Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

 PENNOD CHWECH

Beth Sy’n Digwydd ar ôl Inni Farw?

Beth Sy’n Digwydd ar ôl Inni Farw?

1-3. Pa gwestiynau mae pobl yn eu gofyn am farwolaeth, a pha atebion mae rhai crefyddau yn eu cynnig?

MAE’R Beibl yn addo y daw’r dydd pan “fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen.” (Datguddiad 21:4) Ym Mhennod 5, dysgon ni fod bywyd tragwyddol yn bosib oherwydd y pridwerth. Ond mae pobl yn dal i farw. (Pregethwr 9:5) Felly teg yw gofyn, beth sy’n digwydd ar ôl inni farw?

2 Mae’r ateb yn arbennig o bwysig pan gollwn ni rywun rydyn ni’n ei garu. Rydyn ni eisiau gwybod: Ble maen nhw wedi mynd? Ydyn nhw’n ein gwylio ni? A fedran nhw ein helpu ni? A fyddwn ni’n eu gweld nhw eto?

3 Mae crefyddau yn cynnig gwahanol atebion. Mae rhai yn dysgu bod pobl dda yn mynd i’r nefoedd a phobl ddrwg yn mynd i uffern. Mae rhai yn dweud bod pobl yn troi’n ysbrydion ac yn mynd i fyw gydag aelodau teulu sydd eisoes wedi marw. Ac mae eraill yn dweud y cewch eich ail-eni, naill ai’n berson neu’n anifail.

4. Beth mae crefyddau yn ei ddysgu ynglŷn â marwolaeth?

4 Mae’n ymddangos bod crefyddau yn dweud pethau gwahanol. Ond mae un syniad yn gyffredin iddyn nhw i gyd bron. Maen nhw’n dysgu bod rhan ohonon ni yn parhau i fyw ar ôl inni farw. A yw hynny’n wir?

 BETH SY’N DIGWYDD AR ÔL INNI FARW?

5, 6. Beth sy’n digwydd ar ôl inni farw?

5 Mae Jehofa yn gwybod y gwir, ac mae ef yn dweud bod marwolaeth yn rhoi terfyn ar ein bywyd. Gwrthwyneb bywyd yw marwolaeth. Felly pan fo rywun yn marw, nid yw ei deimladau a’i atgofion yn parhau i fyw yn rhywle arall. * Ar ôl inni farw ni allwn ni weld dim, na chlywed dim, ac ni allwn ni feddwl bellach.

6 Ysgrifennodd y Brenin Solomon: “Dydy’r meirw’n gwybod dim byd!Nid yw’r meirw yn gallu caru na chasáu, ac nid oes “dim cyfle i weithio na myfyrio, dim gwybodaeth na doethineb ym myd y meirw.” (Darllenwch Pregethwr 9:5, 6, 10.) Yn ôl y Beibl, pan fydd rhywun yn marw, mae ei gynlluniau yn darfod.—Salm 146:4, BCND.

BETH DDYWEDODD IESU AM FARWOLAETH?

Creodd Jehofa fodau dynol i fyw am byth ar y ddaear

7. Beth ddywedodd Iesu am farwolaeth?

7 Pan fu farw ei ffrind Lasarus, dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Mae ein ffrind Lasarus wedi syrthio i gysgu.” Ond nid oedd Iesu yn golygu bod Lasarus yn gorffwys. Esboniodd Iesu: “Mae Lasarus wedi marw.” (Ioan 11:11-14) Roedd Iesu yn cymharu marwolaeth â chwsg. Doedd Iesu ddim yn dweud bod Lasarus yn y nefoedd neu yng nghwmni aelodau eraill o’i deulu a oedd wedi marw. Ac ni ddywedodd fod Lasarus yn dioddef yn uffern nac yn cael ei ail-eni yn berson arall neu’n anifail. Roedd Lasarus fel petai mewn trymgwsg. Cymharodd Iesu farwolaeth â chwsg ar achlysur arall hefyd. Pan gododd Iesu ferch Jairus yn ôl yn fyw,  dywedodd Iesu: “Dydy hi ddim wedi marw—cysgu mae hi!”—Luc 8:52, 53.

8. Sut rydyn ni’n gwybod nad bwriad gwreiddiol Duw oedd i bobl farw?

8 Pan greodd Adda ac Efa, ai bwriad Duw oedd iddyn nhw farw yn y pen draw? Nage! Fe wnaeth Jehofa greu pobl i fod yn berffaith iach ac i fyw am byth. Pan greodd Duw fodau dynol, rhoddodd ynddyn nhw’r awydd am fywyd tragwyddol. (Pregethwr 3:11) Nid oes neb eisiau gweld ei blant yn heneiddio a marw, ac mae Jehofa yn teimlo’r un fath amdanon ni. Ond os yw Duw wedi ein creu ni i fyw am byth, pam rydyn ni’n marw?

