Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r isddewislen

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Cymraeg

Y Tŵr Gwylio—Rhifyn Astudio  |  Tachwedd 2016

Wedi Ein Galw o’r Tywyllwch

Wedi Ein Galw o’r Tywyllwch

“[Jehofa] alwodd chi allan o’r tywyllwch i mewn i’w olau bendigedig.”—1 PEDR 2:9.

CANEUON: 116, 102

1. Disgrifia’r hyn a ddigwyddodd adeg dinistrio Jerwsalem.

YN 607 COG, gwnaeth byddin enfawr o Fabilon, o dan Brenin Nebuchadnesar II, orchfygu dinas Jerwsalem. Ynglŷn â’r lladdfa a ddilynodd, dywed y Beibl fod Nebuchadnesar wedi “lladd y dynion ifainc â’r cleddyf yn y deml. Gafodd neb eu harbed—y dynion a’r merched ifainc, na’r hen a’r oedrannus. . . . Wedyn dyma’r fyddin yn llosgi teml Dduw a bwrw waliau Jerwsalem i lawr. Dyma nhw’n llosgi’r palasau brenhinol a dinistrio popeth gwerthfawr oedd yno.”—2 Cron. 36:17, 19.

2. Pa rybudd ynglŷn â dinistrio Jerwsalem a roddodd Jehofa, a beth fyddai’n digwydd i’r Iddewon?

2 Ni ddylai dinistr Jerwsalem fod wedi synnu ei thrigolion. Am flynyddoedd, roedd proffwydi Duw wedi rhybuddio’r Iddewon gan ddweud y byddan nhw’n cael eu gorchfygu gan y Babiloniaid petaen nhw’n parhau i anwybyddu Cyfraith Duw. Byddai llawer o Iddewon yn cael eu lladd â’r cleddyf; a byddai’r rhai a lwyddodd i osgoi cael eu lladd yn debygol o dreulio gweddill eu hoes yn alltudion ym Mabilon. (Jer. 15:2) Beth oedd amgylchiadau byw’r alltudion hynny? A oes tebygrwydd rhwng y gaethglud ym Mabilon a’r cyfnod Cristnogol? Os oes, pa bryd?

 Y GAETHGLUD

3. Beth oedd y gwahaniaeth rhwng y gaethglud ym Mabilon a’r hyn a ddigwyddodd i’r Israeliaid yn yr Aifft?

3 Cafodd yr hyn a ragfynegwyd gan y proffwydi ei gyflawni. Drwy Jeremeia, dywedodd Jehofa wrth y rhai a fyddai’n alltudion yn y dyfodol i dderbyn y sefyllfa a gwneud y gorau ohoni. Dywedodd: “Adeiladwch dai [ym Mabilon] a setlo i lawr. Plannwch erddi a bwyta’r hyn sy’n tyfu ynddyn nhw. Gweithiwch dros heddwch a llwyddiant y ddinas ble dw i wedi mynd â chi’n gaeth. Gweddïwch ar yr Arglwydd drosti. Ei llwyddiant hi fydd eich llwyddiant chi.” (Jer. 29:5, 7) Roedd y rhai a ildiodd i ewyllys Duw yn byw bywyd weddol gyffredin ym Mabilon. Caniataodd y Babiloniaid iddyn nhw ofalu am eu materion eu hunain i ryw raddau. Roedd gan yr alltudion y rhyddid hyd yn oed i symud o gwmpas y wlad. Roedd Babilon yn ganolfan fasnach yn yr hen fyd, ac mae dogfennau wedi cael eu darganfod sy’n dangos bod llawer o Iddewon wedi dysgu sut i brynu a gwerthu yno, tra oedd eraill wedi dod yn grefftwyr medrus. Daeth rhai Iddewon yn gyfoethog. Nid oedd y gaethglud ym Mabilon yn ddim byd tebyg i’r gaethwasiaeth a ddioddefodd yr Israeliaid yn yr Aifft ganrifoedd ynghynt.—Darllen Exodus 2:23-25.

