Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

Datrys Dadleuon Drwy Hyrwyddo Heddwch

Datrys Dadleuon Drwy Hyrwyddo Heddwch

MAE Jehofa Dduw yn annog Cristnogion i goleddu heddwch. Mae Duw eisiau i heddwch fod yn rhan allweddol o fywyd. O fod yn heddychlon, mae gwir addolwyr yn mwynhau heddwch llawn. Mae hyn yn denu pobl at y gynulleidfa Gristnogol sydd eisiau osgoi codi twrw.

Er enghraifft, gwelodd dyn hysbys (witch doctor) ym Madagasgar yr undod ymhlith Tystion Jehofa. Dywedodd wrtho’i hun: ‘Os oeddwn i am berthyn i unrhyw grefydd, hon fyddai hi.’ Mewn amser, stopiodd ymarfer dewiniaeth, treuliodd fisoedd yn cywiro ei sefyllfa briodasol anysgrythurol, a dechreuodd addoli Jehofa, y Duw heddychlon.

Yn debyg i’r dyn hwnnw, mae miloedd o bobl bob blwyddyn yn canfod yn y gynulleidfa Gristnogol yr heddwch maen nhw wedi bod yn chwilio amdano. Fodd bynnag, mae’r Beibl yn dweud yn blaen fod “cenfigen chwerw ac uchelgais hunanol” yn y gynulleidfa yn gallu creu helynt a chwalu cyfeillgarwch. (Iago 3:14-16) Mae’r Beibl yn rhoi cyngor da ynglŷn â sut y gallwn ni osgoi’r problemau hynny a hyrwyddo heddwch. Er mwyn ein helpu ni i wneud hynny, gad inni ystyried hanesion go iawn.

PROBLEMAU AC ATEBION

“Roeddwn i’n cael trafferth yn gyrru ymlaen â brawd a oedd yn gweithio gyda mi. Un tro, pan oedden ni’n sgrechian ar ein gilydd, daeth dau ddyn i mewn a’n gweld ni’n ffraeo.”—CHRIS.

“Gwnaeth un o’r chwiorydd a oedd yn aml yn pregethu gyda mi roi stop ar ein trefniadau. Yna, stopiodd siarad â mi yn gyfan gwbl. Doedd gen i ddim clem pam.”—JANET.

“Roedd tri ohonon ni ar y ffôn yn siarad. ‘Hwyl fawr,’ meddai un o’r lleill, ac roeddwn i’n meddwl ei fod wedi diffodd yr alwad. Wedyn dywedais bethau cas amdano i’r person arall a oedd ar y ffôn, ond doedd y person cyntaf heb roi’r ffôn i lawr.”—MICHAEL.

“Yn ein cynulleidfa, dechreuodd dwy o’r arloeswyr ffraeo. Roedd un ohonyn nhw’n hoff o ddweud y drefn wrth y llall. Roedd eu cweryla nhw yn digalonni pawb.”—GARY.

Efallai dy fod ti’n teimlo mai digwyddiadau dibwys ydy’r rhain. Ond, roedd gan bob un ohonyn nhw’r potensial i achosi niwed emosiynol ac ysbrydol. Fodd bynnag, byddi di’n hapus i wybod bod y brodyr a’r chwiorydd hynny wedi llwyddo i adfer yr heddwch rhyngddyn nhw drwy ddilyn arweiniad y Beibl. Yn dy farn di, pa egwyddorion Beiblaidd y gwnaethon nhw eu defnyddio?

 “Peidiwch â chweryla ar y ffordd.” (Gen. 45:24, BCND) Rhoddodd Joseff y cyngor hwnnw i’w frodyr cyn iddyn nhw ddychwelyd at eu tad. Geiriau doeth yn wir! Pan nad yw rhywun yn rheoli ei deimladau ac yn gwylltio’n hawdd, gall hynny achosi i eraill golli eu tymer. Sylweddolodd Chris fod balchder a’i amharodrwydd i dderbyn arweiniad yn wendidau ynddo. Roedd eisiau newid, ac felly, ymddiheurodd i’r brawd yr oedd wedi bod yn ffraeo ag ef ac yna gweithiodd yn galed i reoli ei dymer. Ar ôl sylwi ar ymdrechion Chris i newid, dyma’r cyd-weithiwr hefyd yn gwneud newidiadau. Nawr maen nhw’n mwynhau addoli Jehofa gyda’i gilydd.

“Mae cynlluniau’n mynd ar chwâl heb ymgynghori.” (Diar. 15:22) Teimlodd Janet fod rhaid iddi gymryd yr adnod hon o ddifrif calon. Penderfynodd hi “ymgynghori,” neu siarad, â’r chwaer arall. Yn ystod eu sgwrs, gofynnodd Janet mewn ffordd dringar i’r chwaer esbonio pam roedd hi’n dal dig yn ei herbyn. Ar y cychwyn, roedd y sgwrs yn un llawn tensiwn, ond wedyn, gwnaeth pethau wella wrth iddyn nhw drafod y broblem mewn ffordd dawel. Sylweddolodd y chwaer ei bod hi wedi camddeall sefyllfa nad oedd yn ymwneud â Janet o gwbl. Ymddiheurodd, ac maen nhw nawr yn gwasanaethu Jehofa fel tîm unwaith eto.