 PAM RYDYN NI’N MARW?

9. Pam nad oedd gorchymyn Jehofa i Adda ac Efa yn afresymol?

9 Yng ngardd Eden, dywedodd Jehofa wrth Adda: “Cei fwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd, ond paid bwyta ffrwyth y goeden sy’n rhoi gwybodaeth am bopeth—da a drwg. Pan wnei di hynny byddi’n siŵr o farw.” (Genesis 2:9, 16, 17) Doedd dim byd anodd am y gorchymyn clir hwnnw, ac roedd gan Jehofa yr hawl i ddweud wrth Adda ac Efa beth sy’n dda a beth sy’n ddrwg. Drwy ufuddhau i Jehofa, bydden nhw’n dangos eu bod nhw’n parchu ei awdurdod. Bydden nhw hefyd yn dangos pa mor ddiolchgar oedden nhw am bopeth roedd Duw wedi ei roi iddyn nhw.

10, 11. (a) Sut gwnaeth Satan gamarwain Adda ac Efa? (b) Pam nad oes dim esgus dros yr hyn a wnaeth Adda ac Efa?

10 Gwaetha’r modd, dewisodd Adda ac Efa anufuddhau i Jehofa. Dywedodd Satan wrth Efa: “Ydy Duw wir wedi dweud, ‘Peidiwch bwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd’?” Atebodd Efa: “Na! . . . dŷn ni’n cael bwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd. Dim ond am ffrwyth y goeden yng nghanol yr ardd y dwedodd Duw, ‘Peidiwch bwyta ei ffrwyth hi a pheidiwch ei chyffwrdd hi, rhag i chi farw.’”—Genesis 3:1-3.

11 Yna dywedodd Satan: “Fyddwch chi ddim yn marw. Mae Duw yn gwybod y byddwch chi’n gweld popeth yn glir pan wnewch chi fwyta ohoni. Byddwch chi’n gwybod am bopeth—da a drwg—fel Duw ei hun.” (Genesis 3:4-6) Roedd Satan am i Efa gredu y gallai benderfynu drosti hi ei hun ynglŷn â da a drwg. Ar yr un pryd, dywedodd gelwydd am beth fyddai’n digwydd petai hi’n anufuddhau. Dywedodd Satan na fyddai Efa yn marw, ac felly bwytaodd Efa y ffrwyth a rhoi darn i’w  gŵr. Roedd Adda ac Efa yn gwybod bod Jehofa wedi dweud wrthyn nhw am beidio â bwyta’r ffrwyth. Drwy fwyta, fe ddewison nhw anufuddhau i orchymyn clir a rhesymol. Dangoson nhw nad oedden nhw’n parchu eu Tad nefol cariadus. Nid oes dim esgus dros yr hyn a wnaethon nhw!

12. Pam roedd dewis Adda ac Efa mor dorcalonnus?

12 Dyna siom fod ein rhieni cyntaf yn dangos y fath ddiffyg parch tuag at eu Creawdwr. Sut byddech chi’n teimlo petaech chi wedi gweithio’n galed i fagu plant a oedd wedyn yn troi’n eich erbyn a gwneud yr union beth roeddech chi wedi gofyn iddyn nhw beidio â’i wneud? Oni fyddech chi’n torri eich calon?

Daeth Adda o’r pridd, ac aeth yn ôl i’r pridd

13. Beth roedd Jehofa yn ei feddwl pan ddywedodd “byddi’n mynd yn ôl i’r pridd”?

13 Pan ddewisodd Adda ac Efa anufuddhau i Dduw, fe gollon nhw’r cyfle i fyw am byth. Dywedodd Jehofa wrth Adda: “Pridd wyt ti, a byddi’n mynd yn ôl i’r pridd.” (Darllenwch Genesis 3:19.) Byddai Adda yn troi’n bridd eto, fel pe na fyddai erioed wedi ei greu. (Genesis 2:7) Ar ôl i Adda bechu, bu farw. Nid oedd yn bod bellach.

14. Pam rydyn ni’n marw?

14 Petai Adda ac Efa wedi bod yn ufudd i Dduw, fe fydden nhw’n dal yn fyw heddiw. Ond trwy anufuddhau iddo, fe wnaethon nhw bechu, ac yn y pen draw, buon  nhw farw. Mae pechod yn debyg i afiechyd ofnadwy rydyn ni wedi ei etifeddu gan ein rhieni cyntaf. Cael ein geni yn bechaduriaid ydyn ni, a dyna pam rydyn ni’n marw. (Rhufeiniaid 5:12) Ond nid dyna oedd bwriad Duw ar gyfer bodau dynol. Nid oedd Duw erioed yn dymuno i bobl farw, a “gelyn” yw marwolaeth yn ôl y Beibl.—1 Corinthiaid 15:26.

