Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

Gwyddoniaeth a Llyfr Genesis

Gwyddoniaeth a Llyfr Genesis

Mae llawer yn dweud bod gwyddoniaeth yn gwrthbrofi hanes y creu yn y Beibl. Sut bynnag, does dim anghytundeb rhwng gwyddoniaeth a’r Beibl. Mae’r gwir wrthdaro rhwng gwyddoniaeth a daliadau Ffwndamentalwyr Cristnogol. Mae rhai carfannau crefyddol yn mynnu bod y Beibl yn dysgu bod Duw wedi creu’r holl fydysawd mewn chwe diwrnod o bedair awr ar hugain, a hynny tua deng mil o flynyddoedd yn ôl.

Ond dydy’r Beibl ddim yn ategu’r fath syniad. Petai’r Beibl yn dweud hyn, fe fyddai darganfyddiadau gwyddonol y can mlynedd diwethaf yn rhoi rheswm da inni amau ei gywirdeb. Ond, bydd astudiaeth fanwl yn dangos nad yw’r Beibl yn anghytuno â’r ffeithiau gwyddonol. Dyna pam dydy Tystion Jehofa ddim yn cyd-weld â Ffwndamentalwyr Cristnogol na llawer o greadyddion eraill. Beth, felly, mae’r Beibl yn ei wir ddysgu?

Dydy llyfr Genesis ddim yn dysgu bod y ddaear a’r bydysawd wedi eu creu mewn chwe diwrnod pedair awr ar hugain a hynny ond ychydig o filoedd o flynyddoedd yn ôl

Pryd Roedd “Y Dechrau Cyntaf”?

Mae geiriau cyntaf llyfr Genesis yn bwerus ac yn syml: “Ar y dechrau cyntaf, dyma Duw yn creu y bydysawd a’r ddaear.” (Genesis 1:1) Barn nifer o ysgolheigion y Beibl yw bod y geiriau hyn yn disgrifio gweithred a ddigwyddodd cyn y dyddiau creu sy’n cael eu disgrifio o adnod 3 ymlaen. Mae hyn yn hynod o arwyddocaol. Yn ôl geiriau agoriadol y Beibl, roedd y bydysawd, gan gynnwys y Ddaear, yn bodoli am gyfnod amhenodol cyn i’r dyddiau creu ddechrau.

Mae daearegwyr yn amcangyfrif bod y ddaear wedi bodoli ers 4 biliwn o flynyddoedd, ac mae seryddwyr yn dweud y gall oed y bydysawd fod cymaint â 15 biliwn o flynyddoedd. Ydy’r ffigurau hyn, neu unrhyw amcangyfrifon newydd, yn gwrth-ddweud Genesis 1:1? Nac ydyn. Nid yw’r Beibl yn dweud yn benodol beth yw oed “y bydysawd a’r ddaear.” Does dim dadl yma rhwng gwyddoniaeth a’r Beibl.

Pa Mor Hir Oedd y Dyddiau Creu?

Ai diwrnodau pedair awr ar hugain oedd y dyddiau creu? Gan fod Moses, ysgrifennwr Genesis, yn cyfeirio at y dydd a ddilynodd y chwe dydd creu fel patrwm ar gyfer y Saboth wythnosol, mae rhai’n dadlau bod y dyddiau creu i gyd yn gorfod bod yn bedair awr ar hugain o hyd. (Exodus 20:11) Ydy geiriad Genesis yn cefnogi’r safbwynt hwn?

Nac ydy. Gall y gair Hebraeg a gyfieithir “diwrnod” olygu cyfnodau sy’n  amrywio o ran hyd, ac nid cyfnodau o bedair awr ar hugain yn unig. Er enghraifft, wrth grynhoi gwaith creadigol Duw, mae Moses yn cyfeirio at y chwe diwrnod creu fel un dydd. (Genesis 2:4, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Ar ben hynny, ar y diwrnod creu cyntaf, “rhoddodd Duw yr enw ‘dydd’ i’r golau a’r enw ‘nos’ i’r tywyllwch.” (Genesis 1:5) Yma, dim ond rhan o’r pedair awr ar hugain a elwir yn ‘ddydd.’ Yn bendant, nid oes unrhyw sail Feiblaidd i’r honiad mai diwrnodau pedair awr ar hugain oedd y dyddiau creu.

Pa mor hir, felly, oedd y dyddiau creu? Dydy’r Beibl ddim yn dweud, ond mae geiriad Genesis penodau 1 a 2 yn dangos bod y cyfnodau dan sylw yn rhai hirfaith.

Chwe Chyfnod Creu

Ysgrifennodd Moses hanes y creu yn Hebraeg, o safbwynt rhywun sy’n sefyll ar y ddaear. Mae’r ffeithiau hyn, ynghyd â’r wybodaeth fod y bydysawd yn bodoli cyn dechrau’r cyfnodau, neu’r diwrnodau, creu yn helpu i dorri’r ddadl ynglŷn â hanes y creu. Sut felly?

