Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r isddewislen

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Cymraeg

Y Tŵr Gwylio—Rhifyn Astudio  |  Mehefin 2017

Rho Dy Fryd ar Drysorau Ysbrydol

Rho Dy Fryd ar Drysorau Ysbrydol

“Ble bynnag mae dy drysor di y bydd dy galon di.”—LUC 12:34.

CANEUON: 153, 104

1, 2. (a) Beth yw tri o’r trysorau ysbrydol mae Jehofa wedi eu rhoi inni? (b) Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

JEHOFA yw’r Person mwyaf cyfoethog yn y bydysawd. (1 Cron. 29:11, 12) Fel Tad hael, mae’n barod i rannu ei drysorau ysbrydol gydag unrhyw un sy’n cydnabod eu gwerth rhyfeddol. Rydyn ni mor hapus bod Jehofa wedi rhoi inni drysorau ysbrydol, sy’n cynnwys (1) Teyrnas Dduw, (2) ein gweinidogaeth sy’n achub bywydau, a (3) y gwirioneddau gwerthfawr sydd yn ei Air! Ond, os nad ydyn ni’n ofalus, gallen ni golli gwerthfawrogiad am y trysorau hyn, a’u taflu i ffwrdd. Er mwyn dal ein gafael ynddyn nhw, mae’n rhaid inni adnewyddu ein cariad tuag atyn nhw drwy’r amser. Dywedodd Iesu: “Ble bynnag mae dy drysor di y bydd dy galon di.”—Luc 12:34.

2 Gad inni ystyried sut gallwn ni feithrin ein cariad a’n gwerthfawrogiad tuag at y Deyrnas, y weinidogaeth, a’r gwirionedd. Wrth inni wneud hynny, myfyria ar sut y gelli di gryfhau dy gariad tuag at y trysorau ysbrydol hyn.

MAE TEYRNAS JEHOFA FEL PERL GWERTHFAWR

3. Beth roedd y masnachwr yn fodlon ei wneud er mwyn cael gafael ar y perl gwerthfawr? (Gweler y llun agoriadol.)

3 Darllen Mathew 13:45, 46. Rhoddodd Iesu ddameg am  fasnachwr a oedd yn ceisio perlau. Dros y blynyddoedd, mae’n debyg bod y masnachwr wedi prynu a gwerthu cannoedd o berlau. Ond nawr, roedd wedi darganfod perl mor werthfawr roedd hyd yn oed edrych arno yn gwneud y dyn yn llawen. Ond er mwyn iddo brynu’r perl, byddai’n rhaid iddo werthu popeth oedd ganddo. Elli di ddychmygu pa mor werthfawr oedd y perl iddo?

4. Os ydyn ni’n caru’r Deyrnas fel yr oedd y masnachwr yn caru’r perl, beth byddwn ni’n ei wneud?

4 Beth yw’r wers i ni? Mae’r gwir am Deyrnas Dduw yn debyg i’r perl hwnnw. Os ydyn ni’n caru’r gwirionedd fel yr oedd y masnachwr yn caru’r perl, byddwn ni’n barod i gefnu ar bopeth er mwyn inni fyw o dan reolaeth y Deyrnas. (Darllen Marc 10:28-30.) Ystyria esiampl dau unigolyn a wnaeth hynny.

5. Pa mor benderfynol oedd Sacheus o geisio Teyrnas Dduw?

5 Arolygwr yn adran casglu trethi Rhufain oedd Sacheus, a oedd yn gyfoethog oherwydd iddo wasgu arian oddi ar bobl eraill. (Luc 19:1-9) Ond, pan glywodd y dyn anghyfiawn hwnnw Iesu yn pregethu am y Deyrnas, deallodd werth yr hyn roedd yn ei glywed ac yna gweithredodd yn syth. Dywedodd yn hapus: “Arglwydd, dw i’n mynd i roi hanner popeth sydd gen i i’r rhai sy’n dlawd. Ac os ydw i wedi twyllo pobl a chymryd mwy o drethi nag y dylwn i, tala i bedair gwaith cymaint yn ôl iddyn nhw.” Roedd yn hapus i golli ei gyfoeth a chefnu ar ei chwant am bethau materol.

