Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

Wyt Ti’n Adnabod Jehofa Fel Roedd Noa, Daniel, a Job yn ei Wneud?

Wyt Ti’n Adnabod Jehofa Fel Roedd Noa, Daniel, a Job yn ei Wneud?

“Nid yw pobl ddrwg yn deall beth yw cyfiawnder, ond y mae’r rhai sy’n ceisio’r ARGLWYDD yn deall y cyfan.”—DIARHEBION 28:5, BCND.

CANEUON: 126, 150

1-3. (a) Beth fydd yn ein helpu i aros yn ffyddlon i Dduw yn ystod y dyddiau diwethaf hyn? (b) Beth fyddwn ni’n ei ddysgu yn yr erthygl hon?

HEDDIW, rydyn ni’n byw yn agos at ddiwedd y dyddiau diwethaf. Rydyn ni’n gweld mwy a mwy o bobl ddrwg. Maen nhw wedi tyfu ym mhobman “fel glaswellt.” (Salm 92:7) Nid yw’n syndod felly fod llawer o bobl wedi gwrthod yr hyn sy’n iawn yng ngolwg Duw. Dywedodd Paul wrth Gristnogion: “Byddwch yn ddiniwed fel babis bach lle mae drygioni’n y cwestiwn.” (1 Corinthiaid 14:20) Sut gallwn ni wneud hyn?

2 Rydyn ni’n dod o hyd i’r ateb yn yr adnod sy’n thema i’n trafodaeth, sy’n dweud: “Mae’r rhai sy’n ceisio’r ARGLWYDD yn deall y cyfan.” (Diarhebion 28:5, BCND) Mae hyn yn golygu bod pobl yn gallu deall popeth sy’n angenrheidiol er mwyn plesio Jehofa. Mae Diarhebion 2:7, 9 hefyd yn ein  dysgu ni fod doethineb dwyfol yn rhoi llwyddiant i’r rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn. O ganlyniad, maen nhw’n gallu “deall beth sy’n iawn, yn gytbwys, ac yn deg—ie, popeth sy’n dda.”

3 Roedd gan Noa, Daniel, a Job y doethineb dwyfol hwn. (Eseciel 14:14) Ac mae hyn yn wir am bobl Dduw heddiw. Beth amdanat tithau? Oes gen ti ddoethineb dwyfol? I ti fedru “deall y cyfan” er mwyn plesio Jehofa, mae’n rhaid iti ddod i’w adnabod yn dda. Felly, yn yr erthygl hon, rydyn ni’n mynd i ddysgu am (1) sut gwnaeth Noa, Daniel, a Job ddod i adnabod Duw, (2) sut gwnaeth adnabod Duw eu helpu, a (3) sut gallwn ninnau feithrin yr un fath o ffydd.

PERTHYNAS AGOS NOA Â DUW

4. Sut daeth Noa i adnabod Jehofa, a sut gwnaeth dod i adnabod Duw yn dda ei helpu?

Trwy dalu sylw i’r greadigaeth, gallai Noa fod wedi dysgu am briodoleddau Duw

4 Sut daeth Noa i adnabod Jehofa? O’r cyfnod pan gafodd Adda ac Efa blant, roedd pobl yn dysgu am Dduw mewn tair ffordd: trwy ei greadigaeth, trwy weision ffyddlon eraill Duw, a thrwy weld y bendithion sy’n dod o fod yn ufudd iddo. (Eseia 48:18) Trwy dalu sylw i’r greadigaeth, gallai Noa fod wedi gweld tystiolaeth fod Duw yn bodoli a gallai hefyd fod wedi dysgu am briodoleddau Duw. O ganlyniad, byddai Noa wedi deall bod Jehofa yn rymus ac mai ef yw’r unig wir Dduw. (Rhufeiniaid 1:20) Felly, nid credu yn unig yn Nuw roedd Noa, ond roedd hefyd wedi meithrin ffydd gref ynddo.

