Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r isddewislen

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Cymraeg

Y Tŵr Gwylio—Rhifyn Astudio  |  Mai 2017

 O’R ARCHIF

“Gyda Mwy o Sêl a Chariad yn Ein Calonnau Nag Erioed”

“Gyda Mwy o Sêl a Chariad yn Ein Calonnau Nag Erioed”

ROEDD y tymheredd eisoes wedi dechrau codi yn y neuadd wrth i 8,000 o bobl ei lenwi ar fore dydd Gwener ym mis Medi 1922. Cyhoeddodd y cadeirydd fod unrhyw un yn rhydd i adael y neuadd yn ystod y sesiwn bwysig hon, ond ni fyddan nhw’n gallu dod yn ôl i mewn.

Canodd y gynulleidfa yn ystod y “Praise Service” agoriadol, ac wedyn dyma Joseph F. Rutherford yn cerdded at y ddarllenfa. Roedd y rhan fwyaf o’r gynulleidfa ar binnau. Camodd sawl un o gwmpas yn y gwres. Anogodd y siaradwr iddyn nhw eistedd a gwrando. Wrth i’r anerchiad gychwyn, a wnaeth unrhyw un sylwi ar y lliain mawr wedi ei glymu’n rhôl daclus uwchben y llwyfan?

Siaradodd y Brawd Rutherford ar y thema “Mae’r deyrnas nefol ar fin rheoli.” Am tuag awr a hanner, roedd ei lais pwerus yn atseinio drwy’r neuadd wrth iddo drafod sut y gwnaeth yr hen broffwydi gyhoeddi’n ddi-ofn fod y Deyrnas yn dod. Yn ystod ei ddiweddglo, gofynnodd, “Ydych chi’n credu bod y Brenin gogoneddus wedi dechrau rheoli?” Gwaeddodd y gynulleidfa ei hateb: “Ydyn!”

“Felly ewch yn ôl i’r maes, chi feibion y Duw goruchaf!” bloeddiodd y Brawd Rutherford. “Gwelwch, mae’r Brenin yn teyrnasu! Chi yw ei hysbysebwyr! Felly, hysbysebwch, hysbysebwch, hysbysebwch.”

Yr union foment honno, agorodd y lliain a datgelu’r geiriau: “Hysbysebwch y Brenin a’i Deyrnas.”

“Roedd y gynulleidfa wedi gwirioni,” meddai Ray Bopp. Dywedodd Anna Gardner fod “y trawstiau’n crynu oherwydd y cymeradwyo.” “Safodd y gynulleidfa gyfan ar ei thraed yn un,” meddai Fred Twarosh. Dywedodd Evangelos Scouffas, “Roedd fel petai rhyw rym wedi ein tynnu oddi ar ein cadeiriau, safon ni yno â dagrau’n llenwi ein llygaid.”

Roedd llawer o’r bobl yn y gynhadledd honno eisoes wedi bod yn rhannu’r newyddion da am y Deyrnas. Ond, nawr roedden nhw wedi eu hysbrydoli unwaith eto. Yn ôl Ethel Bennecoff, aeth Myfyrwyr y Beibl allan “gyda mwy o sêl a chariad yn [eu] calonnau nag erioed.” Gadawodd Odessa Tuck, a oedd yn 18 oed ar y pryd, yn benderfynol o ateb yr alwad “Pwy dw i’n mynd i’w anfon?” Dywedodd hi: “Doeddwn i ddim yn gwybod lle na sut na beth. Yr unig beth roeddwn i yn gwybod oedd fy mod i eisiau bod fel Eseia, a ddywedodd: ‘Dyma fi; anfon fi.’” (Esei. 6:8) “Y diwrnod arbennig hwnnw,” meddai Ralph Leffler, “oedd cychwyn yr ymgyrch hysbysebu am y Deyrnas sydd heddiw wedi llenwi’r ddaear.”

Doedd dim syndod felly fod y gynhadledd  honno yn 1922, yn Cedar Point, Ohio, yn cael ei chofio’n garreg filltir theocrataidd! Dywedodd George Gangas, “Ar ôl y gynhadledd honno, doeddwn ni byth eisiau methu un.” A ni wnaeth fethu un, cyn belled ag yr oedd yn gallu cofio. Ysgrifennodd Julia Wilcox: “Alla’ i ddim hyd yn oed esbonio’r wefr rydw i’n ei theimlo bob tro y mae sôn am Cedar Point 1922 yn ein llenyddiaeth. Rydw i’n wastad eisiau dweud, ‘Diolch Jehofa am ganiatáu imi fod yno.’”

Mae’n debyg fod gan lawer ohonon ni heddiw atgofion gwerthfawr tebyg o gynhadledd a wnaeth gyffwrdd â’n calon a’n llenwi â sêl a chariad tuag at ein Duw a’i Frenin. Wrth inni feddwl am atgofion o’r fath, rydyn ni hefyd eisiau dweud, “Diolch Jehofa am ganiatáu imi fod yno.”