Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r isddewislen

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Cymraeg

Y Tŵr Gwylio—Rhifyn Astudio  |  Mehefin 2017

Cysur gan Jehofa yng Nghanol Ein Holl Drafferthion

Cysur gan Jehofa yng Nghanol Ein Holl Drafferthion

“Duw sy’n . . . ein cysuro ni yng nghanol ein holl drafferthion.”—2 COR. 1:3, 4.

CANEUON: 38, 56

1, 2. Sut mae Jehofa yn ein cysuro ni yng nghanol ein trafferthion, a pha sicrwydd mae ei Air yn ei roi?

GWNAETH brawd ifanc, y bydden ni’n ei alw’n Eduardo, siarad am ei broblemau â Stephen, henuriad hŷn a oedd wedi priodi. Roedd Eduardo wedi bod yn meddwl am yr hyn a ddarllenwn yn 1 Corinthiaid 7:28: “Mae’r argyfwng presennol yn rhoi parau priod dan straen ofnadwy.” Gofynnodd: “Beth yw’r ‘straen ofnadwy’ yma, a sut byddwn i’n delio â’r straen hwnnw petaswn i’n priodi?” Cyn ateb y cwestiwn, gofynnodd Stephen i Eduardo am ystyried rhywbeth arall a ddywedodd yr apostol Paul, sef mai Jehofa ydy’r “Duw sy’n cysuro. Mae’n ein cysuro ni yng nghanol ein holl drafferthion.”—2 Cor. 1:3, 4.

2 Yn wir, tad cariadus yw Jehofa sy’n ein cysuro pan fyddwn ni’n wynebu anawsterau. Efallai dy fod ti wedi cael profiadau lle’r oedd Duw wedi dy gysuro di, a hynny drwy ei Air. Yn union fel yr oedd yn dymuno’r gorau i’w weision yn y gorffennol, gallwn fod yn sicr ei fod yn dymuno’r un peth i ni heddiw.—Darllen Jeremeia 29:11, 12.

3. Pa gwestiynau y byddwn ni’n eu gofyn?

 3 Wrth reswm, byddwn ni’n gallu ymdopi â’n problemau’n well os ydyn ni’n deall beth sydd wrth wraidd ein treialon. Ac mae hynny’n wir am y trafferthion sy’n perthyn i fywyd priodasol neu deuluol. Beth, felly, yw rhai o’r sefyllfaoedd a all ein rhoi ni o dan y “straen ofnadwy” y soniodd Paul amdano? Pa esiamplau o ddyddiau’r Beibl ac o’n dyddiau ni sy’n gallu ein cysuro ni? Bydd gwybod am hyn yn ein helpu i ymdopi.

O DAN STRAEN OFNADWY

4, 5. Beth yw rhai sefyllfaoedd sy’n gallu achosi “straen ofnadwy” inni?

4 Gallwn ddarllen am yr hyn a ddywedodd Duw yn gynnar iawn yn hanes dyn: “Mae dyn yn gadael ei dad a’i fam ac yn cael ei uno â’i wraig. Byddan nhw’n dod yn uned deuluol newydd.” (Gen. 2:24) Dywedodd Jehofa hynny wrth iddo briodi’r pâr dynol cyntaf. Ond, oherwydd amherffeithrwydd, gall priodi a sefydlu cartref newydd roi straen ar y teulu. (Rhuf. 3:23) Fel rheol, mae awdurdod y rhieni yn cael ei ddisodli gan awdurdod y gŵr. Duw sy’n gofyn iddo fod yn ben ar ei wraig. (1 Cor. 11:3, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Nid yw hyn yn hawdd i rai gwŷr a gwragedd newydd. Yn ôl Gair Duw, dylai gwraig dderbyn y bydd hi’n cael ei harwain gan ei gŵr yn hytrach na’i rhieni. Gall y berthynas gyda’r teulu-yng-nghyfraith ddod o dan straen ac achosi trafferthion i’r pâr ifanc sydd newydd briodi.

