Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

Ôl-nodiadau

Ôl-nodiadau

1 JEHOFA

Enw Duw yw Jehofa. Credir mai ystyr yr enw hwn yw “Mae Ef yn Peri i Fod.” Jehofa yw’r Duw hollalluog sydd wedi creu pob peth. Mae’r nerth ganddo i wneud beth bynnag y mae’n penderfynu ei wneud.

Yn Hebraeg, mae pedair llythyren i enw Duw. Yn Gymraeg, cynrychiolir y llythrennau hyn gan IHWH. Mae enw Duw yn ymddangos bron 7,000 o weithiau yn y testun Hebraeg gwreiddiol. Mae pobl ledled y byd yn defnyddio gwahanol ffurfiau ar yr enw Jehofa, a’i ynganu yn y ffordd sy’n gyffredin yn eu hiaith nhw.

Pen. 1, par. 15

2 MAE’R BEIBL WEDI EI YSBRYDOLI GAN DDUW

Duw yw Awdur y Beibl, ond defnyddiwyd dynion i’w ysgrifennu. Mae hyn yn debyg i ddyn busnes sy’n dweud wrth ei ysgrifennydd am deipio llythyr i gyfleu ei syniadau. Defnyddiodd Duw ei ysbryd glân i arwain ysgrifenwyr y Beibl i gofnodi ei feddyliau ef. Roedd ysbryd Duw yn eu harwain mewn gwahanol ffyrdd. Weithiau roedd Duw yn peri iddyn nhw gael gweledigaethau neu freuddwydion a’u cofnodi.

▸ Pen. 2, par. 5

3 EGWYDDORION

Egwyddor yw dysgeidiaeth Feiblaidd sy’n esbonio gwirionedd sylfaenol. Er enghraifft, mae’r egwyddor “mae cwmni drwg yn llygru cymeriad da” yn dangos bod ein ffrindiau yn effeithio arnon ni, er da neu er drwg. (1 Corinthiaid 15:33) Ac mae’r egwyddor “mae pobl yn medi beth maen nhw’n ei hau” yn dangos na allwn ni osgoi canlyniadau ein gweithredoedd.—Galatiaid 6:7.

▸ Pen. 2, par. 12

  4 PROFFWYDOLIAETH

Neges oddi wrth Dduw yw proffwydoliaeth. Gall fod yn esboniad ar ewyllys Duw, yn ddysgeidiaeth foesol, yn orchymyn, neu’n neges farn. Gall hefyd fod yn neges am rywbeth a fydd yn digwydd yn y dyfodol. Mae llawer o broffwydoliaethau yn y Beibl eisoes wedi eu gwireddu.

▸ Pen. 2, par. 13

5 PROFFWYDOLIAETHAU AM Y MESEIA

Mae llawer o broffwydoliaethau yn y Beibl am y Meseia. Iesu yw’r un sydd wedi eu cyflawni. Gweler y blwch “ Proffwydoliaethau am y Meseia.”

▸ Pen. 2, par. 17, tdn.

6 PWRPAS JEHOFA AR GYFER Y DDAEAR

Creodd Jehofa y ddaear i fod yn baradwys ac yn gartref i fodau dynol sy’n ei garu. Nid yw ei bwrpas wedi newid. Yn fuan, bydd Duw yn rhoi terfyn ar ddrygioni ac yn rhoi bywyd tragwyddol i’w bobl.

▸ Pen. 3, par. 1

7 SATAN Y DIAFOL

Satan yw’r angel a ddechreuodd y gwrthryfel yn erbyn Duw. Fe’i gelwir yn Satan, sy’n golygu “Gwrthwynebwr,” oherwydd ei fod yn gwrthwynebu Jehofa. Fe’i gelwir hefyd yn Ddiafol, sy’n golygu “Enllibiwr.” Cafodd yr enw hwnnw oherwydd ei fod yn dweud celwyddau am Dduw ac yn twyllo pobl.

