Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

Mae Rhoi Dy Fryd ar Bethau’r Ysbryd yn Golygu Bywyd a Heddwch

Mae Rhoi Dy Fryd ar Bethau’r Ysbryd yn Golygu Bywyd a Heddwch

“Y sawl sydd ar wastad yr Ysbryd, ar bethau’r Ysbryd y mae eu bryd.”—RHUF. 8:5, Beibl Cymraeg Diwygiedig.

CANEUON: 57, 52

1, 2. Pam mae Rhufeiniaid pennod 8 o ddiddordeb mawr i Gristnogion eneiniog?

WRTH fyfyrio ar farwolaeth Iesu, wyt ti erioed wedi darllen Rhufeiniaid 8:15-17? Mae’r adnodau allweddol hyn yn esbonio sut mae’r ysbryd glân yn dangos yn glir i’r rhai eneiniog eu bod nhw’n blant i Dduw. Ac mae adnod gyntaf y bennod yn cyfeirio at y “rhai sy’n perthyn i’r Meseia Iesu.” Ond, a yw Rhufeiniaid pennod 8 yn berthnasol i’r eneiniog yn unig? Neu a oes gan y bennod rywbeth i’w ddweud wrth Gristnogion sydd â’r gobaith daearol?

2 Pennod wedi ei hysgrifennu at Gristnogion eneiniog yw hon yn bennaf. Maen nhw “wedi derbyn yr Ysbryd Glân” ac yn disgwyl i Dduw eu mabwysiadu yn blant iddo ac i’w cyrff gael eu gollwng yn rhydd. (Rhuf. 8:23) Yn wir, eu gobaith yw byw yn y nefoedd. Mae hyn yn bosibl oherwydd iddyn nhw gael eu bedyddio’n Gristnogion, ac i Dduw ddelio gyda nhw ar sail y pridwerth, maddau eu pechodau, a gadael iddyn nhw gael perthynas iawn ag ef drwy eu dyfarnu’n gyfiawn fel plant ysbrydol.—Rhuf. 3:23-26; 4:25; 8:30.

3. Pam gallwn ddweud bod Rhufeiniaid pennod 8 o ddiddordeb i’r rhai sydd â’r gobaith daearol?

3 Fodd bynnag, mae Rhufeiniaid pennod 8 yn bwysig hefyd  i’r rhai sydd â’r gobaith daearol oherwydd bod Duw, ar un olwg, yn eu hystyried yn gyfiawn. Gwelwn hynny yn yr hyn a ysgrifennodd Paul yn gynharach yn ei lythyr. Ym mhennod 4, mae’n trafod Abraham. Bu’r dyn hwnnw’n byw cyn i Jehofa roi’r Gyfraith i Israel ac ymhell cyn i Iesu farw dros ein pechodau. Ond eto, gwelodd Jehofa ffydd eithriadol Abraham a dyna pam y cafodd ei dderbyn i berthynas iawn â Duw a’i ystyried yn gyfiawn. (Darllen Rhufeiniaid 4:20-22.) Yn yr un modd, gall y Cristnogion heddiw sy’n gobeithio byw am byth ar y ddaear gael eu hystyried yn gyfiawn gan Jehofa. Felly, mae’r cyngor yn Rhufeiniaid pennod 8 yn berthnasol i bob Cristion ni waeth pa obaith sydd ganddyn nhw.

4. Yn ôl Rhufeiniaid 8:21, pa gwestiwn y dylen ni fyfyrio arno?

4 Yn Rhufeiniaid 8:21, gwelwn addewid sy’n sôn am y byd newydd: “Mae’r greadigaeth hefyd yn mynd i gael ei gollwng yn rhydd! Fydd hi ddim yn gaeth i lygredd ddim mwy. Bydd yn rhannu’r rhyddid bendigedig fydd Duw’n ei roi i’w blant.” Ond a fyddwn ni yno i dderbyn y wobr? Wyt ti’n hyderus y byddi di? Yn Rhufeiniaid pennod 8, ceir cyngor a fydd yn dy helpu di i fod yno.

RHOI DY FRYD “AR BETHAU’R CNAWD”

5. Yn Rhufeiniaid 8:4-13, pa fater difrifol roedd Paul yn cyfeirio ato?

5 Darllen Rhufeiniaid 8:4-13. (BCND) Mae Rhufeiniaid pennod 8 yn cymharu’r rhai “sydd â’u bodolaeth ar wastad y cnawd” â’r rhai “sydd ar wastad yr Ysbryd.” Hawdd fyddai meddwl bod hyn yn disgrifio’r gwahaniaeth rhwng y rhai nad ydyn nhw yn y gwirionedd a’r rhai sydd. Fodd bynnag, ysgrifennu yr oedd Paul at ei frodyr yn Rhufain, Cristnogion roedd Duw yn eu caru ac wedi eu “gwneud yn bobl arbennig iddo.” (Rhuf. 1:7) Felly, roedd Paul yn cymharu Cristnogion a oedd yn byw yn ôl y cnawd â Christnogion a oedd yn byw yn ôl yr ysbryd. Beth oedd y gwahaniaeth?

