Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r isddewislen

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Cymraeg

Y Tŵr Gwylio—Rhifyn Astudio  |  Rhagfyr 2016

Cefaist Dy Ryddhau Oherwydd Caredigrwydd Anhaeddiannol

Cefaist Dy Ryddhau Oherwydd Caredigrwydd Anhaeddiannol

“Ddylai pechod ddim bod yn feistr arnoch chi ddim mwy . . . mae Duw yn ei haelioni wedi’ch gollwng chi’n rhydd!”—RHUF. 6:14.

CANEUON: 2, 61

1, 2. Pam mae Rhufeiniaid 5:12 o ddiddordeb i Dystion Jehofa?

DYCHMYGA dy fod ti’n rhestru’r adnodau mae Tystion Jehofa yn eu hadnabod yn dda ac yn eu defnyddio’n fwyaf aml. A fyddai Rhufeiniaid 5:12 ar dy restr? Meddylia am faint o weithiau rwyt ti wedi cyfeirio at yr ymadrodd: “Daeth pechod i’r byd drwy un dyn, a marwolaeth o ganlyniad i hynny. Ac mae pawb yn marw, am fod pawb wedi pechu.”

2 Defnyddir yr adnod honno sawl gwaith yn y llyfr Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu? Wrth astudio’r llyfr hwnnw gyda dy blant neu gyda phobl eraill, mae’n debyg y byddi di’n darllen Rhufeiniaid 5:12 wrth drafod pwrpas Duw ar gyfer y ddaear, y pridwerth, a chyflwr y meirw—penodau 35, a 6. Ond, pa mor aml rwyt ti’n cysylltu Rhufeiniaid 5:12 â’th berthynas dy hun â Jehofa, â’th weithredoedd, ac â’th obaith am y dyfodol?

3. Ynglŷn â phechod, beth sy’n rhaid inni ei dderbyn?

3 Wrth gwrs, mae’n rhaid i bawb dderbyn eu bod nhw’n bechaduriaid. Rydyn ni’n gwneud camgymeriadau bob dydd. Ond eto, rydyn ni’n sicr fod Duw yn gwybod mai dim ond pridd ydyn ni, a’i fod yn barod i drugarhau wrthon ni. (Salm 103:13, 14) Yn ei weddi enghreifftiol, gofynnodd Iesu: “Maddau ein pechodau i ni.” (Luc 11:2-4) Felly, does dim rheswm inni  hel meddyliau ynglŷn â chamgymeriadau mae Duw wedi eu maddau. Ond, peth buddiol yw meddwl am y ffaith fod Duw yn gallu—ac wedi—maddau inni.

MADDEUANT DRWY GAREDIGRWYDD ANHAEDDIANNOL

4, 5. (a) Beth sy’n ein helpu ni i ddeall ystyr Rhufeiniaid 5:12? (b) Beth yw’r “rhodd” y sonnir amdani yn Rhufeiniaid 3:24?

4 Mae’r cyd-destun i eiriau Paul yn Rhufeiniaid 5:12, yn enwedig pennod 6, yn ein helpu i ddeall sut mae Jehofa yn gallu maddau inni. Mae pennod 3 yn egluro bod “pawb wedi pechu,” ond yn esbonio hefyd mai “Duw sy’n gwneud y berthynas yn iawn. Dyma ydy rhodd Duw i ni am fod y Meseia Iesu wedi gwneud popeth oedd ei angen i’n gollwng ni’n rhydd.” (Rhuf. 3:23, 24) Beth roedd Paul yn ei feddwl wrth ddefnyddio’r ymadrodd “rhodd Duw”? Mae’n defnyddio gair Groeg a gyfieithir weithiau “gras” neu “haelioni” mewn llawer o Feiblau. Yn ôl un cyfeirlyfr, mae’n golygu “gwneud cymwynas o wirfodd calon, heb fynnu na disgwyl bod y gymwynas yn cael ei thalu yn ôl.” Mae’n gwbl anhaeddiannol.