▸ Pen. 3, par. 4

  8 ANGYLION

Creodd Jehofa yr angylion ymhell cyn iddo greu’r ddaear. Cawson nhw eu creu i fyw yn y nefoedd. Mae mwy na chan miliwn o angylion. (Daniel 7:10) Mae gan bob un enw a chymeriad gwahanol, ac mae angylion ffyddlon yn gwrthod cael eu haddoli gan fodau dynol. Mae ’na wahanol fathau o angylion ac maen nhw’n gwneud gwahanol fathau o waith. Gall y gwaith hwn gynnwys gwasanaethu gerbron gorsedd Jehofa, cyfleu ei negeseuon, amddiffyn ac arwain ei weision ar y ddaear, gweithredu ei farn, a chefnogi’r gwaith pregethu. (Salm 34:7; Datguddiad 14:6; 22:8, 9) Yn y dyfodol, byddan nhw’n ymladd wrth ochr Iesu yn rhyfel Armagedon.—Datguddiad 16:14, 16; 19:14, 15.

▸ Pen. 3, par. 5; Pen. 10, par. 1

9 PECHOD

Pechod yw unrhyw beth rydyn ni’n ei deimlo, yn ei feddwl, neu’n ei wneud sydd yn erbyn Jehofa neu’n groes i’w ewyllys. Mae pechod yn amharu ar ein perthynas â Duw, ac felly mae Duw wedi rhoi deddfau ac egwyddorion i’n helpu ni i beidio â phechu’n fwriadol. Yn y dechrau, creodd Jehofa bob peth yn berffaith, ond pan ddewisodd Adda ac Efa fod yn anufudd i Jehofa, fe wnaethon nhw bechu a cholli eu perffeithrwydd. Dechreuon nhw heneiddio a marw, ac oherwydd i ni etifeddu pechod gan Adda, rydyn ni hefyd yn heneiddio a marw.

▸ Pen. 3, par. 7; Pen. 5, par. 3

10 ARMAGEDON

Armagedon yw rhyfel Duw a fydd yn dinistrio byd Satan a phob drygioni.

▸ Pen. 3, par. 13; Pen. 8, par. 18

 11 TEYRNAS DDUW

Llywodraeth y mae Jehofa wedi ei sefydlu yn y nef yw Teyrnas Dduw. Iesu Grist sy’n Frenin arni. Yn y dyfodol, bydd Jehofa yn defnyddio’r Deyrnas i ddileu pob drygioni. Bydd Teyrnas Dduw yn rheoli dros y ddaear.

▸ Pen. 3, par. 14

12 IESU GRIST

Creodd Duw Iesu cyn popeth arall. Anfonodd Iesu i’r ddaear i farw dros y ddynoliaeth. Ar ôl i Iesu gael ei ladd, fe wnaeth Jehofa ei atgyfodi. Nawr, mae Iesu yn teyrnasu yn y nef yn Frenin ar Deyrnas Dduw.

▸ Pen. 4, par. 2

13 PROFFWYDOLIAETH Y 70 CYFNOD O SAITH

Proffwydodd y Beibl pa bryd yn union y byddai’r Meseia yn ymddangos. Byddai hyn ar ddiwedd cyfnod a elwir yn 69 “cyfnod o saith,” a fyddai’n dechrau yn y flwyddyn 455 COG ac yn dod i ben yn y flwyddyn 29 OG.

Sut rydyn ni’n gwybod ei fod wedi dod i ben yn 29 OG? Dechreuodd y 69 “cyfnod o saith” yn y flwyddyn 455 COG, pan gyrhaeddodd Nehemeia Jerwsalem a dechrau ailadeiladu’r ddinas. (Daniel 9:25; Nehemeia 2:1, 5-8) Mae’r rhan fwyaf o ysgolheigion Beiblaidd yn cytuno bod “cyfnod o saith” yn y broffwydoliaeth hon yn golygu cyfnod o saith mlynedd. Felly, mae’r 69 “cyfnod o saith” mlynedd yn golygu 483 o flynyddoedd (69 x 7). O gyfrif 483 o flynyddoedd o’r flwyddyn 455 COG, rydyn ni’n cyrraedd y flwyddyn 29 OG. A dyna’r union flwyddyn y cafodd Iesu ei fedyddio a dod yn Feseia!—Luc 3:1, 2, 21, 22.

