PAN oeddwn i’n 12 mlwydd oed, sylweddolais fod gennyf rywbeth gwerthfawr i’w roi. Yn ystod un cynulliad, gofynnodd brawd imi a oeddwn i eisiau pregethu. “Buaswn,” atebais, er nad oeddwn i erioed wedi pregethu o’r blaen. Aethon ni i’r diriogaeth, a rhoddodd lyfrynnau imi a oedd yn trafod Teyrnas Dduw. “Gwna di’r ochr yna o’r stryd ac mi wna i yr ochr arall,” dywedodd. A minnau’n bryderus, dechreuais bregethu, a chyn bo hir, er mawr syndod imi, roedd y llyfrynnau i gyd wedi mynd. Roedd hi’n amlwg, felly, fod llawer o unigolion eisiau’r hyn roedd gen i i’w gynnig.

Ganwyd fi ym 1923 yn Chatham, Caint (Kent), yn Lloegr, mewn byd a oedd yn llawn o bobl wedi eu siomi. Nid oedd y Rhyfel Mawr wedi cyflawni’r hyn a addawyd, sef gwneud y byd yn lle gwell. Cafodd fy rhieni eu siomi hefyd gan arweinwyr eglwys y Bedyddwyr, a oedd yn canolbwyntio gormod ar hyrwyddo eu hunain. Pan oeddwn i tua naw, dechreuodd fy mam fynychu “dosbarthiadau,” neu gyfarfodydd Myfyrwyr y Beibl a oedd wedi mabwysiadu’r enw Tystion Jehofa. Yno, rhoddodd un o’r chwiorydd wersi i ni’r plant a oedd yn seiliedig ar y Beibl a’r llyfr The Harp of God. Roeddwn i’n mwynhau beth roeddwn i’n ei ddysgu.

DYSGU ODDI WRTH FRODYR HŶN

Tra oeddwn yn fy arddegau, roeddwn i’n mwynhau rhoi gobaith i bobl o Air Duw. Er imi fynd allan yn pregethu ar fy mhen fy hun yn rheolaidd, roeddwn i hefyd yn dysgu drwy bregethu ag eraill. Er enghraifft, wrth i frawd hŷn a minnau seiclo i’r diriogaeth, gwnaethon ni basio gweinidog ar y ffordd a dyma fi’n dweud, “Gafr oedd hwnnw.” Stopiodd y brawd a gofyn imi eistedd gydag ef. Gofynnodd, “Pwy sydd wedi rhoi’r awdurdod i ti farnu rhywun yn afr? Gad inni fod yn hapus yn rhoi’r newyddion da i bobl a gadael i Jehofa wneud y barnu.” Dysgais yn ystod y dyddiau cynnar hynny fod rhoi yn dod â hapusrwydd.—Math. 25:31-33; Act. 20:35.

Dysgais oddi wrth frawd hŷn arall fod angen dyfalbarhau’n amyneddgar er mwyn cael yr hapusrwydd sy’n dod o roi. Nid oedd ei wraig yn hoff o Dystion Jehofa. Un tro, derbyniais wahoddiad gan y brawd i’w dŷ am ddiod. Roedd ei wraig mor flin nes iddi ddechrau taflu pacedi te aton ni. Yn hytrach na dweud y drefn, rhoddodd y te yn ôl yn ei le heb ffwdan. Flynyddoedd wedi hynny, cafodd ei amynedd ei wobrwyo pan gafodd ei wraig ei bedyddio.

 Roedd mam a minnau wrth ein boddau yn rhoi gobaith i eraill, ac felly cawson ni ein bedyddio ym mis Mawrth 1940 yn Dover. Pan oeddwn i’n 16, gwnaeth Prydain gyhoeddi rhyfel yn erbyn yr Almaen ym mis Medi 1939. Ym mis Mehefin 1940, gwyliais filoedd o filwyr wedi eu trawmateiddio yn mynd heibio mewn lorïau. Roedden nhw wedi goroesi Brwydr Dunkirk. Nid oedd unrhyw arlliw o obaith yn eu llygaid, ac roeddwn i’n ysu am gael dweud wrthyn nhw am Deyrnas Dduw. Y flwyddyn honno, dechreuwyd bomio Prydain yn rheolaidd. Bob noson, roeddwn i’n gwylio wrth i sgwadronau o awyrennau bomio Almaenig hedfan uwchben. Chwibanodd y bomiau wrth iddyn nhw syrthio, ac roedd hynny’n ychwanegu at yr arswyd. Pan aethon ni allan y bore trannoeth, roedd y tai i gyd wedi eu chwalu’n rhacs. Yn gyflym, sylweddolais mai’r unig obaith am y dyfodol oedd y Deyrnas.