5 Wrth drafod y gair Groeg hwnnw, dywed yr ysgolhaig John Parkhurst: “Yng nghyswllt Duw neu Grist, y mae yn aml iawn yn cyfeirio’n benodol at eu gras neu eu caredigrwydd anhaeddiannol wrth wared ac achub dyn.” Felly, y syniad Beiblaidd a gyflëir gan y gair Groeg gwreiddiol hwn yw “caredigrwydd anhaeddiannol.” Ond sut dangosodd Duw y caredigrwydd anhaeddiannol hwnnw? A beth a wnelo hyn â’th obaith ac â’th berthynas di ag ef? Gad inni weld.

6. I ba raddau y gall unigolion elwa ar garedigrwydd anhaeddiannol Duw?

6 Adda oedd yr “un dyn” y daeth pechod a marwolaeth “i’r byd” drwyddo. Felly, “canlyniad trosedd un dyn (sef Adda) oedd fod pawb yn marw.” Ychwanegodd Paul: “Ond o achos beth wnaeth y dyn arall (Iesu y Meseia)” y bydd rhai yn derbyn “rhodd Duw.” (Rhuf. 5:12, 15, 17) Ac mae’r caredigrwydd anhaeddiannol hwnnw wedi dod â bendithion i’r holl ddynoliaeth. A bydd llawer yn dod i “berthynas iawn gyda Duw am fod Iesu wedi bod yn ufudd.” Oherwydd caredigrwydd anhaeddiannol Duw y gall pobl gael “bywyd tragwyddol—o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia.”—Rhuf. 5:19, 21.

7. Pam roedd y pridwerth yn garedig ac yn anhaeddiannol?

7 Nid oedd yn rhaid i Jehofa anfon ei Fab i’r ddaear fel pridwerth. Ar ben hynny, nid oedd pobl amherffaith a phechadurus yn haeddu’r pridwerth a gafodd ei dalu gan Jehofa a Iesu ac sy’n gwneud maddeuant yn bosibl. Felly, mae maddeuant pechodau a’n gobaith o fywyd tragwyddol yn garedigrwydd nad ydyn ni’n ei haeddu. Dylen ni fawrbrisio caredigrwydd anhaeddiannol Duw a gadael iddo effeithio ar ein bywydau bob dydd.

GWERTHFAWROGI CAREDIGRWYDD ANHAEDDIANNOL DUW

8. Pa safbwynt anghywir ynglŷn â’u pechodau gall rhai ei gael?

8 A ninnau’n ddisgynyddion amherffaith Adda, rydyn ni’n tueddu i gyfeiliorni, i wneud pethau anghywir, ac i bechu. Er hynny, camgymeriad fyddai cymryd caredigrwydd anhaeddiannol Duw yn ganiataol, gan feddwl: ‘Hyd yn oed petaswn i’n gwneud rhywbeth drwg—rhywbeth mae Duw yn ei ystyried yn bechod—fyddai ddim rhaid imi boeni amdano. Bydd Jehofa yn maddau imi.’ Yn drist iawn, roedd rhai Cristnogion yn teimlo felly hyd yn oed tra oedd rhai o’r apostolion yn dal yn fyw. (Darllen Jwdas 4.) Efallai nad ydyn ni’n lleisio’r meddyliau hynny, ond gall hadau’r syniad  anghywir hwnnw gael eu plannu ynon ni a dechrau tyfu.

9, 10. Sut cafodd Paul ac eraill eu rhyddhau rhag pechod a marwolaeth?

9 Pwysleisiodd Paul fod rhaid ymwrthod â’r meddylfryd: “Wel, mae Duw yn deall. Fe fydd yn edrych heibio’r pethau drwg dw i’n eu gwneud.” Pam? Oherwydd bod Cristnogion “wedi marw i’r hen fywyd o bechod.” (Darllen Rhufeiniaid 6:1, 2.) A hwythau’n dal yn fyw ar y ddaear, pam y gellir dweud eu bod nhw wedi “marw i’r hen fywyd o bechod”?

