Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

Asa, Jehosaffat, Heseceia, a Joseia

Gwasanaetha Jehofa â Chalon Berffaith!

Gwasanaetha Jehofa â Chalon Berffaith!

“O ARGLWYDD, cofia fel yr oeddwn yn rhodio ger dy fron di mewn cywirdeb ac â chalon berffaith.”—2 BREN. 20:3, BCND.

CANEUON: 52, 65

1-3. Beth mae gwasanaethu Duw “â chalon berffaith” yn ei olygu? Eglura.

A NINNAU’N amherffaith, rydyn ni’n tueddu i wneud camgymeriadau. Ond, dydy Jehofa ddim yn delio â’n pechodau fel rydyn ni’n ei haeddu, cyn belled â’n bod ni’n edifarhau ac yn gweddïo arno mewn ffydd a gostyngeiddrwydd ar sail aberth Iesu. (Salm 103:10) Ond, fel dywedodd Dafydd wrth Solomon, er mwyn i’n haddoliad fod yn dderbyniol i Jehofa, mae’n rhaid inni ei “wasanaethu ef â chalon berffaith.” (1 Cron. 28:9, BCND) Fel pobl amherffaith, sut gallwn ni wneud hynny?

2 I’n helpu yn hyn o beth, gallwn gymharu bywyd y Brenin Asa â bywyd y Brenin Amaseia. Roedd y ddau frenin yn gwneud yr hyn a oedd yn iawn yng ngolwg Jehofa, ond roedd Asa’n gwneud hynny â chalon berffaith. (2 Cron. 15:16, 17; 25:1, 2; Diar. 17:3) Roedd y ddau frenin yn gwneud camgymeriadau. Ond, yn y bôn, ni wnaeth Asa droi oddi ar ffordd Duw, oherwydd bod ei galon yn “berffaith,” neu’n berffaith ffyddlon i Dduw. (1 Cron. 28:9, BCND) Ar y llaw  arall, nid oedd Amaseia’n gwbl ymroddedig i Jehofa. Ar ôl iddo drechu gelynion Duw, daeth â’u duwiau nhw yn ôl gydag ef a dechrau eu haddoli.—2 Cron. 25:11-16.

3 Mae addoli Duw “â chalon berffaith” yn golygu ymroddiad llwyr nad yw’n dod i ben. Yn y Beibl, mae’r gair “calon” fel arfer yn cyfeirio at y person mewnol. Hynny yw, ei ddymuniadau, ei feddyliau, ei natur, ei agwedd, ei alluoedd, ei gymhellion, a’i amcanion. Felly, nid yw rhywun sy’n gwasanaethu Jehofa â’i holl galon yn addoli mewn ffordd ragrithiol. Beth amdanon ni? Wel, os ydyn ni, er ein bod ni’n amherffaith, yn aros yn gwbl ymroddedig i Jehofa heb ragrith, rydyn ni’n addoli Duw â chalon berffaith.—2 Cron. 19:9.

4. Beth byddwn ni’n ei ystyried nesaf?

4 Er mwyn deall beth mae’n ei olygu i wasanaethu Duw â chalon berffaith, gad inni ystyried bywyd Asa a rhai o frenhinoedd Jwda a oedd yn gwbl ymroddedig i Dduw—Jehosaffat, Heseceia, a Joseia. Gwnaeth pob un ohonyn nhw gamgymeriadau, ond roedd Jehofa’n dal yn eu bendithio nhw. Pam roedd Duw yn ystyried eu bod nhw wedi ei wasanaethu â chalon berffaith, a sut gallwn ninnau eu hefelychu?

ROEDD CALON ASA YN BERFFAITH FFYDDLON I JEHOFA

5. Pa gamau pendant a gymerodd Asa?

5 Asa oedd y trydydd brenin ar Jwda ar ôl i deyrnas deg llwyth y gogledd ymwahanu. Cafodd wared ar eilunaddoliaeth a phuteinwyr y deml. Fe wnaeth hyd yn oed ddisodli ei nain Maacha “o fod yn fam frenhines am ei bod wedi gwneud polyn Ashera ffiaidd.” (1 Bren. 15:11-13) Hefyd, anogodd Asa ei bobl i “addoli’r ARGLWYDD, . . . a chadw ei ddysgeidiaeth a’i orchmynion.” Yn sicr, roedd yn hyrwyddo gwir addoliad.—2 Cron. 14:4.

