Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

 ERTHYGL ASTUDIO 5

Rhinweddau Sy’n Ein Hysgogi i Fynychu’r Cyfarfodydd

Rhinweddau Sy’n Ein Hysgogi i Fynychu’r Cyfarfodydd

“Byddwch yn cyhoeddi ystyr marwolaeth yr Arglwydd nes iddo ddod yn ôl eto.”—1 COR. 11:26.

CÂN 18 Gwerthfawrogi’r Pridwerth

CIPOLWG *

1-2. (a) Beth mae Jehofa’n ei weld wrth i filiynau o bobl ddod at ei gilydd ar gyfer Swper yr Arglwydd? (Gweler y llun ar y clawr.) (b) Beth fyddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

DYCHMYGA beth mae Jehofa’n ei weld wrth i filiynau o bobl o gwmpas y byd ddod at ei gilydd ar gyfer Swper yr Arglwydd. Mae’n gweld mwy na nifer fawr o bobl yn unig; mae’n sylwi ar bob unigolyn sy’n bresennol. Er enghraifft, mae’n gweld y rhai ffyddlon sy’n dod bob blwyddyn. Efallai fod rhai ohonyn nhw’n mynd er gwaethaf erledigaeth ffyrnig. Dydy rhai ddim yn dod yn rheolaidd i’r cyfarfodydd eraill, ond maen nhw’n ystyried mynychu’r Goffadwriaeth yn ddyletswydd bwysig. Mae Jehofa hefyd yn sylwi ar y rhai sy’n mynychu’r Goffadwriaeth am y tro cyntaf, efallai oherwydd chwilfrydedd.

2 Yn sicr, mae Jehofa wrth ei fodd yn gweld cymaint o bobl yn mynychu’r Goffadwriaeth. (Luc 22:19) Ond, nid y nifer o bobl sy’n dod yw’r peth pwysicaf i Jehofa. Mae ganddo fwy o ddiddordeb yn y rheswm maen nhw’n dod; mae’r hyn sy’n cymell rhywun yn bwysig i Jehofa. Yn yr erthygl hon, byddwn yn trafod cwestiwn hollbwysig: Pam rydyn ni’n mynychu nid yn unig y Goffadwriaeth flynyddol ond hefyd y cyfarfodydd wythnosol mae Jehofa yn eu darparu ar gyfer y rhai sy’n ei garu?

Mae miliynau o bobl o gwmpas y byd yn cael eu croesawu i Swper yr Arglwydd (Gweler paragraff 1-2)

GOSTYNGEIDDRWYDD YN EIN CYMELL

3-4. (a) Pam rydyn ni’n mynychu’r cyfarfodydd? (b) Beth mae mynychu’r cyfarfodydd yn ei ddweud amdanon ni? (c) Yn ôl beth mae 1 Corinthiaid 11:23-26 yn ei ddatgan, pam na ddylen ni fethu’r Goffadwriaeth?

3 Rydyn ni’n mynychu cyfarfodydd y gynulleidfa yn bennaf oherwydd eu bod nhw’n rhan o’n haddoli. Rydyn ni hefyd yn mynd oherwydd bod Jehofa yn ein dysgu ni yn y cyfarfodydd. Dydy pobl falch ddim yn meddwl bod angen  iddyn nhw ddysgu unrhyw beth. (3 Ioan 9) Ar y llaw arall, rydyn ni’n awyddus i gael ein hyfforddi gan Jehofa a’r gyfundrefn mae’n ei defnyddio.—Esei. 30:20; Ioan 6:45.

4 Mae mynychu’r cyfarfodydd yn dangos ein bod ni’n ostyngedig—yn barod ac yn fodlon i gael ein dysgu. Ar noson Coffadwriaeth marwolaeth Crist, rydyn ni’n mynychu nid yn unig oherwydd bod hynny’n bwysig inni, ond hefyd oherwydd ein bod ni eisiau bod yn ostyngedig a dilyn gorchymyn Iesu: “Gwnewch hyn i gofio amdana i.” (Darllen 1 Corinthiaid 11:23-26.) Mae’r cyfarfod hwnnw yn cryfhau ein gobaith am y dyfodol ac yn ein hatgoffa bod Jehofa yn ein caru’n fawr iawn. Ond, mae Jehofa yn gwybod bod angen inni gael ein calonogi a’n cysuro fwy nag unwaith y flwyddyn. Felly, mae’n darparu cyfarfodydd inni bob wythnos ac yn ein hannog i’w mynychu nhw. Gostyngeiddrwydd sy’n ein cymell i fod yn ufudd. Rydyn ni’n treulio sawl awr bob wythnos yn paratoi ar gyfer y cyfarfodydd hynny ac yn eu mynychu.

