Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

 HANES BYWYD

Etifeddiaeth Gristnogol Gyfoethog a Ganiataodd imi Ffynnu

Etifeddiaeth Gristnogol Gyfoethog a Ganiataodd imi Ffynnu

GEFN nos, roedd Afon Niger fawr yn ymestyn o’n blaenau a hithau’n llifo’n gyflym a thua milltir ar ei thraws. Roedden ni yng nghanol y rhyfel cartref yn Nigeria, felly roedd croesi afon Niger yn gallu bod yn beryg bywyd. Ond eto, roedd yn rhaid inni ei mentro hi, a hynny fwy nag unwaith. Pam roedden ni yn y sefyllfa honno? Gad inni fynd yn ôl i’r cyfnod cyn imi gael fy ngeni.

Ym 1913, bedyddiwyd fy nhad, John Mills, yn Ninas Efrog Newydd ac yntau’n 25. Y Brawd Russell a roddodd yr anerchiad bedydd. Yn fuan wedyn, aeth fy nhad i Drinidad, lle priododd Constance Farmer, un o Fyfyrwyr y Beibl. Helpodd Dad ei ffrind William R. Brown i ddangos y “Photo-Drama of Creation.” Gwnaethon nhw hynny nes i’r teulu Brown gael ei aseinio i Orllewin Affrica ym 1923. Arhosodd Dad a Mam, y ddau ohonyn nhw â’r gobaith nefol, yn Nhrinidad.

RHIENI CARIADUS

Roedd gan fy rhieni naw o blant, a gwnaethon nhw enwi’r cyntaf yn Rutherford, ar ôl llywydd y Watch Tower Bible and Tract Society bryd hynny. Pan ges i fy ngeni ar 30 Rhagfyr 1922, ces i fy enwi ar ôl Clayton J. Woodworth, golygydd y cylchgrawn The Golden Age (Deffrwch! erbyn hyn). Cawson ni i gyd addysg sylfaenol gan ein rhieni, ond roedden nhw’n pwysleisio blaenoriaethau ysbrydol. Roedd gan Mam allu rhyfeddol i resymu’n effeithiol ar yr Ysgrythurau. Roedd Dad wrth ei fodd yn adrodd hanesion y Beibl, gan actio rhan y cymeriadau i ddod â’r storïau hyn yn fyw.

Gwnaeth eu hymdrechion ddwyn ffrwyth. Aeth tri ohonon ni bump o fechgyn i Ysgol Gilead. Gwnaeth tair o fy chwiorydd arloesi yn Nhrinidad a Thobago am lawer o flynyddoedd. Oherwydd eu dysgu a’u hesiampl dda, gwnaeth fy rhieni blannu ni’r plant “yn nheml yr ARGLWYDD.” Roedden ni’n gallu “blodeuo” ac aros yno oherwydd anogaeth ein rhieni.—Salm 92:13.

Daeth ein cartref yn ganolbwynt i’r gwaith pregethu. Roedd yr arloeswyr yn cwrdd yno ac yn siarad yn aml am y Brawd George Young, cenhadwr a ddaeth i Drinidad o Ganada ar ymweliad. Roedd fy rhieni’n siarad yn frwd am eu hen ffrindiau, y teulu Brown, a oedd erbyn hynny yng Ngorllewin Affrica. Effaith hyn i gyd arnaf oedd gwneud imi ddechrau pregethu pan oeddwn i’n ddeng mlwydd oed.

 GWEITHGAREDDAU CYNNAR

Yn y dyddiau hynny, tanllyd iawn oedd ein cylchgronau wrth iddyn nhw ddinoethi gau grefydd, y byd masnachol barus, a gwleidyddiaeth lwgr. Fel ymateb i hynny, gwnaeth y clerigwyr annog llywodraethwr dros dro Trinidad i wahardd holl gyhoeddiadau cyfundrefn y Watch Tower. Gwnaethon ni guddio ein cyhoeddiadau ond parhau i’w defnyddio hyd nes iddyn nhw i gyd fynd. Roedden ni’n gorymdeithio ar gerdded neu ar gefn beiciau, gan ddefnyddio placardiau a thaflenni. Ynghyd â’r grŵp a oedd yn gofalu am y car sain yn Tunapuna, roedden ni’n pregethu yn llefydd mwyaf anghysbell Trinidad. Cyffrous iawn oedd hynny! O ganlyniad i’r awyrgylch ysbrydol hwnnw, cefais fy medyddio yn 16.