5 Gall pryderon newydd ddod i’r wyneb ar ôl i’r wraig ddweud wrth ei gŵr: “Rydyn ni’n mynd i gael babi.” Ynghlwm wrth y llawenydd o ddisgwyl eu babi cyntaf, yn aml mae yna ychydig o bryderu am faterion meddygol a all godi cyn i’r babi gael ei eni neu’n dilyn yr enedigaeth. Hefyd, bydd rhaid ystyried yr effaith ariannol, yn y tymor byr ac yn y tymor hir. Bydd mwy o newidiadau yn dod pan ddaw’r babi. Yn ôl pob tebyg, bydd gofalu am ei phlentyn yn mynd ag amser a sylw’r fam. Mae llawer o wŷr wedi teimlo eu bod nhw wedi cael eu hanwybyddu oherwydd bod eu gwragedd mor brysur yn gofalu am eu babis. Ar y llaw arall, mae gan dadau newydd gyfrifoldebau newydd i’w hysgwyddo. Cynyddu y mae eu cyfrifoldebau oherwydd bod ganddyn nhw aelod newydd yn y teulu i ofalu amdano.

6-8. Sut gall y rhwystredigaeth o fethu cael plant achosi tristwch?

6 Mae rhai cyplau priod yn dioddef math arall o “straen ofnadwy.” Maen nhw o dan straen emosiynol dwys oherwydd eu bod nhw eisiau cael plant ond wedi methu hyd yma. Gall gwraig sydd ddim yn llwyddo i feichiogi deimlo’n dorcalonnus. Nid yw priodi na geni plant yn gwarantu bywyd heb ofalon, ond mae methu cael plant yn “straen ofnadwy” ynddo’i hun. (Diar. 13:12) Yn nyddiau’r Beibl, roedd peidio â chael plant yn warth. Roedd Rachel, gwraig Joseff, yn genfigennus o weld ei chwaer yn cael plant. (Gen. 30:1, 2) Yn aml, mae pobl yn gofyn i genhadon mewn gwledydd lle mae disgwyl cael teuluoedd mawr: “Pam nad oes gennych chi blant?” Er eu bod nhw’n ateb yn bwyllog, yr ymateb yn amlach na pheidio yw: “Mi wnawn ni weddïo drosoch chi!”

7 Rho sylw hefyd i chwaer o Loegr a oedd yn wir eisiau cael plentyn ond wedi anobeithio oherwydd nad oedd ei disgwyliadau wedi eu gwireddu. Yna, gwnaeth hi gyrraedd y menopos. Mae hi’n cyfaddef ei bod hi wedi torri ei  chalon, oherwydd iddi sylweddoli na fydd eu dymuniadau yn cael eu gwireddu yn y system hon. Penderfynodd hi a’i gŵr fabwysiadu plentyn. Er hynny, dywedodd hi: “Mi es i drwy ryw fath o broses o alaru. Roeddwn i’n gwybod na fyddai mabwysiadu yn union yr un fath â rhoi genedigaeth i fy mhlentyn fy hun.”

8 Mae’r Beibl yn sôn am ferch Gristnogol yn “cael ei hachub drwy’r plentyn oedd i’w eni.” (1 Tim. 2:15) Dydy hyn, fodd bynnag, ddim yn golygu bod geni a magu plant yn dod â bywyd tragwyddol. Yn hytrach, mae’n cyfeirio at y ffaith fod gwraig sy’n magu plant ac yn gofalu am ei chartref yn fwy tebygol o beidio â chario clecs a busnesu ym mywyd pobl eraill. (1 Tim. 5:13) Fodd bynnag, mae’n bosibl y byddai hi’n dal yn gorfod wynebu treialon sy’n gysylltiedig â bywyd teuluol.

Sut gall person ymdopi ar ôl profedigaeth? (Gweler paragraffau 9, 12)

9. Sut mae colli cymar mewn marwolaeth yn brofiad anodd?

9 Wrth feddwl am dreialon sydd ynghlwm wrth briodas, efallai dydy colli ein cymar annwyl mewn marwolaeth ddim yn un ohonyn nhw. Yn wir, mae llawer wedi profi’r boen honno. Dyma brawf nad ydy gŵr neu wraig yn disgwyl ei wynebu yn y system hon. Mae Cristnogion yn credu’n gryf yn addewid Iesu o’r atgyfodiad. (Ioan 5:28, 29) Sut mae’r gobaith hwnnw’n rhoi help inni? Trwy roi cysur mawr inni. Dyma ffordd arall y mae Jehofa, drwy ei Air, yn cefnogi rhai sy’n wynebu treialon. Gad inni nawr ystyried sut roedd rhai o weision Duw yn teimlo o gael eu cysuro ganddo.

