Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r isddewislen

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Cymraeg

Y Tŵr Gwylio—Rhifyn Astudio  |  Mawrth 2017

Wyt Ti’n Rhoi Dy Sylw i’r Ysgrythurau?

Wyt Ti’n Rhoi Dy Sylw i’r Ysgrythurau?

“Digwyddodd y cwbl, un ar ôl y llall, fel esiamplau i ni. Cawson nhw eu hysgrifennu i lawr i’n rhybuddio ni sy’n byw ar ddiwedd yr oesoedd.”—1 COR. 10:11.

CANEUON: 11, 61

1, 2. Pam byddwn ni’n ystyried esiampl pedwar brenin o Jwda?

PETASET TI’N gweld rhywun yn baglu ac yn syrthio ar lwybr, oni fyddet ti’n ofalus wrth gerdded ar hyd yr un llwybr? Mae ystyried camgymeriadau pobl eraill yn ein helpu i osgoi gwneud yr un camgymeriadau. Mae hyn yr un mor wir am ein llwybr ysbrydol. Gallwn ni ddysgu gwersi pwysig o gamgymeriadau pobl eraill, gan gynnwys rhai a gofnodwyd yn y Beibl.

2 Gwnaeth y pedwar brenin o Jwdea, a gafodd eu trafod yn yr erthygl flaenorol, wasanaethu Jehofa â chalon berffaith. Ond eto, gwnaethon nhw gamgymeriadau difrifol. Beth gallwn ni ei ddysgu o’u profiadau, a sut gallwn ni osgoi dilyn yr un llwybr? Gall myfyrio ar yr esiamplau hyn ein helpu i elwa ar yr hyn a gofnodwyd gynt er ein lles.—Darllen Rhufeiniaid 15:4.

GALL DOETHINEB DYNOL ARWAIN AT DRYCHINEB

3-5. (a) Er bod calon Asa yn berffaith gywir tuag at Jehofa, pa broblem a wynebodd? (b) Pam efallai y gwnaeth Asa ddibynnu ar ddynion pan ddaeth Baasha yn erbyn Jwda?

3 Yn gyntaf, gad inni droi’n sylw i Asa a gweld sut gall Gair Duw ddylanwadu ar ein bywydau. Dibynnodd Asa ar Jehofa pan ddaeth miliwn o Ethiopiaid yn erbyn Jwda; ond methodd wneud hynny pan ddechreuodd Baasha, brenin Israel, atgyfnerthu  Rama, sef dinas wrth ymyl tiriogaeth Asa. (2 Cron. 16:1-3) Yn yr ail achos, dibynnodd Asa ar ei ddoethineb ei hun a rhoi cil-dwrn i’r Brenin Ben-hadad o Syria er mwyn iddo ymosod ar Baasha. A lwyddodd tacteg Asa? “Pan glywodd Baasha am hyn,” meddai’r Beibl, “dyma fe’n rhoi’r gorau i’r prosiect o adeiladu Rama.” (2 Cron. 16:5) Felly, roedd strategaeth Asa wedi gweithio—ar yr olwg gyntaf!

4 Fodd bynnag, beth roedd Jehofa yn ei feddwl? Anfonodd Duw Hanani i geryddu Asa am beidio â dibynnu ar Jehofa. (Darllen 2 Cronicl 16:7-9.) “Byddi di’n ymladd rhyfeloedd yn ddi-stop o hyn ymlaen,” meddai Hanani. Cafodd Baasha ei drechu; fodd bynnag, roedd rhaid i Asa a’i bobl ymladd rhyfeloedd am weddill ei frenhiniaeth.

5 Fel y sylwon ni yn yr erthygl flaenorol, archwiliodd Jehofa galon Asa a barnu ei bod yn gywir tuag ato. (1 Bren. 15:14) Yng ngolwg Duw, roedd defosiwn Asa, ar y cyfan, yn gadarn. Ond eto, roedd yn rhaid iddo fedi’r corwynt a ddaeth o’i weithredoedd annoeth. Wrth ddelio gyda Baasha, beth achosodd Asa i ddibynnu ar ddynion—sef Ben-hadad ac ef ei hun—yn hytrach nag ar Jehofa? Tybed a oedd yn meddwl y byddai gweithredu’n ddiplomyddol neu’n filitaraidd wedi gweithio’n well na throi at Dduw am help? A oedd, efallai, wedi ildio i resymu o’r fath oherwydd iddo wrando ar gyngor drwg?