Grŵp y car sain yn Tunapuna

Effaith ein hanes teuluol a’r profiadau cynnar hynny oedd tanio ynof yr awydd i fynd yn genhadwr. Roedd yr awydd hwnnw yr un mor gryf pan es i i Arwba ym 1944 ac ymuno â’r Brawd Edmund W. Cummings. Roedden ni wrth ein boddau yn cael deg o bobl yn dod i’r Goffadwriaeth ym 1945. Y flwyddyn wedyn, sefydlwyd y gynulleidfa gyntaf ar yr ynys.

Gydag Oris, dechreuodd fy mywyd ffynnu mewn gwahanol ffyrdd

Yn fuan wedi hynny, gwnes i dystiolaethu’n anffurfiol i gyd-weithiwr o’r enw Oris Williams. Gwnaeth Oris ddadlau’n gryf i amddiffyn ei chredoau. Ond, dyma hi’n astudio’r Beibl ac yn dod i ddeall beth roedd y Beibl yn ei wir ddysgu a chael ei bedyddio ar 5 Ionawr 1947. Ymhen amser, syrthion ni mewn cariad a phriodi. Dechreuodd hi arloesi ym mis Tachwedd 1950. Gydag Oris, dechreuodd fy mywyd ffynnu mewn gwahanol ffyrdd.

GWASANAETH CYFFROUS YN NIGERIA

Ym 1955 cawson ni’n gwahodd i fynd i Ysgol Gilead. Er mwyn paratoi ar gyfer y fraint honno, gwnaeth Oris a minnau adael ein swyddi, gwerthu ein tŷ a’n heiddo, a dweud ffarwel wrth Arwba. Ar 29 Gorffennaf 1956, gwnaethon ni raddio o ddosbarth 27 Ysgol Gilead ac fe’n haseiniwyd i Nigeria.

Ch Gyda’r teulu Bethel yn Lagos, Nigeria, ym 1957

O edrych yn ôl, dywed Oris: “Gall ysbryd Jehofa helpu rhywun i arfer â’r cyfnodau da a drwg sy’n perthyn i fywyd cenhadon. Yn wahanol i fy ngŵr, doeddwn i byth eisiau bod yn genhadwr. Byddai wedi bod yn well gen i gadw cartref a magu plant. Newidiais fy meddwl pan sylweddolais fod pregethu’r newyddion da yn fater o frys. Erbyn inni raddio o Gilead, roeddwn i’n fwy na pharod i fod yn genhades. Wrth inni fynd ar fwrdd y llong Queen Mary, dyma Worth Thornton, o swyddfa’r Brawd Knorr, yn gweiddi: ‘Bon voyage!’ Dywedodd wrthyn ni y bydden ni’n gwasanaethu ym Methel. ‘O, na!’ oedd fy ymateb. Ond, buan iawn y des i i arfer a dod i garu Bethel, lle cefais amryw o wahanol aseiniadau. Yr un a fwynheais orau oedd gweithio fel derbynnydd. Dw i’n caru pobl, ac roedd y gwaith hwn yn rhoi’r cyfle imi weld y brodyr lleol. Byddai llawer yn cyrraedd yn llychlyd, yn flinedig, yn sychedig, ac yn llwglyd. Pleser mawr oedd gofalu am y brodyr hyn. Roedd y cwbl yn wasanaeth cysegredig i Jehofa, a dyna a ddaeth â hapusrwydd a bodlondeb imi.” Yn wir, roedd pob aseiniad yn rhoi’r cyfle inni flodeuo.