“Os wyt ti wrth yr allor yn y deml yn addoli Duw, ac yn cofio yno fod gan rhywun gŵyn yn dy erbyn, gad dy offrwm yno. Dos i wneud pethau’n iawn gyda nhw’n gyntaf.” (Math. 5:23, 24) Mae’n debyg dy fod ti’n cofio’r cyngor hwnnw a roddodd Iesu yn ei Bregeth ar y Mynydd. Roedd Michael yn teimlo’n ofnadwy ar ôl sylweddoli ei fod wedi bod mor angharedig a difeddwl. Roedd yn benderfynol o adfer heddwch. Aeth at y brawd ac ymddiheuro wyneb yn wyneb. Beth oedd y canlyniad? Dywed Michael: “Gwnaeth fy mrawd faddau imi o’i galon.” Unwaith eto, roedden nhw’n ffrindiau.

“Byddwch yn oddefgar, a maddau i eraill pan dych chi’n meddwl eu bod nhw ar fai.” (Col. 3:12-14) Yn achos y ddwy arloeswraig brofiadol, gwnaeth henuriad cariadus eu helpu i feddwl am gwestiynau fel: ‘Oes gen y ddwy ohonon ni’r hawl i adael i’n ffrae ni wneud i eraill deimlo’n drist? Oes gennyn ni reswm da dros wrthod goddef ein gilydd a pharhau i wasanaethu Jehofa mewn heddwch?’ Gwnaethon nhw dderbyn cyngor yr henuriad a’i roi ar waith. Nawr maen nhw’n gyrru ymlaen yn iawn wrth bregethu’r newyddion da gyda’i gilydd.

 Efallai fod cymhwyso’r cyngor yn Colosiaid 3:12-14 yn lle da i gychwyn os yw rhywun wedi dy frifo. Mae maddau ac anghofio’r bai yn bosibl drwy fod yn ostyngedig. Os, ar ôl ymdrech lew, mae angen mwy na hynny, a elli di roi Mathew 18:15 ar waith? Cyfeiriodd cyngor Iesu at y cam i’w gymryd pan fydd rhywun wedi pechu’n ddifrifol yn erbyn rhywun arall. Ond efallai dyma’r egwyddor y dylet ti ei dilyn. Dos at dy frawd neu dy chwaer ac, mewn ffordd gariadus a gostyngedig, ceisia drafod y sefyllfa a’i datrys.

Wrth gwrs, mae’r Beibl yn cynnwys awgrymiadau ymarferol eraill hefyd. Y tu ôl i lawer ohonyn nhw yw’r “ffrwyth mae’r Ysbryd Glân yn ei dyfu yn ein bywydau ni: cariad, llawenydd, heddwch dwfn, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder a hunanreolaeth.” (Gal. 5:22, 23) Fel olew mewn peiriant, mae’r rhinweddau duwiol hyn yn esmwytho’r broses o wneud heddwch.

CYFOETHOGI’R GYNULLEIDFA

Mae personoliaethau—yr arferion unigryw sydd gan bob un ohonon ni—yn gallu creu cyfeillgarwch cryf. Gall gwahaniaethau o ran personoliaeth hefyd greu anghydfod. Dyma esiampl gan henuriad profiadol: “Gall rhywun swil ei chael hi’n anodd bod mewn cwmni rhywun swnllyd ac uchel ei gloch. Gall y gwahaniaeth hwnnw ymddangos yn ddibwys, ond fe all achosi problemau mawr.” Ond, wyt ti’n meddwl y bydd problemau yn sicr o godi rhwng pobl sydd â gwahanol bersonoliaethau? Ystyria esiampl dau o’r apostolion. Sut un oedd Pedr? Efallai dy fod ti’n ei ystyried yn fyrbwyll ac yn ddi-flewyn-ar-dafod. Beth am Ioan? Gallwn ddychmygu ei fod yn ddyn pwyllog a chariadus yn ei eiriau a’i ymddygiad. Ac efallai fod yna sail i’r casgliadau hynny amdanyn nhw. Mae’n ymddangos eu bod nhw’n wahanol o ran personoliaeth. Ond eto, roedden nhw’n gweithio’n dda gyda’i gilydd. (Act. 8:14; Gal. 2:9) Felly,  mae hi’n bosibl i Gristnogion sy’n wahanol o ran personoliaeth gydweithio heddiw.

