Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r isddewislen

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Cymraeg

Y Tŵr Gwylio—Rhifyn Astudio  |  Rhagfyr 2016

Rho Dy Holl Bryderon i Jehofa

Rho Dy Holl Bryderon i Jehofa

“Rhowch y pethau dych chi’n poeni amdanyn nhw iddo fe, achos mae e’n gofalu amdanoch chi.”—1 PEDR 5:7.

CANEUON: 60, 23

1, 2. (a) Pan fo pryderon yn codi, pam na ddylen ni synnu? (Gweler y llun agoriadol.) (b) Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

MAE llawer heddiw yn teimlo o dan straen. Mae Satan y Diafol yn chwerw ac yn flin ac “yn prowla o gwmpas fel llew yn rhuo ac yn edrych am rywun i’w lyncu.” (1 Pedr 5:8; Dat. 12:17) Nid syndod felly ein bod ni weithiau’n teimlo’n bryderus, er ein bod ni’n weision i Dduw. Wedi’r cwbl, roedd addolwyr Jehofa gynt, fel y Brenin Dafydd, hefyd yn poeni o bryd i’w gilydd. (Salm 13:2) Cofia hefyd fod yr apostol Paul wedi bod “dan bwysau bob dydd o achos y consýrn” oedd ganddo am y cynulleidfaoedd. (2 Cor. 11:28) Ond beth gallwn ni ei wneud pan fo pryderon yn ein llethu ni?

2 Gwnaeth ein Tad nefol helpu ei weision yn y gorffennol, ac mae’n ei gwneud hi’n bosibl i ninnau heddiw fedru lleddfu ein pryderon. Anogaeth y Beibl yw: “Rhowch y pethau dych chi’n poeni amdanyn nhw iddo fe, achos mae e’n gofalu amdanoch chi.” (1 Pedr 5:7) Ond, sut medri di wneud hynny? Gad inni ystyried pedair ffordd—drwy weddïo’n daer, drwy ddarllen Gair Duw a myfyrio arno, drwy ddibynnu ar ysbryd glân Jehofa, a thrwy sôn am dy bryderon wrth ffrind da.  Wrth inni drafod y pedair ffordd hynny, rho sylw i’r camau ymarferol y gelli di eu cymryd.

“RHO DY FEICHIAU TRWM I’R ARGLWYDD”

3. Sut gelli di roi dy feichiau trwm i Jehofa mewn gweddi?

3 Y cam cyntaf y gallwn ni ei gymryd yw gweddïo’n daer ar Jehofa. Pan fyddi di’n wynebu sefyllfaoedd sy’n dy wneud di’n anghyfforddus, yn ansicr, neu’n bryderus, gweddïa o’th galon ar Jehofa. Dywedodd Dafydd wrth Jehofa: “Gwrando ar fy ngweddi, O Dduw.” Yna, yn yr un salm, dywedodd: “Rho dy feichiau trwm i’r ARGLWYDD; bydd e’n edrych ar dy ôl di.” (Salm 55:1, 22) Ar ôl iti wneud popeth y gelli di i ddatrys y broblem, bydd gweddïo yn gwneud llawer mwy o les iti na phryderu. Ond, sut gall gweddïo dy helpu i beidio â chael dy lethu gan feddyliau negyddol a phryderus?—Salm 94:18, 19.

4. Pan ydyn ni’n pryderu, pam mae gweddïo yn bwysig?

4 Darllen Philipiaid 4:6, 7. Gall Jehofa ymateb i’n gweddïau taer a chyson. Sut? Drwy dawelu ein meddyliau a rhyddhau ein calonnau o afael emosiynau cythryblus. Mae llawer wedi profi hyn drostyn nhw eu hunain. Gyda help Duw, yn lle pryder a’r teimlad ofnadwy fod rhywbeth drwg ar fin digwydd, cawson nhw help gan Dduw i deimlo heddwch dwys sydd y tu hwnt i’n deall. Gelli dithau brofi’r un peth. Felly, gall heddwch Duw drechu unrhyw her rwyt ti’n ei hwynebu. Gelli di ymddiried yn llwyr yn addewid Jehofa: “Paid dychryn—fi ydy dy Dduw di! Dw i’n dy nerthu di ac yn dy helpu di.”—Esei. 41:10.

