Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

 TRYSORAU O AIR DUW | ESEIA 58-62

Cyhoeddi Blwyddyn Ffafr Jehofa

Cyhoeddi Blwyddyn Ffafr Jehofa

Nid yw “blwyddyn ffafr yr ARGLWYDD” yn un llythrennol

61:1, 2

  • Cyfnod pan fydd Jehofa yn rhoi cyfle i’r addfwyn ymateb i’w gyhoeddiad o ryddid

  • Yn y ganrif gyntaf, dechreuodd y flwyddyn ffafr wrth i Iesu ddechrau ar ei weinidogaeth yn 29 OG a pharhaodd hyd y “diwrnod pan fydd Duw yn dial” pan gafodd Jerwsalem ei ddinistrio yn 70 OG

  • Yn ein hamser ni, dechreuodd y flwyddyn ffafr gyda Iesu’n cael ei orseddu yn y nef ym 1914 a bydd yn dod i’w therfyn gyda’r gorthrymder mawr

Mae Jehofa yn bendithio ei bobl gyda “coed hardd” (“prennau cyfiawnder,” BCND)

61:3, 4

  • Mae coed talaf y byd fel arfer yn tyfu mewn coedwigoedd, lle mae pob coeden yn cynnal y llall

  • Mae matiau mawr o wreiddiau yn aml yn ymblethu yn ei gilydd, fel angor i’r coed allu wrthsefyll stormydd

  • Mae coed uchel yn rhoi cysgod amddiffynnol i goed ifanc, a chwymp y dail sy’n rhoi maeth i’r pridd oddi tanyn nhw

Mae pob aelod o’r gynulleidfa Gristnogol fyd-eang yn elwa ar y gynhaliaeth a’r amddiffynfa sydd i’w cael gan y “prennau cyfiawnder,” y gweddill eneiniog