5. Sut gwnaeth Noa ddysgu am yr hyn roedd Duw yn ei ddymuno ar gyfer dynolryw?

5 Yn ôl y Beibl, “mae’n rhaid clywed cyn gallu credu,” sy’n golygu bod yr hyn rydyn ni’n ei glywed oddi wrth eraill yn gallu ein helpu ni i gael ffydd. (Rhufeiniaid 10:17) Mae’n debyg fod Noa wedi clywed am Jehofa oddi wrth ei berthnasau. Er enghraifft, ganwyd ei dad Lamech cyn i Adda farw ac roedd ganddo ffydd yn Nuw. (Gweler y llun agoriadol.) Enghreifftiau eraill oedd ei daid Methwsela a’i hen hen daid Jared, a fu farw 366 o flynyddoedd ar ôl i Noa gael ei eni. * (Gweler y troednodyn.) (Luc 3:36, 37) Efallai mai’r dynion hynny ynghyd â’u gwragedd oedd y rhai a ddysgodd i Noa fod Jehofa wedi creu bodau dynol a’i fod eisiau iddyn nhw gael plant, llenwi’r ddaear, a’i wasanaethu Ef. Byddai Noa hefyd wedi dysgu bod Adda ac Efa wedi anufuddhau i Jehofa, a byddai wedi gweld canlyniadau drwg eu penderfyniad. (Genesis 1:28; 3:16-19, 24) Roedd Noa yn hoff iawn o’r hyn a ddysgodd, ac fe gafodd ei ysgogi gan hyn i wasanaethu Jehofa.—Genesis 6:9.

6, 7. Sut gwnaeth gobaith gryfhau ffydd Noa?

6 Mae gobaith yn cryfhau ffydd. Dychmyga  sut cafodd ffydd Noa ei chryfhau pan ddysgodd fod ystyr ei enw yn cynnwys y syniad o obaith oherwydd ei fod yn golygu “Gorffwys” neu “Cysur.” (Genesis 5:29, troednodyn) Gwnaeth Jehofa ysbrydoli Lamech i ddweud y canlynol am ei fab Noa: “Bydd hwn yn rhoi gorffwys i ni o’r gwaith caled o drin y tir mae’r ARGLWYDD wedi ei felltithio.” Felly, roedd gan Noa obaith y byddai Duw yn gwneud pethau’n well. Yn debyg i Abel ac Enoch, roedd gan Noa ffydd y bydd “had” yn sathru pen y sarff.—Genesis 3:15.

7 Doedd Noa ddim wedi deall yn llwyr addewid Duw a gofnodwyd yn Genesis 3:15. Ond, roedd yn deall yn iawn fod y broffwydoliaeth hon yn rhoi gobaith ar gyfer y dyfodol. Roedd Enoch wedi pregethu neges debyg, gan ddweud y byddai Jehofa yn dinistrio’r drygionus. (Jwdas 14, 15) Yn sicr y byddai neges Enoch, a fydd yn cael ei chyflawni’n llawn pan ddaw Armagedon, wedi cryfhau ffydd a gobaith Noa!

Bydd ffydd a doethineb dwyfol yn ein hamddiffyn rhag triciau Satan a dylanwad y byd hwn

8. Sut gwnaeth adnabod Duw yn dda amddiffyn Noa?

8 Sut roedd gwybodaeth gywir am Dduw yn helpu Noa? Oherwydd bod Noa wedi dysgu am Jehofa, roedd wedi datblygu ffydd a doethineb dwyfol. Roedd hyn yn ei amddiffyn, yn enwedig rhag gwneud rhywbeth a fyddai’n brifo Jehofa. Sut felly? Roedd Noa eisiau bod yn ffrind i Dduw, felly doedd ddim yn ffrindiau i’r bobl oedd wedi gwrthod Jehofa a heb ffydd ynddo. Yn wahanol i’r rhai hyn, chafodd Noa ddim ei dwyllo gan gythreuliaid a oedd wedi dod i’r ddaear. Roedd pobl yn edmygu’r cythreuliaid nerthol hyn ac efallai wedi ceisio eu haddoli. (Genesis 6:1-4, 9) Hefyd, roedd Noa yn gwybod bod Jehofa eisiau i fodau dynol gael plant a llenwi’r ddaear. (Genesis 1:27, 28) Felly, pan wnaeth y cythreuliaid gymryd gwragedd a chael plant gyda nhw, roedd Noa yn gwybod bod hyn yn anghywir. Daeth hyn yn amlwg pan dyfodd y plant hynny yn fwy ac yn gryfach na’r plant eraill i gyd. Yn y pen draw, dywedodd Jehofa wrth Noa y byddai’n dod â dilyw i ddinistrio’r holl bobl ddrwg i gyd. Oherwydd bod gan Noa ffydd yn rhybudd Jehofa, adeiladodd yr arch, ac fe gafodd yntau a’i deulu eu hachub.—Hebreaid 11:7.

9, 10. Sut gallwn ni feithrin ffydd fel Noa?