 Dywedodd y broffwydoliaeth y byddai un “cyfnod o saith” yn dilyn y lleill, sef saith mlynedd ychwanegol. Yn ystod y cyfnod hwnnw, yn y flwyddyn 33 OG, byddai’r Meseia yn cael ei ladd, ac o’r flwyddyn 36 OG ymlaen, fe fyddai nid yn unig yr Iddewon, ond pobl o bob cenedl yn clywed y newyddion da am Deyrnas Dduw.—Daniel 9:24-27.

▸ Pen. 4, par. 7

 14 GAU DDYSGEIDIAETH Y DRINDOD

Mae’r Beibl yn dysgu mai Jehofa yw’r Creawdwr a’i fod wedi creu Iesu cyn pob peth arall. (Colosiaid 1:15, 16, BCND) Nid y Duw Hollalluog yw Iesu. Ni wnaeth Iesu erioed honni ei fod yn gyfartal â Duw. Yn wir, fe ddywedodd: “Mae’r Tad yn fwy na fi.” (Ioan 14:28; 1 Corinthiaid 15:28) Eto mae rhai crefyddau yn dysgu mai Trindod yw Duw, hynny yw tri pherson yn un: y Tad, y Mab, a’r ysbryd glân. Nid yw’r gair “Trindod” i’w weld yn y Beibl. Nid yw’r ddysgeidiaeth hon yn wir.

Grym gweithredol Duw yw’r ysbryd glân, y pŵer anweladwy y mae’n ei ddefnyddio i gyflawni ei ewyllys. Nid person ydyw. Er enghraifft, cafodd y Cristnogion cynnar “eu llenwi” â’r ysbryd glân, a dywedodd Jehofa: “Bydda i’n tywallt fy ysbryd ar y bobl i gyd.”—Actau 2:1-4, 17.

▸ Pen. 4, par. 12; Pen. 15, par. 17

15 Y GROES

Wrth addoli Duw, nid yw gwir Gristnogion yn defnyddio’r groes. Pam felly?

  1. Mae’r groes wedi ei defnyddio mewn gau grefydd ers amser maith. Yn yr hen fyd, fe’i defnyddiwyd mewn defodau addoli natur a defodau paganaidd yn ymwneud â rhyw. Am 300 mlynedd ar ôl i Iesu farw, nid oedd Cristnogion yn defnyddio’r groes wrth addoli. Yr Ymerawdwr Rhufeinig Cystennin a wnaeth y groes yn symbol o Gristnogaeth. Fe’i defnyddiwyd i geisio gwneud Cristnogaeth yn fwy poblogaidd. Ond nid oedd gan y groes unrhyw gysylltiad â Iesu Grist. Esbonia’r New Catholic Encyclopedia: “Mae’r groes i’w chael mewn diwylliannau cyn-Gristnogol a di-Gristnogol fel ei gilydd.”

  2. Nid ar groes y bu farw Iesu. Yn y bôn, mae’r geiriau Groeg sy’n cael eu cyfieithu’n “groes” yn golygu “polyn,”  “stanc,” “postyn,” neu “pren.” Mae’r Companion Bible yn esbonio: “Nid oes dim yng Ngroeg y [Testament Newydd] sydd hyd yn oed yn awgrymu dau ddarn o bren.” Bu farw Iesu ar bolyn neu stanc.

  3. Nid yw Jehofa yn dymuno inni ddefnyddio delwau neu symbolau i’w addoli.—Exodus 20:4, 5; 1 Corinthiaid 10:14.

Pen. 5, par. 12

16 Y GOFFADWRIAETH

Rhoddodd Iesu orchymyn i’w ddisgyblion i goffáu ei farwolaeth. Gwneir hyn bob blwyddyn ar 14 Nisan, sef y diwrnod roedd yr Israeliaid yn dathlu’r Pasg Iddewig. Yn ystod y Goffadwriaeth, mae’r bara a’r gwin, sy’n cynrychioli corff a gwaed Iesu, yn cael eu hestyn o law i law i bawb sy’n bresennol. Mae’r rhai sy’n mynd i lywodraethu gyda Iesu yn y nefoedd yn bwyta’r bara ac yn yfed y gwin. Mae’r rhai sy’n edrych ymlaen at fyw am byth ar y ddaear yn mynd i’r Goffadwriaeth hefyd, ond nid ydyn nhw’n bwyta’r bara nac yn yfed y gwin.

