Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

Undod Hyfryd a’r Goffadwriaeth

Undod Hyfryd a’r Goffadwriaeth

“Mor dda, ac mor ddymunol yw i bobl fyw’n gytûn.”—SALM 133:1, Beibl Cymraeg Diwygiedig.

CANEUON: 18, 14

1, 2. Yn 2018, pa achlysur fydd yn uno pob un ohonon ni mewn ffordd arbennig, a pham? (Gweler y llun agoriadol.)

AR 31 Mawrth 2018, bydd miliynau o bobl o gwmpas y byd yn mynychu cyfarfod sy’n digwydd unwaith y flwyddyn yn unig. Ar ôl i’r haul fachlud, bydd Tystion Jehofa, a llawer o bobl eraill, yn dod ynghyd i gofio am yr aberth a wnaeth Iesu droson ni. Bob blwyddyn, mae Coffadwriaeth marwolaeth Crist yn uno pobl yn y ffordd fwyaf rhyfeddol, yn fwy nag unrhyw ddigwyddiad arall ar y ddaear.

2 Mae’n rhaid bod Jehofa a Iesu yn wirioneddol hapus o weld miliynau o bobl yn mynychu’r cyfarfod arbennig hwnnw awr ar ôl awr, drwy’r byd i gyd. Mae’r Beibl yn disgrifio tyrfa fawr o bobl—“tyrfa mor aruthrol fawr, doedd dim gobaith i neb hyd yn oed ddechrau eu cyfri! Roedden nhw yn dod o bob cenedl, llwyth, hil ac iaith.” Roedden nhw’n gweiddi: “Ein Duw sydd wedi’n hachub ni!—yr Un sy’n eistedd ar yr orsedd, a’r Oen!” (Datguddiad 7:9, 10) Bendigedig yw gweld cymaint o bobl yn mynychu’r goffadwriaeth bob blwyddyn ac yn clodfori Jehofa a Iesu am y pethau anhygoel maen nhw wedi eu gwneud.

3. Pa gwestiynau fydd yn cael eu hateb yn yr erthygl hon?

 3 Yn yr erthygl hon, byddi di’n cael atebion i’r pedwar cwestiwn hyn: (1) Sut gallaf baratoi ar gyfer y Goffadwriaeth a hynny er mwyn elwa’n llawn ar y cyfarfod? (2) Ym mha ffordd mae’r Goffadwriaeth yn helpu pobl Dduw i fod yn unedig? (3) Beth gallaf ei wneud i hybu undod ymysg pobl Dduw? (4) A fydd ’na Goffadwriaeth olaf rywbryd? Os felly, pryd?

PARATOI AR GYFER Y GOFFADWRIAETH A’R BUDDION O FYNYCHU

4. Pam mae’n bwysig inni fod yn bresennol yn y Goffadwriaeth?

4 Pam mae’n bwysig inni fynd i’r Goffadwriaeth? Un rheswm yw ein bod ni’n addoli Jehofa yn ein cyfarfodydd. Gallwn fod yn sicr bod Jehofa a Iesu yn sylwi ar bob unigolyn sy’n gwneud ei orau glas i fod yn bresennol yng nghyfarfod pwysicaf y flwyddyn. Rydyn ni eisiau dangos i Jehofa a Iesu ein bod ni am fynd i’r Goffadwriaeth, oni bai ei bod hi’n gwbl amhosib inni wneud hynny. Pan fyddwn ni’n profi drwy ein gweithredoedd fod y cyfarfodydd yn bwysig inni, rydyn ni’n rhoi un rheswm ychwanegol i Jehofa dros gadw ein henw yn “y sgrôl sy’n rhestru’r rhai sy’n parchu’r ARGLWYDD.” Enw arall ar y llyfr hwnnw ydy “Llyfr y Bywyd.” Mae’n cynnwys enwau pawb y mae Jehofa eisiau rhoi bywyd tragwyddol iddyn nhw.—Malachi 3:16; Datguddiad 20:15.