HEDDWCH MEWNOL O AIR DUW

5. Sut gall Gair Duw ddod â heddwch mewnol?

5 Yr ail ffordd o gael heddwch mewnol yw darllen adnodau o’r Beibl a myfyrio arnyn nhw. Pam mae hynny’n bwysig? Mae’r Beibl yn cynnwys cyngor ysbrydol ac ymarferol sy’n gallu dy helpu i osgoi, lleihau, neu ddelio â phryder. Paid ag anghofio hefyd fod Gair Duw yn helpu ac yn adfywio oherwydd ei fod yn cynnwys geiriau doeth y Creawdwr ei hun. Wrth iti fyfyrio ar feddyliau Duw—ddydd neu nos—a meddwl am y ffordd orau o ddefnyddio arweiniad ymarferol y Beibl, fe gei di dy gryfhau’n fawr iawn. Dangosodd Jehofa’r cysylltiad rhwng darllen ei Air a bod “yn gryf a dewr” heb fynd i banics.—Jos. 1:7-9.

6. Sut gall geiriau Iesu gael effaith bositif arnat ti?

6 Yng Ngair Duw, cawn ddarllen geiriau cysurus Iesu. Roedd ei eiriau a’i ddysgeidiaethau yn adfywio ei wrandawyr. Cafodd llawer o bobl eu denu ato oherwydd ei fod yn tawelu eu meddyliau cythryblus, yn cryfhau’r rhai gwan, ac yn cysuro’r rhai isel eu hysbryd. (Darllen Mathew 11:28-30.) Dangosodd Iesu ddiddordeb mewn anghenion ysbrydol, emosiynol, a chorfforol pobl eraill. (Marc 6:30-32) Mae addewid Iesu o gefnogaeth yn dal yn berthnasol heddiw. Gall fod yr un mor wir yn dy achos di ag yr oedd yn achos yr apostolion a oedd yn teithio gyda Iesu. Nid oes rhaid iti fod gyda Iesu yn llythrennol. Fel Brenin nefol, mae Iesu yn wastad yn barod ei gymwynas. Felly, pan fyddwn ni’n pryderu, mae Iesu’n “gallu’n helpu ni . . . pan mae angen help arnon ni.” Yn wir, gall Iesu dy helpu di i ymdopi â’th  bryderon ac i’th galon fod yn llawn gobaith a dewrder.—Heb. 2:17, 18; 4:16.

FFRWYTH YR YSBRYD GLÂN

7. Sut byddi di’n elwa wrth i Dduw ymateb pan wyt ti’n gofyn am ei ysbryd glân?

7 Dywedodd Iesu na fydd ein Tad nefol byth yn gwrthod rhoi ei ysbryd glân i’r rhai sy’n gofyn amdano. (Luc 11:10-13) Felly, dyna’r drydedd ffordd o leddfu pryder—ffrwyth yr ysbryd. Mae’r rhinweddau hyn yn cael eu cynhyrchu gan rym gweithredol Duw ac yn adlewyrchu personoliaeth yr Hollalluog. (Darllen Galatiaid 5:22, 23; Col. 3:10) Wrth iti feithrin ffrwyth yr ysbryd, bydd dy berthynas ag eraill yn gwella. Yna, fe weli di na fydd llawer o sefyllfaoedd annifyr yn codi yn y lle cyntaf. Meddylia am sut y bydd ffrwyth yr ysbryd yn dy helpu di.

8-12. Sut gall ffrwyth yr ysbryd glân dy helpu i ddelio â sefyllfaoedd sy’n achosi pryder, neu eu hosgoi?

8 “Cariad, llawenydd, heddwch dwfn.” Pan fyddi di’n delio gydag eraill mewn ffordd barchus, mae’n debyg y bydd hi’n haws iti reoli dy emosiynau negyddol. Pam mae hynny’n wir? Wrth iti ddangos cariad, hoffter, a pharch, byddi di’n osgoi sefyllfaoedd sy’n achosi pryder.—Rhuf. 12:10.

9 “Amynedd, caredigrwydd, daioni.” Rwyt ti’n hyrwyddo heddwch drwy ddilyn y cyngor hwn: “Eich lle chi ydy bod yn garedig, yn dyner gyda’ch gilydd, a maddau i’ch gilydd.” (Eff. 4:32) O wneud hynny, byddi di’n osgoi sefyllfaoedd annifyr cyn iddyn nhw ddatblygu. Hefyd, byddi di’n delio’n well â sefyllfaoedd sy’n codi oherwydd amherffeithrwydd.