10 Deliodd Duw gyda Paul ac eraill yn y cyfnod hwnnw ar sail y pridwerth. Felly, maddeuodd Jehofa eu pechodau, eu heneinio â’r ysbryd glân, a’u galw i fod yn feibion ysbrydol iddo. Yna, roedd ganddyn nhw’r gobaith nefol. O aros yn ffyddlon, bydden nhw’n byw ac yn rheoli gyda Christ yn y nefoedd. Er eu bod nhw’n dal yn byw ar y ddaear, gallai Paul ddweud eu bod nhw wedi “marw i’r hen fywyd o bechod.” Defnyddiodd esiampl Iesu, a fu farw’n ddyn ar y ddaear a chael ei godi i fywyd o anfarwoldeb yn y nefoedd. Nid oedd marwolaeth yn feistr ar Iesu bellach. Yn yr un modd, gallai’r Cristnogion eneiniog ddweud eu bod nhw’n “farw i bechod,” ac yn “byw mewn perthynas â’r Meseia Iesu er mwyn clodfori Duw.” (Rhuf. 6:9, 11) Roedd eu bywydau wedi newid. Nid oedden nhw bellach yn gadael i’w chwantau pechadurus eu rheoli. Roedden nhw wedi marw i’w hen ffordd o fyw.

11. Ym mha ffordd rydyn ninnau, sy’n gobeithio byw am byth yn y Baradwys, wedi “marw i’r hen fywyd o bechod?”

11 Beth amdanon ninnau? Cyn inni ddod yn Gristnogion, roedden ni’n pechu’n aml, efallai heb sylwi pa mor ddrwg oedd ein gweithredoedd yng ngolwg Duw. Roedden ni’n gadael i “bob math o fudreddi a drygioni” ein rheoli. Gellid dweud ein bod ni’n “gaeth i bechod.” (Rhuf. 6:19, 20) Yna, dysgon ni wirionedd y Beibl, newid ein bywyd, ymgysegru i Dduw, a chael ein bedyddio. Ers hynny, dymuniad ein calon yw bod yn ufudd i ddysgeidiaethau a safonau Duw. Hyd yn oed os nad oedden ni wedi defnyddio’r union eiriau hynny, cawson ni ein “rhyddhau o afael pechod a dod yn weision i beth sy’n iawn.” (Rhuf. 6:17, 18) Felly, gallwn ninnau hefyd ddweud ein bod ni wedi “marw i’r hen fywyd o bechod.”

12. Pa benderfyniad y mae’n rhaid i bob un ohonon ni ei wneud?

12 Nawr, meddylia amdanat ti dy hun yng ngoleuni geiriau Paul: “Peidiwch gadael i bechod reoli’ch bywydau chi ddim mwy. Peidiwch ufuddhau i’w chwantau.” (Rhuf. 6:12) Mae’n bosibl inni adael i bechod reoli drwy wneud beth bynnag mae ein corff amherffaith yn dymuno ei wneud. Oherwydd ein bod ni’n gallu dewis “gadael” i bechod reoli neu beidio, y cwestiwn yw: Beth yw dymuniad ein calon? Gofynna i ti dy hun: ‘Ar adegau, ydw i’n gadael i’r corff neu’r meddwl amherffaith fy nhywys i’r cyfeiriad anghywir? Neu ydw i wedi marw i bechod? Ydw i’n byw i Dduw drwy Grist Iesu?’ Yn y diwedd, mae’n dibynnu ar faint rydyn ni’n gwerthfawrogi’r caredigrwydd anhaeddiannol mae Duw wedi ei ddangos inni drwy faddau ein pechodau.

BRWYDR Y GELLI DI EI HENNILL

13. Pam y gallwn ni fod yn sicr ei bod hi’n bosibl inni gefnu ar bechod?

13 Mae pobl Jehofa wedi cefnu ar y pethau drwg roedden nhw’n eu gwneud cyn iddyn nhw ddod i adnabod, caru, a gwasanaethu Duw. Efallai fod eu ffordd o fyw gynt wedi cynnwys pethau y mae ganddyn nhw “gywilydd ohonyn nhw bellach.” (Rhuf. 6:21) Wedyn, gwnaethon nhw newid. Roedd hynny’n wir yn achos  llawer o bobl yr ysgrifennodd Paul atyn nhw yng Nghorinth. Roedd rhai wedi bod yn eilunaddolwyr, yn odinebwyr, yn wrywgydwyr, yn lladron, yn feddwon, ac yn y blaen. Ond cawson nhw eu “glanhau” a’u “gwneud yn bur.” (1 Cor. 6:9-11) Mae’n debyg fod hynny’n wir yn achos rhai yng nghynulleidfa Rhufain hefyd. Cafodd Paul ei ysbrydoli i ysgrifennu: “Peidiwch gadael iddo [sef pechod] reoli unrhyw ran o’ch corff i’w ddefnyddio i wneud beth sy’n ddrwg. Yn lle hynny gadewch i Dduw eich rheoli chi, a’ch defnyddio chi i wneud beth sy’n dda. Roeddech yn farw, ond bellach mae gynnoch chi fywyd newydd.” (Rhuf. 6:13) Roedd Paul yn hollol sicr y bydden nhw’n gallu aros yn ysbrydol lân a pharhau i dderbyn caredigrwydd anhaeddiannol Duw.

