Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r isddewislen

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Cymraeg

Y Tŵr Gwylio—Rhifyn Astudio  |  Mehefin 2016

Paid â Gadael i Feiau Pobl Eraill Dy Faglu Di

Paid â Gadael i Feiau Pobl Eraill Dy Faglu Di

“Maddeuwch i’ch gilydd.”—COL. 3:13.

CANEUON: 121, 75

1, 2. Sut rhagfynegodd y Beibl y byddai pobl Jehofa yn cynyddu?

MAE gweision ffyddlon Jehofa, ei Dystion, yn rhan o gyfundrefn arbennig dros ben. Yn wir, mae’n cynnwys pobl amherffaith sy’n gwneud camgymeriadau. Ond eto, mae ysbryd glân Duw wedi achosi i’r gynulleidfa fyd-eang hon dyfu a ffynnu. Ystyria ychydig o’r pethau rhyfeddol y mae Jehofa wedi bod yn eu cyflawni drwy ddefnyddio ei bobl sy’n ewyllysgar ond eto’n amherffaith.

2 Pan ddechreuodd y dyddiau diwethaf ym 1914, dim ond ychydig o ran nifer oedd gweision Duw ar y ddaear. Ond bendithiodd Jehofa eu gwaith pregethu. Yn ystod y degawdau canlynol, dysgodd miliynau o rai newydd am wirioneddau’r Beibl a dod yn Dystion Jehofa. Disgrifiodd Jehofa y cynnydd aruthrol hwn drwy ddweud: “Daw’r lleiaf yn llwyth, a’r ychydig yn genedl gref. Myfi yw’r ARGLWYDD; brysiaf i wneud hyn yn ei amser.” (Esei. 60:22) Heb os, gwireddwyd y datganiad proffwydol hwnnw yn ystod y dyddiau diwethaf hyn. Bellach, mae’r nifer o weision Duw ar y ddaear yn fwy na phoblogaeth gyfan llawer o genhedloedd.

3. Sut mae gweision Duw wedi dangos cariad?

 3 Yn ystod y cyfnod hwn, mae Jehofa wedi helpu ei bobl i ddyfnhau eu cariad tuag at ei gilydd. (1 Ioan 4:8) Dywedodd Iesu, a efelychodd gariad Duw, wrth ei ddilynwyr: “Yr wyf yn rhoi i chwi orchymyn newydd: carwch eich gilydd . . . Os bydd gennych gariad tuag at eich gilydd, wrth hynny bydd pawb yn gwybod mai disgyblion i mi ydych.” (Ioan 13:34, 35) Yn ein hanes diweddar, mae gweision Jehofa wedi dangos cariad hyd yn oed pan oedd cenhedloedd y byd yn brwydro yn erbyn ei gilydd ar raddfa ddychrynllyd. Er enghraifft, lladdwyd rhyw 55 miliwn o bobl yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn unig. Serch hynny, ni wnaeth Tystion Jehofa gymryd rhan yn y lladdfa fyd-eang honno. (Darllen Micha 4:1, 3.) Mae hyn wedi eu helpu nhw i aros “yn ddieuog o waed unrhyw un.”—Act. 20:26.

4. Pam mae cynnydd pobl Jehofa yn nodedig?

4 Mae pobl Dduw yn cynyddu mewn byd gelyniaethus sy’n cael ei reoli gan Satan, sef “duw’r oes bresennol” hon. (2 Cor. 4:4) Mae’n rheoli sefydliadau gwleidyddol a chyfryngau’r byd. Ond ni all rwystro’r gwaith o bregethu’r newyddion da. Fodd bynnag, oherwydd ei fod yn gwybod bod yr amser sydd ganddo yn fyr, mae Satan yn ceisio gwneud i bobl gefnu ar wir addoliad, a hynny drwy ddefnyddio amryw ffyrdd.—Dat. 12:12.

PRAWF AR FFYDDLONDEB

5. Pam mae eraill weithiau yn brifo ein teimladau? (Gweler y llun agoriadol.)

5 Mae’r gynulleidfa Gristnogol yn pwysleisio’r pwysigrwydd o garu Duw a’n cyd-ddyn. Dangosodd Iesu fod gwneud hyn yn angenrheidiol. Wrth ateb cwestiwn am y gorchymyn mwyaf, dywedodd: “‘Câr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon ac â’th holl enaid ac â’th holl feddwl.’ Dyma’r gorchymyn cyntaf a’r pwysicaf. Ac y mae’r ail yn debyg iddo: ‘Câr dy gymydog fel ti dy hun.’” (Math. 22:35-39) Er hynny, mae’r Beibl yn dweud yn eglur ein bod ni i gyd yn amherffaith oherwydd pechod Adda. (Darllen Rhufeiniaid 5:12, 19.) Ar adegau, felly, gall rhai yn y gynulleidfa frifo ein teimladau drwy’r hyn maen nhw’n ei ddweud neu’n ei wneud. Gall hyn roi prawf ar ein cariad tuag at Jehofa a’i bobl. Beth wnawn ni bryd hynny? Yn y gorffennol, mae hyd yn oed gweision ffyddlon Duw wedi brifo eraill, a gallwn ddysgu o’r hanesion hyn yn y Beibl.