6, 7. (a) Sut mae’r term “cnawd” yn cael ei ddefnyddio yn y Beibl? (b) Yn Rhufeiniaid 8:4-13, ym mha ystyr y defnyddiodd Paul y gair “cnawd”?

6 Ystyria’r gair “cnawd.” Beth roedd Paul yn cyfeirio ato? Mae’r Beibl yn defnyddio’r gair “cnawd” mewn gwahanol ffyrdd. Ar adegau, mae’n cyfeirio at gnawd y corff dynol. (Rhuf. 2: 28; 1 Cor.  15:39) Gall hefyd gyfeirio at berthynas deuluol. Er enghraifft, ganwyd Iesu yn llinach Dafydd “yn nhrefn y cnawd,” a dywedodd Paul ei fod yn perthyn i’r Iddewon “o ran cig a gwaed [cnawd].”—Rhuf. 1:3; 9:3.

7 Fodd bynnag, mae’r hyn a ysgrifennodd Paul ym mhennod 7 yn esbonio’r gair “cnawd” y sonnir amdano yn Rhufeiniaid 8:4-13. Mae’n cysylltu “byw ym myd y cnawd” â’r “nwydau pechadurus” sydd “ar waith yn ein cyneddfau corfforol.” (Rhuf. 7:5, BCND) Mae hyn yn taflu goleuni ar ystyr yr ymadrodd “y sawl sydd â’u bodolaeth ar wastad y cnawd,” pobl a oedd â’u bryd “ar bethau’r cnawd” yn ôl Paul. Roedd yn cyfeirio at bobl sy’n cael eu rheoli gan eu chwantau a’u tueddiadau amherffaith neu sy’n canolbwyntio’n llwyr arnyn nhw. Yn bennaf, pobl yw’r rhain sy’n ildio i’w chwantau a’u nwydau, boed yn rhywiol neu beidio.

8. Pam roedd yn rhaid i Paul rybuddio hyd yn oed Cristnogion eneiniog rhag byw yn ôl y cnawd?

8 Ond pam gwnaeth Paul bwysleisio i Gristnogion eneiniog y perygl o fyw yn ôl y cnawd? A yw’n bosibl i berygl o’r fath fygwth Cristnogion heddiw, rhai y mae Jehofa yn eu hystyried yn gyfiawn ac yn ffrindiau iddo? Yn anffodus, gallai unrhyw Gristion ddechrau byw yn ôl y cnawd pechadurus. Er enghraifft, ysgrifennodd Paul fod rhai ymhlith y brodyr yn Rhufain yn gaeth i chwantau’r cnawd, yn cynnwys efallai chwantau rhywiol, yr awch am fwyd, diod, a phethau eraill. Roedd rhai ohonyn nhw’n “twyllo pobl ddiniwed.” (Rhuf. 16:17, 18; Phil. 3:18, 19; Jwd. 4, 8, 12) Cofia hefyd fod brawd yng Nghorinth, am gyfnod, wedi bod “yn cysgu gyda’i lysfam, gwraig ei dad!” (1 Cor. 5:1) Hawdd deall, felly, pam gwnaeth Duw ddefnyddio Paul i rybuddio Cristnogion am y perygl o roi eu bryd ar bethau’r cnawd.—Rhuf. 8:5, 6.

9. Beth nad yw rhybudd Paul yn cyfeirio ato yn Rhufeiniaid 8:6?

9 Mae’r rhybudd hwnnw yr un mor berthnasol inni heddiw. Ar ôl blynyddoedd o wasanaethu Duw, gall Cristion ddechrau rhoi ei fryd ar bethau’r cnawd. Nid yw hyn yn cyfeirio at Gristion sydd, o bryd i’w gilydd, yn meddwl am fwyd, gwaith, adloniant, neu bethau rhamantus. Mae’r pethau hyn yn rhan o fywyd bob dydd. Roedd Iesu’n mwynhau bwyd, ac fe wnaeth fwydo eraill hefyd.  Roedd cael ei adfywio yn bwysig iddo. A dywedodd Paul fod gan y berthynas rywiol le priodol yn y briodas.