Tra oedd y teulu wedi dod at ei gilydd yn Nhrinidad ym 1961, gwnaeth y Brawd Brown adrodd rhai o’i brofiadau cyffrous o Affrica. Yna, mi wnes i sôn am y twf yn Nigeria. Rhoddodd y Brawd Brown ei freichiau o’m hamgylch a dweud wrth Dad: “Johnny, wnest ti byth gyrraedd Affrica, ond mi wnaeth Woodworth!” Ateb Dad oedd: “Dal ati, Worth! Dal ati!” Gwnaeth anogaeth y brodyr profiadol hynny fy ngwneud i’n fwy penderfynol o gyflawni fy ngweinidogaeth yn drylwyr.

Gwnaeth William “Bible” Brown a’i wraig, Antonia, ein hannog yn fawr iawn

Ym 1962, cefais y fraint o fynd i Gilead i dderbyn rhagor o hyfforddiant yn nosbarth 37, sef cwrs deng-mis. Pan aeth arolygwr y gangen yn Nigeria, Brawd Wilfred Gooch, i ddosbarth 38 Gilead a chael ei aseinio i Loegr, y fi a gafodd y cyfrifoldeb o arolygu’r gangen. Gan ddilyn esiampl y Brawd Brown, teithiais yma ac acw, a dod i adnabod y brodyr annwyl yn Nigeria. Er nad oedd ganddyn nhw lawer o’r pethau materol sy’n gyffredin i bobl mewn gwledydd eraill, roedd eu llawenydd a’u bodlondeb yn dangos yn glir nad ydy bywyd ystyrlon yn dibynnu ar arian ac  eiddo materol. O ystyried eu hamgylchiadau, gwych iawn oedd eu gweld nhw’n daclus, yn lân, ac yn llawn urddas yn y cyfarfodydd. Pan oedden nhw’n heidio i’r cynadleddau, roedd llawer ohonyn nhw’n cyrraedd mewn lorïau a bolekajas * (bysiau lleol ag ochrau agored). Yn aml, roedd sloganau diddorol i’w gweld ar y bysiau hyn. Un oedd: “Mae diferion bach o ddŵr yn creu moroedd mawr.”

Gwir iawn yw’r slogan hwnnw! Mae pob un ymdrech yn cyfri; gwnaethon ni ymdrechu hefyd. Ym 1974, Nigeria oedd y wlad gyntaf y tu allan i’r Unol Daleithiau i gyrraedd 100,000 o gyhoeddwyr. Roedd y gwaith wedi ffynnu!

Yng nghanol y twf hwn, o 1967 hyd 1970, rhygnodd Rhyfel Cartref Nigeria yn ei flaen. Am fisoedd, doedd ein brodyr ar ochr Biaffra Afon Niger ddim yn gallu cysylltu â’r gangen. Roedd yn rhaid inni fynd â bwyd ysbrydol iddyn nhw. Fel y soniwyd amdano yn y cyflwyniad, drwy weddïo a dibynnu ar Jehofa, croeson ni’r afon sawl gwaith.

Mae gen i gof byw iawn o’r teithiau peryglus hynny ar draws afon Niger, yn risgio cael ein lladd gan filwyr rhy barod i saethu, afiechydon, a pheryglon eraill. Roedd yn un peth i fynd trwy rengoedd o filwyr ffederal drwgdybus ond roedd hi’n llawer anoddach i fynd trwodd ar ochr Biaffra yr afon lle’r oedd popeth o dan warchae. Ar un achlysur, croesais afon Niger liw nos drwy fynd mewn canŵ o Asaba i Onitsha ac ymlaen wedyn i annog yr arolygwyr yn Enugu. Taith arall oedd i atgyfnerthu’r henuriaid yn ninas Aba, lle’r oedd blacowt mewn grym. Yn Port Harcourt, roedd rhaid gorffen ein cyfarfod â gweddi a hynny ar frys oherwydd bod lluoedd ffederal wedi torri trwy amddiffynfeydd milwyr Biaffra y tu allan i’r dref.

