Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

 ATODIAD

“Enaid” ac “Ysbryd”—Beth Yw Gwir Ystyr y Termau Hyn?

“Enaid” ac “Ysbryd”—Beth Yw Gwir Ystyr y Termau Hyn?

PAN glywch chi’r geiriau “enaid” ac “ysbryd,” beth sy’n dod i’ch meddwl? Mae llawer yn credu bod y geiriau hyn yn golygu rhywbeth anweledig ac anfarwol sy’n bodoli y tu mewn inni. Maen nhw’n meddwl bod y rhan anweledig hon yn gadael y corff pan fo rhywun yn marw ac yn parhau i fyw. Gan fod y gred hon mor gyffredin, mae’n syndod i lawer sylweddoli bod y Beibl yn dysgu rhywbeth hollol wahanol. Beth, felly, yw’r enaid, a beth yw’r ysbryd, yn ôl Gair Duw?

Y GAIR “ENAID” YN Y BEIBL

Yn gyntaf, ystyriwch yr enaid. Cofiwch fod y rhan fwyaf o’r Beibl wedi ei ysgrifennu’n wreiddiol yn Hebraeg a Groeg. Wrth ysgrifennu am yr enaid, roedd ysgrifenwyr y Beibl yn defnyddio gwahanol ffurfiau ar y gair Hebraeg neʹphesh a’r gair Groeg psu·cheʹ. Mae’r ddau air hyn yn digwydd fwy na 800 o weithiau yn yr Ysgrythurau. Gan amlaf, mae’r Beibl Cysegr-lân yn trosi’r geiriau hyn â’r gair “enaid,” tra bod Y Beibl Cymraeg Newydd Argraffiad Diwygiedig yn eu cyfieithu yn ôl y cyd-destun â geiriau fel “enaid,” “creadur,” “einioes,” “bod,” “bywyd,” “corff,” a “dyn.” Pan edrychwch yn fanwl ar y modd y mae’r Beibl yn defnyddio neʹphesh neu psu·cheʹ, mae’n dod yn amlwg fod y geiriau hyn, yn y bôn, yn cyfeirio at (1) pobl, (2) anifeiliaid, neu (3) y bywyd  sydd gan ddyn neu anifail. Gadewch inni edrych ar rai adnodau sy’n cyflwyno’r ystyron gwahanol hyn.

Pobl. “Yn nyddiau Noa . . . fe achubwyd ychydig, sef wyth enaid, trwy ddŵr.” (1 Pedr 3:20) Yma, mae’n amlwg fod y geiriau “wyth enaid” yn golygu wyth unigolyn—Noa, ei wraig, ei dri mab, a’u gwragedd. Yn llyfr Exodus, gwelwn gyfarwyddiadau i’r Israeliaid ynglŷn â chasglu manna. Dywedodd Duw wrthyn nhw: “Cesglwch ohono . . . bob un yn ôl rhifedi eich eneidiau; cymerwch bob un i’r rhai fyddant yn ei bebyll.” (Exodus 16:16, BC) Felly, roedden nhw’n casglu’r manna yn ôl y nifer o bobl ym mhob un teulu. Yn y Beibl Cysegr-lân gwelwn enghreifftiau eraill o ddefnyddio’r gair “enaid” neu “eneidiau” i olygu unigolyn neu unigolion yn Numeri 31:35; Josua 11:11; Actau 27:37; a Rhufeiniaid 13:1.

Anifeiliaid. Yn hanes y creu yn y Beibl, darllenwn: “Yna dywedodd Duw, ‘Heigied y dyfroedd o greaduriaid byw [Hebraeg: neʹphesh] ac uwchlaw’r ddaear eheded adar ar draws ffurfafen y nefoedd.’ Yna dywedodd Duw, ‘Dyged y ddaear greaduriaid byw [neʹphesh] yn ôl eu rhywogaeth: anifeiliaid, ymlusgiaid a bwystfilod gwyllt yn ôl eu rhywogaeth.’ A bu felly.” (Genesis 1:20, 24) Yn yr adnodau hyn, defnyddir yr un gair neʹphesh i gyfeirio at bysgod, anifeiliaid dof, a bwystfilod gwyllt fel ei gilydd. Hefyd, gwelwn enghreifftiau pellach o’r gair neʹphesh yn cyfeirio at adar ac anifeiliaid eraill yn Genesis 9:10; Lefiticus 11:46; a Numeri 31:28.