4. Yn ogystal â’r Israeliaid gwrthryfelgar, pwy arall a gafodd ei effeithio gan y gaethglud, a pha gyfyngiadau a osodwyd ar eu gallu i addoli Duw mewn ffordd dderbyniol?

4 Er bod yr Iddewon alltud yn gallu gofalu am eu hanghenion materol, beth am eu hanghenion ysbrydol? Roedd y deml a’i hallor wedi eu dinistrio, ac nid oedd yr offeiriadaeth yn gallu gweithredu mewn ffordd swyddogol. Ymysg yr alltudion, roedd yna weision ffyddlon i Dduw ac nid oedden nhw’n haeddu cael eu cosbi, ond roedd yn rhaid iddyn nhw hefyd ddioddef gyda gweddill y genedl. Serch hynny, gwnaethon nhw eu gorau i gadw Cyfraith Duw. Er enghraifft, ym Mabilon, gwnaeth Daniel a’i dri chyfaill—Sadrach, Mesach, ac Abednego—ymwrthod rhag unrhyw fwydydd a oedd yn waharddedig i’r Iddewon. Rydyn ni’n gwybod bod Daniel wedi gweddïo’n gyson ar Dduw. (Dan. 1:8; 6:10) Ond eto, mewn gwlad baganaidd, roedd hi’n amhosibl i Iddew a oedd yn ofni Duw gadw at bob peth yn y Gyfraith.

5. Pa obaith a roddodd Jehofa i’w bobl, a pham roedd yr addewid hwn mor rhyfeddol?

5 A fyddai’r Israeliaid yn gallu addoli Duw mewn ffordd gwbl dderbyniol unwaith eto? Ar y pryd, doedd hynny ddim yn edrych yn debygol. Doedd y Babiloniaid byth yn rhyddhau eu caethion. Ond, nid oedd y polisi hwnnw’n ystyried Jehofa Dduw. Roedd wedi addo ei bobl y byddan nhw’n cael eu rhyddhau, a dyna ddigwyddodd. Nid yw addewidion Duw byth yn cael eu torri.—Esei. 55:11.

A OES CYFOCHREDD CYFOES?

6, 7. Pam ei bod hi’n bwysig inni goethi ein dealltwriaeth o’r gaethglud Fabilonaidd gyfoes?

6 A yw Cristnogion wedi profi unrhyw beth tebyg i’r gaethglud ym Mabilon erioed? Am flynyddoedd lawer, mae’r cylchgrawn hwn wedi awgrymu bod gweision cyfoes Duw wedi eu dwyn i gaethglud Fabilonaidd ffigurol ym 1918 a’u bod nhw wedi eu rhyddhau o Fabilon ym 1919. Fodd bynnag, am resymau fydd yn cael eu hesbonio yn yr erthygl hon a’r un nesaf, roedd yn rhaid ailedrych ar y pwnc.

7 Ystyria hyn: Ymerodraeth fyd-eang gau grefydd yw Babilon Fawr. Felly, er mwyn i bobl Dduw fod yn gaeth i’r ymerodraeth Fabilonaidd honno ym 1918,  byddai’n rhaid iddyn nhw fod wedi cael eu caethiwo gan gau grefydd mewn rhyw ffordd neu’i gilydd yr adeg honno. Fodd bynnag, mae’r ffeithiau’n dangos fod gweision eneiniog Duw, yn y degawdau cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, yn dechrau ymryddhau o Fabilon Fawr yn hytrach na dod yn gaeth iddi. Er ei bod hi’n wir fod yr eneiniog wedi cael eu herlid yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yr awdurdodau seciwlar a achosodd hyn, nid Babilon Fawr. Felly, nid yw hi’n ymddangos bod pobl Jehofa wedi cael eu dwyn i gaethglud gan Fabilon Fawr ym 1918.

