Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

 ERTHYGL ASTUDIO 9

Cariad a Chyfiawnder yn Israel Gynt

Cariad a Chyfiawnder yn Israel Gynt

“Mae e’n caru beth sy’n deg ac yn gyfiawn; ac mae ei ofal ffyddlon i’w weld drwy’r byd i gyd.”—SALM 33:5.

CÂN 3 Ein Nerth, Ein Gobaith, Ein Hyder

CIPOLWG *

1-2. (a) Beth mae pawb eisiau? (b) O beth gallwn fod yn sicr?

RYDYN ni i gyd eisiau cael ein caru. Ac rydyn ni i gyd eisiau cael ein trin yn deg. Os teimlwn ddiffyg cariad a chyfiawnder dro ar ôl tro, gallwn deimlo’n dda i ddim ac yn ddiobaith.

2 Mae Jehofa yn gwybod ein bod ni’n ysu am gariad a chyfiawnder. (Salm 33:5) Rydyn ni’n sicr fod Duw yn ein caru ni’n fawr ac eisiau inni gael ein trin yn deg. Daw hyn yn amlwg pan edrychwn ni’n ofalus ar y Gyfraith a roddodd Jehofa i genedl Israel drwy Moses. Os yw dy galon yn amddifad o gariad neu fod dy ysbryd wedi ei lethu gan anghyfiawnder, rho sylw i sut mae Cyfraith Moses * yn datgelu cariad Jehofa tuag at ei bobl.

3. (a) Yn ôl yr esboniad yn Rhufeiniaid 13:8-10, beth sy’n dod yn amlwg wrth astudio Cyfraith Moses? (b) Pa gwestiynau y bydd yr erthygl hon yn eu hateb?

3 Wrth astudio Cyfraith Moses, mae teimladau cynnes ein Duw cariadus, Jehofa, yn dod yn amlwg. (Darllen Rhufeiniaid 13:8-10.) Yn yr erthygl hon, byddwn yn trafod ychydig o’r deddfau a roddwyd i Israel ac yn ateb y cwestiynau hyn: Pam y gallwn ddweud bod y Gyfraith wedi ei sylfaenu ar gariad? Pam y gallwn ddweud bod y Gyfraith yn hyrwyddo cyfiawnder? Sut roedd yn rhaid i’r rhai ag awdurdod weinyddu’r Gyfraith? A phwy yn benodol roedd y Gyfraith yn ei amddiffyn? Gall yr atebion i’r cwestiynau hynny ddod â chysur inni, rhoi gobaith inni, a dod â ni’n nes at ein Tad cariadus.—Act. 17:27; Rhuf. 15:4.

 CYFRAITH A ADEILADWYD AR GARIAD

4. (a) Pam y gallwn ddweud bod Cyfraith Moses wedi ei hadeiladu ar gariad? (b) Yn ôl Mathew 22:36-40, pa orchmynion gwnaeth Iesu ddenu sylw atyn nhw?

4 Gallwn ddweud bod Cyfraith Moses wedi ei hadeiladu ar gariad oherwydd cariad ydy’r sail i bob dim mae Jehofa yn ei wneud. (1 Ioan 4:8) Sefydlodd Jehofa yr holl gyfraith ar ddau orchymyn sylfaenol—caru Duw, a charu dy gymydog. (Lef. 19:18; Deut. 6:5; darllen Mathew 22:36-40.) Gallwn ddisgwyl bod pob un o’r 600 a mwy o ddeddfau sy’n rhan o’r Gyfraith yn datgelu rhywbeth am gariad Jehofa. Gad inni edrych ar rai esiamplau.

5-6. Beth mae Jehofa eisiau i gyplau priod ei wneud, a beth mae Jehofa yn ymwybodol ohono? Rho esiampl.