6. Sut gwnaeth Asa ymateb pan ddaeth yr Ethiopiaid yn ei erbyn?

6 Rhoddodd Jehofa heddwch i Jwda am y deng mlynedd cyntaf o deyrnasiad Asa. Yna, daeth Serach yr Ethiopiad yn erbyn Jwda gyda 1,000,000 o ddynion a 300 o gerbydau. (2 Cron. 14:1, 6, 9, 10) Sut gwnaeth Asa ymateb i’r argyfwng hwn? Rhoddodd ei holl hyder yn Jehofa. (Darllen 2 Cronicl 14:11.) Yn ateb i weddi Asa, rhoddodd Duw fuddugoliaeth lwyr iddo, gan ddinistrio byddin yr Ethiopiaid. (2 Cron. 14:12, 13) Hyd yn oed pan nad oedd brenhinoedd yn ffyddlon iddo, roedd Jehofa’n gallu rhoi buddugoliaethau iddyn nhw er mwyn ei enw. (1 Bren. 20:13, 26-30) Ond, dibynnodd Asa ar Dduw, ac atebodd Jehofa ei weddi. Yn wir, gwnaeth Asa bethau annoeth yn nes ymlaen. Er enghraifft, aeth at frenin Syria am gymorth yn hytrach nag at Jehofa. (1 Bren. 15:16-22) Ond, ar y cyfan, gwelodd Duw fod “calon Asa yn berffaith gywir i’r ARGLWYDD ar hyd ei oes.” Sut gallwn ni efelychu Asa a gwneud daioni?—1 Bren. 15:14, BCND.

7, 8. Sut gelli di efelychu Asa wrth wasanaethu Jehofa?

7 Gall pob un ohonon ni chwilio ein calon i weld a ydyn ni’n gwbl ymroddedig i Dduw. Gofynna i ti dy hun, ‘Ydw i’n benderfynol o blesio Jehofa, o amddiffyn gwir addoliad, ac o warchod ei bobl rhag dylanwadau llygredig?’ Meddylia am y dewrder yr oedd Asa’n ei angen i wrthwynebu Maacha, a oedd “yn fam frenhines” yn y wlad! Yn eithaf  tebyg, nid wyt ti’n adnabod rhywun sy’n ymddwyn yn union fel yr oedd hithau, ond er hynny, mae’n bosibl iti efelychu sêl Asa. Er enghraifft, beth petai aelod o’r teulu neu ffrind agos yn pechu, yn ddiedifar, ac yn cael ei ddiarddel? A fyddi di’n gweithredu’n syth drwy beidio â chymdeithasu ag ef? Beth bydd dy galon yn dy annog i’w wneud?

8 Fel Asa, gelli dithau ddangos bod gen ti galon berffaith drwy ymddiried yn llwyr yn Nuw pan ddaw gwrthwynebiad sy’n ymddangos fel na elli di ei drechu. Efallai fod cyd-ddisgyblion yn yr ysgol yn gwneud hwyl am dy ben oherwydd dy fod ti’n un o Dystion Jehofa. Neu efallai fod dy gyd-weithwyr yn dy wawdio am ddefnyddio dy wyliau i wneud pethau ysbrydol neu am iti wrthod gweithio’n hwyr. Mewn sefyllfaoedd o’r fath, gweddïa ar Dduw, fel y gwnaeth Asa. Dibynna ar Jehofa, gan aros yn gadarn dros yr hyn rwyt ti’n gwybod sy’n iawn ac yn ddoeth. Cofia fod Duw wedi cryfhau a helpu Asa, ac fe fydd yn dy gryfhau di.