6. Pa newidiadau a wnaeth Rose er mwyn dod o dan reolaeth y Deyrnas, a pham?

6 Flynyddoedd yn ôl, pan wnaeth dynes y byddwn ni’n ei galw’n Rose glywed neges y Deyrnas, roedd hi mewn perthynas lesbiaidd. Roedd hi’n arlywydd ar gyfundrefn sy’n cwffio dros hawliau pobl hoyw. Ond, wrth i Rose astudio’r Beibl, gwelodd hi pa mor werthfawr yw’r gwirionedd am Deyrnas Dduw. Gwelodd hi fod angen iddi wneud newidiadau mawr. (1 Cor. 6:9, 10) Gwnaeth ei chalon ei hysgogi i ymddiswyddo a rhoi terfyn ar ei pherthynas lesbiaidd. Cafodd Rose ei bedyddio yn 2009, a blwyddyn yn ddiweddarach, dechreuodd hi arloesi. Roedd ei chariad tuag at Jehofa a’i Deyrnas yn gryfach nag unrhyw chwant cnawdol.—Marc 12:29, 30.

7. Sut gallwn ni gadw ein cariad tuag at Deyrnas Jehofa yn gryf?

7 Yn wir, mae llawer ohonon ni wedi gwneud newidiadau mawr yn ein bywydau er mwyn dod yn rhan o Deyrnas Dduw. (Rhuf. 12:2) Er hynny, mae yna fwy i’w wneud. Mae angen inni gadw’n effro i bethau sy’n cystadlu am ein sylw, gan gynnwys y chwant am bethau materol ac unrhyw chwantau rhywiol anfoesol. (Diar. 4:23; Math. 5:27-29) Er mwyn ein helpu i gadw ein cariad tuag at Deyrnas Dduw yn gryf, mae Jehofa wedi rhoi trysor gwerthfawr arall inni.

EIN GWEINIDOGAETH ACHUBOL

8. (a) Pam gwnaeth yr apostol Paul ddisgrifio’r weinidogaeth fel trysor mewn “llestri pridd”? (b) Sut dangosodd Paul ei fod yn trysori ei weinidogaeth?

8 Cofia fod Iesu wedi ein haseinio ni i bregethu’r newyddion da am y Deyrnas. (Math. 28:19, 20) Gwelodd Paul werth y weinidogaeth. Dywedodd am weinidogaeth y cyfamod newydd: “Dyma’r trysor mae Duw wedi ei roi i ni. Mae’n cael ei gario gynnon ni sy’n ddim byd ond llestri pridd.” (2 Cor. 4:7; 1 Tim. 1:12) Er mai llestri pridd amherffaith ydyn ni, mae’r neges rydyn ni’n ei phregethu  yn gallu rhoi bywyd tragwyddol inni ac i’r rhai sy’n gwrando arnon ni. Dyna pam dywedodd Paul: “Dw i’n gwneud hyn i gyd er mwyn y newyddion da ei hun.” (1 Cor. 9:23) Ie, roedd cariad Paul tuag at y weinidogaeth yn ei ysgogi i weithio’n galed yn gwneud disgyblion. (Darllen Rhufeiniaid 1:14, 15; 2 Timotheus 4:2.) Gwnaeth hynny ei helpu i ymdopi â gwrthwynebiad enbyd. (1 Thes. 2:2) Sut gallwn ninnau ddangos cariad o’r fath tuag at y weinidogaeth?

9. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n gwerthfawrogi’r weinidogaeth?

9 Un ffordd y dangosodd Paul ei fod yn gwerthfawrogi’r weinidogaeth oedd drwy fod yn barod bob amser i siarad ag eraill. Fel yr apostolion a’r Cristnogion cynnar, rydyn ni’n pregethu’n anffurfiol, yn gyhoeddus, ac o dŷ i dŷ. (Act. 5:42; 20:20) Os yw ein sefyllfa yn caniatáu, rydyn ni’n chwilio am ffyrdd i ehangu ein gweinidogaeth, efallai drwy arloesi’n gynorthwyol neu’n llawn-amser. Gallwn hefyd ddysgu iaith wahanol, symud i ardal newydd yn ein gwlad, neu hyd yn oed dramor.—Act. 16:9, 10.