5 Bydda’n ffyddlon i dy gymar priodasol, a gofala am dy blant. Mae Jehofa eisiau i gyplau priod garu ei gilydd gymaint fel bod eu cariad yn para am oes. (Gen. 2:24; Math. 19:3-6) Godinebu yw un o’r troseddau mwyaf anghariadus y gall person ei chyflawni. Nid heb reswm, felly, fod y Deg Gorchymyn yn gwahardd godinebu. (Deut. 5:18) Mae’n pechu “yn erbyn Duw” ac yn ergyd greulon i’r cymar. (Gen. 39:7-9) Gall cymar yr un sydd wedi godinebu deimlo poen yr anffyddlondeb hwnnw am ddegawdau.

6 Mae Jehofa yn ymwybodol iawn o sut mae gŵr a gwraig yn trin ei gilydd. Roedd eisiau i wragedd yn Israel gael eu trin yn dda. Byddai gŵr a oedd yn parchu’r Gyfraith yn caru ei wraig ac ni fyddai’n ei hysgaru am resymau dibwys. (Deut. 24:1-4; Math. 19:3, 8) Ond petai problem ddifrifol yn codi ac yntau yn ei hysgaru, roedd rhaid iddo roi tystysgrif ysgariad iddi. Roedd y dystysgrif hon yn amddiffyn y ddynes rhag camgyhuddiadau o anfoesoldeb. Yn ychwanegol, cyn i’r gŵr allu rhoi tystysgrif ysgariad i’w wraig, mae’n ymddangos bod rhaid iddo siarad â henuriaid y ddinas. Yn y modd hwn, byddai’r henuriaid yn manteisio ar y cyfle i geisio helpu’r cwpl i achub eu priodas. Pan oedd dyn yn Israel yn ysgaru ei wraig am resymau hunanol, doedd Jehofa ddim bob amser yn ymyrryd. Serch hynny, roedd yn gweld dagrau’r wraig ac yn teimlo ei phoen.—Mal. 2:13-16.

Roedd Jehofa eisiau i blant deimlo’n ddiogel wrth i’w rhieni eu dwyn i fyny a’u dysgu mewn ffordd gariadus (Gweler paragraffau 7-8) *

7-8. (a) Beth orchmynnodd Jehofa i rieni ei wneud? (Gweler y llun ar y clawr.) (b) Pa wersi a ddysgwn ni?

7 Mae’r Gyfraith hefyd yn dangos bod lles plant o’r diddordeb mwyaf i Jehofa. Roedd Jehofa wedi gorchymyn rhieni i ofalu nid yn unig am anghenion corfforol eu plant ond am eu hanghenion ysbrydol hefyd. Roedd yn rhaid i rieni fachu ar bob cyfle i helpu eu plant i ddeall a thrysori Cyfraith Jehofa ac i garu Duw. (Deut. 6:6-9; 7:13) Un o’r rhesymau pam y cafodd yr Israeliaid eu cosbi gan Jehofa oedd oherwydd eu bod nhw wedi cam-drin rhai o’u plant yn y ffordd fwyaf erchyll. (Jer. 7:31, 33) Roedd yn rhaid i rieni feddwl am eu plant nid fel pethau y gallan nhw eu hesgeuluso neu eu cam-drin, ond fel etifeddiaeth, sef rhodd gan Dduw i ofalu’n dyner amdani.—Salm 127:3.

8 Gwersi: Mae Jehofa yn rhoi sylw mawr i’r ffordd y mae gŵr a gwraig yn trin ei gilydd. Mae eisiau rhieni garu eu plant, a bydd yn eu barnu nhw petasen nhw’n eu cam-drin.

9-11. Pam y rhoddodd Jehofa’r ddeddf ynglŷn â chwennych?

