Mae Esra yn paratoi i ddychwelyd i Jerwsalem

7:6, 22; 8:26, 27

  • Cafodd Esra ganiatâd gan y Brenin Artaxerxes i fynd yn ôl i Jerwsalem er mwyn adfer addoliad Jehofa

  • Cafodd Esra “y cwbl a ddymunai” gan y brenin ar gyfer tŷ Jehofa—aur, arian, gwenith, gwin, olew, a halen. Byddai hyn yn werth mwy na £64,000,000 heddiw

Ymddiriedodd Esra yn Jehofa i gadw Ei weision yn ddiogel

7:13; 8:21-23

  • Byddai’r daith yn ôl i Jerwsalem yn un anodd

  • Roedd un llwybr posibl yn daith o bron i 1,000 o filltiroedd trwy ardaloedd peryglus

  • Cymerodd y daith tua 4 mis

  • Roedd angen ffydd, dewrder, a sêl dros wir addoliad ar y rhai a aeth yn ôl

CYMERODD ESRA . . .

Aur ac arian yn pwyso mwy na 750 talent neu gymaint â thri eliffant Affrica gwrywaidd!

YR HER A WYNEBODD Y RHAI A AETH YN ÔL . . .

Ymosodwyr, anialwch, ac anifeiliaid peryglus