9. Pan ydyn ni’n pregethu, sut gallwn ni ddangos bod gennyn ni galon berffaith?

9 Mae gweision Duw yn mynd ymhellach na meddwl amdanyn nhw eu hunain yn unig. Roedd Asa’n hybu gwir addoliad. Rydyn ninnau hefyd yn helpu eraill i geisio Jehofa. Mor hapus yw Jehofa pan ydyn ni’n siarad amdano â’n cymdogion, gan wneud hynny oherwydd ein bod ni’n ei garu ac yn dymuno helpu pobl!

ROEDD JEHOSAFFAT YN CEISIO JEHOFA

10, 11. Sut gelli di ddilyn esiampl Jehosaffat?

10 Fel Asa, gwnaeth ei fab Jehosaffat beth oedd “yn plesio’r ARGLWYDD.” (2 Cron. 20:31, 32) Sut felly? Fel ei dad, anogodd Jehosaffat y bobl i geisio Jehofa. Gwnaeth hynny gydag ymgyrch ddysgu yn defnyddio “Cyfraith yr ARGLWYDD.” (2 Cron. 17:7-10) Aeth hyd yn oed i diriogaeth teyrnas ogleddol Israel, i fynyddoedd Effraim, “i’w hannog nhw i droi yn ôl at yr ARGLWYDD.” (2 Cron. 19:4) Roedd Jehosaffat yn frenin a “oedd wedi dilyn yr ARGLWYDD â’i holl galon.”—2 Cron. 22:9.

11 Heddiw, gall pob un ohonon ni gymryd rhan yn yr ymgyrch ddysgu mae Jehofa wedi ei threfnu. Wyt ti’n ceisio dysgu eraill am Air Duw bob mis, a’u hysgogi i wasanaethu Duw? Drwy dy ymdrechion di a chyda bendith Duw, efallai y gelli di gychwyn astudiaeth Feiblaidd. Wyt ti’n gweddïo am y nod hwnnw? Wyt ti’n barod i dderbyn yr her ac aberthu tipyn o dy amser sbâr? Ac, yn debyg i Jehosaffat yn mynd i diriogaeth Effraim er mwyn helpu pobl i ddychwelyd at wir addoliad, gallwn ninnau wneud ymdrech i helpu’r rhai sy’n anweithredol. Ar ben hynny, mae henuriaid y gynulleidfa yn trefnu i ymweld ag unigolion yn nhiriogaeth y gynulleidfa sydd wedi eu diarddel ac sydd efallai wedi cefnu ar arferion pechadurus y gorffennol.

12, 13. (a) Wrth wynebu sefyllfa ddychrynllyd, sut gwnaeth Jehosaffat ymateb? (b) Pam dylen ni efelychu Jehosaffat a chydnabod ein gwendidau?

12 Fel ei dad, Asa, arhosodd Jehosaffat yn hollol ffyddlon i Dduw hyd yn oed o dan fygythiad gan elynion cryf iawn. (Darllen 2 Cronicl 20:2-4.) Roedd Jehosaffat yn ofnus! Ond, “dyma fe’n troi at yr ARGLWYDD.” Gweddïodd ar Jehofa gan gyfaddef nad oedd ei bobl yn “ddigon cryf i wrthsefyll y fyddin enfawr”  ac nid oedden nhw’n gwybod beth i’w wneud. Ymddiriedodd yn llwyr yn Jehofa, gan ddweud: “Dŷn ni’n troi atat ti am help.”—2 Cron. 20:12.

13 Weithiau, fel Jehosaffat, dydyn ni ddim yn gwybod beth i’w wneud, ac efallai’n ofnus. (2 Cor. 4:8, 9) Ond cofia fod Jehosaffat wedi cydnabod mewn gweddi gyhoeddus ei fod ef a’i bobl yn teimlo’n wan. (2 Cron. 20:5) Gall y rhai sy’n gofalu am y teulu yn ysbrydol efelychu Jehosaffat drwy ddibynnu ar Jehofa am arweiniad a nerth wrth wynebu problemau. Paid â theimlo cywilydd wrth adael i’th deulu glywed dy ddeisyfiadau. Byddan nhw’n gweld dy fod ti’n ymddiried yn Jehofa. Gwnaeth Jehofa helpu Jehosaffat, ac fe fydd yn dy helpu di.