Roedd rhai digwyddiadau a ddechreuodd ar un “diwrnod” yn llifo i mewn i un neu fwy o’r dyddiau canlynol

O edrych yn ofalus ar yr hanes yn Genesis, mae’n amlwg fod yr hyn a ddechreuodd ar un “diwrnod” yn ymestyn dros un neu fwy o’r dyddiau canlynol. Er enghraifft, roedd yr haul yn bodoli cyn dechrau’r “diwrnod” creu cyntaf, ond rywsut doedd y goleuni ddim yn cyrraedd wyneb y ddaear, efallai oherwydd cymylau trwchus. (Job 38:9) Yn ystod y “diwrnod” cyntaf, dechreuodd y llen hon glirio gan adael i oleuni tryledol dreiddio drwy’r atmosffer. *

Ar yr ail “ddiwrnod,” mae’n ymddangos bod yr atmosffer yn dal i glirio, gan greu gofod rhwng y cymylau trwchus uwchben a’r môr islaw. Ar y pedwerydd “diwrnod,” roedd yr atmosffer wedi clirio’n raddol nes bod yr haul a’r lleuad yn ymddangos fel “goleuadau yn yr awyr.” (Genesis 1:14-16) Hynny yw, o safbwynt rhywun ar y ddaear, fe ddaeth yn bosibl gweld yr haul a’r lleuad. Fe ddigwyddodd yn raddol.

Yn ôl llyfr Genesis, wrth i’r atmosffer  barhau i glirio, dechreuodd “adar” ymddangos ar y pumed “diwrnod.” Gall y gair Hebraeg a gyfieithir “adar” yma gynnwys trychfilod sy’n hedfan a chreaduriaid gydag adenydd o groen tenau.

Mae naratif y Beibl yn caniatáu’r posibilrwydd fod rhai o brif ddigwyddiadau’r dyddiau creu wedi digwydd yn raddol yn hytrach nag yn sydyn, ac efallai bod rhai wedi ymestyn dros y dyddiau canlynol. *

Yn Ôl Eu Rhywogaeth

A yw’r ffaith fod planhigion ac anifeiliaid yn ymddangos yn raddol yn awgrymu bod Duw wedi defnyddio esblygiad i greu’r holl amrywiaeth o bethau byw? Nac ydy. Dywed y Beibl yn glir fod Duw wedi creu pob un o’r rhywogaethau neu fathau sylfaenol o blanhigion ac anifeiliaid. (Genesis 1:11, 12, 20-25) A oedd y rhywogaethau gwreiddiol hyn wedi eu creu gyda’r gallu i addasu i newidiadau yn yr amgylchedd? Beth yw  terfyn rhywogaeth? Dydy’r Beibl ddim yn dweud. Sut bynnag, y mae’n dweud bod creaduriaid byw wedi “heigio yn ôl eu rhywogaeth.” (Genesis 1:21, BCND) Mae hyn yn awgrymu bod terfyn ar yr amrywiaeth a all ddigwydd o fewn rhywogaeth. Mae ymchwil fodern ynghyd â’r cofnod ffosil yn ategu’r syniad fod categorïau sylfaenol planhigion ac anifeiliaid wedi aros fwy neu lai’r un fath dros gyfnodau maith.

Mae ymchwil fodern yn cadarnhau bod popeth byw yn atgenhedlu “yn ôl eu rhywogaeth”

Yn groes i’r hyn y mae rhai ffwndamentalwyr crefyddol yn ei honni, dydy Genesis ddim yn dweud bod y bydysawd, gan gynnwys y ddaear a phopeth arni, wedi ei greu mewn cyfnod byr yn y gorffennol cymharol ddiweddar. I’r gwrthwyneb, mae agweddau ar ddisgrifiad Genesis o’r ffordd y cafodd y bydysawd ei greu a’r ffordd yr ymddangosodd bywyd ar y ddaear yn cytuno â darganfyddiadau gwyddonol diweddar.

Oherwydd eu daliadau athronyddol, mae llawer o wyddonwyr yn gwrthod derbyn datganiad y Beibl fod Duw wedi creu pob peth. Ond diddorol yw nodi bod Moses, mewn llyfr mor hen â Genesis, wedi ysgrifennu bod gan y bydysawd ddechreuad a bod bywyd wedi ymddangos fesul cam dros gyfnodau o amser. Sut roedd Moses yn gallu bod mor wyddonol gywir ac yntau’n byw ryw 3,500 o flynyddoedd yn ôl? Dim ond un esboniad rhesymegol sydd. Yn sicr, gallai’r Un sydd â’r nerth a’r doethineb i greu’r nefoedd a’r ddaear fod wedi rhoi gwybodaeth wyddonol gywir i Moses. Mae hyn yn ategu honiad y Beibl mai “Duw sydd wedi ysbrydoli’r ysgrifau sanctaidd.” *2 Timotheus 3:16.

Efallai byddwch yn gofyn, oes gwahaniaeth beth mae rhywun yn ei gredu ynglŷn â hanes y creu yn y Beibl? Bydd yr adran nesaf yn ateb y cwestiwn hwn.

^ Par. 13 Yn y disgrifiad o’r hyn a ddigwyddodd ar y “diwrnod” cyntaf, ceir y gair Hebraeg ’ôr, sef goleuni, ond ar y pedwerydd “diwrnod” ceir y gair ma·’ôrʹ, sy’n cyfeirio at ffynhonnell y goleuni, sef y golau.

^ Par. 16 Er enghraifft, ar y chweched “diwrnod” creu, gorchymyn Duw i fodau dynol oedd: “Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi.” (Genesis 1:28, 31) Ond eto, ni ddechreuodd hynny tan y “diwrnod” canlynol.—Genesis 2:2.

^ Par. 20 Am fwy o wybodaeth ar y pwnc hwn, gweler fideo byr Sut Gallwn Ni Fod yn Sicr Fod y Beibl yn Wir? oddi ar jw.org.