“Caiff y rhai sy’n ei ofni gyfeillach yr ARGLWYDD.”SALM 25:14.

CANEUON: 106, 118

1-3. (a) Sut y gwyddon ni fod cyfeillgarwch â Jehofa yn bosibl? (b) Pa unigolion byddwn ni’n eu trafod yn yr erthygl hon?

YN Y Beibl, gelwir Abraham yn ffrind i Dduw dair gwaith. (2 Cronicl 20:7; Eseia 41:8; Iago 2:23, beibl.net) Dim ond Abraham a alwyd yn ffrind i Dduw yng Ngair Duw. Ydy hynny’n golygu mai ef yw’r unig berson sydd wedi bod yn ffrind i Jehofa erioed? Nac ydy. Mae’r Beibl yn dweud y gall pob un ohonon ni gael y fraint honno.

2 Mae’r Beibl yn llawn hanesion dynion a merched ffyddlon a oedd yn ofni Jehofa ac yn ffrindiau agos iddo. (Darllenwch Salm 25:14.) Maen nhw’n rhan o’r dorf o dystion y soniwyd amdanyn nhw gan Paul. Roedd pob un o’r rhain yn ffrindiau i Dduw.—Hebreaid 12:1.

3 Gad inni edrych yn fanylach ar dri o ffrindiau Jehofa yn y Beibl: (1) Ruth, gwraig weddw ffyddlon o Moab, (2) Heseceia, un o frenhinoedd ffyddlon Jwda, a (3) Mair, mam ostyngedig Iesu. Beth gallwn ni ei ddysgu o’r ffordd y daethon nhw’n ffrindiau i Dduw?

 ROEDD HI’N CARU JEHOFA

4, 5. Pa benderfyniad roedd rhaid i Ruth ei wneud, a pham roedd yn benderfyniad anodd? (Gweler y llun agoriadol.)

4 Roedd Naomi a’i dwy ferch yng nghyfraith, Ruth ac Orpa, yn cerdded ar daith bell o Moab i Israel. Ar y ffordd, penderfynodd Orpa ddychwelyd i Moab. Ond roedd Naomi’n benderfynol o fynd adref i Israel, gwlad ei genedigaeth. Beth byddai Ruth yn ei wneud? Roedd ganddi benderfyniad anodd. A fyddai hi’n mynd yn ôl i Moab a’i theulu, neu’n dewis aros gyda Naomi, ei mam yng nghyfraith, a theithio i Fethlehem?—Ruth 1:1-8, 14.

5 Roedd teulu Ruth yn byw ym Moab. Byddai hi’n gallu mynd yn ôl atyn nhw, a byddan nhw’n debygol o ofalu amdani hi. Roedd hi’n gyfarwydd â’r bobl, yr iaith, a’r diwylliant. Nid oedd Naomi yn gallu addo manteision tebyg ym Methlehem. Ac roedd Naomi yn poeni na fyddai Ruth yn cael cartref a gŵr. Felly, dywedodd Naomi wrthi am fynd yn ôl i Moab. Fel y gwelon ni, aeth Orpa “yn ôl at ei phobl a’i duw.” (Ruth 1:9-15) Ond penderfynodd Ruth beidio â mynd yn ôl i’w phobl a’u gau dduwiau.

6. (a) Pa benderfyniad doeth a wnaeth Ruth? (b) Pam dywedodd Boas fod Ruth wedi ceisio lloches o dan adenydd Jehofa?

6 Mae’n debyg fod Ruth wedi dysgu am Jehofa oddi wrth ei gŵr neu oddi wrth Naomi. Dysgodd Ruth fod Jehofa yn wahanol i dduwiau Moab. Roedd hi’n caru Jehofa ac yn gwybod ei fod yn haeddu ei chariad a’i haddoliad. Felly gwnaeth Ruth benderfyniad doeth. Dywedodd hi wrth Naomi: “Dy bobl di fydd fy mhobl i, a’th Dduw di fy Nuw innau.” (Ruth 1:16) Mae cariad Ruth tuag at Naomi yn cyffwrdd â’n calonnau. Ond yr hyn sy’n fwy trawiadol yw cariad Ruth tuag at Jehofa. Sylwodd Boas ar hyn hefyd a’i chanmol am iddi geisio lloches dan adenydd Jehofa. (Darllenwch Ruth 2:12.) Mae geiriau Boas yn ein hatgoffa o gyw yn chwilio am loches o dan adenydd ei riant. (Salm 36:7; 91:1-4) Mewn ffordd debyg, rhoddodd Jehofa loches i Ruth a’i gwobrwyo oherwydd ei ffydd. Nid oedd Ruth yn difaru mynd gyda Naomi.