Ydy dy sgwrs yn dangos dy fod ti wedi rhoi dy fryd ar bethau’r ysbryd neu ar bethau’r cnawd? (Gweler paragraffau 10, 11)

10. Yn Rhufeiniaid 8:5, 6, beth mae’r ymadrodd “bod â’n bryd ar” yn ei olygu?

10 Beth roedd Paul yn ei ddweud felly pan oedd yn sôn am Gristnogion yn rhoi eu bryd ar bethau’r cnawd? Mae’r gair Groeg yma yn golygu “rhoi dy fryd ar rywbeth, defnyddio dy allu i gynllunio’n fwriadol, gyda’r pwyslais ar y tueddfryd neu’r agwedd waelodol.” Mae’r rhai sy’n byw yn ôl y cnawd yn caniatáu i’w natur bechadurus lywio llwybrau eu bywyd. Ynglŷn â’r gair hwnnw yn Rhufeiniaid 8:5, mae un ysgolhaig yn dweud: “Maent yn gosod eu bryd ar bethau’r cnawd—yn ymddiddori ynddynt, yn siarad amdanynt, yn cymryd rhan ynddynt ac yn ymhyfrydu ynddynt.”

11. Pa fath o bethau sy’n gallu hawlio’r lle cyntaf yn ein bywydau?

11 Priodol iawn oedd i Gristnogion Rhufain feddwl o ddifrif am yr hyn a oedd yn mynd â’u bryd. A oedd pethau’r cnawd yn arglwyddiaethu ar eu bywydau? Pwysig yw i ni wneud yr un peth. Yn ein hachos ni, beth sy’n mynd â’n bryd, a beth rydyn ni’n tueddu i siarad amdano? Beth sy’n gwir hawlio ein sylw o ddydd i ddydd? Efallai fydd rhai yn rhoi eu bryd ar flasu gwahanol fathau o win, addurno’r tŷ, dillad a ffasiwn, buddsoddi arian, cynllunio gwyliau, a phethau tebyg. Nid yw pethau o’r fath yn anghywir ynddyn nhw eu hunain; maen nhw’n rhan o fywyd bob dydd. Er enghraifft, roedd Iesu ar un adeg wedi gwneud gwin, a dywedodd Paul wrth Timotheus am gymryd “ychydig win.” (1 Tim. 5:23; Ioan 2:3-11) Ond a oedd Iesu a Paul yn siarad am win ac yn ymddiddori ynddo ar hyd yr amser? Ai dyna oedd yn agos at eu calonnau? Nac oedd. Beth amdanon ninnau? Beth yw prif ddiddordeb ein bywyd?

12, 13. Pam mae hi’n bwysig inni ystyried yn ofalus yr hyn sy’n mynd â’n bryd?

12 Mae rhoi sylw i’n meddylfryd yn bwysig. Pam? Ysgrifennodd Paul: “Mae bod â’n bryd ar y cnawd yn farwolaeth.” (Rhuf. 8:6, BCND) Peth difrifol yw hyn—marwolaeth ysbrydol nawr a marwolaeth gorfforol yn y dyfodol. Ond eto, nid oedd Paul yn golygu bod marwolaeth yn anochel i’r sawl sy’n rhoi ei fryd ar bethau’r cnawd. Mae’n bosibl i bobl newid. Meddylia am y dyn anfoesol hwnnw yng Nghorinth a gafodd ei ddiarddel oherwydd iddo fyw yn ôl y cnawd. Ond roedd hi’n bosibl iddo newid, a dyna a wnaeth. Daeth yn ei ôl i’r gwirionedd.—2 Cor. 2:6-8.

13 Os oedd hi’n bosibl i’r person hwnnw newid, bydd hi’n bosibl i Gristion heddiw newid, yn enwedig unigolyn nad yw wedi mynd mor bell â’r dyn hwnnw yng Nghorinth o ran ceisio pethau’r cnawd. Yn wir, dylai rhybudd Paul ynglŷn â’r hyn sy’n disgwyl rhywun sy’n rhoi ei fryd ar bethau’r cnawd ein hysgogi i newid ein meddylfryd er gwell!

RHOI DY FRYD “AR BETHAU’R YSBRYD”

14, 15. (a) Yn hytrach na rhoi ein bryd ar bethau’r cnawd, beth gallwn ni ei wneud? (b) Beth nad yw rhoi ein bryd ar bethau’r ysbryd yn ei olygu?

14 Ar ôl i Paul ein rhybuddio rhag gosod ein bryd ar bethau’r cnawd, dywedodd: “Mae bod â’n bryd ar yr Ysbryd yn fywyd a heddwch.” Bywyd a heddwch—am wobr! Sut gallwn ni dderbyn y wobr honno?

15 Nid yw rhoi ein bryd ar bethau’r ysbryd yn awgrymu bod rhaid i rywun fyw â’i ben yn y cymylau fel petai. Nid oes angen iddo feddwl a siarad am ddim byd  arall ond y Beibl neu ei gariad tuag at Dduw a’i obaith am y dyfodol. Cofia fod Paul ac eraill yn y ganrif gyntaf a oedd wrth fodd Duw yn byw bywyd cyffredin ar sawl cyfrif. Roedden nhw’n bwyta ac yn yfed. Roedd llawer wedi priodi ac yn mwynhau bywyd teuluol, yn gweithio i’w cynnal eu hunain.—Marc 6:3; 1 Thes. 2:9.