9 Sut gallwn ni feithrin ffydd fel Noa? Pwysig yw astudio Gair Duw yn ofalus, trysori’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu, a’i ddefnyddio i wneud newidiadau a dewisiadau da yn ein bywyd. (1 Pedr 1:13-15) Wedyn, bydd ffydd a doethineb dwyfol yn ein hamddiffyn rhag triciau Satan a dylanwad y byd hwn. (2 Corinthiaid 2:11) Mae llawer o bobl yn y byd yn caru trais ac anfoesoldeb ac yn dilyn eu chwantau drwg. (1 Ioan 2:15, 16) Maen nhw’n  anwybyddu’r ffaith ein bod ni’n agos at ddiwedd y byd drwg hwn. Os nad oes gennyn ni ffydd gref, gallwn ninnau ddechrau meddwl yn yr un ffordd. Paid ag anghofio, pan gymharodd Iesu ein hadeg ni ag un Noa, nid oedd yn trafod trais nac anfoesoldeb, ond yn hytrach y perygl o golli ein ffocws ar wasanaethu Duw.—Darllen Mathew 24:36-39.

10 Gofynna i ti dy hun: ‘Ydy’r ffordd rydw i’n byw yn dangos fy mod i’n adnabod Jehofa yn dda? Ydy fy ffydd yn fy nghymell i wneud beth mae Jehofa yn ei ddweud sy’n iawn ac i ddysgu eraill am beth mae Duw eisiau iddyn nhw ei wneud?’ Bydd yr atebion i’r cwestiynau hyn yn dy helpu i wybod a oes gen ti berthynas agos â’r gwir Dduw, fel oedd gan Noa.

DOETHINEB DWYFOL DANIEL YM MABILON

11. (a) Beth mae cariad Daniel tuag at Dduw yn ein dysgu am rieni Daniel? (b) Pa un o rinweddau Daniel yr hoffet ti ei meithrin?

11 Sut daeth Daniel i adnabod Jehofa? Mae’n rhaid fod rhieni Daniel wedi ei ddysgu i garu Jehofa a’i Air. A gwnaeth Daniel hyn drwy gydol ei fywyd. Hyd yn oed pan oedd yn hen, daliodd ati i astudio’r Ysgrythurau’n ofalus. (Daniel 9:1, 2) Roedd Daniel yn adnabod Jehofa yn dda iawn. Hefyd, roedd yn gwybod am yr holl bethau da roedd Jehofa wedi eu gwneud ar gyfer yr Israeliaid. Gwelwn ni hyn yng ngweddi ostyngedig ac onest Daniel yn Daniel 9:3-19. Darllena’r weddi honno, a meddylia’n ofalus amdani. Gofynna i ti dy hun: ‘Beth mae’r weddi hon yn fy nysgu am Daniel?’

12-14. (a) Sut dangosodd Daniel ddoethineb dwyfol? (b) Sut gwnaeth Jehofa fendithio dewrder a ffyddlondeb Daniel?

12 Sut roedd adnabod Duw yn dda yn helpu Daniel? Nid oedd yn hawdd i Iddew ffyddlon addoli Duw ym Mabilon. Er enghraifft, dywedodd Jehofa wrth yr Iddewon: “Gweithiwch dros heddwch a llwyddiant y ddinas lle dw i wedi mynd â chi’n gaeth.” (Jeremeia 29:7) Ond eto, gorchmynnodd hefyd iddyn nhw ei addoli ef yn unig, a hynny â’u holl galon. (Exodus 34:14) Sut gallai Daniel ufuddhau i’r ddau orchymyn? Oherwydd ei ddoethineb duwiol, roedd Daniel yn gwybod ei fod yn gorfod ufuddhau i Jehofa yn gyntaf, ac yna i reolwyr dynol. Ganrifoedd wedyn, roedd Iesu’n dysgu’r un egwyddor i bobl.—Luc 20:25.

13 Meddylia am beth wnaeth Daniel pan oedd deddf yn gwahardd pawb rhag gweddïo ar unrhyw dduw neu berson heblaw’r brenin am 30 diwrnod. (Darllen Daniel 6:7-10.) Byddai wedi gallu gwneud esgusodion a dweud: ‘Dim ond am 30 diwrnod fydd hi.’ Yn hytrach, ni wnaeth Daniel adael i gyfraith ddynol ddod yn bwysicach iddo nag addoli Duw. Gallai Daniel fod wedi gweddïo ar Jehofa mewn lle preifat. Ond, roedd yn gwybod bod llawer o bobl wedi arfer ei weld yn gweddïo bob dydd. Felly, parhaodd Daniel i weddïo lle roedd pobl yn gallu ei weld, er bod hynny’n beryglus iddo, oherwydd nid oedd eisiau i bobl feddwl ei fod wedi stopio gwasanaethu Jehofa.