7. Beth all helpu’r rhai sy’n dal yn ôl rhag cysegru eu bywydau i Jehofa?

7 Mae llawer o bobl yn dysgu am Jehofa ond nid ydyn nhw’n chwilio am loches ynddo. Maen nhw’n dal yn ôl rhag ymgysegru iddo a chael eu bedyddio. Os wyt ti’n teimlo felly, beth yw dy resymau dros ddal yn ôl. Mae pawb yn gwasanaethu rhyw fath o dduw. (Josua 24:15) Y penderfyniad doeth yw gwasanaethu’r gwir Dduw. Drwy ymgysegru i Jehofa, rwyt ti’n dangos bod Jehofa yn noddfa iti. A bydd Duw yn dy helpu i ddal ati i’w wasanaethu er gwaethaf unrhyw broblemau sy’n codi. Dyna a wnaeth ar gyfer Ruth.

GLYNODD YN DYNN WRTH JEHOFA

8. Disgrifia gefndir Heseceia.

8 Roedd cefndir Heseceia yn hollol wahanol i gefndir Ruth. Roedd yn rhan o genedl wedi ei chysegru i Dduw. Ond ni wnaeth yr Israeliaid i gyd aros  yn ffyddlon. Roedd tad Heseceia, y Brenin Ahas, yn ddrwg. Ni pharchodd deml Duw a pherswadiodd y bobl i addoli gau dduwiau. Llosgodd Ahas yn fyw rai o frodyr Heseceia yn offrwm i dduw paganaidd. Cafodd Heseceia fagwraeth ofnadwy!—2 Brenhinoedd 16:2-4, 10-17; 2 Cronicl 28:1-3.

9, 10. (a) Pam y gallai Heseceia fod wedi troi’n chwerw? (b) Pam na ddylen ni droi’n chwerw tuag at Dduw? (c) Pam nad yw’r math o berson rydyn ni yn dibynnu ar ein magwraeth?

9 Gallai esiampl Ahas fod wedi achosi i’w fab Heseceia fod yn ddig wrth Jehofa neu droi’n chwerw. Heddiw, mae rhai sydd wedi dioddef llawer llai na Heseceia yn teimlo bod ganddyn nhw reswm da dros ddal dig yn erbyn Jehofa neu dros fod yn chwerw tuag at ei gyfundrefn. (Diarhebion 19:3) Mae eraill yn teimlo y gall magwraeth anodd achosi iddyn nhw gael bywyd gwael neu i ailadrodd camgymeriadau eu rhieni. (Eseciel 18:2, 3) Ond ydy hynny’n wir?

10 Mae hanes Heseceia yn profi mai na yw’r ateb i’r cwestiwn hwnnw! Nid oes byth reswm da dros ddal dig yn erbyn Jehofa. Nid yw’n achosi i bethau drwg ddigwydd i bobl. (Job 34:10) Mae’n wir fod rhieni yn gallu dysgu i’w plant wneud yr hyn sy’n dda neu’r hyn sy’n ddrwg. (Diarhebion 22:6; Colosiaid 3:21) Ond nid yw hynny’n golygu bod ein magwraeth yn gorfod llunio’r math o berson yr ydyn ni. Pam? Oherwydd bod Jehofa wedi rhoi ewyllys rhydd inni, sy’n golygu y gallwn ni ddewis gwneud yr hyn sy’n dda neu’r hyn sy’n ddrwg. (Deuteronomium 30:19) Sut defnyddiodd Heseceia ei ewyllys rhydd?