14, 15. Pa gwestiwn y dylen ni ei ofyn i ni’n hunain ynglŷn â bod yn ufudd?

14 Mae’r un peth yn wir heddiw. Ar un adeg, efallai fod rhai o’n brodyr a’n chwiorydd wedi ymddwyn yn debyg i’r rhai yng Nghorinth. Ond gwnaethon nhw newid. Gadawon nhw eu hen fywyd pechadurus a chael eu “glanhau.” Beth bynnag oedd dy sefyllfa gynt, sut mae hi rhyngot ti â dy Dduw ar hyn o bryd? Gan fod caredigrwydd anhaeddiannol Duw, a’r maddeuant sydd ynghlwm wrtho, ar gael iti, wyt ti’n benderfynol o beidio â gadael i bechod reoli dy fywyd? A fyddi di yn hytrach yn gadael i Dduw dy reoli di?

15 Er mwyn inni wneud hynny, hanfodol yw peidio â dewis mynd i’r arfer o bechu’n ddifrifol, fel roedd rhai pobl yng Nghorinth yn euog ohono. Mae hynny’n angenrheidiol os ydyn ni eisiau dweud ein bod ni wedi derbyn caredigrwydd anhaeddiannol Duw a dangos nad yw pechod yn feistr arnon ni. Ond, a ydyn ni hefyd yn benderfynol o “fod yn ufudd” drwy wneud ein gorau i osgoi pechodau y mae rhai yn eu hystyried yn llai difrifol?—Rhuf. 6:14, 17.

16. Sut rydyn ni’n gwybod bod bywyd Cristnogol yn golygu mwy na chefnu ar yr arfer o bechu’n ddifrifol?

16 Meddylia am yr apostol Paul. Gallwn fod yn sicr nad oedd yn cael rhan yn y pechodau difrifol y sonnir amdanyn nhw yn 1 Corinthiaid 6:9-11. Wedi dweud hynny, roedd Paul yn ei ystyried ei hun yn euog o bechod. Fe ysgrifennodd: “Fi sy’n gnawdol. Fi sydd wedi fy ngwerthu’n rhwym i bechod. Dw i ddim yn deall fy hun o gwbl. Yn lle gwneud beth dw i eisiau ei wneud, dw i’n cael fy hun yn gwneud beth dw i’n ei gasáu!” (Rhuf. 7:14, 15) Mae hyn yn dangos bod yna bethau eraill roedd Paul yn eu hystyried yn bechodau, ac roedd yn brwydro yn erbyn y pethau drwg hynny hefyd. (Darllen Rhufeiniaid 7:21-23.) Gad inni wneud yr un fath wrth inni geisio bod yn ufudd o’n calon.

17. Pam rwyt ti eisiau bod yn onest?

17 Ystyria, er enghraifft, y mater o fod yn onest. Mae gonestrwydd yn rhan annatod o Gristnogaeth. (Darllen Diarhebion 14:5; Effesiaid 4:25.) Satan yw “tad pob celwydd.” A bu farw Ananias a’i wraig oherwydd eu celwyddau. Nid ydyn ni eisiau efelychu pobl o’r fath—rydyn ni’n osgoi dweud celwydd. (Ioan 8:44; Act. 5:1-11) Ond, ydy gonestrwydd yn cynnwys mwy na hynny? Mewn gwirionedd, dylai ein gonestrwydd ddangos ein bod ni’n gwerthfawrogi caredigrwydd anhaeddiannol Duw.

18, 19. Sut mae bod yn onest yn cynnwys mwy nag osgoi dweud celwyddau noeth?