CYSUR WRTH WYNEBU TREIALON

10. Sut cafodd Hanna ei chysuro? (Gweler y llun agoriadol.)

10 Roedd Hanna, gwraig Elcana, yn wynebu prawf anodd. Doedd hi ddim yn gallu cael plant, tra oedd gwraig arall Elcana, Penina, yn medru cael plant. (Darllen 1 Samuel 1:4-7.) Roedd Hanna yn gorfod gwrando ar Penina yn ei gwawdio hi “bob blwyddyn.” Roedd Hanna wedi torri ei chalon. Gweddïodd ar Jehofa am gysur. Yn wir, “buodd Hanna’n gweddïo’n hir ar yr ARGLWYDD.” A oedd hi’n disgwyl i Jehofa ateb ei gweddi? Dyna oedd ei gobaith. O ganlyniad, “roedd yn edrych yn llawer hapusach.” (1 Sam. 1:12, 17, 18) Roedd hi’n ymddiried yn Jehofa i naill ai roi babi iddi neu i lenwi’r bwlch mewn rhyw ffordd arall.

11. Sut gall gweddi roi cysur inni?

11 Cyhyd ag yr ydyn ni’n amherffaith ac yn gorfod byw yn system Satan, bydd trafferthion a threialon yn parhau. (1 Ioan 5:19) Da yw gwybod mai Jehofa yw’r “Duw sy’n cysuro”! Un ffordd o gael cysur yng nghanol ein trafferthion yw trwy weddïo. Gwnaeth Hanna fwrw ei bol wrth Jehofa. Yn yr un modd, yn wyneb problemau, mae’n rhaid inni wneud mwy na sôn wrth Jehofa am sut rydyn ni’n teimlo. Mae’n rhaid inni erfyn arno, er mwyn mynegi ein teimladau drwy weddïo’n daer o’r galon.—Phil. 4:6, 7.

12. Beth helpodd Anna i ddod o hyd i gysur?

12 Hyd yn oed os ydyn ni’n teimlo bod gennyn ni wacter poenus yn ein bywyd—oherwydd na allwn ni gael plant neu oherwydd profedigaeth—mae’n bosibl inni gael cysur. Yn nyddiau Iesu, bu farw gŵr y broffwydes Anna ar ôl dim ond saith mlynedd o briodas. Does dim sôn yn y Beibl am unrhyw blant. Beth oedd Anna yn ei wneud pan oedd hi’n 84 oed? Dywed Luc 2:37: “Fyddai hi byth yn gadael y deml—roedd hi yno ddydd a  nos yn addoli Duw, ac yn ymprydio a gweddïo.” Ie, roedd Anna wedi dod o hyd i gysur a llawenydd wrth addoli Jehofa.

13. Esbonia sut gall gwir ffrindiau ddod â chysur hyd yn oed pan na fydd perthnasau yn gwneud hynny.

13 Pan fyddwn ni’n cymdeithasu’n agos â’n brodyr a’n chwiorydd, rydyn ni’n dod o hyd i wir ffrindiau. (Diar. 18:24) Mae Paula yn cofio pa mor drist oedd hi’n teimlo a hithau dim ond yn bump oed, pan adawodd ei mam y gwirionedd. Doedd dod dros hyn ddim yn hawdd. Ond, cafodd ei hannog gan Ann, arloeswraig yn y gynulleidfa, a ddangosodd ddiddordeb personol yn ei lles ysbrydol. “Er nad oedd Ann yn perthyn imi, roedd ei gofal cariadus yn help mawr,” esboniodd Paula. “Gwnaeth fy helpu i ddal ati i wasanaethu Jehofa.” Mae Paula yn parhau i wasanaethu’n ffyddlon. Hefyd, mae hi’n hapus iawn i fod yn gwasanaethu, unwaith eto, ochr yn ochr â’i mam yn y gynulleidfa. Mae Ann hefyd yn hapus oherwydd ei bod hi wedi gallu bod yn fam ysbrydol i Paula.

