Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

Sut Roedd Iesu yn Edrych?

Sut Roedd Iesu yn Edrych?

Does gan neb ffotograff o Iesu. Ni wnaeth neb dynnu ei lun, na gwneud cerflun ohono. Eto, mae’n ymddangos yng ngwaith celf llu o artistiaid ar hyd y canrifoedd.

Wrth gwrs, doedd yr artistiaid hynny ddim yn gwybod sut roedd Iesu yn edrych. Yn aml, roedd ffactorau diwylliannol, daliadau crefyddol, a dymuniadau’r noddwyr i gyd yn dylanwadu ar y ffordd roedd artistiaid yn portreadu Iesu. Er hynny, mae eu paentiadau neu eu cerfluniau yn gallu effeithio ar y ffordd y mae pobl yn edrych ar Iesu a’i ddysgeidiaethau ac yn gallu gwneud popeth yn aneglur.

Mae rhai artistiaid wedi portreadu Iesu yn ddyn gwan a chanddo wallt hir, barf denau, a golwg trist arno. Mewn portreadau eraill, mae Iesu yn ymddangos yn oruwchnaturiol, a halo uwch ei ben ac yn sefyll ar wahân i bawb arall o’i gwmpas. Ydy portreadau o’r fath yn gywir? Sut gallwn ni ddod o hyd i’r ateb? Trwy ddarllen hanes Iesu yn y Beibl i weld a ydy’r hyn sy’n cael ei ddweud amdano yn taflu goleuni ar y ffordd roedd yn debygol o edrych. Gall gwneud hynny ein helpu ni i weld Iesu yn y ffordd iawn.

“RWYT WEDI RHOI CORFF I MI”

Dywedodd Iesu’r geiriau hynny mewn gweddi ar adeg ei fedydd yn ôl pob tebyg. (Hebreaid 10:5; Mathew 3:13-17) Sut roedd y corff hwnnw’n edrych? Ryw 30 mlynedd yn gynharach, roedd yr angel Gabriel wedi datgelu’r canlynol i Mair: “Rwyt ti’n mynd i fod yn feichiog, a byddi di’n cael mab, . . . bydd yn cael ei alw yn Fab Duw.” (Luc 1:31, 35) Felly, roedd Iesu’n ddyn perffaith, fel yr oedd Adda pan gafodd ei greu. (Luc 3:38; 1 Corinthiaid 15:45) Y tebyg yw bod Iesu yn ddyn cryf, a chanddo’r un nodweddion corfforol â’i fam Iddewig Mair.

Yn ôl yr arfer ymhlith Iddewon ac yn wahanol i’r Rhufeiniaid, roedd gan Iesu farf. Roedd barfau o’r fath yn symbol o urddas a pharchusrwydd, a doedden nhw ddim yn hir nac yn flêr. Byddai Iesu yn siŵr o fod wedi trimio ei farf a’i wallt yn daclus. Dim ond y rhai a oedd wedi ymgysegru’n Nasareaid, fel Samson, oedd yn peidio â thorri eu gwallt.—Numeri 6:5; Barnwyr 13:5.

Am 30 mlynedd bron, saer coed oedd Iesu, yn gweithio heb gymorth offer pŵer modern. (Marc 6:3) Roedd ganddo, mae’n siŵr, gorff cryf iawn. Yn gynnar yn ei weinidogaeth, a heb gymorth unrhyw un arall, dyma’n mynd at y rhai oedd yn prynu ac yn gwerthu yn y deml “a’u gyrru nhw i gyd allan o’r deml gyda’r defaid a’r ychen. Chwalodd holl arian y rhai oedd yn cyfnewid arian, a throi eu byrddau drosodd.” (Ioan 2:14-17) Byddai’n rhaid i Iesu fod wedi bod yn ddyn cryf a chadarn i wneud y fath beth. Defnyddiodd Iesu’r corff a roddwyd iddo gan Dduw i wneud ewyllys ei Dad nefol: “Rhaid i mi gyhoeddi’r newyddion da am Dduw yn teyrnasu yn y trefi eraill hefyd. Dyna pam dw i wedi cael fy anfon yma.” (Luc 4:43) Roedd angen stamina aruthrol i gerdded ar hyd a lled Palesteina yn cyhoeddi’r neges hon.

“DEWCH ATA I, . . . A RHOF I ORFFWYS I CHI”

Yn sicr, oherwydd wyneb ac ymarweddiad cariadus Iesu, byddai’r gwahoddiad hwn wedi apelio at bobl a oedd wedi eu “llethu gan feichiau trwm.”  (Mathew 11:28-30) Roedd ei gynhesrwydd a’i garedigrwydd yn tanlinellu’r ffaith fod Iesu eisiau i bobl ddod i orffwys o dan ei ofal cariadus. Mae’r Beibl yn dweud bod Iesu wedi codi plant bach yn ei freichiau, felly, fe welwn ni fod rhai ifanc eisiau bod yn ei gwmni.—Marc 10:13-16.

