Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

Y Beibl—Pam Cymaint o Fersiynau?

Y Beibl—Pam Cymaint o Fersiynau?

Pam mae ’na gymaint o fersiynau neu gyfieithiadau o’r Beibl heddiw? Ydych chi’n credu bod cyfieithiadau newydd yn ein helpu i ddeall y Beibl yn well neu yn ein rhwystro rhag ei ddeall? Bydd dysgu am eu tarddiad yn eich helpu i’w hasesu mewn ffordd ddoeth.

Ond, yn gyntaf, pwy ysgrifennodd y Beibl yn wreiddiol, a pham?

Y BEIBL GWREIDDIOL

Fel arfer, mae’r Beibl yn cael ei rannu yn ddwy ran. Mae gan y rhan gyntaf 39 llyfr sy’n cynnwys “neges Duw.” (Rhufeiniaid 3:2) Ysbrydolodd Duw ddynion ffyddlon i ysgrifennu’r llyfrau hyn dros gyfnod hir—tua 1,100 o flynyddoedd o 1513 COG hyd at 443 COG neu rywbryd ar ôl hynny. Yn bennaf, roedden nhw’n ysgrifennu yn yr Hebraeg, felly, yr enw a roddwyd ar y rhan hon yw’r Ysgrythurau Hebraeg, a elwir hefyd yr Hen Destament.

Mae gan yr ail ran 27 llyfr sydd hefyd yn rhan o “neges gan Dduw.” (1 Thesaloniaid 2:13) Gwnaeth Duw ysbrydoli disgyblion ffyddlon Iesu Grist i ysgrifennu’r llyfrau hyn dros gyfnod llawer llai—tua 60 mlynedd, o tua 41 OG hyd at 98 OG. Ar y cyfan, roedden nhw’n ysgrifennu yn yr iaith Roeg, felly, yr enw a roddwyd ar y rhan hon yw’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol, a elwir hefyd y Testament Newydd.

Gyda’i gilydd, y 66 llyfr ysbrydoledig hyn yw’r Beibl cyfan—sef, neges Duw i ddynolryw. Ond, pam cafodd cyfieithiadau eraill o’r Beibl eu gwneud hefyd? Dyma’r tri rheswm pennaf.

  • I alluogi pobl i ddarllen y Beibl yn eu mamiaith.

  • I gael gwared ar wallau’r copïwyr ac yna adfer testun gwreiddiol y Beibl.

  • I ddiweddaru iaith hynafol.

Ystyriwch sut gwnaeth y ffactorau hyn effeithio ar ddau gyfieithiad cynnar.

 Y SEPTUAGINT GROEG

Tua 300 o flynyddoedd cyn adeg Iesu, dechreuodd ysgolheigion Iddewig gyfieithu’r Ysgrythurau Hebraeg i iaith arall—Groeg. Yr enw a roddwyd ar y cyfieithiad hwn ydy’r Septuagint Groeg. Pam cafodd ei gyfieithu? I helpu’r llawer o Iddewon a oedd erbyn hyn yn siarad Groeg yn hytrach na Hebraeg i lynu wrth yr “ysgrifau sanctaidd.”—2 Timotheus 3:15.

Roedd y Septuagint hefyd yn helpu llawer o bobl nad oedden nhw’n Iddewon ond a oedd yn siarad Groeg i ddod i wybod am ddysgeidiaethau’r Beibl. Sut? “O ganol y ganrif gyntaf,” meddai’r Athro W. F. Howard, “hwnnw oedd Beibl yr Eglwys Gristnogol, ac roedd ei chenhadon yn teithio o un synagog i’r llall yn ‘profi trwy ddefnyddio’r ysgrythurau mai Iesu oedd y Meseia.’” (Actau 17:3, 4; 20:20) Dyna un rheswm pam y gwnaeth llawer o Iddewon “golli diddordeb yn y Septuagint,” yn ôl yr ysgolhaig Beiblaidd F. F. Bruce.