9 Paid â chwennych. Roedd yr olaf o’r Deg Gorchymyn yn gwahardd chwennych, hynny yw, meithrin chwant anghywir am rywbeth sy’n perthyn i rywun arall. (Deut. 5:21; Rhuf. 7:7) Rhoddodd Jehofa’r ddeddf hon er mwyn dysgu gwers bwysig —dylai ei bobl warchod eu calon, hynny yw, eu meddyliau, eu teimladau, a’u ffordd o resymu. Mae’n gwybod bod gweithredoedd drwg yn dod o feddyliau a theimladau drwg. (Diar. 4:23) Petai un o’r Israeliaid yn caniatáu i chwantau drwg dyfu yn ei galon, mae’n debyg y byddai’n trin eraill mewn ffordd anghariadus. Syrthiodd y Brenin Dafydd, er enghraifft, i’r fagl honno. Ar y cyfan, roedd yn ddyn da. Ond, ar un achlysur, roedd yn chwennych gwraig dyn arall. Achosodd hynny iddo bechu. (Iago 1:14, 15) Gwnaeth Dafydd odinebu, ceisio twyllo gŵr y ddynes, ac yna trefnu iddo gael ei ladd.—2 Sam. 11:2-4; 12:7-11.

10 Roedd Jehofa yn gwybod pryd roedd un o’r Israeliaid yn torri’r gyfraith ynglŷn â chwennych—mae’n gallu darllen y galon. (1 Cron. 28:9, BCND) Roedd y ddeddf ynglŷn â chwennych yn dweud wrth ei bobl y dylen nhw osgoi meddyliau sy’n arwain at ddrwgweithredu. Am Dad cariadus a doeth yw Jehofa!

11 Gwersi: Mae Jehofa yn gweld mwy na phryd a gwedd rhywun. Mae’n gweld yr hyn ydyn ni ar y tu mewn, yr hyn sydd yn y galon. (1 Sam. 16:7) Ni allwn ni guddio unrhyw feddyliau, teimladau, na gweithredoedd rhagddo. Mae’n chwilio am y daioni ynon ni ac yn ein hannog i fod yn dda. Ond, mae eisiau inni nodi ein meddyliau drwg a’u rheoli cyn iddyn nhw droi’n weithredoedd drwg.—2 Cron. 16:9; Math. 5:27-30.

CYFRAITH SY’N HYRWYDDO CYFIAWNDER

12. Beth mae Cyfraith Moses yn ei bwysleisio?

12 Mae Cyfraith Moses hefyd yn pwysleisio bod Jehofa yn caru cyfiawnder. (Salm 37:28; Esei. 61:8) Gosododd Jehofa yr esiampl berffaith o ran trin eraill yn deg. Pan oedd yr Israeliaid yn ufudd i’r Gyfraith, roedd Jehofa yn eu bendithio. Pan oedden nhw’n anufudd i’w safonau cyfiawn, roedden nhw’n dioddef. Rho sylw i ddwy ddeddf arall o’r Deg Gorchymyn.

13-14. Beth oedd y ddau orchymyn cyntaf yn gofyn i’r Israeliaid ei wneud, a sut byddai ufuddhau i’r deddfau hynny o les iddyn nhw?

13 Addola Jehofa yn unig. Roedd y ddau orchymyn cyntaf yn gofyn i’r Israeliaid addoli Jehofa yn unig ac yn rhybuddio rhag addoli delwau. (Ex. 20:3-6) Nid er lles Jehofa oedd y gorchmynion hynny ond er lles ei bobl. Pan oedd ei bobl yn aros yn ffyddlon iddo, roedden nhw’n ffynnu. Pan oedden nhw’n addoli duwiau’r cenhedloedd eraill, roedden nhw’n dioddef.