18 Mae dweud celwydd yn golygu dweud anwiredd. Ond mae Jehofa eisiau i’w bobl wneud mwy nag osgoi dweud celwydd noeth. Anogodd yr Israeliaid: “Rhaid i chi fod yn sanctaidd am fy mod i’n sanctaidd.” Wedyn, esboniodd Duw ystyr bod yn sanctaidd. Dywedodd: “Peidiwch dwyn. Peidiwch dweud celwydd. Peidiwch twyllo pobl eraill.” (Lef. 19:2, 11) Yn  anffodus, mae rhai pobl sy’n gwneud ymdrech fawr i osgoi dweud celwyddau noeth yn dal yn gallu bod yn euog o dwyllo eraill.

Ydyn ni’n benderfynol o osgoi celwyddau a thwyll? (Gweler paragraff 19)

19 Er enghraifft, mae gweithiwr yn dweud wrth ei gyflogwr neu ei gyd-weithwyr fod rhaid iddo adael yn gynnar oherwydd apwyntiad “meddygol.” Ond mewn gwirionedd, yr hyn ydy’r apwyntiad “meddygol” yw pigo i mewn i’r fferyllfa i godi presgripsiwn. Y rheswm go iawn dros adael yn gynnar yw oherwydd ei fod eisiau mynd â’i deulu i’r traeth. Efallai fod mymryn o wirionedd yn y rheswm a roddwyd gan y gweithiwr, ond a fyddet ti’n dweud ei fod yn onest? Neu a oedd yn twyllo? Mae’n debygol dy fod ti’n gwybod am achosion eraill lle mae rhywun wedi twyllo’n fwriadol, efallai i osgoi cosb neu i elwa ar draul rhywun arall. Hyd yn oed os nad oedd neb yn dweud celwydd, beth am orchymyn Duw: “Peidiwch twyllo pobl eraill”? Meddylia hefyd am eiriau Rhufeiniaid 6:19: “Ond bellach rhaid i chi adael i beth sy’n iawn eich rheoli chi, a’ch gwneud chi’n bobl sy’n byw bywydau glân.”

20, 21. I ba raddau y dylai caredigrwydd anhaeddiannol Duw ein hysgogi ni?

20 Pwysig yw cofio bod gwerthfawrogi caredigrwydd anhaeddiannol Duw yn golygu mwy nag osgoi godinebu, meddwi, neu bechodau eraill a ddigwyddai yng Nghorinth. Mae derbyn caredigrwydd anhaeddiannol Duw yn golygu nid yn unig osgoi anfoesoldeb rhywiol, ond brwydro hefyd yn erbyn unrhyw dueddiad i fwynhau adloniant anweddus. Mae bod yn weision i beth sy’n iawn yn ein cadw ni rhag meddwi ond hefyd yn ein hysgogi ni i beidio ag yfed cymaint nes ein bod ni bron â meddwi. Efallai fod brwydro yn erbyn gweithredoedd drwg o’r fath yn gofyn am ymdrech lew ar ein rhan; ond, mae’n frwydr y gallwn ei hennill.

21 Ein nod yw osgoi pechodau difrifol ynghyd â phethau drwg nad ydyn nhw mor amlwg. Ni allwn ni wneud hynny’n berffaith. Ond, dylen ni wneud ein gorau yn hyn o beth, fel y gwnaeth Paul. Anogodd y brodyr: “Peidiwch gadael i bechod reoli’ch bywydau chi ddim mwy. Peidiwch ufuddhau i’w chwantau.” (Rhuf. 6:12; 7:18-20) Mae brwydro yn erbyn pechodau o bob math yn dangos ein bod ni’n gwerthfawrogi caredigrwydd anhaeddiannol Duw drwy Grist.

22. Pa ddyfodol sydd ar gael i’r rhai sy’n profi eu bod nhw’n gwerthfawrogi caredigrwydd anhaeddiannol Duw?

22 Oherwydd caredigrwydd anhaeddiannol Duw, cawn faddeuant i’n pechodau nawr ac yn y dyfodol. Gad inni ddangos ein gwerthfawrogiad drwy drechu unrhyw dueddiad i ildio hyd yn oed i bechodau y mae eraill yn eu hystyried yn rhai bychain. Disgrifiodd Paul y wobr sy’n ein disgwyl ni: “Ond nawr dych chi’n rhydd o afael pechod ac wedi dechrau gwasanaethu Duw. Canlyniad hynny ydy’r bywyd glân sy’n arwain yn y pen draw i fywyd tragwyddol.”—Rhuf. 6:22.