5. Pam mae pobl ostyngedig yn ymateb i wahoddiad Jehofa?

5 Bob blwyddyn, mae llawer o bobl ostyngedig yn derbyn gwahoddiad Jehofa i gael eu dysgu ganddo. (Esei. 50:4) Maen nhw’n mwynhau mynychu’r Goffadwriaeth, ac yn dechrau mynychu’r cyfarfodydd eraill. (Sech. 8:20-23) Gyda’n gilydd, rydyn ni’n falch o gael ein hyfforddi a’n harwain gan Jehofa, yr “un sy’n gallu [ein] helpu [a’n] hachub.” (Salm 40:17) Yn wir, beth all fod yn fwy pleserus—neu’n fwy pwysig—na derbyn gwahoddiad i gael ein dysgu gan Jehofa a gan Iesu, y Mab mae’n ei garu gymaint?—Math. 17:5; 18:20; 28:20.

6. Sut gwnaeth gostyngeiddrwydd helpu un dyn i fynychu’r Goffadwriaeth?

6 Bob blwyddyn, rydyn ni’n gwneud ymdrech i wahodd cymaint o bobl â phosib i fynychu Coffadwriaeth marwolaeth Crist. Mae llawer o bobl ostyngedig wedi elwa ar dderbyn ein gwahoddiad. Ystyria esiampl. Sawl blwyddyn yn ôl, derbyniodd dyn wahoddiad printiedig i’r Goffadwriaeth, ond dywedodd wrth y brawd a roddodd y gwahoddiad iddo na fyddai’n gallu mynd. Er hynny, ar noson y Goffadwriaeth, roedd y brawd yn syfrdan pan welodd yr un dyn yn cerdded i mewn i Neuadd y Deyrnas. Ar ôl hynny, gwnaeth y dyn fethu dim ond tri chyfarfod mewn blwyddyn gyfan. Beth helpodd ef i ymateb mewn ffordd mor bositif? Roedd yn ddigon gostyngedig i newid ei feddwl. Gwnaeth y brawd a oedd wedi ei wahodd ddweud yn nes ymlaen, “Mae’n ddyn hynod o ostyngedig.” Yn sicr, gwnaeth Jehofa ddenu’r dyn hwnnw ato, ac mae’n frawd bedyddiedig erbyn hyn.—2 Sam. 22:28; Ioan 6:44.

7. Sut mae’r hyn a ddysgwn ni yn y cyfarfodydd a’r hyn a ddarllenwn ni yn y Beibl yn ein helpu i fod yn ostyngedig?

7 Mae’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu yn y cyfarfodydd a’r hyn rydyn ni’n ei ddarllen yn y Beibl yn gallu ein helpu i fod yn ostyngedig. Yn ystod yr wythnosau cyn y Goffadwriaeth, mae ein cyfarfodydd yn aml yn canolbwyntio ar esiampl Iesu a’r gostyngeiddrwydd a ddangosodd drwy aberthu ei fywyd fel pridwerth. Ac yn y dyddiau cyn y Goffadwriaeth, cawn ein hannog i ddarllen rhannau o’r Beibl sy’n sôn am ddigwyddiadau adeg marwolaeth ac atgyfodiad Iesu. Mae’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu yng nghyfarfodydd o’r fath ac o ddarllen y rhannau hynny o’r Beibl yn cryfhau ein gwerthfawrogiad am yr aberth a wnaeth Iesu ar ein cyfer. Rydyn ni’n cael ein hysgogi i efelychu ei agwedd ostyngedig ac i wneud ewyllys Jehofa, hyd yn oed pan fydd hynny’n anodd.—Luc 22:41, 42.

 DEWRDER YN EIN HELPU I FYNYCHU

8. Sut dangosodd Iesu ddewrder?

8 Rydyn ni hefyd yn ceisio efelychu Iesu drwy fod yn ddewr. Meddylia am y dewrder a ddangosodd ef ar y dyddiau cyn ei farwolaeth. Roedd yn gwybod yn iawn y byddai ei elynion yn fuan yn ei fychanu, ei guro, a’i ddienyddio. (Math. 20:17-19) Ond eto, roedd yn barod i farw. Pan ddaeth yr amser, dywedodd wrth ei apostolion ffyddlon, a oedd gydag ef yn Gethsemane: “Codwch, gadewch i ni fynd! Mae’r bradwr wedi cyrraedd!” (Math. 26:36, 46) A phan ddaeth y dorf arfog i’w arestio, aeth atyn nhw, dweud mai ef oedd Iesu, a gorchymyn iddyn nhw adael i’w apostolion fynd yn rhydd. (Ioan 18:3-8) Dyna ddewrder ar ran Iesu! Heddiw, mae Cristnogion eneiniog a’r defaid eraill yn ceisio efelychu dewrder Iesu. Sut?

