:25 dynnu sylw at yr union flwyddyn roedd y Meseia i ymddangos—29 OG. * Mae cyflawniad y proffwydoliaethau hyn a rhai eraill yn profi mai Iesu oedd y Meseia addawedig.

O adeg ei fedyddio, Iesu oedd y Meseia, neu’r Crist

8, 9. Beth ddigwyddodd adeg bedydd Iesu i brofi mai ef oedd y Meseia?

8 Tua diwedd y flwyddyn 29 OG, daeth mwy o dystiolaeth i’r amlwg mai Iesu oedd y Meseia. Dyna’r flwyddyn yr aeth Iesu at Ioan Fedyddiwr i gael ei fedyddio yn afon Iorddonen. Roedd Jehofa wedi addo arwydd i Ioan fel y byddai’n medru adnabod y Meseia. Adeg bedydd Iesu, gwelodd Ioan yr arwydd hwnnw. Mae’r Beibl yn disgrifio’r hyn a ddigwyddodd: “Bedyddiwyd Iesu, ac yna, pan gododd allan o’r dŵr, dyma’r nefoedd yn agor iddo, a gwelodd Ysbryd Duw yn disgyn fel colomen ac yn dod arno. A dyma lais o’r nefoedd yn dweud, ‘Hwn yw fy Mab, yr Anwylyd; ynddo ef yr wyf yn ymhyfrydu.’” (Mathew 3:16, 17) Ar ôl iddo weld a chlywed beth ddigwyddodd, roedd Ioan yn gwbl sicr fod Iesu wedi ei anfon gan Dduw. (Ioan 1:32-34) Cafodd ysbryd Duw, sef ei rym gweithredol, ei dywallt arno’r diwrnod hwnnw. Nawr, Iesu oedd y Meseia, neu’r Crist, wedi ei benodi yn Arweinydd ac yn Frenin.—⁠Eseia 55:4.

9 Mae cyflawniad proffwydoliaethau’r Beibl a thystiolaeth Jehofa Dduw ei hun yn dangos yn blaen mai Iesu oedd y Meseia addawedig. Ond, mae’r Beibl yn ateb dau gwestiwn pwysig arall am Iesu Grist: O le y daeth ef, a sut un oedd ef?

 O LE Y DAETH IESU?

10. Beth mae’r Beibl yn ei ddysgu am fodolaeth Iesu cyn iddo ddod i’r ddaear?

10 Mae’r Beibl yn dysgu bod Iesu wedi byw yn y nef cyn iddo ddod i’r ddaear. Proffwydodd Micha y byddai’r Meseia yn cael ei eni ym Methlehem a hefyd Ei fod yn tarddu o’r “gorffennol, mewn dyddiau gynt.” (Micha 5:2) Ar sawl achlysur, dywedodd Iesu ei hun ei fod wedi byw yn y nef cyn iddo gael ei eni yn ddyn. (Darllenwch Ioan 3:13; 6:38, 62; 17:4, 5) Ac yntau’n ysbryd greadur yn y nef, roedd gan Iesu berthynas arbennig â Jehofa.

11. Sut mae’r Beibl yn dangos mai Iesu yw Mab mwyaf annwyl Jehofa?

11 Mab anwylaf Jehofa yw Iesu—ac nid heb reswm. Disgrifir ef fel “Cyntaf-anedig yr holl greadigaeth,” gan mai ef oedd creadigaeth gyntaf Duw. * (Colosiaid 1:15) Mae rhywbeth arall yn gwneud y Mab hwn yn arbennig. Ef yw’r “unig-anedig Fab.” (Ioan 3:16, BC) Golyga hyn mai Iesu oedd yr unig un i gael ei greu gan Dduw ei hun. Iesu hefyd yw’r unig un i Dduw ei ddefnyddio pan greodd Ef bob peth arall. (Colosiaid 1:16) Hefyd, fe elwir Iesu “y Gair.” (Ioan 1:14) Mae hyn yn dweud wrthon ni ei fod yn siarad ar ran Duw, yn anfon negeseuon a chyfarwyddiadau i feibion eraill y Tad, yn fodau ysbrydol neu ddynol.