10 “Ffyddlondeb [neu “ffydd,” BCND].Heddiw, yn aml mae arian ac eiddo yn achosi pryder. (Diar. 18:11) Gall ffydd gref yng ngofal cariadus Jehofa dy helpu i ymdopi â phryder, neu hyd yn oed ei osgoi. Pam felly? Gelli di osgoi llawer o bryder drwy ddilyn geiriau ysbrydoledig yr apostol Paul: “Byddwch yn fodlon gyda’r hyn sydd gynnoch chi.” Ychwanegodd Paul: “Wedi’r cwbl mae Duw ei hun wedi dweud, ‘Wna i byth eich siomi chi, na throi fy nghefn arnoch chi.’ Felly gallwn ni ddweud yn hyderus, ‘Yr Arglwydd ydy’r un sy’n fy helpu i; fydd gen i ddim ofn. Beth all pobl ei wneud i mi?’”—Heb. 13:5, 6.

11 “Addfwynder a hunanreolaeth.” Meddylia am ba mor ymarferol ac effeithiol yw’r rhinweddau hyn. Mae’n debyg y byddi di’n osgoi gwneud pethau sy’n achosi pryder i ti dy hun, a byddi di’n elwa ar “beidio bod yn chwerw, peidio colli tymer a gwylltio, codi twrw, hel straeon cas.”—Eff. 4:31.

12 Wrth gwrs, bydd angen gostyngeiddrwydd i “blygu i awdurdod Duw” ac i fwrw dy faich arno ef. (1 Pedr 5:6, 7) Ond wrth fod yn ostyngedig, byddi di’n cerdded llwybr sy’n arwain at ffafr a chefnogaeth Duw. (Mich. 6:8) Drwy fod yn realistig ynglŷn â’th alluoedd corfforol, meddyliol, ac emosiynol, ac oherwydd dy fod ti’n dibynnu ar Dduw, byddi di’n llai tebygol o gael dy lethu gan bryderon.

“PEIDIWCH POENI”

13. Pan ddywedodd Iesu “peidiwch poeni,” beth roedd yn ei feddwl?

13 Ym Mathew 6:34 (darllen), gwelwn gyngor pwysig Iesu: “Peidiwch poeni.” Sut bynnag, gall fod yn anodd dilyn y cyngor hwnnw. Felly, beth roedd Iesu yn ei feddwl? Yn amlwg, nid oedd yn dweud na fyddai gweision Duw  byth yn pryderu; rydyn ni eisoes wedi trafod geiriau Dafydd a Paul yn hyn o beth. Ond roedd Iesu’n helpu ei ddisgyblion i weld nad yw pryderu’n ormodol yn datrys problemau. Mae gan bob diwrnod ei bryder ei hun, felly nid oes rhaid i Gristnogion bentyrru pryderon y gorffennol neu’r dyfodol ar ben pryderon y presennol. Sut gelli di roi cyngor Iesu ar waith ac osgoi cael dy lethu gan bryder?

14. Sut gelli di ymdopi â phryderon am y gorffennol?

14 Mae rhai yn pryderu am bechodau neu fethiannau’r gorffennol. Gall euogrwydd fod yn fwrn ar rywun hyd yn oed flynyddoedd yn ddiweddarach. Ar adegau, dyma sut roedd y Brenin Dafydd yn teimlo: “Dw i wedi cael fy llethu gan y drwg wnes i.” Cyfaddefodd: “Dw i’n griddfan mewn gwewyr meddwl.” (Salm 38:3, 4, 8, 18) Yn y sefyllfa honno, beth oedd y peth doeth i’w wneud? Beth wnaeth Dafydd? Ymddiriedodd ym maddeuant a thrugaredd Jehofa. Dywedodd yn hyderus: “Mae’r un sydd wedi cael maddeuant am ei wrthryfel wedi ei fendithio’n fawr.”—Darllen Salm 32:1-3, 5.

15. (a) Pam na ddylet ti bryderu am y presennol? (b) Pa bethau ymarferol y gelli di eu gwneud i leddfu dy bryderon? (Gweler y blwch “ Syniadau Ymarferol ar Gyfer Lleddfu Pryder.”)

15 Ar adegau eraill, efallai dy fod ti’n pryderu am y presennol. Er enghraifft, pan ysgrifennodd Dafydd Salm 55, roedd arno ofn am ei fywyd. (Salm 55:2-5) Er hynny, ni adawodd i bryder chwalu ei hyder yn Jehofa. Gweddïodd Dafydd yn daer am ei bryderon, ond hefyd, roedd yn deall pwysigrwydd gwneud rhywbeth ymarferol i ddelio â’r hyn sydd wrth wraidd y pryder. (2 Sam. 15:30-34) Dysga oddi wrth Dafydd. Yn hytrach na gadael i bryder dy lethu di, gwna’r hyn a fedri di ynghylch y sefyllfa ac yna gadael y broblem yn nwylo Jehofa.