6. Beth gallwn ni ei ddysgu o gamgymeriad Asa? Eglura.

6 A fydd hanes Asa yn ein hysgogi ni i feddwl am ein penderfyniadau ni? Pan fyddwn ni’n wynebu problemau difrifol, hawdd fyddai gweld yr angen i ddibynnu ar Jehofa. Ond beth byddwn ni’n ei wneud pan fyddwn ni’n gorfod ymdopi â phethau sy’n llai pwysig mewn bywyd? Ydyn ni’n troi at ddoethineb dynol i geisio datrys problemau ar ein pennau ein hunain? Neu, ydyn ni’n chwilio am egwyddorion yn y Beibl a cheisio eu rhoi nhw ar waith, gan ddangos felly ein bod ni’n dibynnu ar Jehofa i ddatrys problemau? Ar adegau, gall dy deulu dy wrthwynebu oherwydd dy fod ti eisiau mynd i’r cyfarfodydd neu i’r gynhadledd. Rwyt ti’n gofyn i Jehofa dy roi di ar ben ffordd a dy helpu i ffeindio’r ffordd orau o ddatrys y sefyllfa. Neu beth petaset ti’n colli dy swydd, ac yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i un arall? Wrth siarad â’r darpar gyflogwr, fyddet ti’n dal yn dweud wrtho y byddi di’n mynychu cyfarfodydd canol wythnos yn rheolaidd? Beth bynnag yw’r broblem, peth da fyddai inni dalu sylw i’r salmydd pan ddywedodd: “Rho dy hun yn nwylo’r ARGLWYDD a’i drystio fe; bydd e’n gweithredu ar dy ran di.”—Salm 37:5.

BETH YW EFFAITH CYMDEITHASU DRWG?

7, 8. Pa gamgymeriadau a wnaeth Jehosaffat, a beth oedd y canlyniadau? (Gweler y llun agoriadol.)

7 Beth am Jehosaffat, mab Asa? Roedd ganddo lawer o rinweddau da. Drwy ddibynnu ar Dduw, fe wnaeth Jehosaffat ddaioni mawr. Ond hefyd, fe wnaeth benderfyniadau annoeth. Er enghraifft, gwnaeth gytundeb gwleidyddol â’r brenin drwg Ahab o deyrnas y gogledd. Ac er gwaethaf cael ei rybuddio gan y proffwyd Michea, aeth Jehosaffat i ymladd ochr yn ochr ag Ahab yn erbyn y Syriaid. Yn y frwydr, bu bron i Jehosaffat gael ei ladd. Yna, dychwelodd i Jerwsalem. (2 Cron. 18:1-32) Y foment honno, gofynnodd y proffwyd Jehu iddo: “Ydy’n iawn dy fod ti’n helpu’r dyn drwg yna, Ahab, a gwneud ffrindiau hefo pobl sy’n casáu yr ARGLWYDD?”—Darllen 2 Cronicl 19:1-3.

 8 Wnaeth Jehosaffat ddysgu o’r profiad hwnnw? Er ei fod wedi parhau i geisio plesio Duw, mae hi’n ymddangos nad oedd wedi dysgu o’i brofiad gydag Ahab nac o rybuddion Jehu. Aeth ati i ffurfio cytundeb annoeth arall, y tro hwn gyda mab Ahab, y brenin drwg Ahaseia. Gwnaeth Jehosaffat ac Ahaseia adeiladu llongau ar y cyd ond cafodd y llongau hynny eu dryllio heb gyflawni eu pwrpas gwreiddiol.—2 Cron. 20:35-37.