14 Meddylia am y Canaaneaid. Roedden nhw’n addoli delwau difywyd yn hytrach na’r Duw byw. O ganlyniad, roedden nhw yn eu hiselhau eu hunain. (Salm 115:4-8) Wrth iddyn nhw addoli, roedden nhw’n gwneud pethau rhywiol afiach ac yn aberthu eu plant mewn ffyrdd erchyll. Yn yr un modd, pan wnaeth yr Israeliaid anwybyddu Jehofa a dewis addoli delwau, gwnaethon nhw eu hiselhau eu hunain a brifo eu teuluoedd. (2 Cron. 28:1-4) Cefnodd y rhai mewn awdurdod ar safonau cyfiawn Jehofa. Camddefnyddiodd eu grym gan ormesu’r rhai gwan a bregus. (Esec. 34:1-4) Gwnaeth Jehofa rybuddio’r Israeliaid y byddai’n barnu’r rhai sy’n gwneud cam â merched a phlant diamddiffyn. (Deut. 10:17, 18; 27:19) Ond roedd Jehofa yn bendithio ei bobl pan oedden nhw’n ffyddlon iddo ac yn trin ei gilydd yn deg.—1 Bren. 10:4-9.

Mae Jehofa yn ein caru ac yn gwybod pryd rydyn ni’n dioddef anghyfiawnder (Gweler paragraff 15)

15. Pa wersi rydyn ni’n eu dysgu am Jehofa?

15 Gwersi: Ni ellir rhoi’r bai ar Jehofa pan fydd y rhai sy’n honni ei wasanaethu yn anwybyddu ei safonau ac yn achosi niwed i’w bobl. Fodd bynnag, mae Jehofa yn ein  caru ni ac yn gwybod pan fyddwn ni’n dioddef anghyfiawnder. Mae’n teimlo ein poen yn fwy nag y mae mam yn teimlo poen ei babi’n dioddef. (Esei. 49:15) Er efallai na fydd Duw yn ymyrryd yn syth, ymhen amser bydd yn barnu pechaduriaid diedifar am y ffordd maen nhw wedi trin eraill.

SUT CAFODD Y GYFRAITH EI GWEINYDDU?

16-18. Beth roedd Cyfraith Moses yn ei gwmpasu, a pha wersi rydyn ni’n eu dysgu?

16 Roedd Cyfraith Moses yn cwmpasu nifer o agweddau ar fywyd yr Israeliaid, felly roedd hi’n hanfodol fod yr henuriaid yn barnu pobl Jehofa mewn ffordd gyfiawn. Roedden nhw’n gyfrifol am ddelio, nid yn unig gyda materion ysbrydol, ond hefyd achosion sifil a throseddol. Rho sylw i’r esiamplau canlynol.

17 Petai un o’r Israeliaid yn lladd rhywun, nid oedd yn cael ei ddienyddio yn fympwyol. Byddai henuriaid y ddinas yn archwilio’r amgylchiadau cyn penderfynu a oedd y gosb eithaf yn briodol. (Deut. 19:2-7, 11-13) Roedd yr henuriaid hefyd yn barnu ar nifer o wahanol agweddau ar fywyd bob dydd—o ddatrys dadleuon cyhoeddus ynglŷn ag eiddo i ddatrys materion preifat rhwng gŵr a gwraig. (Ex. 21:35; Deut. 22:13-19) Pan oedd yr henuriaid yn deg a’r Israeliaid yn ufudd i’r Gyfraith, roedd pawb yn elwa, ac roedd y genedl yn dod â chlod i Jehofa.—Lef. 20:7, 8; Esei. 48:17, 18.

18 Gwersi: Mae pob agwedd ar ein bywyd yn bwysig i Jehofa. Mae eisiau inni fod yn gyfiawn ac yn gariadus wrth ddelio gydag eraill. Ac mae’n cymryd sylw o’r hyn rydyn ni’n ei ddweud ac yn ei wneud, hyd yn oed pan fyddwn ni gartref ar ein pennau ein hunain.—Heb. 4:13.

19-21. (a) Sut roedd henuriaid a barnwyr i fod i drin pobl Dduw? (b) Sut roedd Cyfraith Moses yn gwarchod pobl yn benodol?

