DAFYDD, o Israel gynt, a ddywedodd y geiriau uchod wrth ganmol y ddynes Abigail. Beth ysgogodd Dafydd i ganmol y ferch, a sut gall ei hesiampl fod o fudd inni?

Fe wnaeth Dafydd cyfarfod y ddynes briod hon pan oedd yn dianc rhag y Brenin Saul. Roedd Abigail yn wraig i Nabal, dyn cyfoethog a oedd yn porfa ei breiddiau mawr yn y rhanbarth mynyddig o dde Jwda. Roedd Dafydd a’i ddynion wedi bod “fel wal” yn amddiffyn bugeiliaid Nabal a’i breiddiau. Yn nes ymlaen, anfonodd Dafydd negeswyr at Nabal yn gofyn a oedd ganddo “rywbeth i’w sbario” er mwyn i’r dynion gael bwyta. (1 Sam. 25:8, 15, 16) Nid oedd hynny’n rhywbeth afresymol i ofyn, o ystyried bod Dafydd a’i ddynion wedi gwarchod eiddo Nabal.

Ond, mae enw Nabal yn golygu “Disynnwyr” neu “Gwirion,” ac un felly oedd Nabal. Ymatebodd yn llym a gwrthododd helpu Dafydd. Felly, penderfynodd Dafydd gosbi Nabal am ei sarhad. Byddai Nabal a’i deulu yn gorfod dioddef oherwydd iddo fod mor wirion.—1 Sam. 25:2-13, 21, 22.

Yn gweld y canlyniadau difrifol o weithredu’n wyllt, penderfynodd Abigail ymyrryd. Apeliodd hi at Dafydd mewn ffordd barchus ar sail ei berthynas ef â Jehofa. A rhoddodd hi ddigonedd o fwyd i Dafydd, a fyddai’n frenin cyn bo hir, ac i’w ddynion. Mewn amser, sylweddolodd Dafydd fod Jehofa wedi defnyddio Abigail i’w atal rhag gwneud rhywbeth a fyddai wedi ei wneud yn euog o flaen Duw. Dywedodd Dafydd wrth Abigail: “Diolch i ti am dy gyngor doeth, a bendith Duw arnat ti. Ti wedi fy rhwystro i, heddiw, rhag tywallt gwaed.”—1 Sam. 25:18, 19, 23-35.

Felly, dylen ni osgoi bod fel Nabal, ac osgoi bod yn anniolchgar am y pethau da sy’n cael eu gwneud ar ein cyfer. Hefyd, pan welwn fod sefyllfa ddrwg yn digwydd peth da fyddai inni wneud yr hyn a allwn ni i dawelu pethau. Yn wir, gallwn efelychu’r hyn a ddywedodd y salmydd wrth Dduw: “Rho’r gallu i mi wybod beth sy’n iawn.”—Salm 119:66.

Efallai bydd eraill yn gweld y doethineb yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud. Hyd yn oed os nad ydyn nhw’n dweud unrhyw beth, efallai y bydden nhw’n teimlo fel yr oedd Dafydd, a ddywedodd: “Diolch i ti am dy gyngor doeth, a bendith Duw arnat ti.”