Pen. 5, par. 21

17 YR ENAID

Mae’r geiriau Hebraeg a Groeg a drosir weithiau yn “enaid” hefyd yn cael eu trosi fel “creadur,” “bywyd,” “corff,” “person,” a “dyn.” (Gweler Geirfa beibl.net am sylwadau ar yr enaid.) Felly mae’n amlwg bod y geiriau gwreiddiol yn golygu (1) person, (2) anifail, neu (3) bywyd y person neu’r anifail. Gwelir hyn o gymharu cyfieithiadau o’r Beibl. Dyma rai esiamplau:

  • Person. “Yn nyddiau Noa . . . fe achubwyd ychydig, sef wyth enaid, trwy ddŵr.” (1 Pedr 3:20, BCND) Yma, mae’r ymadrodd “wyth enaid” yn golygu wyth o bobl, sef Noa a’i wraig a’r tri mab a’u gwragedd.

  •  Anifail. Mae Datguddiad 16:3, BC yn dweud: “A phob enaid byw a fu farw yn y môr.” Cymharer yr adnod hon yn beibl.net: “Dyma bopeth yn y môr yn marw.” Ac mae Numeri 31:28, BC yn sôn am “un enaid o bob pum cant o’r dynion, ac o’r eidionau, ac o’r asynnod, ac o’r defaid.”

  • Bywyd person neu anifail. Dywedodd Iesu mewn dameg: “Y nos hon y gofynnant dy enaid oddi wrthyt.” (Luc 12:20, BC) Cymharer: “Heno ydy’r noson rwyt ti’n mynd i farw,” yn beibl.net. Ceir enghraifft arall yn Mathew 16:26, beibl.net: “Beth ydy’r pwynt o gael popeth sydd gan y byd i’w gynnig, a cholli’r enaid?” Cymharer BCND: “Pa elw a gaiff rhywun os ennill yr holl fyd a fforffedu ei fywyd?”

    Hefyd, pan fo rhywun yn gwneud rhywbeth â’i “holl enaid,” mae’n golygu ei fod yn gwneud ei orau glas. (Mathew 22:37; Deuteronomium 6:5) Mae Gair Duw yn dangos yn glir fod yr enaid yn gallu marw.—Eseciel 18:20; Iago 5:20, BC.

Pen. 6, par. 5; Pen. 15, par. 17

18 YR YSBRYD

Mae mwy nag un ystyr i’r geiriau Hebraeg a Groeg a drosir weithiau yn “ysbryd.” Ond maen nhw wastad yn cyfeirio at rywbeth anweladwy i lygaid dynol, er enghraifft y gwynt, neu anadl pobl ac anifeiliaid. Gall y geiriau hyn hefyd gyfeirio at angylion da a drwg, a’r ysbryd glân, sef grym gweithredol Duw. Nid yw’r Beibl yn dysgu bod rhan ohonon ni’n parhau i fyw ar ôl inni farw.—Exodus 35:21, BCND; Salm 104:29; Mathew 12:43; Luc 11:13.

Pen. 6, par. 5; Pen. 15, par. 17

 19 GEHENNA

Mewn rhai cyfieithiadau o’r Beibl, gwelir y gair “uffern” yn lle “Gehenna.” Sut bynnag, enw ar ddyffryn ger Jerwsalem yw Gehenna, lle roedd sbwriel yn cael ei losgi a’i ddinistrio. Nid oes unrhyw dystiolaeth fod pobl yn cael eu poenydio neu eu llosgi’n fyw yn y dyffryn hwnnw yn amser Iesu. Felly nid rhywle y mae’r meirw yn dioddef neu’n cael eu llosgi am byth yw Gehenna. Pan ddywedodd Iesu y byddai rhai yn cael eu taflu i Gehenna, roedd yn cyfeirio at eu dinistr llwyr.—Mathew 5:22; 10:28.