14 Cafodd Daniel ei fendithio gan Jehofa oherwydd ei benderfyniad dewr  a ffyddlon. Gwnaeth Jehofa wyrth ac achub Daniel rhag cael ei ladd gan lewod. O ganlyniad, roedd pobl ar hyd a lled Ymerodraeth Medo-Persia yn dysgu am Jehofa!—Daniel 6:25-27.

15. Sut gallwn ni feithrin ffydd fel Daniel?

15 Sut gallwn ni feithrin ffydd fel Daniel? Nid yw darllen Gair Duw yn ddigon ar ei ben ei hun ar gyfer meithrin ffydd gref. Mae’n rhaid inni ei ddeall. (Mathew 13:23) Rydyn ni eisiau deall sut mae Jehofa yn meddwl ac yn teimlo am bethau. Felly, mae’n bwysig inni feddwl yn ofalus am yr hyn rydyn ni’n ei ddarllen. Mae hefyd yn bwysig i weddïo’n aml, yn enwedig mewn sefyllfaoedd anodd. Gallwn fod yn ffyddiog y bydd Jehofa yn rhoi yn hael inni’r doethineb a’r nerth rydyn ni’n gweddïo amdanyn nhw.—Iago 1:5.

DILYNODD JOB EGWYDDORION DWYFOL

16, 17. Sut daeth Job i adnabod Jehofa?

16 Sut daeth Job i adnabod Jehofa? Doedd Job ddim yn un o’r Israeliaid.  Ond roedd Abraham, Isaac, a Jacob yn perthyn o bell iddo, ac roedd Jehofa wedi dysgu iddyn nhw amdano’i hun ac am yr hyn roedd eisiau ar gyfer bodau dynol. Mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, dysgodd Job am y gwirioneddau pwysig hynny. (Job 23:12) Dywedodd Job wrth Jehofa ei fod “wedi clywed” amdano. (Job 42:5) A dywedodd Jehofa fod Job wedi dweud y gwir amdano wrth eraill.—Job 42:7, 8.

Mae ein ffydd yn cryfhau wrth edrych ar y greadigaeth a dysgu mwy am rinweddau Jehofa (Gweler paragraff 17)

17 Daeth Job i wybod am rinweddau Jehofa drwy edrych ar y greadigaeth. (Job 12:7-9, 13) Gwnaeth Elihw a Jehofa ddefnyddio’r greadigaeth i ddysgu gwers i Job ynglŷn â pha mor fychan ydy bodau dynol o’u cymharu â Duw. (Job 37:14; 38:1-4) Gwnaeth geiriau Jehofa argraff ar Job ac achosi iddo ddweud yn ostyngedig wrth Dduw: “Dw i’n gwybod dy fod ti’n gallu gwneud unrhyw beth; does dim modd rhwystro dy gynlluniau di.” Fe ychwanegodd ei fod “yn edifarhau mewn llwch a lludw.”—Job 42:2, 6.

18, 19. Sut gwnaeth Job ddangos ei fod yn adnabod Jehofa yn dda?

18 Sut gwnaeth adnabod Duw yn dda helpu Job? Roedd Job yn deall egwyddorion dwyfol yn dda iawn. Roedd yn wir yn adnabod Jehofa, ac roedd hyn yn ei ysgogi i ymddwyn yn y ffordd iawn. Er enghraifft, roedd Job yn gwybod nad oedd yn gallu dweud ei fod yn caru Duw petai’n angharedig wrth eraill. Doedd Job ddim yn meddwl ei fod yn well nag eraill ond, yn hytrach, roedd yn eu trin fel petasen nhw’n deulu iddo, boed nhw’n gyfoethog neu’n dlawd. Dywedodd Job: “Onid Duw greodd nhw, fel fi, yn y groth?” (Job 31:13-22) Hyd yn oed pan oedd Job yn berson cyfoethog a phwerus, doedd ddim yn falch a doedd ddim yn ystyried pobl eraill yn llai pwysig nag ef ei hun. Mae hyn yn wahanol iawn i’r ffordd mae pobl sy’n gyfoethog ac yn bwerus yn ymddwyn heddiw.