12. Sut rydyn ni’n gwybod nad yw’r Mab cyntaf-anedig yn gyfartal â Duw?

12 A yw’r cyntaf-anedig Fab yn gyfartal â Duw, fel mae rhai yn credu? Nid dyna mae’r Beibl yn ei ddysgu. Fel y gwelon ni yn y paragraff blaenorol, cafodd y Mab ei greu. Yn amlwg, felly, roedd ganddo ddechreuad, tra nad oes dechreuad na diwedd gan Jehofa Dduw. (Salm 90:2) Wnaeth yr unig-anedig Fab erioed ystyried ceisio bod yn gyfartal â’i Dad. Mae’r Beibl yn gwbl eglur fod y Tad yn fwy na’r Mab. (Darllenwch Ioan 14:28; 1 Corinthiaid  11:3) Jehofa yn unig yw “Duw Hollalluog.” (Genesis 17:1) Felly, nid oes neb yn gyfartal ag ef. *

13. Beth mae’r Beibl yn ei olygu wrth gyfeirio at y Mab fel “delw’r Duw anweledig”?

13 Roedd gan Jehofa a Iesu berthynas glòs am filiynau o flynyddoedd—ymhell cyn creu sêr y nefoedd a’r ddaear. Mae’n amlwg, felly, fod ganddyn nhw gariad mawr tuag at ei gilydd! (Ioan 3:35; 14:31) Roedd y Mab annwyl hwn yn union fel ei Dad. Dyna pam mae’r Beibl yn cyfeirio at y Mab fel “delw’r Duw anweledig.” (Colosiaid 1:15) Fel y mae mab dynol yn aml yn debyg iawn i’w dad mewn amryw ffyrdd, roedd y Mab nefol hwn yn adlewyrchu priodoleddau a phersonoliaeth ei Dad.

14. Sut cafodd unig-anedig Fab Jehofa ei eni fel dyn?

14 Gadael y nefoedd o’i wirfodd a wnaeth unig-anedig Fab Jehofa a dod i’r ddaear i fyw fel dyn. Ond teg yw gofyn, ‘Sut roedd hi’n bosibl i ysbryd greadur gael ei eni’n ddyn?’ I gyflawni hyn, fe wnaeth Jehofa wyrth. Trosglwyddodd fywyd ei gyntaf-anedig fab o’r nef i groth morwyn, Iddewes o’r enw Mair. Yn yr achos hwn, doedd yna ddim tad dynol. Felly, rhoddodd Mair enedigaeth i fab perffaith a’i alw’n Iesu.—⁠Luc 1:30-35.

SUT UN OEDD IESU?

15. Pam gallwn ddweud mai trwy Iesu rydyn ni’n dod i adnabod Jehofa yn well?

15 Mae astudio bywyd Iesu ar y ddaear, ei weithredoedd a’i eiriau, yn ein helpu ni i’w adnabod yn dda. Ar ben hynny, drwy Iesu rydyn ni’n dod i adnabod Jehofa yn well. Sut felly? Cofiwch fod y Mab hwn yn adlewyrchu ei Dad yn berffaith. Dyna pam dywedodd Iesu wrth un o’i ddisgyblion: “Y mae’r sawl sydd wedi fy ngweld i wedi gweld y Tad.” (Ioan 14:9) Mae pedwar llyfr y Beibl a elwir  yr Efengylau—Mathew, Marc, Luc, a Ioan—yn dweud llawer wrthon ni am fywyd, gweithredoedd, a phriodoleddau personol Iesu Grist.

