“WRAIG.” Dyna sut roedd Iesu weithiau yn cyfarch merched. Er enghraifft, wrth iacháu dynes anabl, nad oedd am ddeunaw mlynedd wedi gallu sefyll yn syth, dywedodd: “Wraig, yr wyt wedi dy waredu o’th wendid.” (Luc 13:10-13, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Gwnaeth Iesu hyd yn oed gyfarch ei fam ei hun yn y ffordd arferol hon, a ystyrid yn gwrtais adeg y Beibl. (Ioan 19:26; 20:13) Ond roedd ystyr a oedd yn golygu mwy na chwrteisi yn perthyn i air arall.

Mae’r Beibl yn defnyddio gair sy’n hynod o garedig a thyner wrth gyfeirio at rai merched. Defnyddiodd Iesu’r gair hwnnw pan siaradodd â dynes a oedd wedi dioddef gwaedlif am ddeuddeng mlynedd. Nid oedd y ffordd y nesaodd hi at Iesu yn hollol unol â Chyfraith Duw, oherwydd ei chyflwr aflan. Gellid dadlau y dylai hi fod wedi ei chadw ei hun ar wahân i eraill. (Lef. 15:19-27) Roedd ei sefyllfa’n druenus. Yn wir, “roedd hi wedi dioddef yn ofnadwy dan ofal llawer o feddygon, ac wedi gwario ei harian i gyd ar gael ei thrin, ond yn lle gwella roedd hi wedi mynd o ddrwg i waeth.”—Marc 5:25, 26.

Ymlwybrodd y ddynes yn ddistaw bach drwy’r dyrfa, ymnesáu o’r tu ôl, a chyffwrdd â dillad Iesu. Stopiodd y gwaedlif ar unwaith! Roedd y ddynes yn gobeithio na fyddai neb yn ei sylwi, ond gofynnodd Iesu: “Pwy gyffyrddodd fi?” (Luc 8:45-47) Roedd y ddynes yn crynu a syrthiodd o flaen Iesu gan ddweud “yr hanes i gyd wrtho.”—Marc 5:33.

Er mwyn cysuro’r ddynes, dywedodd Iesu’n garedig: “Cod dy galon, fy merch.” (Math. 9:22, BCND) Yn ôl ysgolheigion y Beibl, gellir defnyddio’r geiriau Hebraeg a Groeg am “ferch” mewn ffordd drosiadol i gyfleu “caredigrwydd a thynerwch.” Aeth Iesu yn ei flaen i dawelu ei meddwl yn fwy byth drwy ddweud: “Mae dy ffydd wedi dy iacháu di. Dos mewn tangnefedd, a bydd iach o’th glwyf.”—Marc 5:34, BCND.

“Fy merch i.” Dyna sut roedd yr Israeliad cyfoethog Boas yn cyfarch y Foabes Ruth. Roedd ganddi hi hefyd reswm i deimlo’n ansicr ohoni hi ei hun oherwydd ei bod hi’n lloffa haidd ar dir dyn diarth. “Gwranda, fy merch i,” meddai Boas. Yna, dyma’n annog Ruth i barhau i loffa yn ei gaeau ef. Plygodd Ruth i lawr ar ei gliniau o flaen Boas a gofyn pam roedd yntau wedi bod mor garedig wrthi, a hithau’n dod o wlad arall. Atebodd Boas drwy roi mwy o gysur iddi: “Dw i wedi clywed am y cwbl rwyt i wedi’i wneud i dy fam-yng-nghyfraith [y wraig weddw Naomi] . . . Boed i Dduw dy wobrwyo di am wneud hyn.”—Ruth 2:8-12.

Onid yw Iesu a Boas yn esiamplau gwych i henuriaid Cristnogol? Ar adegau, gall dau henuriad gwrdd â chwaer sydd angen help ac anogaeth Ysgrythurol arni. Ar ôl gofyn am arweiniad Jehofa mewn gweddi a gwrando’n astud ar yr hyn mae eu chwaer yn ei ddweud, bydd yr henuriaid mewn gwell sefyllfa i’w chysuro hi o Air Duw.—Rhuf. 15:4.