Mae dy ddewrder wrth fynychu’r cyfarfodydd Cristnogol yn rhoi nerth i eraill (Gweler paragraff 9) *

9. (a) Pam efallai fod angen inni ddangos dewrder i fynychu’r cyfarfodydd yn rheolaidd? (b) Sut gall ein hesiampl effeithio ar ein brodyr sydd wedi eu carcharu oherwydd eu ffydd?

9 Er mwyn mynychu ein cyfarfodydd yn rheolaidd, efallai bydd rhaid inni ddangos dewrder o dan amgylchiadau anodd. Mae rhai o’n brodyr a’n chwiorydd yn mynychu’r cyfarfodydd er eu bod nhw’n galaru, yn ddigalon, neu’n ymdopi â phroblemau iechyd. Mae eraill yn mynychu’r cyfarfodydd yn ddewr er gwaethaf gwrthwynebiad cryf gan aelodau teulu neu awdurdodau’r llywodraeth. Meddylia am funud am sut mae ein hesiampl ni yn effeithio ar ein brodyr sydd yn y carchar oherwydd eu ffydd. (Heb. 13:3) Pan fyddan nhw’n clywed ein bod ni’n parhau i wasanaethu Jehofa er gwaethaf ein treialon, maen nhw’n cael eu cryfhau i aros yn ffyddlon ac yn ddewr. Cafodd yr apostol Paul brofiad tebyg. Pan oedd yn y carchar yn Rhufain, roedd yn llawenhau bob tro a glywodd fod ei frodyr yn gwasanaethu Duw yn ffyddlon. (Phil. 1:3-5, 12-14) Ychydig cyn iddo gael ei ryddhau, neu ychydig ar ôl hynny, ysgrifennodd Paul ei lythyr at yr Hebreaid. Yn y llythyr hwnnw fe anogodd y Cristnogion ffyddlon hynny: “Daliwch ati i garu’ch gilydd fel credinwyr,” ac iddyn nhw barhau i gyfarfod gyda’i gilydd.—Heb. 10:24, 25; 13:1.

10-11. (a) Pwy dylen ni eu gwahodd i’r Goffadwriaeth? (b) Pa reswm dros wneud hynny sydd yn Effesiaid 1:7?

10 Rydyn ninnau’n dangos dewrder pan ydyn ni’n gwahodd ein perthnasau, ein cyd-weithwyr, a’n cymdogion i’r Goffadwriaeth. Pam rydyn ni’n eu gwahodd nhw? Oherwydd rydyn ni mor ddiolchgar am beth mae Jehofa ac Iesu wedi ei wneud ar ein cyfer ni fel nad ydyn ni’n gallu dal yn ôl rhag gwahodd pobl i’r Goffadwriaeth. Rydyn ni eisiau iddyn nhw hefyd ddysgu sut y gallan nhw gael budd o garedigrwydd hael Jehofa drwy gyfrwng y pridwerth.—Darllen Effesiaid 1:7; Dat. 22:17.

11 Pan ddangoswn ni ddewrder drwy gyfarfod gyda’n gilydd, rydyn ni hefyd yn dangos rhinwedd hyfryd arall, un y mae Duw a’i Fab yn ei dangos mewn ffyrdd arbennig iawn.

 CARIAD YN EIN CYMELL I FYNYCHU

12. (a) Sut mae ein cyfarfodydd yn dyfnhau ein cariad tuag at Jehofa ac Iesu? (b) Beth mae 2 Corinthiaid 5:14, 15 yn ein hannog i’w wneud er mwyn efelychu Iesu?

12 Mae ein cariad tuag at Jehofa ac Iesu yn ein cymell ni i fynychu’r cyfarfodydd. Wedyn, mae’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu yn y cyfarfodydd yn dyfnhau ein cariad tuag at Jehofa a’i Fab. Yn ein cyfarfodydd, rydyn ni’n cael ein hatgoffa’n aml o beth maen nhw wedi ei wneud ar ein cyfer ni. (Rhuf. 5:8) Mae’r Goffadwriaeth yn benodol yn ein hatgoffa o ddyfnder eu cariad, hyd yn oed tuag at y rhai sydd ddim yn gwerthfawrogi’r pridwerth eto. Oherwydd ein bod ni’n ddiolchgar, rydyn ni’n ceisio efelychu Iesu yn ein bywyd bob dydd. (Darllen 2 Corinthiaid 5:14, 15.) Ar ben hynny, mae ein calon yn ein symud ni i foli Jehofa am iddo drefnu’r pridwerth. Un ffordd o’i foli ydy ateb o’r galon yn y cyfarfodydd.