CAETHGLUD FABILONAIDD—OND PRYD?

8. Eglura sut y cafodd gwir Gristnogaeth ei llygru. (Gweler y llun agoriadol.)

8 Adeg Pentecost 33 OG, cafodd miloedd o Iddewon a phroselytiaid eu heneinio â’r ysbryd glân. Cafodd y Cristnogion newydd hyn eu “dewis yn offeiriaid i wasanaethu’r Brenin, yn genedl sanctaidd, yn bobl sy’n perthyn i Dduw.” (Darllen 1 Pedr 2:9, 10.) Roedd yr apostolion yn cadw llygad ar gynulleidfaoedd Duw tra oedden nhw’n byw. Fodd bynnag, ar ôl i’r apostolion farw, cododd dynion a oedd “yn twistio’r gwirionedd i geisio denu dilynwyr iddyn nhw’u hunain.” (Act. 20:30; 2 Thes. 2:6-8) Roedd gan lawer o’r dynion hyn gyfrifoldebau yn y cynulleidfaoedd, yn gwasanaethu fel arolygwyr, ac yn nes ymlaen fel “esgobion.” Dros amser, fe sefydlwyd dosbarth clerigol er bod Iesu wedi dweud wrth ei ddilynwyr eu bod nhw’n frodyr ac yn chwiorydd i’w gilydd. (Math. 23:8) Gwnaeth dynion blaenllaw a oedd wedi gwirioni ar athroniaethau Aristotlys a Phlaton gyflwyno syniadau gau grefydd i’r gynulleidfa a wnaeth, yn raddol, gymryd lle dysgeidiaethau pur Gair Duw.

9. Disgrifia sut y derbyniodd Cristnogaeth wrthgiliol gefnogaeth gan y Wladwriaeth Rufeinig a’r canlyniad.

9 Yn 313 OG, cafodd y Gristnogaeth wrthgiliol hon ei chydnabod yn gyfreithiol gan yr Ymerawdwr Rhufeinig paganaidd Cystennin. O hynny ymlaen, dechreuodd yr Eglwys a’r Wladwriaeth weithio law yn llaw. Er enghraifft, yn dilyn Cyngor Nicaea, dywedodd Cystennin, a oedd yn bresennol yn y cyngor, bod yn rhaid i Arius, offeiriad a anghytunai’n chwyrn â dyfarniad y cyngor, gael ei alltudio oherwydd iddo wrthod cydnabod bod Iesu’n Dduw. Wedyn, o dan Ymerawdwr Theodosius I (379-395 OG), yr Eglwys Gatholig, fel y daethpwyd i adnabod y math hwn o Gristnogaeth lygredig, oedd crefydd swyddogol yr Ymerodraeth Rufeinig. Mae haneswyr yn cyfeirio at Rufain baganaidd yn cael ei ‘Christioneiddio’ yn y bedwaredd ganrif. Erbyn hynny, y gwir yw bod ffurf wrthgiliol o Gristnogaeth wedi ymuno â chyfundrefnau crefyddol paganaidd yr Ymerodraeth Rufeinig fel aelodau o Fabilon Fawr. Er hynny, roedd nifer bach o Gristnogion eneiniog, a oedd yn debyg i wenith, yn gwneud eu gorau i addoli Duw, ond rhoddwyd taw ar eu lleisiau. (Darllen Mathew 13:24, 25, 37-39.) Yn wir, roedden nhw’n gaeth i Fabilon Fawr!

10. Yn gynnar yn yr Oes Gyffredin, ar ba sail roedd pobl ddiffuant yn gallu cwestiynu dysgeidiaethau’r eglwys?

10 Ond eto, yn gynnar yn yr Oes Gyffredin, roedd llawer o bobl yn gallu darllen y Beibl naill ai yn y Roeg neu yn y Lladin. Roedden nhw’n gallu cymharu dysgeidiaethau Gair Duw â dogmâu’r eglwys. Ar sail yr hyn a ddarllenwyd yn y Beibl, gwrthododd rhai ohonyn nhw gredoau anysgrythurol yr eglwys, ond roedd mynegi barn o’r fath yn berygl bywyd.