5. Yn ystod yr wythnosau cyn y Goffadwriaeth, sut gelli di brofi a wyt ti’n “byw’n ffyddlon”?

5 Yn ystod yr wythnosau cyn y cyfarfod, gallwn dreulio mwy o amser yn gweddïo ac yn meddwl yn ofalus am ba mor gryf yw ein perthynas â Jehofa. (Darllen 2 Corinthiaid 13:5.) Dywedodd yr apostol Paul wrth Gristnogion: “Chi ddylai edrych arnoch eich hunain i weld a ydych yn byw’n ffyddlon.” Sut gallwn ni wneud hyn? Gallwn ofyn i ni ein hunain: ‘Ydw i’n wir yn credu mai hon ydy’r unig gyfundrefn mae Jehofa wedi ei dewis i wneud ei ewyllys? Ydw i’n gwneud fy ngorau i bregethu a dysgu’r newyddion da? Ydw i’n profi drwy fy ngweithredoedd fy mod i’n credu ein bod ni’n byw yn y dyddiau diwethaf a bod rheolaeth Satan am ddod i ben yn fuan? Ydw i’n ymddiried yn Jehofa a Iesu gymaint ag yr oeddwn i pan ddechreuais wasanaethu Jehofa?’ (Mathew 24:14; 2 Timotheus 3:1; Hebreaid 3:14) Bydd meddwl am y cwestiynau hyn yn ein helpu i’n profi ein hunain.

6. (a) Beth ydy’r unig ffordd o gael bywyd tragwyddol? (b) Sut mae un henuriad yn paratoi ar gyfer y Goffadwriaeth bob blwyddyn, a sut gelli dithau wneud rhywbeth tebyg?

6 Un ffordd o baratoi ar gyfer y Goffadwriaeth yw darllen erthyglau sy’n egluro pa mor bwysig ydy’r achlysur hwnnw a meddwl amdanyn nhw. (Darllen Ioan 3:16; 17:3.) Yr unig ffordd o gael bywyd tragwyddol yw trwy ddod i adnabod Jehofa a rhoi ein ffydd yn ei Fab, Iesu. Er mwyn paratoi ar gyfer y Goffadwriaeth, gallwn ddewis prosiectau astudio a fydd yn ein helpu i deimlo’n agosach at Jehofa a Iesu. Dyna beth mae un brawd sydd wedi bod yn henuriad am amser maith yn ei wneud. Am lawer o flynyddoedd, y mae wedi bod yn casglu erthyglau o’r Tŵr Gwylio  sy’n trafod y Goffadwriaeth a’r cariad mae Jehofa a Iesu wedi ei ddangos inni. Yn ystod yr wythnosau cyn y Goffadwriaeth, mae’n ailddarllen yr erthyglau hyn ac yn meddwl o ddifri am bwysigrwydd yr achlysur hwn. Weithiau mae’n ychwanegu un neu ddau o erthyglau at ei gasgliad. Mae hefyd yn darllen yr adnodau sydd wedi eu pennu ar gyfer y Goffadwriaeth ac yn myfyrio arnyn nhw. Mae’r henuriad hwn yn dweud ei fod yn dysgu pethau newydd bob blwyddyn drwy wneud y pethau hyn i gyd. Ond y peth mwyaf pwysig yw bod ei astudiaeth bersonol yn gwneud iddo garu Jehofa a Iesu yn fwy. Pan fyddi di’n astudio yn yr un ffordd, byddi dithau hefyd yn dod i garu Jehofa a Iesu yn fwy ac yn fwy. Byddi di hefyd yn fwy diolchgar am yr hyn maen nhw wedi ei wneud, a byddi di’n elwa’n fwy ar y Goffadwriaeth.

MAE’R GOFFADWRIAETH YN EIN GWNEUD NI’N UNEDIG

7. (a) Beth y gweddïodd Iesu amdano y tro cyntaf i Swper yr Arglwydd gael ei gynnal? (b) Beth sy’n dangos bod Jehofa wedi ateb gweddi Iesu?