Mae llawer o bobl ifanc yn derbyn y gwirionedd er gwaethaf eu magwraeth (Gweler paragraffau 9, 10)

11. Pam roedd Heseceia yn un o frenhinoedd gorau Jwda?

11 Er bod ei dad yn un o frenhinoedd gwaethaf Jwda, roedd Heseceia yn un o’r goreuon. (Darllenwch 2 Brenhinoedd 18:5, 6.) Dewisodd beidio â dilyn esiampl ddrwg ei dad. Yn hytrach, dewisodd wrando ar broffwydi Jehofa, fel Eseia, Micha, a Hosea. Gwrandawodd yn astud ar eu cyngor a’u harweiniad. Roedd hynny’n ei ysgogi i  ddatrys llawer o’r problemau a achosodd ei dad. Fe wnaeth lanhau’r deml, gofyn am faddeuant dros bechodau’r bobl, a dinistrio’r delwau drwy’r wlad i gyd. (2 Cronicl 29:1-11, 18-24; 31:1) Yn hwyrach ymlaen, pan wnaeth Senacherib, brenin Asyria, fygwth ymosod ar Jerwsalem, dangosodd Heseceia fod ganddo lawer o ffydd a dewrder. Roedd yn dibynnu ar Jehofa i’w amddiffyn ac yn atgyfnerthu ei bobl. (2 Cronicl 32:7, 8) Ar un adeg, trodd Heseceia’n falch, ond ar ôl i Jehofa ei gywiro, fe ildiodd yn ostyngedig. (2 Cronicl 32:24-26) Yn amlwg, mae esiampl Heseceia yn un werth ei dilyn. Ni chaniataodd i’w fagwraeth ddifetha ei fywyd. Yn lle hynny, fe ddangosodd ei fod yn ffrind i Jehofa.

12. Fel Heseceia, sut mae llawer o bobl heddiw wedi profi eu bod nhw’n ffrindiau i Jehofa?

12 Mae’r byd sydd ohoni heddiw yn greulon ac yn ddigariad, felly mae llawer o blant yn tyfu i fyny heb rieni i’w caru a gofalu amdanyn nhw. (2 Timotheus 3:1-5) Er bod llawer o Gristnogion wedi cael magwraeth anodd, maen nhw wedi dewis meithrin cyfeillgarwch â Jehofa. Fel Heseceia, dydyn nhw ddim wedi caniatáu i’w magwraeth siapio eu dyfodol. Mae Duw wedi rhoi ewyllys rhydd inni, ac fe allwn ninnau hefyd ddewis ei wasanaethu a’i glodfori, fel y gwnaeth Heseceia.

DYMA LAWFORWYN JEHOFA!

13, 14. Pam efallai roedd Mair yn teimlo bod yr aseiniad yn ormod iddi, ond beth oedd ymateb Mair i eiriau Gabriel?

13 Lawer o flynyddoedd ar ôl cyfnod Heseceia, cafodd dynes ifanc ostyngedig o’r enw Mair aseiniad unigryw oherwydd ei chyfeillgarwch arbennig â Jehofa. Byddai hi’n dod yn feichiog, ac yna’n magu Mab Duw! Mae’n rhaid bod Jehofa wedi caru Mair ac ymddiried ynddi i roi’r fath anrhydedd iddi. Ond, beth oedd ei hymateb i’r aseiniad hwn?

Dyma lawforwyn Jehofa! (Gweler paragraffau 13, 14)

14 Soniwyd yn aml am yr anrhydedd a gafodd Mair. Ond beth efallai oedd rhai o’i phryderon? Er enghraifft, dywedodd yr angel Gabriel y byddai hi’n dod yn feichiog heb gael cyfathrach rywiol â dyn. Ond ni wnaeth Gabriel gynnig esbonio wrth deulu Mair na’i chymdogion sut y byddai hi’n dod yn feichiog. Beth bydden nhw’n ei feddwl? Sut byddai hi’n egluro i Joseff nad oedd hi wedi bod yn anffyddlon iddo? Hefyd, roedd ganddi’r cyfrifoldeb enfawr o fagu Mab Duw ar y ddaear! Ni wyddwn ni am holl bryderon Mair, ond rydyn ni yn gwybod am  yr hyn a wnaeth hi ar ôl gwrando ar Gabriel. Dywedodd hi: “Dyma lawforwyn yr Arglwydd; bydded i mi yn ôl dy air di.”—Luc 1:26-38.