Y GWIRIONEDD YN EIN RHYDDHAU

15. Sut mae gwybod y gwir am farwolaeth yn ein gollwng yn rhydd?

15 Mae gwybod y gwir am farwolaeth yn ein rhyddhau oddi wrth syniadau anghywir. Mae’r Beibl yn dysgu nad yw’r meirw yn teimlo poen na thristwch. Ni allwn siarad â nhw na’u helpu. Ac ni allan nhw siarad â ninnau na’n helpu, na gwneud niwed inni chwaith. Felly nid oes rheswm i’w hofni. Sut bynnag, mae llawer o grefyddau yn dweud bod y meirw yn fyw a bod modd eu helpu drwy, er enghraifft, dalu i offeiriaid gynnal offerennau dros y meirw. Ond mae gwybod y gwir am farwolaeth yn golygu na fyddwn ni’n cael ein twyllo gan y fath gelwyddau.

16. Pa gelwydd mae llawer o grefyddau yn ei ddysgu am y meirw?

16 Mae Satan yn defnyddio gau grefydd i ddweud celwyddau a gwneud inni gredu bod y meirw yn dal yn fyw. Er enghraifft, mae rhai crefyddau’n dysgu bod rhan ohonon ni’n parhau i fyw yn rhywle arall ar ôl inni farw. Ai dyna beth mae eich crefydd chi yn ei ddweud, neu a yw’n dysgu beth mae’r Beibl yn ei ddweud am y meirw? Mae Satan yn defnyddio celwyddau i wneud i bobl gefnu ar Jehofa.

17. Pam mae’r syniad bod pobl yn llosgi yn uffern yn sarhad ar Jehofa?

17 Mae dysgeidiaeth rhai crefyddau yn ffiaidd. Er  enghraifft, mae rhai yn dysgu bod pobl ddrwg yn llosgi am byth yn uffern. Sarhad ar Jehofa yw’r celwydd hwn. Ni fyddai byth yn gadael i bobl ddioddef fel hyn! (Darllenwch 1 Ioan 4:8.) Sut byddech chi’n teimlo am rywun sy’n cosbi plentyn drwy losgi ei ddwylo yn y tân? Fe fyddech chi’n meddwl ei fod yn hynod o greulon! Yn sicr fyddech chi ddim eisiau dod i’w adnabod. A dyna’n union fel mae Satan eisiau inni deimlo am Jehofa!

18. Pam na ddylen ni ofni’r meirw?

18 Mae rhai crefyddau yn dweud bod pobl yn troi’n ysbrydion ar ôl iddyn nhw farw. Maen nhw’n dysgu y dylen ni barchu neu hyd yn oed ofni ysbrydion sy’n gallu bod yn ffrindiau pwerus neu’n elynion arswydus. Mae llawer yn coelio’r celwydd hwnnw. Maen nhw’n ofni’r meirw, ac felly yn eu haddoli nhw yn lle addoli Jehofa. Ond nid yw’r meirw yn gallu teimlo dim cofiwch, felly nid oes rheswm inni eu hofni. Jehofa yw ein Creawdwr. Ef yw’r Gwir Dduw, yr unig un y dylen ni ei addoli.—Datguddiad 4:11.

19. Sut mae gwybod y gwir am farwolaeth yn ein helpu?

19 Mae gwybod y gwir am farwolaeth yn ein rhyddhau oddi wrth gelwyddau crefyddol. Ac mae’r gwirionedd hwn yn ein helpu ni i ddeall yr addewidion gwych y mae Jehofa wedi eu gwneud am ein bywydau ac am y dyfodol.

20. Beth fyddwn ni’n ei ddysgu yn y bennod nesaf?

20 Amser maith yn ôl, gofynnodd un o weision Duw o’r enw Job: “Ar ôl i rywun farw, fydd e’n cael byw eto?” (Job 14:14) A yw’n bosib i rywun sydd wedi marw ddod yn ôl yn fyw? Mae ateb Duw yn y Beibl yn gyffrous. Byddwn yn darllen amdano yn y bennod nesaf.

^ Par. 5 Mae rhai yn credu bod enaid neu ysbryd yn parhau i fyw ar ôl i rywun farw. Am fwy o wybodaeth, gweler Ôl-nodiadau 17 ac 18.