RHOI CYCHWYN AR FYWYD O ROI

Dechreuais o ddifrif ar y bywyd sydd wedi fy ngwneud i mor hapus ym 1941. Roedd gen i swydd ardderchog yn bwrw fy mhrentisiaeth yn yr Iard Longau Frenhinol yn Chatham fel saer llongau. Roedd gweision Jehofa wedi deall na ddylai Cristnogion ymladd mewn rhyfel. Erbyn 1941, daethon ni’n ymwybodol na ddylen ni weithio yn y diwydiant arfau ychwaith. (Ioan 18:36) Gan fod y dociau wedi dechrau adeiladu llongau tanfor, penderfynais ei bod hi’n hen bryd imi adael fy swydd a dechrau yn y weinidogaeth yn llawn amser. Cefais fy aseinio i Cirencester, tref hyfryd yn y Cotswolds.

Pan oeddwn i’n 18, cefais fy ngharcharu am naw mis am wrthod gwneud gwasanaeth milwrol. Teimlad dychrynllyd oedd hi pan gaewyd drws fy nghell yn glep a minnau ar fy mhen fy hun. Ond cyn bo hir, dechreuodd y gwarchodwyr a’r carcharorion eraill ofyn pam roeddwn i yno, ac roeddwn i’n falch o’r cyfle i egluro fy ffydd iddyn nhw.

Ar ôl cael fy rhyddhau, gofynnwyd imi fynd gyda Leonard Smith * i bregethu yng Nghaint. Gan ddechrau ym 1944, gwnaeth dros fil o doodlebugs, sef awyrennau jet a oedd heb griw arnyn nhw ac yn llawn bomiau, syrthio ar Gaint. Pan ddaeth yr awyrennau i fomio Llundain, roedden nhw’n hedfan yn union dros ein hardal ni. Pan oeddet ti’n clywed yr injan yn diffodd, roeddet ti’n gwybod y byddai’r awyren, o fewn ychydig eiliadau, yn syrthio ac yn ffrwydro. Roedden ni’n cynnal astudiaeth gyda theulu o bump. Ar adegau, roedden ni’n eistedd o dan fwrdd haearn a oedd wedi  ei wneud i’n hamddiffyn ni petai’r tŷ yn dymchwel. Yn y pen draw, cafodd pawb yn y teulu eu bedyddio.

MYND Â’R NEWYDDION DA DRAMOR

Hysbysebu cynhadledd yn ystod fy nyddiau cynnar yn arloesi yn Iwerddon

Ar ôl y rhyfel, gwnes i arloesi am ddwy flynedd yn ne Iwerddon. Doedd gennyn ni ddim clem am y gwahaniaethau rhwng Iwerddon a Lloegr. Aethon ni o ddrws i ddrws yn gofyn am lety, gan ddweud ein bod ni’n genhadon, ac roedden ni’n cynnig ein cylchgronau ar y stryd. Am bethau “gwirion” i’w gwneud mewn gwlad Gatholig o’r fath! Cwynais wrth heddwas ar ôl inni gael ein bygwth gan ddyn cas, a dywedodd yntau, “Wel, beth rwyt ti’n ei ddisgwyl?” Nid oedden ni’n sylweddoli pa mor rymus oedd yr offeiriaid. Roedden nhw’n pwyso ar gyflogwyr i ddiswyddo pobl petasen nhw’n derbyn ein llyfrau, ac roedden nhw’n mynnu bod y landlordiaid yn ein troi ni allan.