10. Sut cafodd Irene ei bendithio am ei hymdrechion i rannu’r newyddion da?

10 Meddylia am esiampl Irene, chwaer sengl yn yr Unol Daleithiau. Roedd hi wedi rhoi ei bryd ar bregethu i fewnfudwyr a oedd yn siarad Rwseg. Pan ddechreuodd hi wneud hynny yn 1993, dim ond tua 20 o gyhoeddwyr oedd yn y grŵp Rwseg yn Ninas Efrog Newydd. Am tua 20 mlynedd, mae Irene wedi bod yn gwasanaethu yn y maes hwnnw. “Dydw i’n dal ddim yn siarad Rwseg yn berffaith,” meddai Irene. Ond, mae Jehofa wedi bendithio ysbryd selog Irene a phobl eraill tebyg iddi. Heddiw, mae chwe chynulleidfa Rwseg yn Ninas Efrog Newydd. Cafodd pymtheg o astudiaethau Irene eu bedyddio. Mae rhai ohonyn nhw’n gwasanaethu yn y Bethel, yn arloesi, ac yn henuriaid. Dywed Irene: “O feddwl am y pethau eraill byddwn i wedi gallu eu gwneud, alla’ i ddim dychmygu unrhyw beth a fyddai’n rhoi mwy o lawenydd imi.” Yn wir, mae hi’n trysori ei gweinidogaeth!

Wyt ti’n trysori dy weinidogaeth ac yn dangos hynny yn y ffordd rwyt ti’n trefnu dy amser? (Gweler paragraffau 11, 12)

11. Pa ganlyniadau da sy’n dod o ddal ati i bregethu er gwaethaf erledigaeth?

11 Os ydyn ni’n trysori ein gweinidogaeth, byddwn ni’n debyg i’r apostol Paul, yn parhau i bregethu er gwaethaf erledigaeth. (Act. 14:19-22) Yn ystod y 1930au a’r 1940au cynnar, roedd ein brodyr yn yr Unol Daleithiau’n dioddef gwrthwynebiad dychrynllyd. Ond, fel Paul, gwnaethon nhw aros yn gryf a dal ati i bregethu. Er mwyn gwarchod ein hawl i wneud hynny, aeth y brodyr i’r llys lawer gwaith. Yn 1943, wrth sôn am un o’r buddugoliaethau yng Ngoruchaf  Lys yr UDA, dywedodd y Brawd Nathan H. Knorr: “Eich brwydro chi sydd wedi ennill y buddugoliaethau hyn. Pe na byddai’r cyhoeddwyr wedi dal ati yn y maes, ni fyddai unrhyw achos wedi mynd gerbron y Goruchaf Lys; ond, oherwydd eich bod chi, y cyhoeddwyr, y brodyr ar draws y byd, yn dal ati heb ildio, rydyn ni’n trechu pob gwrthwynebiad. Yr hyn sy’n gyfrifol am y penderfyniadau hyn ydy’r ffaith fod pobl yr Arglwydd yn sefyll yn gadarn.” Mae’r un safiad cadarn gan ein brodyr mewn gwledydd eraill wedi dod â buddugoliaethau tebyg. Yn bendant, gall ein cariad ni tuag at y weinidogaeth drechu unrhyw wrthwynebiad.

12. Beth rwyt ti’n benderfynol o’i wneud ynghylch y weinidogaeth?

12 Os ydyn ni’n gweld y weinidogaeth fel trysor oddi wrth Jehofa, fyddwn ni byth yn fodlon ar “gyfrif ein hamser” yn unig. Yn hytrach, gwnawn ni bopeth a fedrwn i sôn am “y newyddion da am gariad a haelioni Duw wrth bobl.” (Act. 20:24; 2 Tim. 4:5) Ond, beth byddwn ni’n ei ddysgu i eraill? Ystyria drysor arall oddi wrth Dduw.