19 Roedd Jehofa eisiau achub ei bobl rhag dylanwad negyddol y cenhedloedd cyfagos. Felly, roedd yn gofyn i’r henuriaid a’r barnwyr weinyddu’r Gyfraith heb ffafriaeth. Fodd bynnag, nid oedd y barnwyr hynny i fod i drin ei bobl mewn ffordd gas neu haearnaidd. Yn hytrach, roedd yn rhaid iddyn nhw garu cyfiawnder.—Deut. 1:13-17; 16:18-20.

20 Roedd Jehofa yn teimlo trueni tuag at ei bobl, felly sefydlodd ddeddfau a fyddai’n gwarchod unigolion rhag cael eu trin yn annheg. Er enghraifft, roedd y Gyfraith yn sicrhau na allai unigolion gael eu camgyhuddo o drosedd. Roedd gan ddiffynnydd yr hawl i wybod pwy oedd yn ei gyhuddo. (Deut. 19:16-19; 25:1) A chyn iddo gael ei gyhuddo, roedd rhaid i ddau dyst roi tystiolaeth. (Deut. 17:6; 19:15) Beth am un o’r Israeliaid a oedd wedi troseddu ond a gafodd ei weld gan un tyst yn unig? Ni ddylai byth feddwl na fyddai’n cael ei  gosbi am ei ddrwgweithredu. Gwelodd Jehofa yr hyn a wnaeth. Yn y teulu, rhoddwyd awdurdod i’r tadau, ond roedd cyfyngiadau ar yr awdurdod hwnnw. Mewn rhai anghytundebau teuluol, roedd cyfrifoldeb ar yr henuriaid i gymryd rhan yn y barnu a gwneud y penderfyniad terfynol.—Deut. 21:18-21.

21 Gwersi: Mae Jehofa yn gosod yr esiampl berffaith; nid yw byth yn gwneud unrhyw beth sy’n annheg. (Salm 9:7) Mae’n gwobrwyo’r rhai sy’n ufuddhau’n ffyddlon i’w safonau, ond mae’n cosbi’r rhai sy’n camddefnyddio eu grym. (2 Sam. 22:21-23; Esec. 9:9, 10) Efallai fod rhai yn ymddwyn yn ddrwg ac yn ymddangos fel petasen nhw’n osgoi cael eu cosbi, ond pan fydd Jehofa yn penderfynu bod yr amser yn iawn, byddan nhw’n cael eu cosbi. (Diar. 28:13) Ac os nad oedden nhw wedi edifarhau, buan iawn y maen nhw’n dysgu mai “peth dychrynllyd ydy cael eich dal gan y Duw byw.”—Heb. 10:30, 31.

PWY YN BENODOL ROEDD Y GYFRAITH YN EI AMDDIFFYN?

Wrth ddatrys anghytundebau, roedd rhaid i’r henuriaid adlewyrchu cariad Jehofa tuag at bobl a chyfiawnder (Gweler paragraff 22) *

22-24. (a) Pwy yn benodol roedd y Gyfraith yn ei amddiffyn, a beth a ddysgwn am Jehofa? (b) Pa rybudd sydd yn Exodus 22:22-24?

22 Roedd y Gyfraith yn amddiffyn yn benodol y rhai nad oedden nhw’n gallu eu hamddiffyn eu hunain, rhai fel plant amddifad, gweddwon, ac estroniaid. Dywedwyd wrth farnwyr Israel: “Peidiwch gwrthod cyfiawnder i fewnfudwyr neu blant amddifad. A pheidiwch cymryd dillad gwraig weddw yn warant ar fenthyciad.” (Deut. 24:17) Roedd y rhai a oedd yn agored i niwed yn  y gymuned yn agos iawn at galon Jehofa. Ac roedd y rhai a oedd yn eu trin nhw’n gas yn atebol iddo.—Darllen Exodus 22:22-24.