Ar ôl cyrraedd ardal newydd, yn fuan iawn y dysgon ni mai’r peth call i’w wneud oedd seiclo’n bell o’r lle yr oedden ni’n aros, ac i bregethu dim ond mewn ardal â gwahanol offeiriad. Dim ond ar ôl hynny roedden ni’n ymweld â’r bobl gyfagos. Yn Kilkenny, roedden ni’n dysgu dyn ifanc dair gwaith yr wythnos, er gwaetha’r ffaith fod torfeydd treisgar yn ein bygwth ni. Roeddwn i’n mwynhau dysgu gwirioneddau’r Beibl i bobl gymaint nes imi benderfynu gwneud cais i fynychu Ysgol Feiblaidd Gilead y Watchtower er mwyn cael fy hyfforddi i fynd yn genhadwr.

Ein sgwner Sibia a oedd yn gartref cenhadol inni o 1948 hyd 1953

Ar ôl mynychu’r cwrs pum mis yn Efrog Newydd, cafodd pedwar ohonon ni ein haseinio i ynysoedd bychain Môr y Caribî. Ym mis Tachwedd 1948, gadawon ni Efrog Newydd mewn sgwner, neu gwch, o’r enw Sibia, a oedd yn 59-troedfedd (18 m) o hyd. Nid oeddwn i erioed wedi hwylio o’r blaen, felly roeddwn i wedi cyffroi’n lân. Roedd un o’r pedwar, Gust Maki, yn gapten profiadol. Dysgodd sgiliau hwylio sylfaenol inni fel, er enghraifft, sut i godi a gostwng gwahanol hwyliau, sut i ddarllen cwmpawd, a sut i hwylio yn erbyn y gwynt. Gwnaeth Gust hwylio ein llong am 30 diwrnod trwy stormydd peryglus nes inni gyrraedd y Bahamas.

“CYHOEDDWCH YN YR YNYSOEDD PELL”

Ar ôl treulio ychydig o fisoedd yn pregethu ar ynysoedd bychain y Bahamas, dechreuon ni hwylio tuag at Ynysoedd Leeward ac at Ynysoedd Windward, sy’n ymestyn ryw 500 o filltiroedd o Ynysoedd y Wyryf wrth ymyl Puerto Rico i Trinidad bron. Am bum mlynedd, roedden ni’n pregethu’n bennaf ar ynysoedd anghysbell lle nad oedd unrhyw Dystion. Weithiau roedden ni’n mynd wythnosau heb allu derbyn nac anfon post. Ond, roedden ni mor hapus yn cyhoeddi gair Jehofa ar yr ynysoedd!—Jer. 31:10.

Y criw o genhadon ar y Sibia (o’r chwith i’r dde): Ron Parkin, Dick Ryde, Gust Maki, a Stanley Carter

Wrth inni fwrw angor mewn bae, byddai ein hymweliad yn creu stŵr ymhlith y trigolion, a byddan nhw’n ymgasglu ar y lanfa i weld pwy oedden ni. Doedd rhai erioed wedi gweld sgwner na dynion gwyn o’r blaen. Roedd y bobl yn gyfeillgar, yn grefyddol, ac yn gyfarwydd â’u Beiblau. Yn aml, rhoddon nhw bysgod ffres inni, ynghyd ag afocados a chnau. Nid oedd llawer o le ar ein cwch ar gyfer cysgu, coginio, a golchi dillad, ond roedden ni’n ymdopi.

Roedden ni’n rhwyfo i’r lan ac yn ymweld â’r bobl drwy’r dydd ac yn hysbysebu anerchiad Beiblaidd. Wrth iddi nosi, roedden ni’n canu cloch y llong. Hyfryd iawn oedd gweld y trigolion yn  cyrraedd. Roedd eu lampau olew yn disgleirio fel sêr wrth iddyn nhw ddod i lawr o’r bryniau. Weithiau, roedd cant o bobl yn dod, ac yn aros yn hwyr i ofyn cwestiynau. Roedden nhw’n mwynhau canu, felly, roedden ni’n teipio geiriau rhai o ganeuon y Deyrnas ac yn eu dosbarthu nhw. Wrth i’r pedwar ohonon ni wneud ein gorau i ganu’r alawon, roedd y bobl yn cydganu a’u lleisiau’n harmoneiddio. Am amser hapus oedd hwnnw!

Ar ôl inni gynnal astudiaeth Feiblaidd, byddai rhai o’r myfyrwyr yn cerdded gyda ni i’r teulu nesaf er mwyn ymuno â’r astudiaeth honno hefyd. Er bod rhaid inni adael ar ôl treulio ychydig o wythnosau mewn un lle penodol, gofynnon ni i’r rhai a oedd wedi dangos llawer o ddiddordeb ddysgu eraill tan roedden ni’n dychwelyd. Braf oedd gweld sut roedd rhai ohonyn nhw’n cymryd eu haseiniad o ddifrif.