11. Sut daeth y Beibl o dan reolaeth y clerigwyr?

 11 Mewn amser, doedd y werin bobl ddim yn deall ieithoedd y Beibl, a gwrthwynebodd yr eglwys unrhyw ymdrechion i gyfieithu’r Beibl i ieithoedd cyffredin. O ganlyniad, dim ond y clerigwyr a’r bobl addysgedig oedd yn gallu darllen y Beibl, ond nid oedd y clerigwyr i gyd yn gallu darllen ac ysgrifennu’n dda. Cosbwyd yn llym unrhyw un a oedd yn gwrthod cydymffurfio â dysgeidiaeth yr eglwys. Roedd yn rhaid i weision eneiniog ffyddlon Duw ddod at ei gilydd yn ddistaw bach—os oedd hynny’n bosibl o gwbl. Fel yn achos y gaethglud ym Mabilon gynt, nid oedd yr offeiriaid eneiniog yn gallu gweithredu’n swyddogol. Roedd gafael Babilon Fawr ar y bobl yn dynn fel feis!

DECHRAU GWELD Y GOLEUNI

12, 13. Pa ddwy ffactor a gyfrannodd at wanhau gafael Babilon Fawr ar y bobl? Eglura.

12 A fyddai gwir Gristnogion byth eto’n gallu addoli Duw’n agored ac mewn ffordd dderbyniol? Byddai! Dechreuodd llygedyn o oleuni dreiddio drwy’r tywyllwch o ganlyniad i ddwy ffactor bwysig. Y gyntaf oedd dyfeisio’r wasg argraffu, ganol y bymthegfed ganrif, a oedd yn defnyddio teip symudol. Cyn y daeth argraffu i’r Gorllewin, copïwyd y Beibl yn ofalus â llaw. Roedd copïau o’r Beibl yn brin ac yn ddrud. Dywedwyd y byddai’n cymryd copïwr medrus ddeng mis i gynhyrchu dim ond un copi ysgrifenedig o’r Beibl! Ar ben hynny, roedd y copïwyr yn defnyddio deunydd drud iawn (felwm neu femrwn). I’r gwrthwyneb, drwy ddefnyddio gwasg argraffu a phapur—dull llawer mwy ymarferol—gallai argraffwr medrus gynhyrchu 1,300 o dudalennau bob diwrnod!

Dyfeisiadau mewn argraffu a chyfieithwyr dewr yn helpu llacio gafael Babilon Fawr (Gweler paragraffau 12, 13)

13 Yr ail ffactor nodedig oedd y penderfyniad gan ychydig o ddynion dewr i gyfieithu Gair Duw wrth i’r unfed ganrif ar bymtheg wawrio, a hynny i ieithoedd roedd y werin bobl yn eu siarad. Risgiodd  llawer o’r cyfieithwyr hyn eu bywydau yn gwneud y gwaith hwn. Roedd hyn wedi codi ofn ar yr eglwys. Yng ngolwg yr eglwys, gallai Beibl yn nwylo dyn neu ddynes a oedd yn ofni Duw fod yn arf beryglus! Wrth i’r Beibl ddod ar gael, roedd pobl yn ei ddarllen. Wrth ei ddarllen, gofynnon nhw: Yn lle yng Ngair Duw y mae sôn am burdan? am dalu i offeiriaid weddïo dros y meirw? am gardinaliaid a’r pabau? O safbwynt yr eglwys, roedd hyn yn warthus. Sut roedd y werin yn beiddio cwestiynu arweinwyr yr eglwys? Dechreuodd yr eglwys ymladd yn ôl. Condemniwyd dynion a merched am heresi oherwydd iddyn nhw wrthod dysgeidiaethau’r eglwys, credoau a oedd yn seiliedig ar athroniaethau paganaidd Aristotlys a Phlaton—dynion a fu’n byw cyn y ganwyd Iesu. Roedd yr eglwys yn dedfrydu rhywun i farwolaeth, a’r Wladwriaeth yn cyflawni’r weithred. Y nod oedd rhybuddio pobl rhag darllen y Beibl a chwestiynu’r eglwys. At ei gilydd, gweithiodd y cynllwyn. Serch hynny, gwrthododd nifer bach o rai dewr adael i Fabilon Fawr eu dychryn. Roedden nhw wedi cael blas ar Air Duw ac eisiau blasu mwy! Roedd y llwyfan wedi ei gosod ar gyfer gwared pobl rhag gau grefydd.