EIN TRYSORFA O WIRIONEDDAU DWYFOL

13, 14. Beth yw’r drysorfa y gwnaeth Iesu sôn amdani yn Mathew 13:52, a sut gallwn ni ei llenwi?

13 Y trydydd trysor ysbrydol ydy ein storfa o wirioneddau sydd wedi eu datgelu inni. Duw gwirionedd yw Jehofa. (2 Sam. 7:28; Salm 31:5) Fel Tad hael, mae’n rhannu gwirioneddau dwyfol gyda’r rhai sy’n ei ofni. O’r amser gwnaethon ni glywed y gwirionedd, rydyn ni wed i bod yn casglu gwirioneddau o’i Air, y Beibl, o’n cyhoeddiadau Cristnogol, o’n cynadleddau, o’n cynulliadau, ac o’n cyfarfodydd wythnosol. Dywedodd Iesu ein bod ni, dros amser, yn llenwi ystordy ysbrydol â gwirioneddau hen a newydd. (Darllen Mathew 13:52.) Os ydyn ni’n chwilio am wirioneddau o’r fath fel petaen nhw’n drysor cudd, bydd Jehofa yn ein helpu i’w casglu yn ein trysorfa ysbrydol. (Darllen Diarhebion 2:4-7.) Sut rydyn ni’n gwneud hynny?

14 Mae’n bwysig inni astudio’n bersonol yn rheolaidd a gwneud ymchwil ofalus yng Ngair Duw ac yn ein cyhoeddiadau. Bydd hyn yn ein helpu i ddarganfod gwirioneddau sy’n “newydd” i ni, oherwydd doedden ni ddim yn gwybod amdanyn nhw o’r blaen. (Jos. 1:8, 9; Salm 1:2, 3) Gwnaeth y rhifyn cyntaf o’r cylchgrawn hwn, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 1879, ddatgan: “Mae’r gwirionedd yn debyg i flodyn bach yng nghanol yr anialwch, wedi ei amgylchynu a bron wedi ei dagu gan holl chwyn anwiredd sy’n tyfu o’i gwmpas. Iti gael hyd iddo, byddai’n rhaid chwilio’n daer. . . . Iti afael ynddo, byddai’n rhaid plygu i’w bigo. Paid â bodloni ar un blodyn o wirionedd. . . . Dal ati i gasglu a chwilia am fwy.” Yn wir, mae angen inni fod yn awyddus i lenwi ein trysorfa bersonol o wirioneddau dwyfol.

15. Pam gallwn ni ddweud bod rhai gwirioneddau’n “hen,” a pha rai rwyt ti’n eu trysori’n arbennig?

15 Pan ddechreuon ni dreulio amser â phobl Dduw, gwnaethon ni ddarganfod gwirioneddau gwerthfawr. Gellir disgrifio’r rhain yn “hen,” oherwydd rydyn ni’n gwybod amdanyn nhw ers cychwyn ein taith Gristnogol. Am ba wirioneddau rydyn ni’n sôn? Dysgon ni mai Jehofa yw’r Creawdwr a roddodd fywyd inni a bod ganddo bwrpas ar gyfer dynolryw. Dysgon ni hefyd fod Duw wedi trefnu’r pridwerth drwy aberthu ei Fab er mwyn  inni gael ein rhyddhau rhag pechod a marwolaeth. Wedyn, gwnaethon ni ddysgu y bydd ei Deyrnas yn cael gwared ar bob dioddefaint, a bod gennyn ni’r gobaith o fyw am byth mewn heddwch a hapusrwydd o dan reolaeth y Deyrnas.—Ioan 3:16; Dat. 4:11; 21:3, 4.