Efallai fod yna frawd yn dy gynulleidfa sy’n siarad neu’n ymddwyn mewn ffordd sy’n mynd o dan dy groen. Eto, rwyt ti’n deall fod Crist wedi marw dros y person hwnnw a bod rhaid iti ddangos cariad. (Ioan 13:34, 35; Rhuf. 5:6-8) Felly, yn hytrach na diystyru’r person, neu geisio ei osgoi, gofynna iti dy hun: ‘Ydy fy mrawd yn gwneud rhywbeth sydd yn amlwg yn anysgrythurol? Ydy ef yn ceisio gwneud imi deimlo’n annifyr yn fwriadol? Neu, ai dim ond gwahaniaeth o ran personoliaeth sy’n achosi’r broblem?’ Hefyd, cwestiwn pwysig yw: ‘Pa rinweddau da sydd ganddo ef y gallaf eu hefelychu?’

Mae’r cwestiwn diwethaf yn un allweddol. Os yw’r person arall yn hoffi siarad a thithau’n ddistaw, pam na wnei di gynnig gweithio gydag ef yn y weinidogaeth, gan ei fod yn gallu cychwyn sgyrsiau’n hawdd. Os yw’r unigolyn arall wedi bod yn hael wrth eraill, ond rwyt tithau braidd yn grintachlyd, beth am iti sylwi ar y llawenydd sy’n dod o roi i’r henoed, a’r rhai sy’n sâl neu mewn angen? Y pwynt yw, er bod gennych chi wahanol bersonoliaethau, gelli di a dy frawd ddod yn agosach drwy ganolbwyntio ar y pethau positif. Efallai na fyddech chi’n dod yn ffrindiau gorau, ond fe allwch chi ddod yn agosach gan hyrwyddo heddwch yn y gynulleidfa hefyd.

Efallai roedd gan Euodia a Syntyche eu ffyrdd a’u personoliaethau eu hunain. Ond, anogodd yr apostol Paul iddyn nhw “ddod ymlaen â’i gilydd am eu bod yn perthyn i’r Arglwydd.” (Phil. 4:2) Wyt ti’n barod i wneud yr un peth a meithrin heddwch?

PAID Â CHANIATÁU I WRTHDARO BARHAU

Fel chwyn yn tyfu mewn gardd flodau, gall teimladau drwg tuag at eraill fynd ar led os nad ydyn ni’n eu diwreiddio. Unwaith i chwerwder ymwreiddio yn ein calon, gallai ddylanwadu ar ysbryd y gynulleidfa. Os ydyn  ni’n caru Jehofa a’n brodyr, byddwn ni’n gwneud popeth a fedrwn ni i beidio â gadael i wahaniaethau personol ddifetha heddwch pobl Dduw.

Os wyt ti’n ostyngedig ac yn ceisio cadw heddwch, efallai cei di ganlyniadau ardderchog

Pan fyddwn ni’n datrys problemau er mwyn cadw heddwch, paid â chael dy synnu gan y canlyniadau da. Meddylia am esiampl un o’r Tystion: “Teimlais fod chwaer yn fy nhrin fel plentyn bach. Roedd hynny’n mynd ar fy nerfau. Wrth imi deimlo’n fwy pigog, dechreuais fod yn swta gyda hi. Meddyliais, ‘Dydy hi ddim yn dangos y parch rydw i’n ei haeddu, felly dydw i ddim am ei pharchu hithau.’”

Dechreuodd y chwaer feddwl am ei hymddygiad ei hun. “Roeddwn i’n dechrau gweld fy ngwendidau ac roeddwn i wedi fy siomi fy hun. Sylweddolais fod rhaid imi newid fy agwedd. Ar ôl gweddïo ar Jehofa, prynais anrheg fach i’r chwaer gyda cherdyn yn ymddiheuro am fy agwedd ddrwg. Rhoddon ni hyg i’n gilydd a chytuno anghofio am y mater. Dydyn ni ddim wedi cael unrhyw broblem ers hynny.”

Mae angen mawr am heddwch ar bobl. Wedi dweud hynny, pan fydd rhywbeth yn bygwth eu safle a’u balchder, mae llawer yn dechrau ymddwyn mewn ffordd sydd ddim yn heddychlon. Mae hynny’n wir am lawer o bobl sydd ddim yn addoli Jehofa, ond ymhlith ei addolwyr, dylai heddwch ac undod barhau. Cafodd Paul ei ysbrydoli gan Jehofa i ysgrifennu: “Dw i’n pwyso arnoch chi i fyw fel y dylai pobl mae Duw wedi eu galw i berthyn iddo fyw. Byddwch yn ostyngedig ac addfwyn bob amser; byddwch yn amyneddgar, a goddef beiau eich gilydd mewn cariad. Gwnewch eich gorau glas i ddangos bod yr Ysbryd Glân wedi eich gwneud chi’n un, a’i fod yn eich clymu chi gyda’ch gilydd mewn heddwch.” (Eff. 4:1-3) Mae heddwch yn drysor. Gad inni ei feithrin a bod yn benderfynol o ddatrys unrhyw broblem sy’n codi yn ein plith.