23 Roedd y Gyfraith hefyd yn amddiffyn aelodau’r teulu rhag troseddau rhyw drwy wahardd pob ffurf ar losgach. (Lef. 18:6-30) Yn wahanol i’r cenhedloedd o gwmpas Israel, a oedd yn caniatáu’r arferiad hwn a hyd yn oed yn ei esgusodi, roedd pobl Jehofa yn ystyried y math hwn o drosedd yn weithred ffiaidd, fel yr oedd Jehofa.

24 Gwersi: Mae Jehofa eisiau i’r rhai y mae ef wedi rhoi cyfrifoldebau iddyn nhw ddangos diddordeb cariadus yn y rhai maen nhw’n eu goruchwylio. Mae’n casáu troseddau rhyw ac mae eisiau sicrhau bob pawb, yn enwedig y rhai mwyaf bregus, yn cael eu gwarchod a’u trin yn gyfiawn.

Y GYFRAITH—“AWGRYM O’R PETHAU GWYCH SYDD I DDOD”

25-26. (a) Pam y gallwn ddweud bod cariad a chyfiawnder fel anadl a bywyd? (b) Beth fyddwn yn ei drafod yn yr erthygl nesaf yn y gyfres hon?

25 Mae cariad a chyfiawnder fel anadl a bywyd; ar y ddaear, ni all un fodoli heb y llall. Pan fyddwn ni’n gwbl sicr fod Jehofa yn ein trin ni’n deg, mae ein cariad tuag ato yn tyfu. A phan fyddwn ni’n caru Duw a’i safonau cyfiawn, rydyn ni’n cael ein hannog i garu eraill a’u trin nhw mewn ffordd gyfiawn.

26 Roedd Cyfraith Moses yn anadlu bywyd i mewn i’r berthynas rhwng Jehofa a’r Israeliaid. Fodd bynnag, doedd pobl Dduw ddim yn gorfod ufuddhau i’r Gyfraith ar ôl i Iesu gyflawni’r Gyfraith, ac fe gafodd ei disodli gan rywbeth llawer gwell. (Rhuf. 10:4) Dywed Paul fod y Gyfraith yn “rhyw awgrym o’r pethau gwych sydd i ddod.” (Heb. 10:1) Bydd yr erthygl nesaf yn y gyfres yn trafod rhai o’r pethau gwych hynny ynghyd â phwysigrwydd cariad a chyfiawnder yn y gynulleidfa Gristnogol.

CÂN 109 Carwch o Waelod Eich Calon

^ Par. 5 Yr erthygl gyntaf yw hon mewn cyfres o bedair a fydd yn trafod pam y gallwn fod yn sicr fod Jehofa yn ein caru ni. Bydd y tair erthygl nesaf yn ymddangos yn rhifyn mis Mai 2019 o’r Tŵr Gwylio. Teitlau’r erthyglau hynny yw “Cariad a Chyfiawnder yn y Gynulleidfa Gristnogol,” “Cariad a Chyfiawnder yn Wyneb Drygioni,” a “Cysuro’r Rhai Sydd Wedi Dioddef Camdriniaeth.”

^ Par. 2 ESBONIAD: Cyfeirir at y 600 a mwy o ddeddfau a roddwyd i’r Israeliaid gan Jehofa drwy gyfrwng Moses fel “y Gyfraith,” “Cyfraith Moses,” ac “y gorchmynion.” Yn ogystal, y Gyfraith yw’r ymadrodd a ddefnyddir yn aml i gyfeirio at bum llyfr cyntaf y Beibl (Genesis hyd at Deuteronomium). Weithiau, fe ddefnyddir y term hwn i gyfeirio at yr Ysgrythurau Hebraeg ysbrydoledig cyfan.

^ Par. 60 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Wrth baratoi pryd o fwyd, mae mam a’i merched yn sgwrsio’n braf.Yn y cefndir, mae tad yn hyfforddi ei fab i ofalu am y defaid.

^ Par. 64 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Mae henuriaid cariadus wrth borth y ddinas yn helpu gwraig weddw a’i phlentyn sydd wedi cael eu cam-drin gan fasnachwr lleol.