Bywyd person. Weithiau mae’r gair “enaid” yn golygu bywyd person. Dywedodd Jehofa wrth Moses: “Y mae pawb oedd yn ceisio dy ladd [ceisio dy neʹphesh] bellach wedi marw.” (Exodus 4:19) Beth roedd gelynion Moses yn ei geisio? Roedden nhw’n ceisio bywyd Moses. Wrth ddisgrifio Rachel yn rhoi genedigaeth i’w mab Benjamin, mae’r Beibl yn defnyddio’r ymadrodd hwn: “Wrth ymadael o’i henaid hi (oblegid marw a wnaeth hi).” (Genesis 35:16-19, BC) Yr adeg honno, collodd Rachel ei bywyd. Rhowch sylw hefyd i eiriau Iesu: “Myfi yw’r bugail da. Y mae’r bugail da yn rhoi ei einioes [Groeg: psu·cheʹ] dros y defaid.” (Ioan 10:11) Rhoddodd Iesu ei einioes, sef ei fywyd neu ei enaid, dros ddynolryw. Yn yr adnodau hyn i gyd, mae’n amlwg fod y geiriau Hebraeg a Groeg gwreiddiol yn cyfeirio at fywyd y person. Byddwch yn gweld enghreifftiau eraill o’r  geiriau neʹphesh a psu·cheʹ yn cael eu defnyddio yn yr ystyr hwn yn 1 Brenhinoedd 17:17-23, BC; Mathew 10:39; Ioan 15:13; ac Actau 20:10, BC.

O astudio Gair Duw ymhellach, byddwch yn gweld nad yw’r Beibl byth yn cysylltu’r termau “anfarwol” na “thragwyddol” â’r gair “enaid.” I’r gwrthwyneb, mae’r Ysgrythurau’n datgan bod yr enaid yn feidrol, sy’n golygu ei bod yn marw. (Eseciel 18:4, 20, BC) Felly, mae’r Beibl yn galw rhywun sydd wedi marw yn “gorff [neʹphesh] marw” neu’n ‘enaid marw.’—⁠Lefiticus 21:11.

DIFFINIO’R “YSBRYD”

Ystyriwn nesaf y ffordd mae’r Beibl yn defnyddio’r term “ysbryd.” Mae rhai’n meddwl mai gair arall am “enaid” yw “ysbryd.” Ond nid yw hynny’n iawn. Mae’r Beibl yn dangos yn eglur fod “ysbryd” ac “enaid” yn ddau beth gwahanol. Ym mha ffordd maen nhw’n wahanol?