Pen. 7, par. 20

20 GWEDDI’R ARGLWYDD

Dyma’r weddi a roddodd Iesu er mwyn dysgu ei ddisgyblion i weddïo. Enwau eraill ar y weddi hon yw’r Pader neu’r weddi enghreifftiol. Dysgodd Iesu inni weddïo fel hyn:

  • “Sancteiddier dy enw”

    Gweddïwn am i Jehofa glirio ei enw da o gyhuddiadau celwyddog. Dymunwn i bawb yn y nefoedd ac ar y ddaear anrhydeddu a pharchu enw Duw.

  • “Deled dy deyrnas”

    Gweddïwn am i lywodraeth Dduw ddinistrio byd drwg Satan a llywodraethu dros y ddaear a’i throi’n baradwys.

  • “Gwneler dy ewyllys, ar y ddaear”

    Gweddïwn am i bwrpas Duw ar gyfer y ddaear gael ei gyflawni fel bod pobl ufudd a pherffaith yn gallu byw yn y Baradwys am byth, fel y dymunodd Jehofa pan greodd y ddynoliaeth.

Pen. 8, par. 2

21 Y PRIDWERTH

Trefnodd Jehofa y pridwerth er mwyn achub y ddynoliaeth rhag pechod a marwolaeth. Y pridwerth yw’r pris  roedd angen ei dalu er mwyn prynu y bywyd perffaith a gollodd y dyn cyntaf, Adda, ac i adfer y berthynas dda rhwng y ddynoliaeth a Jehofa. Anfonodd Duw Iesu i’r ddaear er mwyn iddo farw dros bob pechadur. O ganlyniad i farwolaeth Iesu, mae gan bawb y cyfle i fyw am byth a bod yn berffaith.

Pen. 8, par. 21; Pen. 9, par. 13

22 PWYSIGRWYDD Y FLWYDDYN 1914

Mae’r broffwydoliaeth yn Daniel pennod 4 yn dangos y byddai Duw yn sefydlu ei Deyrnas ym 1914.

Y broffwydoliaeth: Rhoddodd Jehofa freuddwyd i’r Brenin Nebwchadnesar am goeden fawr a dorrwyd i lawr. Yn y freuddwyd, cafodd boncyff y goeden ei rwymo â haearn a phres i’w atal rhag tyfu am “saith o gyfnodau” neu “saith amser,” BC. Wedi hynny, byddai’r goeden yn tyfu unwaith eto.—Daniel 4:1, 10-16, tdn.

Ystyr y broffwydoliaeth: Mae’r goeden yn cynrychioli teyrnasiad Duw. Am flynyddoedd lawer, roedd Jehofa yn defnyddio’r brenhinoedd yn Jerwsalem i reoli dros genedl Israel. (1 Cronicl 29:23) Ond roedd y brenhinoedd hynny’n anffyddlon, a daeth diwedd ar eu teyrnasiad. Cafodd Jerwsalem ei dinistrio yn y flwyddyn 607 COG. Dyna oedd dechrau’r “saith o gyfnodau.” (2 Brenhinoedd 25:1, 8-10; Eseciel 21:25-27) Roedd Iesu yn cyfeirio at yr un cyfnod pan ddywedodd: “Bydd pobl o genhedloedd eraill yn concro Jerwsalem a’i sathru dan draed hyd nes i amser y cenhedloedd hynny ddod i ben.” (Luc 21:24) Felly ni ddaeth y “saith o gyfnodau” i ben tra oedd Iesu ar y ddaear. Addawodd Jehofa y byddai’n penodi Brenin ar ddiwedd y “saith o gyfnodau.” Byddai teyrnasiad y Brenin newydd, Iesu, yn dod â llu o fendithion i bobl Dduw a hynny am byth.—Luc 1:30-33.