13. Sut gallwn ni ddangos faint rydyn ni’n caru Jehofa a’i Fab? Esbonia.

13 Gallwn ddangos faint rydyn ni’n caru Jehofa a’i Fab drwy fod yn barod i aberthu pethau ar eu cyfer nhw. Yn aml, mae’n rhaid inni wneud aberthau o wahanol fathau er mwyn mynychu’r cyfarfodydd. Mae llawer o gynulleidfaoedd yn cynnal cyfarfod ar ddiwedd y dydd pan mae’n debyg bydd llawer wedi bod yn gweithio ac yn flinedig. Ac maen nhw’n cynnal cyfarfod arall ar y penwythnos pan fydd pobl eraill yn ymlacio. Ydy Jehofa yn sylwi ein bod ni’n mynd i’r cyfarfodydd er ein bod ni wedi blino? Ydy, yn bendant! Mwyaf yn y byd rydyn ni’n gorfod brwydro, mwyaf yn y byd mae Jehofa yn gwerthfawrogi’r cariad rydyn ni’n ei ddangos tuag ato.—Marc 12:41-44.

14. Sut gwnaeth Iesu osod yr esiampl o ran dangos cariad hunanaberthol?

14 Iesu a osododd yr esiampl inni o ran dangos cariad hunanaberthol. Roedd yn fodlon nid yn unig i farw dros ei ddisgyblion ond hefyd i fyw bob dydd mewn ffordd a oedd yn rhoi eu lles nhw o flaen ei les ei hun. Er enghraifft, gwnaeth ef gwrdd â’i ddilynwyr hyd yn oed pan oedd ef wedi ymlâdd neu’n teimlo’n ofidus iawn. (Luc 22:39-46) Ac roedd yn canolbwyntio ar yr hyn roedd yn gallu ei roi i eraill, nid ar yr hyn y gallai ei gael oddi wrthyn nhw. (Math. 20:28) Pan fydd ein cariad tuag at Jehofa a’n brodyr mor gryf â hynny, byddwn yn gwneud popeth a allwn ni i fynychu Swper  yr Arglwydd a phob un o’n cyfarfodydd eraill.

15. Pwy rydyn ni eisiau helpu yn arbennig?

15 Rydyn ni’n perthyn i’r unig wir frawdoliaeth Gristnogol, ac rydyn ni’n mwynhau treulio cymaint o amser â phosib yn gwahodd pobl newydd i ymuno â ni. Ond, mae gennyn ni awydd arbennig i helpu’r rhai sydd yn ein “teulu o gredinwyr” ond sydd wedi mynd yn anweithredol. (Gal. 6:10) Rydyn ni’n profi ein cariad tuag atyn nhw drwy eu hannog i fynychu ein cyfarfodydd, yn enwedig y Goffadwriaeth. Fel Jehofa ac Iesu, rydyn ni’n llawenhau pan fydd rhywun anweithredol yn dychwelyd at Jehofa, ein Tad cariadus a’n Bugail.—Math. 18:14.

16. (a) Sut gallwn ni ein hannog ein gilydd, a sut bydd ein cyfarfodydd yn ein helpu? (b) Pam mae’r adeg hon o’r flwyddyn yn amser da er mwyn cofio geiriau Iesu yn Ioan 3:16?

16 Yn yr wythnosau i ddod, gwahodda gymaint o bobl â phosib i’r Goffadwriaeth ar nos Wener, 19 Ebrill 2019. (Gweler y blwch “ A Fyddi Di’n Eu Gwahodd Nhw?”) Drwy gydol y flwyddyn i ddod, gad inni ein hannog ein gilydd drwy fynychu’n rheolaidd yr holl gyfarfodydd mae Jehofa yn eu darparu inni. Wrth i ddiwedd y system hon agosáu, bydd angen y cyfarfodydd arnon ni i aros yn ostyngedig, yn ddewr, ac yn gariadus. (1 Thes. 5:8-11) Gad inni ddangos sut rydyn ni’n teimlo am Jehofa a’i Fab am iddyn nhw ein caru ninnau gymaint!—Darllen Ioan 3:16.

CÂN 126 Byddwch Effro, Byddwch yn Wrol!

^ Par. 5 Cyfarfod pwysicaf y flwyddyn gyfan fydd Coffadwriaeth marwolaeth Crist ar nos Wener, 19 Ebrill 2019. Beth sy’n ein hysgogi i fynychu’r cyfarfod hwnnw? Wrth gwrs, rydyn ni eisiau plesio Jehofa. Yn yr erthygl hon, byddwn yn ystyried beth mae mynychu’r Goffadwriaeth a’n cyfarfodydd wythnosol yn ei ddweud amdanon ni.

^ Par. 52 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Brawd yn y carchar oherwydd ei ffydd yn cael ei galonogi gan lythyr o’i gartref. Mae’n gwybod nad ydy pobl wedi anghofio amdano, ac mae’n llawenhau ar ôl gweld bod ei deulu hefyd yn aros yn ffyddlon i Jehofa er gwaethaf gwrthdaro gwleidyddol yn eu hardal nhw.