Heddiw, mae llawer o’r ynysoedd hynny yn llawn twristiaid, ond bryd hynny, roedden nhw’n llefydd diarffordd gyda lagwnau gwyrddlas, traethau, a choed palmwydd. Fel arfer, roedden ni’n hwylio o un ynys i’r un nesaf yn ystod y nos. Roedd dolffiniaid yn nofio’n chwareus wrth ochr y cwch, a’r unig sŵn a glywid oedd blaen y llong yn torri trwy’r môr. Disgleiriodd y lleuad ar y môr llonydd gan lunio llwybr arian a oedd yn ymestyn at y gorwel.

Ar ôl pum mlynedd yn pregethu ar yr ynysoedd, hwylion ni i Puerto Rico er mwyn cyfnewid ein sgwner am gwch gydag injan. Pan gyrhaeddon ni, cwrddais â chenhades o’r enw Maxine Boyd a syrthiais mewn cariad â hi. Roedd hi wedi bod yn pregethu’n selog ers ei phlentyndod. Yn hwyrach ymlaen, roedd hi’n gwasanaethu fel cenhades yng Ngweriniaeth Dominica nes iddi gael eu hel allan o’r wlad gan y llywodraeth Gatholig ym 1950. Roedd gen i’r papurau i aros yn Puerto Rico am fis yn unig. Cyn bo hir, byddaf yn hwylio yn ôl i’r ynysoedd a byddaf i ffwrdd am flynyddoedd. Felly, dywedais wrthyf fi fy hun, “Ronald, os wyt ti eisiau’r ferch ’ma, ti’n gorfod gweithredu’n gyflym.” Ar ôl tair wythnos, gofynnais iddi fy mhriodi i, ac ar ôl chwe wythnos, roedden ni wedi priodi. Cawson ni aseiniad i fod yn genhadon yn Puerto Rico, felly wnes i ddim mynd i’r môr ar y cwch newydd.

Ym 1956, dechreuais wasanaethu fel arolygwr y gylchdaith. Roedd llawer o’r brodyr yn dlawd, ond roedden ni wrth ein boddau yn ymweld â nhw. Er enghraifft, yn y pentref Potala Pastillo, roedd yna ddau deulu o Dystion gyda llawer o blant, ac roeddwn i’n arfer chwarae’r ffliwt iddyn nhw. Gofynnais i un o’r merched bach, Hilda, a oedd hi eisiau dod gyda ni i bregethu. Dywedodd hi: “Dw i eisiau, ond alla’ i ddim. Does gen i ddim esgidiau.” Prynon ni bâr iddi, a daeth hi gyda ni. Flynyddoedd wedyn ym 1972, pan oedd Maxine a minnau yn ymweld â Bethel Brooklyn, daeth chwaer aton ni a oedd newydd raddio o Ysgol Gilead. Roedd hi ar fin gadael am ei haseiniad newydd yn Ecwador, a dywedodd hi, “Dydych chi ddim yn fy adnabod i nac ydych? Fi yw’r eneth fach heb esgidiau o Pastillo.” Hilda oedd hi! Roedden ni mor hapus nes inni grio!

Ym 1960 cawson ni wahoddiad i wasanaethu yng nghangen Puerto Rico, sef tŷ deulawr yn Santurce, San Juan. Ar y cychwyn, roeddwn i a Lennart Johnson yn gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith. Ef a’i wraig oedd y Tystion Jehofa cyntaf yng Ngweriniaeth Dominica, a chyrhaeddon nhw Puerto Rico ym 1957. Yn nes ymlaen, roedd Maxine yn prosesu archebion y cylchgronau—dros fil yr wythnos. Roedd hi’n mwynhau’r gwaith oherwydd roedd hi’n meddwl am yr holl bobl a oedd yn derbyn bwyd ysbrydol.