Pe byddet ti wedi byw yn Israel adeg Eli a’i feibion, sut byddet ti wedi ymateb? (Gweler paragraff 6)

6. Sut methodd Eli ddisgyblu ei feibion?

6 Er enghraifft, roedd gan yr Archoffeiriad Eli ddau fab a oedd yn anufudd i ddeddfau Jehofa. Fe ddarllenwn: “Yr oedd meibion Eli yn wŷr ofer, heb gydnabod yr ARGLWYDD.” (1 Sam. 2:12) Er bod eu tad wedi chwarae rhan bwysig yn hyrwyddo gwir addoliad, gwnaeth ei ddau fab bechu’n ddifrifol. Gwyddai Eli yn iawn am hyn, ond nid oedd wedi eu disgyblu nhw ddigon. O’r herwydd, cafodd Eli a’i deulu eu barnu’n llym gan Dduw. (1 Sam. 3:10-14) Mewn amser, ni fyddai ei ddisgynyddion yn cael gwasanaethu’n archoffeiriaid. Petaet tithau wedi byw yn nyddiau Eli, sut byddet ti wedi ymateb i Eli yn caniatáu i’w feibion bechu yn y fath fodd? Fyddet ti wedi gadael i’r sefyllfa dy faglu di nes y byddet ti’n stopio gwasanaethu Duw?

7. Sut gwnaeth Dafydd bechu’n ddifrifol, a beth wnaeth Duw ynghylch y mater?

7 Roedd gan Dafydd rinweddau hyfryd a dyna pam roedd Duw yn ei garu cymaint. (1 Sam. 13:13, 14; Act. 13:22) Ond, yn nes ymlaen, godinebodd Dafydd gyda  Bathseba, a daeth hithau’n feichiog. Digwyddodd hynny tra oedd ei gŵr, Ureia, i ffwrdd yn gwasanaethu yn y fyddin. Ar ôl iddo ddod adref dros dro, ceisiodd Dafydd ei berswadio i gysgu gyda Bathseba er mwyn i bobl feddwl mai Ureia oedd tad y plentyn. Ond ni wnaeth Ureia wrando ar y brenin, felly, cynllwyniodd Dafydd iddo gael ei ladd mewn brwydr. Dioddefodd Dafydd a’i deulu yn enbyd oherwydd iddo bechu mewn ffordd mor ddifrifol. (2 Sam. 12:9-12) Ond eto, trugarhaodd Duw wrtho oherwydd bod Dafydd, ar y cyfan, wedi rhodio gyda Jehofa “yn gywir ac uniawn.” (1 Bren. 9:4) Pe byddet ti wedi byw yn Israel bryd hynny, sut byddet ti wedi ymateb? A fyddai ymddygiad drwg Dafydd wedi dy faglu di?

8. (a) Sut gwnaeth yr apostol Pedr fethu cadw at ei air? (b) Yn dilyn camgymeriad Pedr, pam gwnaeth Jehofa barhau i’w ddefnyddio?

8 Esiampl arall werth ei hystyried yw’r apostol Pedr. Cafodd ei ddewis gan Iesu i fod yn un o’r apostolion; ond eto, roedd Pedr, ar adegau, yn dweud neu’n gwneud pethau roedd yn eu difaru. Er enghraifft, ar adeg hollbwysig, cefnodd yr apostolion ar Iesu. Yn gynharach, roedd Pedr wedi datgan na fyddai byth yn gwneud peth o’r fath hyd yn oed pe byddai’r lleill yn gwneud hynny. (Marc 14:27-31, 50) Er hynny, pan arestiwyd Iesu, gwnaeth pob un o’i apostolion, gan gynnwys Pedr, gefnu arno. Sawl gwaith drosodd, gwnaeth Pedr wrthod ei fod hyd yn oed yn adnabod Iesu. (Marc 14:53, 54, 66-72) Fodd bynnag, edifarhaodd Pedr, a gwnaeth Jehofa barhau i’w ddefnyddio. Pe byddet ti wedi bod yn ddisgybl bryd hynny, a fyddai gweithredoedd Pedr wedi effeithio ar dy ffyddlondeb i Jehofa?