14. (a) Pa ffactorau a gyfrannodd at ddeall y Beibl yn well tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg? (b) Disgrifia ymdrech y Brawd Russell i ddarganfod y gwirionedd.

14 Gwnaeth llawer a oedd yn sychedu am wirionedd y Beibl ffoi i wledydd lle’r oedd dylanwad yr eglwys yn wannach. Roedden nhw eisiau darllen ac astudio a thrafod gyda’i gilydd heb i rywun ddweud wrthyn nhw beth i’w feddwl. Mewn gwlad o’r fath, sef yr Unol Daleithiau, dechreuodd Charles Taze Russell ac ychydig gyfeillion astudio’r Beibl mewn ffordd systematig tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ar y cychwyn, nod y Brawd Russell oedd canfod pa un o’r crefyddau ar y pryd oedd yn dysgu’r gwirionedd. Roedd wedi cymharu’n ofalus iawn ddysgeidiaethau llawer o wahanol grefyddau, gan gynnwys crefyddau ar wahân i Gristnogaeth, â’r hyn y mae’r Beibl yn ei ddweud. Buan y sylweddolodd nad oedd yr un o’r crefyddau hynny yn glynu’n gyfan gwbl wrth Air Duw. Ar un adeg, gwnaeth gwrdd â chlerigwyr lleol yn y gobaith y byddai’r dynion hyn yn derbyn y gwirioneddau roedd Russell a’i gyfeillion wedi eu darganfod yng Ngair Duw ac yn eu dysgu i’w cynulleidfaoedd. Doedd gan y clerigwyr ddim diddordeb. Roedd yn rhaid i Fyfyrwyr y Beibl wynebu’r ffeithiau: Roedd partneriaeth â rhai a oedd yn mynnu dal eu gafael ar gau grefydd yn amhosibl.—Darllen 2 Corinthiaid 6:14.

15. (a) Pa bryd y daeth Cristnogion o dan iau Babilon Fawr? (b) Pa gwestiynau fydd yn cael eu trafod yn yr erthygl nesaf?

15 Hyd yma, rydyn ni wedi gweld bod gwir Gristnogion wedi eu dwyn i gaethglud Fabilonaidd yn fuan ar ôl marwolaeth yr olaf o’r apostolion. Fodd bynnag, mae sawl cwestiwn yn codi: Pa dystiolaeth ychwanegol sy’n dangos bod yr eneiniog, yn y degawdau cyn 1914, yn ymryddhau o Fabilon Fawr, yn hytrach na chael eu caethiwo ganddi? A yw’n wir fod Jehofa yn anhapus â’i weision oherwydd iddyn nhw arafu yn eu gwaith pregethu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf? Ac a wnaeth rhai o’n brodyr yn ystod y cyfnod hwnnw gyfaddawdu eu niwtraliaeth Gristnogol gan ennyn llid Jehofa? Yn olaf, os oedd Cristnogion wedi mynd yn gaeth i gau grefydd o’r ail ganrif ymlaen, pryd y cawson nhw eu rhyddhau? Cwestiynau ardderchog yw’r rhain a bydd yr erthygl nesaf yn rhoi’r atebion.