16. Sut gall ystyr enw Duw gryfhau dy ffydd?

16 Mae poeni’n ormodol ynghylch problemau’r dyfodol yn gallu achosi pryder diangen i’r Cristion. Trist iawn fyddai cael dy lorio oherwydd dy fod ti’n poeni am bethau nad wyt ti’n gwybod dim amdanyn nhw. Pam felly? Yn aml, nid yw sefyllfaoedd mor ddrwg ag yr oedden ni’n ei ofni. Ar ben hynny, nid oes unrhyw sefyllfa y tu hwnt i reolaeth Duw, yr un rwyt ti’n gallu bwrw dy faich arno. Ystyr ei enw ydy “Mae Ef yn Peri i Fod.” (Ex. 3:14) Mae ystyr dwfn yr enw dwyfol yn dangos bod Duw yn gallu gwireddu ei bwrpas yn achos ei weision. Gelli di fod yn sicr y gall Duw fendithio ei bobl ffyddlon a’u helpu i ymdopi â phryderon am y gorffennol, y presennol, a’r dyfodol.

 CYFATHREBU O’R GALON

17, 18. Sut gall cyfathrebu da dy helpu i ymdopi â phryderon?

17 Y bedwaredd ffordd o ymdopi â phryder ydy cyfathrebu da, a rhannu dy deimladau gyda ffrind agos. Gall dy gymar, ffrind da, neu henuriad yn y gynulleidfa dy helpu i weld dy bryderon mewn ffordd gytbwys. “Mae pryder yn gallu llethu rhywun, ond mae gair caredig yn codi calon.” (Diar. 12:25) Bydd siarad yn agored ac yn onest yn dy helpu i ddeall dy bryderon ac ymdopi â nhw. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae cynlluniau’n mynd ar chwâl heb ymgynghori, ond yn llwyddo pan fydd llawer yn rhoi cyngor.”—Diar. 15:22.

18 Yn ein cyfarfodydd wythnosol, mae Jehofa yn helpu Cristnogion i ymdopi â’u pryderon. Yno, gelli di gymdeithasu â chyd-addolwyr sy’n dy garu ac sydd eisiau bod yn galonogol. (Heb. 10:24,25) Mae “cael ein calonogi” fel hyn yn ein hadfywio’n ysbrydol ac yn ei gwneud hi’n haws inni ddelio ag unrhyw bryderon.—Rhuf. 1:12.

DY BERTHYNAS Â DUW YW DY NERTH

19. Pam gelli di fod yn sicr y bydd dy berthynas â Jehofa yn dy gryfhau di?

19 Ystyria sut y mae henuriad yng Nghanada wedi dysgu i fwrw ei faich ar Jehofa. Mae’n athro ac yn gynghorwr yn yr ysgol, ac yn dioddef o orbryder, ac mae hyn i gyd yn achosi straen enfawr. Sut mae’r brawd hwn wedi ymdopi? “Yr hyn sydd wedi fy helpu i ymdopi â phroblemau emosiynol,” meddai, “yw gweithio’n galed i gryfhau fy mherthynas â Jehofa. Ar adegau anodd, mae cymorth ffrindiau da a brodyr ysbrydol yn hanfodol. Rydw i’n siarad yn agored ac yn onest â’m gwraig ynghylch fy nheimladau. Mae fy nghyd-henuriaid ac arolygwr y gylchdaith wedi fy helpu i weld pethau yn eu gwir oleuni. Hefyd, dw i wedi cael help meddygol, newid y ffordd rydw i’n trefnu fy amser, a neilltuo amser ar gyfer ymlacio ac ymarfer corff. O dipyn i beth, roeddwn i’n teimlo fy mod i’n rheoli fy emosiynau yn well. Pan fydd pethau nad ydw i’n gallu eu rheoli yn codi, rydw i’n eu gadael yn nwylo Jehofa.”

20. (a) Sut gallwn ni fwrw ein pryderon ar Dduw? (b) Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?

20 I grynhoi, rydyn ni wedi gweld pwysigrwydd rhoi ein pryderon i Dduw drwy weddïo o’r galon a drwy ddarllen ei Air a myfyrio arno. Rydyn ni hefyd wedi ystyried pwysigrwydd meithrin ffrwyth yr ysbryd, bwrw ein bol wrth ffrind da, a chael nerth o gymdeithasu â’n cyd-Gristnogion. Bydd yr erthygl nesaf yn trafod sut mae Jehofa yn ein cynnal ni drwy addo gwobr inni.—Heb. 11:6.