9. Pam dy fod ti’n hyderus fod Duw bob amser yn barnu’n gyfiawn?

9 Dim ond ychydig o esiamplau yw’r rhain o unigolion a frifodd deimladau eraill. A gellir cyfeirio at lawer mwy o achosion, naill ai yn y gorffennol neu yn y presennol, pan wnaeth gweision Jehofa bechu’n ddifrifol a brifo eraill.  Pan fydd hyn yn digwydd heddiw, sut byddi di’n ymateb? Fyddi di’n caniatáu i gamgymeriadau eraill dy faglu di, nes iti gefnu ar Jehofa a’i bobl, gan gynnwys y rheini sydd yn dy gynulleidfa leol? Neu a fyddi di’n cydnabod bod Jehofa yn gallu gadael i amser fynd heibio er mwyn i ddrwgweithredwyr edifarhau, ac y bydd, yn y pen draw, yn unioni’r cam mewn ffordd gyfiawn? Ar y llaw arall, mae rhai sydd wedi pechu’n ddifrifol weithiau’n gwrthod trugaredd Jehofa ac yn gwrthod edifarhau. Ar adegau o’r fath, a fyddi di’n ymddiried yn Jehofa i farnu’r drwgweithredwyr hyn ymhen amser, efallai drwy eu diarddel nhw oddi wrth y gynulleidfa?

AROS YN FFYDDLON

10. Yn achos beiau Jwdas a Pedr, beth roedd Iesu yn ei gydnabod?

10 Mae’r Beibl yn adrodd hanesion gweision Duw sydd wedi aros yn ffyddlon i Jehofa a’i bobl er gwaethaf beiau difrifol unigolion eraill. Er enghraifft, ar ôl treulio noson gyfan yn gweddïo ar ei Dad, dewisodd Iesu’r deuddeg apostol. Un ohonyn nhw oedd Jwdas Iscariot. Pan gafodd Iesu ei fradychu ganddo yn ddiweddarach, ni wnaeth Crist ganiatáu i frad Jwdas nac anffyddlondeb Pedr ddifetha ei berthynas ei hun â’i dad nefol Jehofa. (Luc 6:12-16; 22:2-6, 31, 32) Gwyddai Iesu nad oedd Jehofa, na’i holl bobl, ar fai am weithredoedd Jwdas a Pedr. Daliodd Iesu ati i wasanaethu Duw yn ffyddlon er iddo gael ei siomi gan rai o’i ddilynwyr. Gwnaeth Jehofa ei wobrwyo drwy ei atgyfodi a thrwy baratoi’r ffordd i Iesu ddod yn Frenin y Deyrnas nefol.—Math. 28:7, 18-20.

11. Beth a gafodd ei ragfynegi yn y Beibl am weision Jehofa sy’n byw heddiw?

11 Roedd sail gadarn i hyder Iesu yn Jehofa a’i bobl, ac mae hynny’n wir o hyd. Yn ddiamau, mae’r pethau y mae Jehofa yn eu cyflawni drwy gyfrwng ei weision yn ystod y dyddiau diwethaf yn rhyfeddol. Nid oes yr un grŵp arall yn pregethu’r gwirionedd yn fyd-eang heddiw, oherwydd nid yw Jehofa yn eu harwain fel y mae’n ei wneud yn achos ei gynulleidfa. Oherwydd eu cyflwr ysbrydol, dywed Eseia 65:14 y bydd gweision Duw “yn canu o lawenydd.”

12. Sut dylen ni ymateb i feiau pobl eraill?

12 Mae gweision Jehofa yn llawenhau yn y pethau da maen nhw’n medru eu gwneud oherwydd ei arweiniad. Mae hyn yn wahanol i’r byd sydd o dan ddylanwad Satan ac sy’n galaru, fel petai, wrth i bethau fynd o ddrwg i waeth. Annoeth ac annheg fyddai rhoi’r bai ar Jehofa a’i gynulleidfa am feiau nifer cymharol fychan o weision Duw. Mae’n bwysig inni aros yn ffyddlon i Jehofa a’i gyfundrefn a dysgu sut i ymateb i feiau pobl eraill.

SUT DYLET TI YMATEB?

13, 14. (a) Pam dylen ni fod yn amyneddgar gyda’n gilydd? (b) Pa addewid y dylen ni gofio amdano?

13 Ar yr adegau hynny pan fo rhywun yn brifo ein teimladau, sut dylen ni ymateb? Egwyddor werth ei chofio o’r Beibl yw: “Paid â rhuthro i ddangos dig, oherwydd ym mynwes ffyliaid y mae dig yn aros.” (Preg. 7:9) Pwysig yw cofio bod rhyw 6,000 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers i ddyn gael ei greu yn berffaith yn Eden. Mae pobl amherffaith yn dueddol o wneud camgymeriadau. Felly, afresymol fyddai disgwyl gormod gan ein cyd-addolwyr a gadael i’w beiau ddifetha’r llawenydd sy’n dod o fod yn rhan o bobl Dduw yn y dyddiau diwethaf. Camgymeriad gwaeth fyddai caniatáu i feiau pobl eraill ein baglu ni ac achosi inni  adael cyfundrefn Jehofa. Petai hynny’n digwydd, bydden ni’n colli nid yn unig y fraint o wneud ewyllys Duw ond hefyd y gobaith o fywyd ym myd newydd Duw.