9. Sut gall cymdeithasu drwg effeithio ar ein holl fywyd?

9 Dylai darllen am hanes Jehosaffat ein hannog ni i feddwl am ein bywydau ein hunain. Sut felly? Wel, ar y cyfan, roedd Jehosaffat yn frenin da. Roedd “wedi dilyn yr ARGLWYDD â’i holl galon.” (2 Cron. 22:9) Ond, nid oedd uwchlaw dylanwad negyddol cymdeithasu drwg. Cofia’r ddihareb hon: “Mae cwmni pobl ddoeth yn eich gwneud chi’n ddoeth, ond mae cadw cwmni ffyliaid yn gofyn am drwbwl.” (Diar. 13:20) Ar y naill law, efallai rydyn ni’n trio helpu rhai sydd â diddordeb i ddod i mewn i’r gwir. Ond, bu bron iawn i Jehosaffat golli ei fywyd oherwydd iddo ddelio gydag Ahab heb fod rhaid. Yn yr un modd, bydd cymdeithasu’n ddiangen â rhai sydd ddim yn gwasanaethu Jehofa yn ein peryglu ni.

10. (a) Pa wers ynglŷn â phriodi y gallwn ni ei dysgu o hanes Jehosaffat? (b) Beth dylen ni ei gofio am gymdeithasu drwg?

10 Pa wers ymarferol y gallwn ni ei dysgu o brofiad Jehosaffat? Efallai y byddai Cristion yn dechrau meithrin teimladau rhamantus tuag at rywun sydd ddim yn caru Jehofa, gan feddwl nad yw’n bosibl dod o hyd i gymar addas ymhlith gwir Gristnogion. Neu gall aelodau o’r teulu sydd ddim yn y gwirionedd roi Cristion o dan bwysau i briodi ‘cyn iddi fynd yn rhy hwyr.’ Ar ben hynny, gall rhai gydymdeimlo ag un chwaer, pan ddywedodd: “Mae dyheu am gariad a chyfeillgarwch yn rhan o’n natur ni.” Beth dylai’r Cristion ei wneud? Gall myfyrio ar beth ddigwyddodd i Jehosaffat ein helpu. Fel arfer, roedd yn troi at Dduw am arweiniad. (2 Cron. 18:4-6) Ond beth ddigwyddodd pan oedd Jehosaffat yn cymdeithasu ag Ahab, dyn nad oedd yn caru Jehofa? Dylai Jehosaffat  fod wedi cofio bod llygaid Jehofa yn edrych am rai â chalon sy’n berffaith gywir tuag ato. Heddiw, “mae’r ARGLWYDD yn gwylio popeth sy’n digwydd ar y ddaear, ac yn barod i helpu’r rhai sy’n ei drystio fe’n llwyr.” (2 Cron. 16:9) Mae’n deall ein sefyllfa ac yn ein caru ni. Wyt ti’n rhoi dy ffydd yn Nuw i gwrdd â dy anghenion o ran cariad a chyfeillgarwch? Yn siŵr iti, bydd Jehofa, ryw ddydd, yn gwneud hynny!

Bydda’n ymwybodol o’r peryglon sy’n dod o briodi rhywun sydd ddim yn addoli Jehofa (See paragraph 10)

PAID Â THROI’N FALCH

11, 12. (a) Sut gwnaeth Heseceia ddatgelu beth oedd yn ei galon? (b) Pam cafodd Heseceia ei arbed rhag dicter Duw?

11 Mae’r wers y gallwn ei dysgu o hanes Heseceia yn ymwneud â’r galon. Ar un achlysur, gwnaeth Jehofa ddatgelu’r hyn oedd yn llechu yng nghalon Heseceia. (Darllen 2 Cronicl 32:31.) Pan ddaeth Heseceia’n sâl iawn, rhoddodd Duw arwydd i ddangos iddo y byddai’n gwella—cysgod yn symud yn ei ôl. Yn ôl pob golwg, anfonodd tywysogion Babilon negeswyr i holi am yr arwydd. (2 Bren. 20:8-13; 2 Cron. 32:24) Roedd Duw wedi “gadael llonydd iddo, i’w brofi a gweld beth oedd ei gymhellion,” a phryd hynny “dangosodd ei drysordy” i’r Babiloniaid. Gwnaeth y ffolineb hwnnw ddatgelu cymhellion ei galon.