16. Er bod Paul yn gorfod treulio amser yn ymwneud â materion pob dydd bywyd, ar beth roedd yn canolbwyntio?

16 Fodd bynnag, ni adawodd y Cristnogion hynny i faterion pob dydd bywyd hawlio eu sylw yn llwyr. Ar ôl dangos bod Paul yn gwneud pebyll o ran gwaith, mae’r Beibl yn datgelu’r hyn a oedd yn ganolbwynt i’w fywyd: Roedd yn treulio amser yn rheolaidd yn y gwaith pregethu Cristnogol. (Darllen Actau 18:2-4; 20:20, 21, 34, 35.) A dyna oedd yn argymell ei frodyr a chwiorydd yn Rhufain i’w wneud. Canolbwynt bywyd Paul oedd pethau’r ysbryd. Roedd yn rhaid i’r brodyr yn Rhufain ei efelychu, fel y dylen ninnau ei wneud.—Rhuf. 15:15, 16.

17. Os ydyn ni’n rhoi ein bryd ar bethau’r ysbryd, pa fath o fywyd a gawn ni?

17 Beth fydd yn digwydd os byddwn ni’n canolbwyntio ar bethau ysbrydol? Mae Rhufeiniaid 8:6 yn rhoi’r ateb: “Mae bod â’n bryd ar yr Ysbryd yn fywyd a heddwch.” Mae hynny’n awgrymu y dylen ni adael i ysbryd glân Duw arglwyddiaethu ar ein meddwl, a chydymffurfio â meddyliau Duw. O roi ein bryd ar bethau’r ysbryd, bydd bywyd yn ystyrlon ac yn rhoi pleser inni. A’r fendith fwyaf fydd bywyd tragwyddol, naill ai yn y nefoedd neu ar y ddaear.

18. Sut mae rhoi ein bryd ar bethau’r ysbryd yn dod â heddwch?

18 Gad inni fyfyrio ar yr addewid fod rhoi ein bryd ar bethau’r ysbryd yn dod â heddwch. Mae cael heddwch meddwl yn anodd i lawer. Rydyn ninnau’n meddu arno er bod llawer yn ei geisio’n daer. Mae heddwch meddwl yn ein helpu ni i wneud ymdrech lew i fod yn heddychlon gyda’n teulu a’r brodyr yn y gynulleidfa. Rydyn ni’n ddigon call i gydnabod ein bod ninnau a’n brodyr a’n chwiorydd yn amherffaith. Oherwydd hyn, gall problemau godi ar brydiau, a phan fo hynny’n digwydd, dylen ni ddilyn cyngor Iesu: “Dos i wneud pethau’n iawn gyda nhw’n gyntaf.” (Math. 5:24) Mae gwneud hyn yn haws o gofio bod ein brawd neu’n chwaer hefyd yn gwasanaethu’r Duw “sy’n rhoi ei heddwch perffaith i ni.”—Rhuf. 15:33; 16:20.

19. Os ydyn ni’n rhoi ein bryd ar bethau’r ysbryd, pa fath o heddwch a gawn ni?

19 Ac mae yna heddwch arall sy’n amhrisiadwy. O roi ein bryd ar bethau’r ysbryd, bydd heddwch rhyngon ni a’n Creawdwr. Ysgrifennodd Eseia broffwydoliaeth a ddaeth yn wir yn ei ddyddiau ef ond sydd yn cael ei chyflawni’n fwy byth yn ein dyddiau ni: “Mae’r rhai sy’n dy drystio di yn gallu bod yn hollol dawel eu meddwl.”—Esei. 26:3; darllen Rhufeiniaid 5:1.

20. Pam wyt ti’n ddiolchgar am y cyngor yn Rhufeiniaid pennod 8?

20 P’un a ydyn ni’n edrych ymlaen at fywyd yn y nef neu ar y ddaear, gallwn fod yn ddiolchgar am y cyngor yn Rhufeiniaid pennod 8. Rydyn ni’n gwerthfawrogi’r anogaeth i beidio â gadael i’r “cnawd” lywio ein bywydau! Yn hytrach, gwelwn mai doeth yw byw yn unol â’r addewid hwn: “Mae bod â’n bryd ar yr Ysbryd yn fywyd a heddwch.” Gwobr dragwyddol sy’n dod o wneud hyn, fel y dywed Paul: “Marwolaeth ydy’r cyflog mae pechod yn ei dalu, ond mae Duw yn rhoi bywyd tragwyddol yn rhad ac am ddim i chi, o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia”—Rhuf. 6:23.