14 Er mwyn cadw ein llawenydd a’n gobaith yn fyw, mae’n bwysig inni gadw mewn cof yr addewid hwn gan Jehofa: “Yr wyf fi’n creu nefoedd newydd a daear newydd; ni chofir y pethau gynt na meddwl amdanynt.” (Esei. 65:17; 2 Pedr 3:13) Paid â gadael i feiau pobl eraill dy rwystro di rhag cael bendithion o’r fath.

15. Yn ôl Iesu, beth dylen ni ei wneud pan fo eraill yn gwneud camgymeriadau?

15 Fodd bynnag, gan nad ydyn ni eto yn y byd newydd, dylen ni ystyried safbwynt Jehofa ynglŷn â sut i ymateb pan fo rhywun yn brifo ein teimladau. Er enghraifft, un egwyddor werth ei hystyried yw’r hyn a ddywedodd Iesu: “Os maddeuwch i eraill eu camweddau, bydd eich Tad nefol hefyd yn maddau i chwi. Ond os na faddeuwch i eraill eu camweddau, ni fydd eich Tad chwaith yn maddau eich camweddau chwi.” Cofia, pan ofynnodd Pedr a ddylen ni faddau “hyd seithwaith,” atebodd Iesu: “Nid hyd seithwaith a ddywedaf wrthyt, ond hyd saith deg seithwaith.” Yn amlwg felly, roedd Iesu yn dweud y dylen ni bob amser fod yn barod i faddau, a dyna ddylai fod yn naturiol inni.—Math. 6:14, 15; 18:21, 22.

16. Pa esiampl dda a osodwyd gan Joseff?

16 Ynglŷn â sut i ymateb i feiau pobl eraill, gosodwyd esiampl dda gan Joseff, yr hynaf o’r ddau fab a gafodd Jacob a Rachel. Roedd deg hanner brawd Joseff yn genfigennus ohono oherwydd ef oedd ffefryn ei dad. Yna, fe werthon nhw Joseff i gaethiwed. O ganlyniad i’r gwaith da a wnaeth Joseff yn yr Aifft ar hyd y blynyddoedd, daeth yn ail i reolwr y wlad honno. Pan drawyd yr ardal gan newyn, daeth brodyr Joseff i’r Aifft i brynu bwyd ond nid oedden nhw’n adnabod eu brawd. Byddai Joseff fod wedi gallu defnyddio ei awdurdod i ddial ar ei frodyr am y ffordd greulon roedden nhw wedi ei drin. Yn hytrach, rhoddodd ei frodyr ar brawf i weld a oedden nhw wedi newid eu hagwedd. Pan welodd fod ei frodyr yn wir wedi newid, dywedodd wrthyn nhw mai ef oedd eu brawd gan ddweud yn nes ymlaen: “Peidiwch ag ofni; fe’ch cynhaliaf chwi a’ch rhai bach.” Mae’r hanes yn mynd ymlaen i ddweud: “A chysurodd hwy, a siarad yn dyner wrthynt.”—Gen. 50:21.

17. Beth rwyt ti eisiau ei wneud pan fo eraill yn gwneud camgymeriadau?

17 Nid oes neb heb ei fai, felly doeth yw cofio y gallwn ninnau hefyd bechu eraill. Os ydyn ni’n teimlo ein bod ni wedi gwneud hynny, mae’r Beibl yn dweud y dylen ni fynd at yr unigolyn rydyn ni wedi ei bechu a cheisio cymodi ag ef. (Darllen Mathew 5:23, 24.) Rydyn ni’n falch pan nad yw eraill yn dal dig oherwydd ein beiau ac fe ddylen ninnau hefyd weithredu yn yr un modd tuag atyn nhw. Mae Colosiaid 3:13 yn ein hargymell: “Maddeuwch i’ch gilydd os bydd gan rywun gŵyn yn erbyn rhywun arall; fel y maddeuodd yr Arglwydd i chwi, felly gwnewch chwithau.” Nid yw cariad Cristnogol yn “cadw cyfrif o gam,” meddai 1 Corinthiaid 13:5. Os ydyn ni wedi mynd i’r arfer o faddau i eraill, bydd Jehofa yn maddau i ni. Yn wir, er mwyn ymateb i feiau pobl eraill mewn ffordd Gristnogol, dylen ni efelychu ein Tad trugarog a chofio sut mae yntau’n ymateb i ni pan ydyn ninnau’n gwneud camgymeriadau.—Darllen Salm 103:12-14.