Roedd y cyfarfodydd hynny yn hanfodol i atgoffa ein brodyr annwyl o ofal cariadus Jehofa ac i roi cyngor angenrheidiol ar niwtraliaeth ac undod. Daeth y brodyr yn Nigeria drwy’r rhyfel erchyll hwnnw yn llwyddiannus. Dangoson nhw’r cariad sy’n trechu casineb llwythol ac aros yn unedig. Braint aruthrol oedd cael bod wrth eu hochr ar awr gyfyng!

Ym 1969, y Brawd Milton G. Henschel oedd cadeirydd y gynhadledd ryngwladol “Peace on Earth” yn Yankee Stadium, Efrog Newydd a dysgais lawer o fod yn gynorthwyydd iddo. Amserol iawn oedd hyn oherwydd ym 1970 cafodd y gynhadledd ryngwladol “Men of Goodwill” ei chynnal yn Lagos, Nigeria. Er iddi ddod mor fuan ar ôl y rhyfel cartref, roedd y gynhadledd yn llwyddiant oherwydd bendith Jehofa. Digwyddiad oedd hwn a dorrodd bob record, a oedd yn cynnwys 17 o ieithoedd a 121,128 yn mynychu. Roedd y Brodyr Knorr a Henschel ynghyd ag ymwelwyr eraill a oedd wedi teithio ar awyrennau siarter o’r Unol Daleithiau ac o Loegr, wedi gweld un o’r bedyddiadau Cristnogol mwyaf erioed ers Pentecost—3,775 o ddisgyblion newydd! Helpu i drefnu’r digwyddiad hwnnw oedd efallai’r amser prysuraf yn fy mywyd. Nid ymchwydd yn unig oedd hyn yn nifer y cyhoeddwyr ond ffrwydrad!

D Gwnaeth 121,128 o bobl a oedd yn siarad 17 o wahanol ieithoedd, gan gynnwys Ibo, fynd i’r gynhadledd ryngwladol “Men of Goodwill”

Yn ystod y 30 mlynedd a mwy yn Nigeria, mwynheais wasanaethu o bryd i’w gilydd fel arolygwr teithiol ac arolygwr parth yng Ngorllewin Affrica. Roedd y cenhadon wrth eu boddau yn cael sylw personol ac anogaeth. Pleser mawr oedd eu helpu i wybod nad oedden nhw wedi cael eu hanwybyddu! Dysgais o’r gwaith hwn fod dangos diddordeb personol ym mhobl yn allweddol i’w helpu nhw i ffynnu ac i ddiogelu cryfder ac undod cyfundrefn Jehofa.

Dim ond drwy ddibynnu ar Jehofa roedden ni’n gallu ymdopi â’r problemau a ddaeth yn sgil y rhyfel cartref a salwch. Roedd bendith Jehofa bob amser yn amlwg. Dywed Oris:

“Cawson ni’n dau falaria fwy nag unwaith. Un waith, rhuthrwyd Worth i’r ysbyty yn Lagos yn anymwybodol. Dywedwyd wrthyf na fyddai efallai’n goroesi, ond dyna a wnaeth, diolch byth! Pan ddaeth ato’i hun, siaradodd am Deyrnas Dduw â’r nyrs a oedd yn gofalu amdano. Yn ddiweddarach, mi es i gyda Worth i ymweld â’r nyrs, Mr. Nwambiwe, i feithrin ei ddiddordeb yn y Beibl.  Derbyniodd y gwirionedd a daeth yn ddiweddarach yn henuriad yn Aba. Cefais lwyddiant hefyd yn helpu llawer, hyd yn oed Mwslemiaid rhonc, i ddod yn weision ffyddlon i Jehofa. Gwnaethon ni fwynhau’n fawr iawn ddod i adnabod ac i garu’r brodyr lleol, eu diwylliant, eu harferion, a’u hieithoedd.”