7 Y tro cyntaf i Swper yr Arglwydd gael ei gynnal, rhoddodd Iesu weddi arbennig. Gweddïodd am yr undod gwerthfawr rhyngddo ef a’i Dad. Hefyd, gweddïodd Iesu er mwyn i’w ddisgyblion fod yn unedig yn yr un ffordd. (Darllen Ioan 17:20, 21.) Yn sicr, mae Jehofa wedi ateb gweddi ei Fab annwyl. Yn fwy nag unrhyw gyfarfod arall, mae’r Goffadwriaeth yn dangos bod Tystion Jehofa yn unedig. Ar y diwrnod hwnnw, mae miliynau o bobl o wahanol wledydd a lliwiau croen yn cwrdd gyda’i gilydd ar draws y byd ac yn dangos eu bod nhw’n credu bod Duw wedi anfon ei Fab yn bridwerth. Mewn rhai llefydd, anarferol iawn yw i bobl o dras wahanol gynnal cyfarfodydd crefyddol gyda’i gilydd, neu, os ydyn nhw’n gwneud hynny, mae eraill yn teimlo nad ydy hynny’n rhywbeth priodol i’w wneud. Ond, nid felly y mae Jehofa a Iesu’n teimlo. Iddyn nhw, mae ein hundod yn y Goffadwriaeth yn rhywbeth hardd.

8. Pa neges roddodd Jehofa i Eseciel?

8 Fel pobl Jehofa, nid yw ein hundod yn ein synnu. Rhagfynegodd Jehofa yr undod hwn yn ei neges i Eseciel. Dywedodd wrth Eseciel am gymryd dwy ffon, un ar gyfer Jwda ac un ar gyfer Joseff, a dod â nhw at ei gilydd er mwyn iddyn nhw ddod yn un ffon. (Darllen Eseciel 37:15-17.) Mae’r erthygl “Cwestiynau Ein Darllenwyr” o Tŵr Gwylio Gorffennaf 2016 yn esbonio: “Rhoddodd Jehofa neges o obaith i Eseciel a oedd yn addo uno cenedl Israel wedi iddi gael ei hadfer i Wlad yr Addewid. Mae’r neges hefyd yn rhagfynegi’r weithred o uno pobl Dduw a ddechreuodd yn ystod y dyddiau diwethaf.”

9. Bob blwyddyn yn y Goffadwriaeth, sut rydyn ni’n gweld yr undod a ragfynegwyd gan Eseciel?

9 Yn cychwyn yn y flwyddyn 1919, dechreuodd Jehofa aildrefnu ac ailuno’r eneiniog yn raddol. Roedden nhw’n debyg i’r ffon ar gyfer Jwda. Wedyn, dechreuodd mwy a mwy o bobl a oedd yn gobeithio byw am byth ar y ddaear ymuno â’r eneiniog. Mae’r rhai hynny, sydd â’r gobaith daearol, yn debyg i’r ffon ar gyfer Joseff. Ynglŷn â’r ddwy ffon hynny, addawodd Jehofa  y “byddan nhw’n un ffon.” (Eseciel 37:19) Dywedodd am yr eneiniog a’r defaid eraill y “byddan nhw’n dod yn un praidd.” (Ioan 10:16; Sechareia 8:23) Heddiw, mae’r ddau grŵp hynny’n unedig ac yn gwasanaethu Jehofa gyda’i gilydd. Mae ganddyn nhw un Brenin, Iesu Grist, sy’n cael ei alw’n “fy ngwas Dafydd” gan Dduw ym mhroffwydoliaeth Eseciel. (Eseciel 37:24, 25) Bob blwyddyn yn y Goffadwriaeth, pan ydyn ni’n cwrdd â’n gilydd i gofio am farwolaeth Iesu, rydyn ni’n gweld undod y ddau grŵp hynny a ragfynegwyd gan Eseciel. Ond, beth gall pob un ohonon ni ei wneud i warchod a hybu undod pobl Dduw?

SUT GALL PAWB HYRWYDDO UNDOD?

10. Sut gallwn ni hybu undod ymhlith pobl Dduw?

10 Beth yw’r ffordd gyntaf o hybu undod ymhlith pobl Dduw? Drwy weithio’n galed i fod yn ostyngedig. Pan oedd Iesu ar y ddaear, dywedodd wrth ei ddisgyblion fod rhaid iddyn nhw fod yn ostyngedig. (Mathew 23:12) Yn aml, mae pobl y byd yn meddwl eu bod nhw’n bwysicach nag eraill. Ond, os ydyn ni’n ostyngedig, byddwn ni’n parchu’r brodyr sy’n arwain yn y gynulleidfa ac yn dilyn eu harweiniad. Dyna’r unig ffordd y gall y gynulleidfa fod yn unedig. A’r peth mwyaf pwysig yw ein bod ni’n plesio Duw drwy aros yn ostyngedig,  oherwydd bod “Duw yn gwrthwynebu pobl falch ond mae’n hael at y rhai gostyngedig.”—1 Pedr 5:5.