15. Pam roedd ffydd Mair yn rhyfeddol?

15 Roedd ffydd Mair yn aruthrol! Roedd hi’n barod i wneud beth bynnag y gofynnwyd iddi fel llawforwyn. Roedd hi’n gwybod y byddai Jehofa yn gofalu amdani ac yn ei hamddiffyn. Pam roedd ffydd Mair mor gref? Dydyn ni ddim yn cael ein geni gyda ffydd. Ond, mae’n bosibl inni feithrin ffydd a gofyn i Dduw fendithio ein hymdrechion. (Galatiaid 5:22; Effesiaid 2:8) Gweithiodd Mair yn galed i gryfhau ei ffydd. Sut rydyn ni’n gwybod hynny? Gad inni drafod y ffordd roedd Mair yn gwrando, a’r hyn roedd hi’n siarad amdano.

16. Beth sy’n dangos bod Mair yn gwrando’n astud?

16 Sut gwrandawodd Mair? Dywed y Beibl inni fod “yn gyflym i wrando, ond yn araf i lefaru.” (Iago 1:19) Un dda am wrando oedd Mair. Dangosa’r Beibl ei bod hi’n gwrando’n astud, yn enwedig ar y pethau roedd hi’n eu dysgu am Jehofa. Myfyriodd ar y pethau pwysig hyn. Adeg geni Iesu, gwrandawodd Mair ar y bugeiliaid yn sôn am neges oddi wrth angel, a gwrandawodd ar Iesu pan ddywedodd rywbeth syfrdanol wrthi pan oedd ond yn 12 oed. Ar y ddau achlysur hynny, roedd Mair yn gwrando, yn cofio, ac yn meddwl yn ofalus am yr hyn yr oedd hi wedi ei glywed.—Darllenwch Luc 2:16-19, 49, 51.

17. Beth mae geiriau Mair yn ei ddatgelu amdani?

17 Beth roedd Mair yn siarad amdano? Dydy’r Beibl ddim yn cynnwys llawer o eiriau Mair. Yr esiampl orau sydd gennyn ni yw Luc 1:46-55. Mae’r geiriau hyn yn dangos bod Mair yn adnabod yr Ysgrythurau Hebraeg yn dda iawn. Sut felly? Mae geiriau Mair yn debyg i weddi Hanna, mam Samuel. (1 Samuel 2:1-10) Mae’n ymddangos bod Mair wedi dyfynnu’r Ysgrythurau tua 20 o weithiau yn yr esiampl hon. Mae’n amlwg ei bod hi’n hoff o siarad am y gwirioneddau a ddysgodd hi oddi wrth ei Ffrind gorau, Jehofa.

18. Sut gallwn ni efelychu ffydd Mair?

18 Fel Mair, mae’n bosibl y byddwn ninnau weithiau yn cael aseiniad gan Jehofa sydd, ar y wyneb, yn rhy anodd inni. Gad inni ddilyn ei hesiampl drwy dderbyn yr aseiniad yn ostyngedig gan wybod y bydd Jehofa yn ein helpu. Hefyd, gallwn efelychu ffydd Mair drwy wrando’n astud ar Jehofa a myfyrio ar yr hyn rydyn ni wedi ei ddysgu amdano ac ar ei bwrpas. Wedyn, gallwn ni sôn wrth eraill am y pethau hyn.—Salm 77:11, 12; Luc 8:18; Rhufeiniaid 10:15.

19. O beth gallwn ni fod yn sicr wrth inni efelychu esiamplau ffydd pobl eraill?

19 Mae’n gwbl amlwg fod Ruth, Heseceia, a Mair wedi bod yn ffrindiau i Jehofa, fel roedd Abraham. Roedden nhw’n perthyn i dorf o dystion a oedd gan y fraint o fod yn ffrindiau i Dduw. Gad inni ddal ati i efelychu ffydd y rhai hyn. (Hebreaid 6:11, 12) Os gwnawn ni hynny, gallwn edrych ymlaen at fod yn ffrindiau i Jehofa am byth!