12 Dydy’r Beibl ddim yn dweud beth yn union a achosodd i galon Heseceia droi’n falch. Ai oherwydd ei fuddugoliaeth yn erbyn yr Asyriaid neu oherwydd iddo gael ei iacháu’n wyrthiol gan Dduw? Ai oherwydd ei fod yn “gyfoethog iawn”? P’run bynnag, o achos iddo droi’n falch, “doedd Heseceia ddim wedi gwerthfawrogi beth wnaeth yr ARGLWYDD iddo.” Am hanes trist! Roedd yn gallu egluro wrth Dduw ei fod wedi ei wasanaethu â chalon berffaith ond, er hynny, ni wnaeth Heseceia blesio Jehofa am gyfnod. Ond yn ddiweddarach, “roedd Heseceia’n sori,” ac felly cafodd yntau a’i bobl eu harbed rhag dicter Duw.—2 Cron. 32:25-27; Salm 138:6.

13, 14. (a) Ym mha ffordd y gall Jehofa adael llonydd inni er mwyn profi a gweld beth yw ein cymhellion? (b) Sut dylen ni ymateb pan fyddwn ni’n cael ein canmol?

13 Sut gallwn ni elwa ar ddarllen hanes Heseceia a myfyrio arno? Drwy gofio bod Heseceia wedi troi’n falch ar ôl i Jehofa drechu Senacherib ac ar ôl iddo iacháu Heseceia. Yn ein hachos ni, os ydyn ni wedi llwyddo i gyflawni rhywbeth gwerthchweil, efallai bydd Jehofa yn caniatáu i ninnau gael ein profi er mwyn i’r hyn sydd yn ein calon ddod i’r wyneb. Er enghraifft, gall brawd fod wedi gweithio’n galed iawn i baratoi ac i roi anerchiad o flaen cynulleidfa fawr. Mae llawer yn rhoi canmoliaeth iddo. Sut bydd yn ymateb i’r ganmoliaeth?

14 Pan fyddwn ni’n cael ein canmol, peth da yw cofio geiriau Iesu: “Ar ôl gwneud popeth dw i’n ei ofyn, dylech chi ddweud, ‘Dŷn ni’n haeddu dim. Gweision ydyn ni, sydd ddim ond yn gwneud beth mae disgwyl i ni ei wneud.’” (Luc 17:10) Unwaith eto, gallwn ddysgu o brofiad Heseceia. Daeth balchder i’r golwg a “doedd Heseceia ddim wedi gwerthfawrogi beth wnaeth yr ARGLWYDD iddo.” Bydd myfyrio ar bopeth y mae Jehofa wedi ei wneud inni yn ein helpu ni i osgoi agwedd y mae Jehofa yn ei chasáu. Gallwn siarad yn werthfawrogol am Jehofa. Mae wedi rhoi’r Beibl a’r ysbryd glân inni er mwyn cynnal ei bobl.

BYDDA’N OFALUS WRTH BENDERFYNU

15, 16. Pam collodd Joseia ofal Duw a’i fywyd?

15 Yn olaf, pa rybudd sydd inni yn yr  hyn a ddigwyddodd i’r brenin da Joseia? Ystyria beth achosodd iddo gael ei drechu a’i ladd. (Darllen 2 Cronicl 35:20-22.) Yn ôl yr hanes, “aeth Joseia a’i fyddin allan i ymladd” yn erbyn y Brenin Necho o’r Aifft, er bod y brenin hwnnw wedi dweud wrth Joseia nad oedd ganddo ddim yn ei erbyn. Dywed y Beibl mai Duw oedd wedi achosi i Necho ddweud y geiriau hynny. Pam, felly, roedd Joseia mor benderfynol o ymladd? Dydy’r Beibl ddim yn dweud.