16. Beth oedd prif neges Iesu ac o le daeth ei ddysgeidiaeth?

16 Roedd Iesu’n enwog fel “Athro.” (Ioan 1:38; 13:13) Beth roedd yn ei ddysgu? Yn bennaf, “efengyl y deyrnas” oedd ei neges—hynny yw, Teyrnas Dduw. Dyma lywodraeth nefol fydd yn rheoli dros y byd i gyd a dod â bendithion diddiwedd i bobl ufudd. (Mathew 4:23) Neges pwy oedd hon? Dywedodd Iesu ei hun: “Nid eiddof fi yw’r hyn yr wyf yn ei ddysgu, ond eiddo’r hwn a’m hanfonodd i.” (Ioan 7:16) Fe wyddai Iesu fod Jehofa am i bobl glywed newyddion da’r deyrnas. Ym Mhennod 8, byddwn ni’n dysgu mwy am Deyrnas Dduw a’r hyn y bydd yn ei gyflawni.

17. Ble roedd Iesu’n dysgu, a pham gweithiodd mor galed yn dysgu pobl?

17 Ble roedd Iesu yn dysgu’r bobl? Le bynnag yr oedden nhw—allan yn y wlad yn ogystal â’r dinasoedd, mewn pentrefi, yn y marchnadoedd, ac yn eu tai. Doedd Iesu ddim yn disgwyl i bobl ddod ato ef. Aeth ef atyn nhw. (Marc 6:56; Luc 19:5, 6) Pam gweithiodd Iesu mor galed yn treulio cymaint o’i amser yn pregethu ac yn dysgu? Oherwydd dyna oedd ewyllys Duw ar ei gyfer. Roedd Iesu bob amser yn gwneud ewyllys ei Dad. (Ioan 8:28, 29) Ond roedd yna reswm arall i Iesu bregethu. Tosturiodd wrth y tyrfaoedd a ddaeth i’w weld. (Darllenwch Mathew 9:35, 36.) Dyletswydd yr arweinyddion crefyddol oedd dysgu’r gwir am Dduw a’i fwriadau ond, yn lle hynny, roedden nhw’n esgeuluso’r bobl. Roedd Iesu yn gwybod bod dwys angen clywed neges y deyrnas arnyn nhw.

18. Pa briodoleddau sy’n apelio fwyaf atoch chi?

18 Dyn tyner a chynnes oedd Iesu gyda theimladau dwfn.  Roedd yn garedig ac yn hawdd mynd ato. Roedd plant hyd yn oed yn teimlo’n gyffyrddus yn ei gwmni. (Marc 10:13-16) Doedd Iesu ddim yn dangos ffafriaeth. Roedd yn casáu arferion llwgr ac anghyfiawnder. (Mathew 21:12, 13) Mewn oes pan nad oedd merched yn cael llawer o freintiau a pharch, roedd Iesu’n eu trin ag urddas. (Ioan 4:9, 27) Roedd Iesu’n wirioneddol ostyngedig. Un adeg, fe wnaeth olchi traed ei apostolion, tasg a oedd fel arfer yn cael ei gwneud gan un o’r gweision isaf.

Roedd Iesu yn pregethu wrth bobl ymhob man

19. Pa esiampl sy’n dangos bod Iesu’n sensitif i anghenion pobl eraill?

19 Roedd Iesu’n sensitif i anghenion pobl eraill. Roedd hyn i’w weld yn glir yn y modd yr aeth ati i iacháu pobl yn wyrthiol drwy rym ysbryd Duw. (Mathew 14:14) Er enghraifft, daeth dyn yn dioddef o’r gwahanglwyf at Iesu a dweud: “Os mynni, gelli fy nglanhau.” Teimlodd Iesu boen a dioddefaint y dyn hwnnw i’r byw. Yn llawn tosturi, estynnodd Iesu ei law a chyffwrdd â’r dyn, a  dweud: “Yr wyf yn mynnu, glanhaer di.” Ac fe gafodd y dyn ei iacháu! (Marc 1:40-42) Fedrwch chi ddychmygu teimladau’r dyn hwnnw?