PARHAODD HESECEIA I WNEUD BETH OEDD YN IAWN

14, 15. Sut dangosodd Heseceia ei fod yn ymddiried yn llwyr yn Nuw?

14 Er mwyn cael ei adnabod fel brenin a oedd “yn hollol ffyddlon i’r ARGLWYDD,” roedd rhaid i Heseceia drechu dylanwad ei dad eilunaddolgar. Roedd Heseceia wedi “cael gwared â’r allorau lleol, malu’r colofnau cysegredig a thorri polion y dduwies Ashera i lawr. A dyma fe hefyd yn dryllio’r sarff bres oedd Moses wedi gwneud,” a oedd erbyn hynny yn cael ei defnyddio mewn eilunaddoliaeth. Roedd yn gwbl ymroddedig i Jehofa, oherwydd roedd “yn cadw’r gorchmynion roddodd yr ARGLWYDD i Moses.”—2 Bren. 18:1-6.

15 Hyd yn oed pan ddaeth Asyria, y grym byd mwyaf ar y pryd, i drechu Jwda gyda’r bwriad o ddinistrio Jerwsalem, dibynnodd Heseceia ar Jehofa. Roedd Brenin Asyria, Senacherib, yn gwawdio Jehofa ac yn ceisio dychryn Heseceia nes iddo ildio. Ond, wrth weddïo ar Jehofa, dangosodd Heseceia ei fod yn ymddiried yn llwyr ynddo. (Darllen Eseia 37:15-20.) Atebodd Duw ei weddi drwy anfon angel i ladd 185,000 o Asyriaid.—Esei. 37:36, 37.

16, 17. Sut gelli di efelychu Heseceia wrth iti wasanaethu Duw?

16 Yn nes ymlaen, aeth Heseceia’n sâl ac roedd ar fin marw. Erfyniodd ar Jehofa am iddo gofio ei ffyddlondeb. (Darllen 2 Brenhinoedd 20:1-3.) Rydyn ni’n gwybod o’r Ysgrythurau ein bod ni’n byw mewn amser lle na allwn ni ddisgwyl i Dduw ein hiacháu neu iddo estyn ein bywyd mewn ffordd wyrthiol. Ond eto, gallwn ddweud wrth Jehofa: “Dw i wedi byw yn hollol ffyddlon i ti.” Wyt ti’n credu bod gan Jehofa y gallu a’r awydd i dy gynnal di hyd yn oed pan fyddi di’n sâl?—Salm 41:3.

17 Ar ôl myfyrio ar esiampl Heseceia, efallai y gwelwn fod angen cael gwared ar rywbeth sy’n amharu ar ein perthynas â Duw, neu sy’n tynnu ein sylw oddi wrth wir addoliad. Dydyn ni ddim eisiau dilyn esiampl y rhai yn y byd sydd, drwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, yn trin pobl fel eilunod. Wrth gwrs, mae rhai Cristnogion yn mwynhau defnyddio’r pethau hyn i gysylltu â’r teulu neu ffrindiau agos. Ond mae llawer o bobl yn y byd yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ormodedd, yn dilyn dynion a merched nad ydyn nhw’n eu hadnabod. Neu maen nhw’n treulio amser maith yn edrych ar luniau o’r bobl hyn neu’n darllen amdanyn nhw. Y perygl yw inni gael ein boddi gan bethau dibwys. Gall Cristion hyd yn oed droi’n falch oherwydd  y nifer o bobl sy’n hoffi ei bostiadau, a gallai hefyd ddigio petai eraill yn rhoi’r gorau i’w ddilyn. Elli di ddychmygu’r apostol Paul neu Acwila a Priscila yn treulio eu hamser bob dydd yn postio lluniau neu’n dilyn rhywun y tu allan i’r frawdoliaeth? Darllenwn fod Paul wedi “mynd ati i bregethu’n llawn amser.” A threuliodd Acwila a Priscila eu hamser yn “esbonio ffordd Duw” i eraill. (Act. 18:4, 5, 26) Gallwn ofyn i ni’n hunain, ‘Ydw i’n osgoi gwneud eilunod o bobl neu’n osgoi gwastraffu llawer o amser gwerthfawr ar bethau dibwys?’—Darllen Effesiaid 5:15, 16.