16. Beth sy’n rhaid inni ei wneud pan gawn ni ddealltwriaeth newydd ynglŷn ag un o wirioneddau’r Beibl?

16 O bryd i’w gilydd, mae ein dealltwriaeth o broffwydoliaethau’r Beibl yn cael ei diwygio. Pan ddaw newidiadau o’r fath, dylen ni neilltuo amser ar gyfer astudio’r wybodaeth yn ofalus a myfyrio arni. (Act. 17:11; 1 Tim. 4:15) Rydyn ni’n ceisio deall nid yn unig y newidiadau mawr ond hefyd y mân wahaniaethau rhwng yr hen ddealltwriaeth a’r un newydd. Drwy wneud hyn, byddwn yn sicr o osod y gwirionedd newydd yn saff yn ein trysorfa. Pam mae gwneud hynny’n werth chweil?

17, 18. Sut gall yr ysbryd glân ein helpu?

17 Dywedodd Iesu fod ysbryd Duw yn gallu dwyn i’r cof bethau rydyn ni wedi eu dysgu. (Ioan 14:25, 26) Sut gall hyn ein helpu i gyhoeddi’r newyddion da? Ystyria esiampl brawd o’r enw Peter. Yn 1970, roedd yn 19 oed ac wedi dechrau gwasanaethu yn y Bethel ym Mhrydain. Tra oedd yn pregethu o ddrws i ddrws, dyma’n cwrdd â dyn barfog canol-oed. Gofynnodd Peter a fyddai’r dyn yn hoffi deall y Beibl. Wedi ei syfrdanu, dywedodd y dyn ei fod yn rabbi Iddewig. Er mwyn profi gwybodaeth Peter, gofynnodd y rabbi: “Felly, fy machgen i, ym mha iaith cafodd llyfr Daniel ei hysgrifennu?” “Cafodd ran ohono ei ysgrifennu mewn Aramaeg,” atebodd Peter. “Roedd y rabbi wedi synnu fy mod i’n gwybod yr ateb,” meddai Peter, “ond nid mor syfrdan ag yr oeddwn i! Sut roeddwn i’n gwybod yr ateb? Pan es i adref ac edrych yn rhifynnau diweddar o’r Tŵr Gwylio a’r Awake!, gwnes i ddod o hyd i erthygl a oedd yn esbonio bod Daniel wedi ei ysgrifennu mewn Aramaeg.” (Dan. 2:4) Felly, mae’r ysbryd glân yn gallu dwyn i’r cof bethau rydyn ni wedi eu darllen a’u casglu yn ein trysorfa ysbrydol.—Luc 12:11, 12; 21:13-15.

18 Os ydyn ni’n trysori’r doethineb sy’n dod oddi wrth Jehofa, bydd ein calon yn ein hysgogi i lenwi ein trysorfa â gwirioneddau hen a newydd. Wrth inni ddod i werthfawrogi doethineb Jehofa’n fwy, byddwn ni’n gallu pregethu’n effeithiol.

GWARCHOD DY DRYSOR

19. Pam mae’n rhaid inni warchod ein trysorau ysbrydol?

19 Drwy’r amser, mae Satan a’i fyd yn ceisio gwanhau neu chwalu ein gwerthfawrogiad o’r trysorau ysbrydol rydyn ni wedi eu trafod yn yr erthygl hon. Ni allwn osgoi’r tactegau hyn. Hawdd fyddai cael ein denu gan swyddi da a phethau materol. Mae’r apostol Ioan yn ein hatgoffa bod y byd hwn a’i chwantau yn mynd heibio. (1 Ioan 2:15-17) Felly, hanfodol yw inni weithio’n galed i warchod ein cariad a’n gwerthfawrogiad tuag at drysorau ysbrydol.

20. Beth rwyt ti’n benderfynol o’i wneud i warchod dy drysor ysbrydol?

20 Bydda’n barod i gefnu ar unrhyw beth a all ddenu dy sylw oddi ar Deyrnas Dduw. Dal ati i bregethu’n selog, a phaid â cholli dy werthfawrogiad o’r weinidogaeth. Dal ati i chwilio’n daer am wirioneddau dwyfol. Wrth iti wneud hyn, byddi di’n casglu trysor yn y nefoedd, lle na all lleidr na gwyfyn ei ddifetha. Oherwydd, “ble bynnag mae dy drysor di y bydd dy galon di.”—Luc 12:33, 34.