Wrth i ddisgyblion Iesu dderbyn llyfrau’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn raddol, gwnaethon nhw eu rhoi at ei gilydd gyda chyfieithiad y Septuagint o’r Ysgrythurau Hebraeg, a hwnnw ydy’r Beibl cyflawn sydd gennyn ni heddiw.

Y FWLGAT LLADIN

Tua 300 o flynyddoedd ar ôl i’r Beibl gael ei gwblhau, cynhyrchodd yr ysgolhaig crefyddol Jerôm gyfieithiad Lladin o’r Beibl, a elwir, dros amser, y Fwlgat Lladin. Roedd ambell gyfieithiad Lladin eisoes yn bodoli, felly, pam roedd angen un newydd? Roedd Jerôm eisiau cywiro “cyfieithiadau anghywir, camgymeriadau amlwg, a phethau a oedd wedi eu hychwanegu a’u dileu heb reswm,” meddai’r International Standard Bible Encyclopedia.

Cywirodd Jerôm lawer o’r camgymeriadau hynny. Ond, mewn amser, gwnaeth awdurdodau’r eglwys wneud tro gwael iawn. Dyma nhw’n datgan mai’r Fwlgat Lladin oedd yr unig gyfieithiad cymeradwy o’r Beibl, a dyna sut yr oedd hi am ganrifoedd! Yn hytrach na helpu’r bobl gyffredin i ddeall y Beibl, roedd y Fwlgat yn eu cau nhw allan oherwydd, yn y pen draw, doedd pobl ddim yn deall Lladin o gwbl.

 LLU O GYFIEITHIADAU NEWYDD

Yn y cyfamser, parhaodd pobl i greu cyfieithiadau eraill o’r Beibl—fel y Peshitta Syrieg, tua’r bumed ganrif OG. Ond, nid tan y bedwaredd ganrif ar ddeg y gwnaethpwyd ymdrechion i roi’r ysgrythurau i lawer o bobl gyffredin yn eu hiaith eu hunain.

Yn Lloegr, yn hwyr yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, dechreuodd John Wycliffe y broses o dorri’n rhydd rhag crafangau iaith farw drwy gynhyrchu Beibl Saesneg, iaith roedd pobl yn ei wlad ef yn gallu ei deall. Yn fuan ar ôl hynny, gwnaeth dulliau argraffu Johannes Gutenberg agor y ffordd i ysgolheigion gynhyrchu a dosbarthu cyfieithiadau newydd o’r Beibl mewn llawer o ieithoedd byw ar draws Ewrop.

Wrth i fwy o gyfieithiadau Saesneg ymddangos, dechreuodd y beirniaid gwestiynu a oedd angen cymaint o fersiynau yn yr un iaith. Yn y ddeunawfed ganrif, ysgrifennodd y clerigwr John Lewis: “Mae iaith yn mynd yn hen ac yn annealladwy, felly, hanfodol yw adolygu’r hen Gyfieithiadau er mwyn iddyn nhw siarad yr Iaith sy’n cael ei defnyddio, ac iddyn nhw fod yn ddealladwy i’r genhedlaeth fyw.”

Heddiw, mae ysgolheigion Beiblaidd mewn gwell sefyllfa i adolygu hen gyfieithiadau. Maen nhw’n deall hen ieithoedd y Beibl yn well, ac mae ganddyn nhw hen ysgrifau Beiblaidd sydd wedi cael eu darganfod yn ddiweddar. Mae’r rhain yn eu helpu nhw i fod yn fwy pendant ynglŷn â thestun gwreiddiol y Beibl.

Felly, mae fersiynau newydd o’r Beibl yn werthfawr iawn. Wrth gwrs, mae angen bod yn ofalus gyda rhai ohonyn nhw. * Ond, os mai gwir gariad tuag at Dduw yw cymhelliad y cyfieithydd, bydd ei waith yn fuddiol iawn inni.

 

^ Par. 24 Gweler yr erthygl “How Can You Choose a Good Bible Translation?” yn rhifyn 1 Mai 2008, yn fersiwn Saesneg y cylchgrawn hwn.