14. Pa fendithion sy’n dod i’r rhai sy’n rhoi cysur?

14 Yn ddiddorol, pan ydyn ni’n dangos diddordeb personol mewn eraill, mae’n bosibl inni ollwng yn rhydd rai o’n hemosiynau negyddol. Mae chwiorydd priod  a sengl yn gwybod yn iawn fod cydweithio â Duw i rannu’r newyddion da yn dod â llawenydd mawr. Eu nod yw anrhydeddu Duw a gwneud ei ewyllys. Mae rhai hyd yn oed yn ystyried eu gweinidogaeth yn therapi. Yn wir, rydyn ni i gyd yn cyfrannu at undod y gynulleidfa drwy ddangos consýrn dros y rhai sydd yn ein cynulleidfa ac yn ein tiriogaeth. (Phil. 2:4) Esiampl dda yn hyn o beth oedd yr apostol Paul. Roedd “fel mam yn magu ei phlant ar y fron” i’r gynulleidfa yn Thesalonica; ac roedd hefyd fel tad ysbrydol.—Darllen 1 Thesaloniaid 2:7, 11, 12.

CYSUR YN Y TEULU

15. Pwy sy’n bennaf gyfrifol am ddysgu rhai ifanc y gwirionedd?

15 Un peth sy’n haeddu ein sylw yw’r cysur rydyn ni’n ei roi i deuluoedd. Ar adegau, mae rhai newydd yn gofyn i gyhoeddwyr aeddfed helpu i ddysgu’r gwirionedd i’w plant, a hyd yn oed i gynnal astudiaeth Feiblaidd gyda’r rhai ifanc hyn. Yn Ysgrythurol, y rhieni sy’n bennaf gyfrifol am ddysgu eu plant. (Diar. 23:22; Eff. 6:1-4) Mewn rhai achosion, mae angen help gan eraill. Ond er hynny, dydy hyn ddim yn esgusodi’r rhieni rhag eu cyfrifoldebau. Mae cyfathrebu cyson yn y teulu’n angenrheidiol.

16. Wrth helpu plant, beth dylid ei gofio?

16 Os yw rhiant yn penderfynu bod angen i rywun astudio gyda’i blant, ni ddylai’r sawl sy’n gwneud hyn gymryd drosodd rôl y rhieni. Ar brydiau, mae rhieni sydd ddim yn y gwirionedd wedi gofyn i Dyst astudio gyda’u plant. Er bod y Tyst yn helpu’r plant yn ysbrydol, dydy hyn ddim yn golygu ei fod yn rhiant iddyn nhw. Ac os yw astudiaeth o’r fath yn cael ei chynnal, peth doeth fyddai gwneud hyn naill ai yng nghartref y plant yng nghwmni’r rhieni neu yng nghwmni Tyst aeddfed arall, neu mewn man cyhoeddus priodol. Felly, ni fyddai neb yn gallu camddeall yr hyn sy’n digwydd. Y gobaith yw y byddai’r rhieni, mewn amser, yn dod i ysgwyddo eu cyfrifoldeb Ysgrythurol ac yn gofalu’n ysbrydol am eu plant.

17. Sut gall plant fod yn gysur i’r teulu?

17 Gall pobl ifanc sy’n dod i garu Jehofa a’i gyngor fod yn gysur mawr yn y teulu. Mae hyn yn wir pan fyddan nhw’n parchu eu rhieni a’u helpu’n faterol. Gallan nhw hefyd gyfrannu mewn ffordd ysbrydol. Cyn y Dilyw, roedd Lamech, un o ddisgynyddion Seth, yn addoli Jehofa. Ynglŷn â’i fab Noa, dywedodd Lamech: “Bydd hwn yn rhoi gorffwys i ni o’r gwaith caled o drin y tir mae’r ARGLWYDD wedi ei felltithio.” Cyflawnwyd y broffwydoliaeth honno pan gafodd y felltith ar y tir ei dileu. (Gen. 5:29; 8:21) Ar lefel fwy personol, gall plant sy’n addoli Jehofa fod yn gysur mawr i’w teuluoedd, yn helpu pawb i ddyfalbarhau yn wyneb treialon ac i oroesi rhywbeth sy’n llawer mwy arwyddocaol na’r Dilyw.

18. Beth all ein helpu ni i ddyfalbarhau’n ddewr er gwaethaf unrhyw dreialon y byddwn ni’n eu hwynebu?

18 Mae gweddïo, myfyrio ar esiamplau pobl yn y Beibl, a chymdeithasu’n agos â phobl Jehofa yn helpu miliynau heddiw i gael eu cysuro yng nghanol eu holl drafferthion. (Darllen Salm 145:18, 19.) Bydd gwybod mai Jehofa yw Ffynhonnell pob cysur yn ein helpu i ddyfalbarhau yn ddewr pa bynnag drafferthion y byddwn ni’n eu hwynebu, naill ai nawr neu yn y dyfodol.