19 Doedd Job ddim eisiau i ddim byd, gan gynnwys pethau materol, ddod yn fwy pwysig iddo na Jehofa. Petai hynny’n digwydd, roedd yn gwybod y byddai “wedi gwadu’r Duw sydd uchod.” (Darllen Job 31:24-28.) Hefyd, roedd Job yn credu bod priodas yn addewid cysegredig rhwng gŵr a gwraig. Gwnaeth hyd yn oed addo iddo’i hun na fyddai byth yn edrych ar ddynes mewn ffordd anfoesol. (Job 31:1) Roedd hwn yn addewid rhyfeddol o gofio bod Job yn byw ar adeg lle’r oedd Jehofa yn caniatáu i ddynion gael mwy nag un wraig. Gallai Job fod wedi cael ail wraig petai’n dymuno hynny. Ond roedd yn gwybod bod y briodas gyntaf a drefnwyd gan Jehofa wedi bod rhwng un dyn ac un ddynes, a gwnaeth Job ddewis byw yn unol â hynny. * (Gweler y troednodyn.) (Genesis 2:18, 24) Yn wir, ryw 1,600 o flynyddoedd yn ddiweddarach, dysgodd Iesu yr un egwyddor, fod rhyw a phriodas i fod rhwng un gŵr ac un wraig.—Mathew 5:28; 19:4, 5.

20. Sut mae adnabod Jehofa a’i safonau yn dda yn ein helpu i ddewis ffrindiau ac adloniant da?

20 Sut gallwn ni feithrin ffydd fel  Job? Unwaith eto, mae’n rhaid inni adnabod Jehofa yn dda a gadael i’r wybodaeth honno ddylanwadu ar bopeth rydyn ni’n ei wneud. Er enghraifft, mae’r Beibl yn dweud bod Jehofa yn “casáu y rhai drwg a’r rhai sy’n hoffi trais,” a ni ddylen ni dreulio amser gyda phobl sy’n cuddio’r gwirionedd. (Darllen Salm 11:5; 26:4.) Gofynna i ti dy hun: ‘Beth mae’r ddwy adnod hyn yn ei ddweud wrthyf am ffordd Jehofa o feddwl? Sut dylai hynny effeithio ar yr hyn sy’n bwysicaf yn fy mywyd i? Sut y dylai effeithio ar yr hyn rydw i’n dewis edrych arno ar y we ac ar fy newis o ffrindiau ac adloniant?’ Gall dy atebion dy helpu i weld pa mor dda rwyt ti’n adnabod Jehofa. Dydyn ni ddim eisiau i’r byd drwg hwn ddylanwadu arnon ni. Felly, mae’n rhaid “dod i arfer gwahaniaethu rhwng y drwg a’r da,” a dewis rhwng yr hyn sy’n ddoeth a’r hyn sydd ddim yn ddoeth.—Hebreaid 5:14; Effesiaid 5:15.

21. Beth fydd yn ein helpu i ddeall popeth sydd ei angen arnon ni i blesio Jehofa?

21 Gan fod Noa, Daniel, a Job wedi gwneud eu gorau i ddod i adnabod Jehofa yn dda, fe wnaeth eu helpu i ddeall beth oedd yn angenrheidiol er mwyn ei blesio. Mae eu hesiamplau nhw yn dangos bod gwneud pethau ffordd Jehofa yn arwain at fywyd llwyddiannus. (Salm 1:1-3) Felly, gofynna i ti dy hun: ‘Ydw i’n adnabod Jehofa mor dda ag yr oedd Noa, Daniel, a Job?’ Y ffaith ydy, rydyn ni heddiw yn gallu adnabod Jehofa yn well nag oedd y dynion ffyddlon hynny oherwydd y mae wedi rhoi llawer mwy o wybodaeth inni amdano’i hun. (Diarhebion 4:18) Astudia’r Beibl yn ofalus. Meddylia’n ofalus amdano. A gweddïa am yr ysbryd glân. Yna, ni fydd y byd drygionus hwn yn dylanwadu arnat ti. Yn hytrach, byddi di’n ymddwyn â doethineb dwyfol ac yn agosáu’n fwy eto at dy Dad nefol.—Diarhebion 2:4-7.

^ Par. 5 Roedd gan Enoch, hen daid Noa, “berthynas agos gyda Duw.” Ond bu farw 69 mlynedd cyn i Noa gael ei eni.—Genesis 5:23, 24.

^ Par. 19 Gwnaeth Noa yr un peth. Dim ond un wraig oedd ganddo, hyd yn oed pan ddechreuodd dynion gymryd mwy nag un wraig yn fuan ar ôl i Adda ac Efa anufuddhau i Dduw.—Genesis 4:19.