Rwy’n mwynhau gwasanaethu yn y Bethel, gan ei fod yn fywyd o roi. Ond nid yw’n fywyd hawdd. Er enghraifft, yn ystod cynhadledd ryngwladol gyntaf Puerto Rico ym 1967, aeth y cyfrifoldeb yn drech na fi. Gwnaeth Nathan Knorr, a oedd yn arwain ymhlith y Tystion, ddod i Puerto Rico. Roedd yn tybio fy mod i wedi anghofio trefnu cludiant ar gyfer y cenhadon gwadd, ond nid oedd hynny’n wir. Rhoddodd gyngor cryf imi ynglŷn â bod yn drefnus, a dywedodd fy mod i wedi ei siomi. Nid oeddwn i eisiau cweryla, ond roeddwn i’n credu ei fod wedi fy marnu ar gam ac roeddwn i’n drist am gyfnod wedyn. Beth bynnag, y tro nesaf i Maxine  a minnau weld Brawd Knorr, rhoddodd wahoddiad inni i’w ystafell a choginio pryd o fwyd inni.

O Puerto Rico, ymwelon ni â fy nheulu yn Lloegr sawl gwaith. Nid oedd fy nhad wedi derbyn y gwir yr un pryd â fy mam a mi. Ond pan oedd siaradwyr o’r Bethel yn dod, yn aml roedden nhw’n aros yn ein cartref. O gymharu â’r clerigwyr a oedd wedi siomi fy nhad flynyddoedd ynghynt, roedd arolygwyr y Bethel yn ostyngedig iawn. O’r diwedd, cafodd fy nhad ei fedyddio ym 1962.

Maxine a minnau yn Puerto Rico ychydig ar ôl inni briodi, ac yn dathlu 50 mlynedd o briodas yn 2003

Bu farw fy ngwraig annwyl, Maxine, yn 2011. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at ei gweld hi eto yn yr atgyfodiad! Yn ystod ein 58 mlynedd gyda’n gilydd, gwelodd Maxine a minnau niferoedd pobl Jehofa yn cynyddu yn Puerto Rico o tua 650 i 26,000! Wedyn, yn 2013, cafodd cangen Puerto Rico ei huno â changen yr Unol Daleithiau, a gofynnwyd i mi wasanaethu yn Wallkill, Efrog Newydd. Ar ôl 60 mlynedd yn Puerto Rico, roeddwn i yr un mor gartrefol â’r coqui, llyffant bach y coed sy’n canu gyda’r nos co-cî, co-cî. Ond roedd hi’n amser i symud ymlaen.

“RHODDWR LLAWEN Y MAE DUW’N EI GARU”

Rwy’n dal yn mwynhau gwasanaethu Duw yn y Bethel. Heddiw, rwy’n 90 mlwydd oed, ac wedi fy aseinio i fugeilio a chalonogi aelodau’r teulu Bethel. Dywedwyd wrthyf fy mod i wedi bugeilio dros 600 o bobl ers imi ddod i Wallkill. Mae rhai eisiau trafod problemau personol neu deuluol. Mae eraill yn gofyn am gyngor ar sut i lwyddo yn eu gyrfa theocrataidd. Ac mae eraill sydd newydd briodi yn gofyn am gyngor priodasol. Mae rhai wedi cael eu hailaseinio i’r maes. Rwy’n gwrando ar bawb sy’n siarad â mi, a phan fo’n briodol, rwy’n dweud wrthyn nhw: “‘Rhoddwr llawen y mae Duw’n ei garu.’ Felly bydda’n hapus yn dy waith. Gwasanaethu Jehofa yr wyt ti.”—2 Cor. 9:7.

Mae’r her o fod yn hapus yr un fath le bynnag rydyn ni’n gwasanaethu: Rwyt ti’n gorfod canolbwyntio ar bwysigrwydd yr hyn rwyt ti’n ei wneud. Mae popeth rydyn ni’n ei wneud yn y Bethel yn wasanaeth cysegredig. Mae’n helpu’r “gwas ffyddlon a chall” i ddarparu bwyd ysbrydol i’n brawdoliaeth fyd-eang. (Math. 24:45) Le bynnag rydyn ni’n gwasanaethu Jehofa, mae gennyn ni’r cyfle i’w glodfori. Gad inni fwynhau’r hyn y mae’n gofyn inni ei wneud, gan fod Duw yn caru “rhoddwr llawen.”

^ Par. 13 Gweler hanes bywyd Leonard Smith yn y Tŵr Gwylio Saesneg 15 Ebrill 2012.