 Hyd y “saith o gyfnodau”: Roedd y “saith o gyfnodau” yn para am 2,520 o flynyddoedd. Os ydyn ni’n cyfri 2,520 o flynyddoedd o’r flwyddyn 607 COG, deuwn at y flwyddyn 1914. Dyna pryd y penododd Jehofa Iesu, y Meseia, i fod yn Frenin ar Deyrnas Dduw yn y nefoedd.

Sut rydyn ni’n dod at y rhif 2,520? Mae’r Beibl yn dweud bod tair amser a hanner yr un fath â 1,260 o ddiwrnodau. (Datguddiad 12:6, 14, BCND) Felly, mae saith amser neu “saith o gyfnodau” yn cyfateb i 2,520 diwrnod. O ddilyn y rheol broffwydol “un flwyddyn am bob diwrnod,” mae’r 2,520 diwrnod yn hafal i 2,520 o flynyddoedd.—Numeri 14:34; Eseciel 4:6.

Pen. 8, par. 23

23 MICHAEL YR ARCHANGEL

Ystyr “archangel” yw “prif angel.” Mae’r Beibl yn sôn am un archangel yn unig, a’i enw yw Michael.—Daniel 12:1; Jwdas 9.

Mae Michael yn arwain angylion ffyddlon Duw. Dywed Datguddiad 12:7: “Roedd Michael a’i angylion yn ymladd yn erbyn y ddraig . . . a’i hangylion.” Dywed llyfr Datguddiad mai Iesu sy’n arwain byddin Duw, felly Michael yw enw arall ar Iesu.—Datguddiad 19:14-16.

Pen. 9, par. 4

24 Y DYDDIAU OLAF

Mae’r ymadrodd hwn yn cyfeirio at y cyfnod pan fydd digwyddiadau mawr ar y ddaear, ychydig cyn i Deyrnas Dduw ddinistrio byd Satan. Termau eraill sy’n cyfeirio at yr un cyfnod yw “diwedd y byd” a “dyfodiad [“presenoldeb,” NW] Mab y Dyn.” (Mathew 24:3, 27, 37, BCND) Dechreuodd “y dyddiau olaf” wrth i Deyrnas Dduw ddechrau rheoli yn y nefoedd ym 1914, ac fe ddaw i ben  pan fydd byd Satan yn cael ei ddinistrio yn ystod Armagedon.—2 Timotheus 3:1; 2 Pedr 3:3.

Pen. 9, par. 5

25 ATGYFODIAD

Mae atgyfodiad yn digwydd pan fo Duw yn dod â rhywun marw yn ôl yn fyw. Mae sôn am naw atgyfodiad yn y Beibl. Cafodd pobl eu hatgyfodi gan Elias, Eliseus, Iesu, Pedr, a Paul. Dim ond trwy nerth Duw roedd y gwyrthiau hyn yn bosib. Mae Jehofa yn addo dod “â phobl sy’n gyfiawn yn ei olwg a phobl ddrwg yn ôl yn fyw” ar y ddaear. (Actau 24:15) Mae’r Beibl hefyd yn sôn am atgyfodiad i’r nefoedd. Mae hyn yn digwydd pan fo’r rhai sydd wedi eu dewis, neu eu heneinio, gan Dduw yn cael eu hatgyfodi i fyw yn y nefoedd gyda Iesu.—Ioan 5:28, 29; 11:25; Philipiaid 3:11; Datguddiad 20:5, 6.