FFYDDLON HYD Y DIWEDD

20, 21. Sut gosododd Iesu esiampl o ufudd-dod teyrngar i Dduw?

20 Gosododd Iesu’r esiampl orau o ufudd-dod teyrngar i Dduw. Arhosodd yn ffyddlon i’w Dad nefol ym mhob sefyllfa a hynny er gwaethaf pob gwrthwynebiad a dioddefaint personol. Fe wnaeth Iesu wrthsefyll temtasiynau Satan yn gadarn ac yn llwyddiannus. (Mathew 4:1-11) Ar un adeg, nid oedd gan hyd yn oed rai o berthnasau Iesu ffydd ynddo, gan fynd mor bell â dweud: “Y mae wedi colli arno’i hun.” (Marc 3:21) Ond, wnaeth Iesu ddim caniatáu iddyn nhw ddylanwadu arno; daliodd ati i wneud gwaith Duw. Er iddo gael ei sarhau a’i gam-drin, wnaeth Iesu erioed golli rheolaeth arno ei hun na cheisio peri niwed i’w wrthwynebwyr.—⁠1 Pedr 2:21-23.

 21 Arhosodd Iesu’n ffyddlon hyd at ei farwolaeth—marwolaeth greulon a phoenus yn nwylo ei elynion. (Darllenwch Philipiaid 2:8.) Ystyriwch yr hyn a ddioddefodd ar ddiwrnod olaf ei fywyd fel dyn. Cafodd ei arestio, ei gyhuddo ar gam, a’i ddedfrydu gan farnwyr llwgr. Cafodd ei arteithio gan filwyr ac roedd torfeydd afreolus yn chwerthin am ei ben. Wedi ei hoelio ar stanc, tynnodd ei anadl olaf gan weiddi: “Gorffennwyd.” (Ioan 19:30) Sut bynnag, ar y trydydd diwrnod ar ôl i Iesu farw, cafodd ei atgyfodi gan ei Dad nefol i fywyd fel ysbryd. (1 Pedr 3:18) Ychydig wythnosau’n ddiweddarach, dychwelodd i’r nef. Yno, “eisteddodd ar ddeheulaw Duw” a disgwyl nes y byddai’n derbyn grym brenhinol.—⁠Hebreaid 10:12, 13.

22. Beth gyflawnodd Iesu drwy aros yn ffyddlon hyd farwolaeth?

22 Beth gwnaeth Iesu ei gyflawni drwy aros yn ffyddlon hyd at ei farwolaeth? Mae marwolaeth Iesu yn rhoi’r cyfle inni gael bywyd tragwyddol mewn paradwys ar y ddaear yn unol â bwriad gwreiddiol Jehofa. Byddwn ni’n trafod sut mae marwolaeth Iesu yn gwneud hynny’n bosibl yn y bennod nesaf.

^ Par. 7 Am eglurhad ar broffwydoliaeth Daniel a sut cafodd ei chyflawni yn achos Iesu, gweler yr erthygl “Mae Proffwydoliaeth Daniel yn Rhagfynegi Dyfodiad y Meseia,” sydd i’w gweld yn yr Atodiad.

^ Par. 11 Gelwir Jehofa yn Dad gan mai ef yw’r Creawdwr. (Eseia 64:8) Gan fod Iesu wedi ei greu gan Dduw, gelwir ef yn Fab Duw. Am resymau tebyg, gelwir ysbryd greaduriaid eraill a hyd yn oed y dyn Adda, yn feibion Duw.—⁠Job 1:6; Luc 3:38.

^ Par. 12 Am dystiolaeth bellach sy’n dangos nad yw’r cyntaf-anedig Fab yn gyfartal â Duw, gweler yr erthygl “Y Gwir am y Tad, y Mab, a’r Ysbryd Glân,” sydd i’w gweld yn yr Atodiad.