16 Fodd bynnag, sut byddai Joseia yn gwybod bod geiriau Necho yn dod oddi wrth Jehofa? Wel, byddai wedi gallu gofyn i Jeremeia, un o’r proffwydi ffyddlon. (2 Cron. 35:23, 25) Ond does dim sôn amdano’n gwneud peth o’r fath. Hefyd, roedd Necho yn mynd i Carchemis er mwyn rhyfela yn erbyn, nid Jerwsalem, ond teyrnas arall. Ar ben hynny, doedd a wnelo hyn ddim ag enw Duw, oherwydd doedd Necho ddim yn sarhau Jehofa nac ei bobl. Felly, penderfyniad annoeth iawn ar ran Joseia oedd mynd i frwydro yn erbyn Necho. Oes yna wers inni? Pan fyddwn ni’n wynebu problem, call iawn fyddai meddwl am sut mae Jehofa yn teimlo am y sefyllfa.

17. Wrth wynebu problemau, sut gallwn ni osgoi gwneud yr un camgymeriad a wnaeth Joseia?

17 Os bydd problem yn codi, dylen ni ystyried egwyddorion y Beibl a’u rhoi ar waith mewn ffordd gytbwys. Mewn rhai achosion, gallwn ni ofyn i’r henuriaid am help. Efallai ein bod ni wedi meddwl am yr hyn rydyn ni eisoes yn ei wybod am y mater, ac efallai ein bod ni eisoes wedi gwneud ymchwil yn ein cyhoeddiadau. Ond efallai fod yna egwyddorion eraill o’r Beibl y gall yr henuriaid ein helpu ni i’w hystyried. Er enghraifft, mae chwaer yn gwybod bod ganddi’r cyfrifoldeb o bregethu’r newyddion da. (Act. 4:20) Fodd bynnag, dweud ei bod hi wedi penderfynu mynd allan yn y weinidogaeth un diwrnod, ond bod ei gŵr sydd ddim yn y gwirionedd eisiau iddi aros adref. Mae’r gŵr yn dweud nad ydyn nhw wedi treulio llawer o amser gyda’i gilydd yn ddiweddar, ac roedd eisiau iddyn nhw wneud rhywbeth fel cwpl. Mae’n bosibl iddi ystyried adnodau perthnasol o’r Beibl sy’n sôn am ufuddhau i Dduw ac am fynd allan i wneud disgyblion. (Math. 28:19, 20; Act. 5:29) Ond mae’n rhaid iddi hefyd gofio am ymostwng i’w gŵr ac am fod yn rhesymol. (Eff. 5:22-24; Phil. 4:5) Ydy ei gŵr yn ceisio ei stopio hi rhag mynd allan yn y weinidogaeth ar hyd yr amser, neu a yw’n gofyn iddi wneud rhywbeth arall ar y diwrnod hwnnw’n unig? Mae gofyn inni fod yn gytbwys wrth inni geisio gwneud ewyllys Duw a chadw cydwybod lân.

GWARCHOD EIN CALON A LLAWENHAU

18. Sut gelli di elwa ar hanes y pedwar brenin?

18 Oherwydd ein bod ni’n amherffaith, gallwn ninnau hefyd wneud yr un camgymeriadau a wnaeth y pedwar brenin a drafodwyd uchod. Gallwn ni (1) ddibynnu ar ddoethineb dynol heb yn wybod, (2) troi at gymdeithasu drwg, (3) troi’n falch, neu (4) gwneud penderfyniadau heb ystyried yn gyntaf ewyllys Duw. Rydyn ni’n hapus fod Jehofa yn gweld y daioni ynon ni, fel y gwnaeth yn achos y pedwar brenin hynny! Mae Jehofa yn gweld cymaint rydyn ni’n ei garu ac eisiau ei wasanaethu’n llwyr. Dyna pam mae wedi rhoi’r esiamplau hyn inni, er mwyn inni osgoi pechu’n ddifrifol. Gad inni fyfyrio ar yr hanesion hyn a diolch i Jehofa amdanyn nhw!