Pen. 9, par. 13

26 DEWINIAETH (YSBRYDEGAETH)

Dewiniaeth neu ysbrydegaeth yw’r weithred o geisio cyfathrebu ag ysbrydion, naill ai’n uniongyrchol neu drwy gyfrwng rhywun arall. Mae’r rhai sy’n arfer dewiniaeth yn credu ar gam fod gan bobl ysbryd sy’n parhau i fyw ar ôl iddyn nhw farw. Hefyd mae’r cythreuliaid yn ceisio perswadio pobl i fod yn anufudd i Dduw. Ymhlith y gwahanol ffurfiau ar ysbrydegaeth yw astroleg, ceisio argoel, hudoliaeth, dewiniaeth, ofergoelion, yr ocwlt, a’r goruwchnaturiol. Mae llawer o lyfrau, cylchgronau, horosgopau, ffilmiau, posteri, a hyd yn oed caneuon yn gwneud i ddewiniaeth, cythreuliaid, a’r goruwchnaturiol edrych yn ddiniwed neu’n gyffrous. Mewn rhai gwledydd ceir arferion yn ymwneud ag angladdau sy’n dod â phobl i gyswllt â’r cythreuliaid. Yn eu plith mae offrymau i’r meirw, seremonïau blynyddol i goffáu’r meirw, defodau sydd i fod i lanhau gweddwon, a rhai defodau  gwylnos. Yn aml, bydd pobl yn defnyddio cyffuriau wrth geisio cysylltu â grym y cythreuliaid.—Galatiaid 5:20, 21; Datguddiad 21:8.

Pen. 10, par. 10; Pen. 16, par. 4

27 SOFRANIAETH JEHOFA

Jehofa yw’r Duw Hollalluog a greodd y bydysawd. (Datguddiad 15:3) Jehofa biau pob peth, felly mae sofraniaeth, neu awdurdod llwyr ganddo i reoli dros ei greadigaeth. (Salm 24:1; Eseia 40:21-23; Datguddiad 4:11) Y mae wedi llunio deddfau ar gyfer pob peth y mae wedi ei greu. Mae gan Jehofa hefyd yr awdurdod i benodi eraill i reoli. Rydyn ni’n dangos ein bod ni’n cefnogi sofraniaeth Jehofa drwy ei garu a thrwy ufuddhau iddo.—1 Cronicl 29:11.

Pen. 11, par. 10

28 ERTHYLU

Erthylu yw lladd plentyn sydd heb ei eni, a hynny’n fwriadol. Nid yw’n ddamwain nac yn ymateb naturiol y corff. O amser y beichiogi, mae’r plentyn yn fwy na rhan o gorff y fam; y mae’n unigolyn.

Pen. 13, par. 5

29 TRALLWYSIAD GWAED

Trallwysiad gwaed yw triniaeth feddygol lle mae gwaed cyfan neu un o’i brif gyfansoddion yn cael ei drosglwyddo i’r corff. Gall fod yn waed y person ei hun sydd wedi cael ei storio neu’n waed rhywun arall. Prif gyfansoddion gwaed yw plasma, celloedd coch, celloedd gwyn, a phlatennau.

Pen. 13, par. 13

 30 DISGYBLU

Yn y Beibl, nid gair arall am gosbi yw disgyblu. Mae disgyblu yn cynnwys hyfforddi, dysgu, a chywiro. Nid yw Jehofa byth yn greulon nac yn gas wrth y rhai y mae’n eu disgyblu. (Diarhebion 4:1, 2) Mae Jehofa yn gosod esiampl hyfryd i rieni. Mae ei ddisgyblaeth mor effeithiol fel bod rhywun yn gallu dod i garu disgyblaeth. (Diarhebion 12:1) Mae Jehofa yn caru ei bobl ac felly yn eu hyfforddi. Y mae’n cywiro syniadau anghywir, ac yn helpu ei bobl i feddwl ac i ymddwyn yn y ffordd gywir. I rieni, mae disgyblu yn cynnwys helpu’r plant i ddeall pam y dylen nhw fod yn ufudd. Mae hefyd yn cynnwys dysgu’r plant i garu Jehofa a’i Air, ac i ddeall egwyddorion y Beibl.

Pen. 14, par. 13

31 CYTHREULIAID

Ysbrydion drwg anweladwy yw’r cythreuliaid. Mae ganddyn nhw bwerau goruwchnaturiol. Angylion drwg ydy’r cythreuliaid. Fe wnaethon nhw droi’n ddrwg a dod yn elynion i Dduw drwy fod yn anufudd iddo. (Genesis 6:2; Jwdas 6) Ymunon nhw â Satan yn ei wrthryfel yn erbyn Jehofa.—Deuteronomium 32:17; Luc 8:30; Actau 16:16; Iago 2:19.

Pen. 16, par. 4