Er ei fod wedi dioddef poen ofnadwy cyn iddo farw, doedd Iesu ddim yn berson trist. Er enghraifft, cyfrannodd at hwyl y wledd briodas ym mhentref Cana drwy droi dŵr yn win. (Ioan 2:1-11) Ar achlysuron eraill, dysgodd wersi bythgofiadwy i’r rhai a oedd yn gwrando arno.—Mathew 9:9-13; Ioan 12:1-8.

Yn fwy na dim, roedd pregethu Iesu yn rhoi’r cyfle i’w wrandawyr gael bywyd tragwyddol. (Ioan 11:25, 26; 17:3) Pan wnaeth 70 o’i ddisgyblion adrodd hanes eu gwaith pregethu, “roedd Iesu’n fwrlwm o lawenydd” a dywedodd wrthyn nhw: “Y rheswm dros fod yn llawen ydy bod eich enwau wedi eu hysgrifennu yn y nefoedd.”—Luc 10:20, 21.

“OND DIM FEL YNA DYLECH CHI FOD”

Roedd yr arweinwyr crefyddol yn nyddiau Iesu yn gwneud popeth i dynnu sylw atyn nhw eu hunain a’u hawdurdod. (Numeri 15:38-40; Mathew 23:5-7) Ond gorchymyn Iesu i’w apostolion oedd iddyn nhw beidio â’i “lordio hi dros bobl.” (Luc 22:25, 26) Yn wir, rhybuddiodd Iesu: “Gwyliwch yr arbenigwyr yn y Gyfraith. Maen nhw wrth eu bodd yn cerdded o gwmpas yn swancio yn eu gwisgoedd swyddogol, a chael pawb yn eu cyfarch ac yn talu sylw iddyn nhw yn y farchnad.”—Marc 12:38.

Ond, yn wahanol i’r arweinwyr crefyddol, roedd Iesu yn gwneud ei waith yn ddistaw bach heb dynnu sylw ato ef ei hun o gwbl. (Ioan 7:10, 11) Hyd yn oed ymhlith yr un ar ddeg apostol ffyddlon, doedd Iesu ddim yn sefyll allan yn gorfforol. Roedd yn rhaid i Jwdas roi “arwydd” i’r dynion a ddaeth i arestio Iesu drwy “ei gyfarch â chusan.”—Marc 14:44, 45.

Er nad ydyn ni’n gwybod y ffeithiau i gyd, mae hi’n amlwg nad oedd Iesu yn edrych fel yr oedd yn aml yn cael ei bortreadu. Fodd bynnag, yn bwysicach na’r ffordd roedd Iesu’n edrych yw’r ffordd rydyn ni’n edrych arno heddiw.

“FYDD Y BYD DDIM YN FY NGWELD I ETO”

Ar ôl i Iesu ddweud y geiriau hyn, o fewn y diwrnod, roedd Iesu wedi marw ac wedi ei gladdu. (Ioan 14:19) Rhoddodd ei fywyd er mwyn “talu’r pris i ryddhau llawer o bobl.” (Mathew 20:28) Ar y trydydd dydd, “dyma Duw yn dod ag e’n ôl yn fyw,” a gwnaeth rhai o’i ddisgyblion ei weld yn fyw. (1 Pedr 3:18, Beibl Cymraeg Diwygiedig; Actau 10:40) Sut roedd Iesu yn edrych pan welodd y disgyblion ef bryd hynny? Yn wahanol iawn i’r ffordd roedd yn edrych cyn iddo farw a chael atgyfodiad oherwydd doedd ei ddisgyblion agos ddim yn ei adnabod yn syth. Roedd Mair Magdalen yn meddwl mai garddwr oedd Iesu, ac “roedd dau o ddilynwyr Iesu ar eu ffordd i bentref Emaus” yn meddwl ei fod yn ddyn diarth.—Luc 24:13-18; Ioan 20:1, 14, 15.

Felly, pa ddarlun o Iesu y dylen ni ei gael yn llygad ein dychymyg? Dros 60 mlynedd ar ôl i Iesu farw, gwelodd yr apostol Ioan weledigaethau o Iesu Grist. Ni welodd Ioan ffigwr yn marw ar groes. Yn hytrach, dyma’n gweld “BRENIN AR FRENHINOEDD AC ARGLWYDD AR ARGLWYDDI,” Brenin Teyrnas Dduw a fydd cyn bo hir yn gorchfygu gelynion Duw, y rhai cythreulig a dynol, ac yn dod â bendithion tragwyddol i ddynolryw.—Datguddiad 19:16; 21:3, 4.