Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

 TRYSORAU O AIR DUW | DIARHEBION 12-16

Mae Doethineb yn Well Nag Aur

Mae Doethineb yn Well Nag Aur
GWELD

Pam mae doethineb dwyfol mor werthfawr? Mae’n achub ei berchnogion rhag ffyrdd drwg ac yn eu cadw’n fyw. Mae gan ddoethineb effaith bositif, ar eu hagwedd, eu sgwrs, a’u gweithredoedd.

Mae doethineb yn ein gwarchod rhag balchder

16:18, 19

  • Mae person doeth yn cydnabod mai Jehofa yw ffynhonnell pob doethineb

  • Mae’r rhai sy’n cael llwyddiant neu’n derbyn mwy o gyfrifoldeb yn gorfod gwarchod eu hunain rhag balchder neu fod yn ffroenuchel

Mae doethineb yn ein hannog i siarad yn adeiladol

16:21-24

  • Mae person doeth yn meddwl cyn siarad ac yn gweld y da mewn eraill ac yn eu canmol

  • Mae geiriau doeth yn dwyn perswâd ac yn felys fel mêl, dydyn nhw ddim yn dwrdio nac yn rhy barod i ddadlau