CADWODD JOSEIA ORCHMYNION JEHOFA

18, 19. Ym mha ffyrdd hoffet ti fod fel Joseia?

18 Roedd Heseceia’n hen daid i’r Brenin Joseia, dyn arall a gadwodd at orchmynion Jehofa “â’i holl galon.” (2 Cron. 34:31, BCND) Ac yntau’n dal yn ei arddegau, “dechreuodd addoli Duw,” ac erbyn iddo gyrraedd 20 oed, roedd wedi dechrau puro Jwda o eilunaddoliaeth. (Darllen 2 Cronicl 34:1-3.) Roedd Joseia’n selog dros wneud yr hyn a oedd yn plesio Duw, yn fwy selog na llawer o frenhinoedd eraill Jwda. Ond, pan ddarganfyddwyd Cyfraith Moses a’i darllen i Joseia, fe welodd fod angen cadw’n agosach at ewyllys Duw eto fyth. Anogodd eraill i wasanaethu Jehofa. O ganlyniad, wnaeth y bobl “ddim stopio addoli’r ARGLWYDD” drwy gydol oes Joseia.—2 Cron. 34:27, 33.

19 Fel Joseia, dylai rhai ifanc ddechrau ceisio Jehofa o’u plentyndod. Efallai mai’r Brenin edifar Manasse a ddysgodd Joseia am drugaredd Duw. Os wyt ti’n ifanc, peth da fyddai iti agosáu at y rhai hŷn ffyddlon yn dy deulu ac yn y gynulleidfa a dysgu am sut mae Jehofa wedi eu helpu nhw. Hefyd, cofia mai darllen yr Ysgrythurau a wnaeth gyffwrdd â chalon Joseia a’i ysgogi i weithredu. Drwy ddarllen Gair Duw, efallai cei di dy ysgogi i weithredu mewn ffordd a fydd yn dod â llawenydd iti, yn cryfhau dy berthynas â Duw, ac yn dy symud i helpu eraill i geisio Duw. (Darllen 2 Cronicl 34:18, 19.) Hefyd, efallai bydd astudio’r Beibl yn dy helpu i weld ffyrdd o wella yn dy wasanaeth i Jehofa. Os ydy hynny’n digwydd, gwna dy orau, fel Joseia.

GWASANAETHA JEHOFA Â CHALON BERFFAITH!

20, 21. (a) Beth sy’n gyffredin i’r pedwar brenin y gwnaethon ni eu hystyried? (b) Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?

20 Wyt ti’n gweld y buddion o edrych ar y pedwar brenin o Jwda a oedd yn gwasanaethu Jehofa â chalon berffaith? Roedden nhw’n selog dros wneud ewyllys Duw ac wedi llwyr ymroi i’w gyflawni. Roedden nhw’n dal ati i wneud ewyllys Duw. Gwnaethon nhw hynny hyd yn oed wrth wynebu gelynion cryf. Yn bwysicaf, roedden nhw’n gwasanaethu Jehofa am resymau pur.

21 Fel y byddwn ni’n ei weld yn yr erthygl nesaf, gwnaeth y pedwar brenin hynny gamgymeriadau. Ond, pan wnaeth Jehofa chwilio eu calonnau, gwelodd fod gan bob un ohonyn nhw galon berffaith. Rydyn ninnau hefyd yn gwneud camgymeriadau. Wrth iddo chwilio ein calonnau ni, ydy Jehofa yn gweld ein bod ni’n ei wasanaethu â chalon berffaith? Gad inni drafod y cwestiwn hwnnw yn yr erthygl ganlynol.