Dyma wers arall: Er mwyn ffynnu yn ein haseiniad dramor, roedd yn rhaid inni ddysgu caru ein brodyr ni waeth pa mor wahanol oedd eu diwylliant nhw i’n diwylliant ni.

ASEINIADAU NEWYDD

Ar ôl gwasanaethu yn y Bethel yn Nigeria, ym 1987 fe gawson ni aseiniad newydd fel cenhadon maes ar Ynys y Santes Lwsia, ynys hardd yn y Caribî. Roedd yn aseiniad pleserus iawn, ond roedd yr her yn wahanol. Yn wahanol i Affrica, lle’r oedd dyn yn gallu priodi llawer o wragedd, yma ar Ynys y Santes Lwsia, roedd cyplau yn byw gyda’i gilydd heb briodi. Gwnaeth Gair Duw ysgogi llawer o’n myfyrwyr Beiblaidd i wneud y newidiadau angenrheidiol.

Roeddwn i’n ei charu yn fawr drwy gydol y 68 mlynedd y treulion ni gyda’n gilydd

Yn 2005, a ninnau’n heneiddio a’n hegni’n lleihau, gwnaeth y Corff Llywodraethol yn garedig iawn ein symud ni i’r pencadlys yn Brooklyn, Efrog Newydd, yr Unol Daleithiau. Bob dydd rydw i’n diolch i Jehofa o hyd am Oris. Cafodd hi ei gorchfygu gan y gelyn mawr hwnnw, marwolaeth, yn 2015 ac mae’r golled yn annisgrifiadwy. Roedd hi’n gymar ardderchog, ac yn wraig gariadus, annwyl iawn. Roeddwn i’n ei charu yn fawr drwy gydol y 68 mlynedd y treulion ni gyda’n gilydd. Roedden ni wedi ffeindio mai’r gyfrinach i gael hapusrwydd, yn y briodas a’r gynulleidfa, ydy parchu penteuluaeth, maddau’n rhwydd, aros yn ostyngedig, a dangos ffrwyth yr ysbryd.

Pan oedd siomedigaeth a digalondid yn bygwth, roedden ni’n edrych at Jehofa am iddo ein helpu ni i gadw ein haberthau personol yn bur. Wrth inni barhau i gael ein haddasu, gwelson ni fod pethau yn mynd yn well ac yn well o hyd—ac mae’r gorau eto o’n blaenau!—Esei. 60:17; 2 Cor. 13:11.

Yn Nhrinidad a Thobago, bendithiodd Jehofa waith fy rhieni ac eraill gymaint nes i’r adroddiadau diweddaraf gofnodi bod 9,892 wedi ymuno â gwir addoliad. Yn Arwba, gwnaeth llawer weithio i gryfhau’r gynulleidfa wreiddiol roeddwn i’n rhan ohoni. Nawr, mae gan yr ynys 14 o gynulleidfaoedd ffyniannus. Yn Nigeria, mae nifer y cyhoeddwyr wedi tyfu’n dorf enfawr o 381,398. Ac ar Ynys y Santes Lwsia, mae 783 yn cefnogi Teyrnas Dduw.

Erbyn hyn, rwyf yn fy 90au. Mae Salm 92:14 yn dweud am y rhai sydd wedi eu plannu yn nhŷ Jehofa: “Byddan nhw’n dal i roi ffrwyth pan fyddan nhw’n hen; byddan nhw’n dal yn ffres ac yn llawn sudd.” Rydw i mor ddiolchgar am y bywyd rydw i wedi ei fyw yng ngwasanaeth Jehofa. Mae’r etifeddiaeth Gristnogol gyfoethog a dderbyniais i wedi fy annog i wasanaethau Jehofa yn llawn. Mae Jehofa, yn ei gariad ffyddlon, wedi caniatáu imi flodeuo yng nghynteddau fy Nuw.—Salm 92:13.

^ Par. 18 Gweler y Deffrwch! Saesneg, rhifyn 8 Mawrth 1972, tt. 24-26.