Roedd ysgrifenwyr y Beibl yn defnyddio’r gair Hebraeg rwʹach neu’r gair Groeg pnewʹma wrth ysgrifennu am yr “ysbryd.” Mae’r Ysgrythurau eu hunain yn dangos beth yw ystyr y geiriau hyn. Er enghraifft, dywed Salm 104:29 am Jehofa: “Pan gymeri eu hanadl [rwʹach], fe ddarfyddant, a dychwelyd i’r llwch.” Ac mae Iago 2:26 yn nodi: “Mae’r corff heb yr ysbryd [pnewʹma] yn farw.” (BC) Yn yr adnodau hyn, mae “anadl” neu “ysbryd” yn cyfeirio at yr hyn sy’n rhoi bywyd i’r corff. Heb “rwʹach” neu “pnewʹma” mae’r corff yn farw. Mae’r grym animeiddio hwn yn golygu llawer mwy na’r anadl neu’r aer sydd yn yr ysgyfaint. Pam, felly? Oherwydd, ar ôl i’r anadlu beidio, y mae bywyd yn parhau yng nghelloedd y corff am gyfnod byr. Dyna pam y mae ymdrechion i adfywio rhywun yn gallu llwyddo. Ond pan fo gwreichionen bywyd wedi ei diffodd yng nghelloedd y corff, bydd unrhyw ymdrech i adfer bywyd yn ofer. Bryd hynny, ni fydd unrhyw anadl yn ddigon i adfywio hyd yn oed yr un gell yn y corff. Grym bywyd anweledig, felly, yw’r ysbryd [rwʹach neu pnewʹma]—y wreichionen bywyd sy’n cadw’r celloedd a’r creadur yn fyw. Y mae’r grym bywyd hwn yn cael ei gynnal drwy anadlu.

Nid yw’r enaid a’r ysbryd yn golygu’r un peth. Mae angen yr ysbryd ar y corff fel y mae angen trydan ar radio—er mwyn iddo  weithio. I egluro hyn ymhellach, meddyliwch am radio. Pan ydych chi’n rhoi batris i mewn i radio a’i droi ymlaen, mae’r trydan yn y batris yn rhoi bywyd i’r radio, fel petai. Ond heb fatris mae’r radio yn farw. Mae’r un peth yn digwydd i radio sy’n cael ei ddatgysylltu o’r soced trydan. Yn yr un modd, yr ysbryd yw’r grym sy’n bywhau ein cyrff ni. Hefyd, fel trydan, nid yw’r ysbryd yn medru na theimlo na meddwl. Grym amhersonol ydyw. Ond heb yr ysbryd, neu’r grym bywyd hwnnw, mae ein cyrff yn ‘darfod ac yn dychwelyd i’r llwch’ fel y dywed y salmydd.

Wrth sôn am farwolaeth dyn, mae Pregethwr 12:7 yn dweud bod llwch y corff yn mynd “yn ôl i’r ddaear lle bu ar y cychwyn,” a bod yr ysbryd yn ‘dychwelyd at y Duw a’i rhoes.’ Pan fo’r ysbryd, neu’r grym bywyd yn gadael y corff, mae’r corff yn marw ac yn dychwelyd i’r lle y daeth ohono—y pridd. Yn yr un modd, mae’r grym bywyd yn dychwelyd i’w darddle—Duw. (Job 34:14, 15; Salm 36:9) Dydy hyn ddim yn golygu bod y grym bywyd yn teithio’n llythrennol i’r nefoedd. Yn hytrach, i’r sawl sy’n marw, mae’n golygu bod unrhyw obaith o fywyd yn y dyfodol yn dibynnu ar Jehofa Dduw. Mae ei fywyd yn nwylo Duw fel petai. Pŵer Duw yn unig sy’n gallu rhoi’r ysbryd neu’r grym bywyd yn ôl er mwyn i rywun gael byw eto.

Mae’n gysur mawr i wybod mai dyma yn union y bydd Duw yn ei wneud ar gyfer pawb sy’n gorffwys “yn eu beddau”! (Ioan 5:28, 29) Ar adeg yr atgyfodiad, bydd Jehofa yn llunio corff newydd i’r sawl sy’n cysgu mewn marwolaeth a’i fywhau drwy roi ynddo’r ysbryd neu’r grym bywyd. Dyna ichi ddiwrnod llawen i edrych ymlaen ato!

Os hoffech ddysgu mwy am y termau “enaid” ac “ysbryd” fel y’u defnyddir yn y Beibl, cewch wybodaeth werthfawr yn y llyfryn Beth Sy’n Digwydd Inni Pan ’Rydym Yn Marw? ac ar dudalennau 375-384 yn y llyfr Reasoning from the Scriptures, a gyhoeddir gan Dystion Jehofa.