11. Sut gall meddwl am y bara a’r gwin ein helpu i hybu undod?

11 Beth yw’r ail ffordd o hybu undod? Drwy feddwl yn ofalus am beth mae’r bara a’r gwin yn ei wir olygu. Dylwn ni wneud hyn cyn y Goffadwriaeth ac yn enwedig ar y noson honno. (1 Corinthiaid 11:23-25) Mae’r bara croyw yn cynrychioli’r corff perffaith a roddodd Iesu’n aberth. Mae’r gwin coch yn cynrychioli ei waed. Ond, mae’n rhaid inni wneud mwy na deall y ffeithiau sylfaenol hyn. Mae’n bwysig inni gofio bod aberth pridwerthol Iesu wedi dangos dau o’r gweithredoedd mwyaf o gariad a fu erioed. Rhoddodd Jehofa ei Fab er ein lles, ac roedd Iesu’n fodlon aberthu ei fywyd droston ni. Wrth inni feddwl am eu cariad, bydd hynny’n ein hysgogi i’w caru nhw. A bydd y cariad sydd gan bob un ohonon ni tuag at Jehofa yn cryfhau ein hundod.

Pan ydyn ni’n maddau i eraill, rydyn ni’n hybu undod (Gweler paragraffau 12, 13)

12. Yn y stori am y brenin a’i gaethweision, sut gwnaeth Iesu egluro bod Jehofa eisiau inni faddau i eraill?

12 Beth ydy’r drydedd ffordd o hybu undod? Drwy faddau eraill yn rhwydd. Pan ydyn ni’n gwneud hyn, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n ddiolchgar fod Jehofa’n gallu maddau ein pechodau ar sail aberth Iesu. Er mwyn dangos pam mae maddau’n bwysig, gwnaeth Iesu adrodd stori am frenin a’i gaethweision. Darllena Mathew 18:23-34 a gofynna i ti dy hun: ‘Ydw i’n benderfynol o wneud yr hyn a ddysgodd Iesu? Ydw i’n amyneddgar ac yn ystyriol o fy mrodyr a fy chwiorydd? Ydw i’n barod i faddau i’r rhai sydd wedi fy mrifo?’ Mae’n wir fod rhai pechodau yn waeth nag eraill. Ac mae rhai pechodau’n anodd i ni fel pobl amherffaith eu maddau. Ond mae stori Iesu yn ein dysgu am beth mae Jehofa eisiau inni ei wneud. (Darllen Mathew 18:35.) Mae Iesu’n ei gwneud hi’n gwbl amlwg na fydd Jehofa yn maddau i ni os nad ydyn ninnau’n maddau i’n brodyr pan fyddan nhw yn wir wedi edifarhau. Pwysig iawn yw inni feddwl am hynny. Er mwyn amddiffyn a chadw ein hundod gwerthfawr, mae’n rhaid inni faddau i eraill fel mae Iesu wedi dysgu inni ei wneud.

13. Sut rydyn ni’n hybu undod pan ydyn ni’n cadw heddwch ag eraill?

13 Pan ydyn ni’n maddau i eraill, rydyn ni’n cadw heddwch â’n brodyr a’n chwiorydd. Dywedodd yr apostol Paul y dylwn ni weithio’n galed i aros yn unedig ac i gadw heddwch. (Effesiaid 4:3) Felly, ar adeg y Goffadwriaeth, ac yn enwedig ar y noson honno, meddylia’n ofalus am sut rwyt ti’n trin pobl eraill. Gofynna i ti dy hun: ‘Ydy’r rhai sy’n fy adnabod i yn gwybod dydw i ddim yn dal dig â phobl sydd yn fy mrifo? Ydy pobl yn gallu gweld fy mod i’n trio fy ngorau i gadw heddwch ac i hybu undod?’ Cwestiynau pwysig yw’r rhain i feddwl amdanyn nhw.

14. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n goddef ein gilydd mewn cariad?

14 Beth ydy’r bedwaredd ffordd o hybu undod? Trwy efelychu’r ffordd y mae Jehofa’n dangos cariad. (1 Ioan 4:8) Fyddan ni byth yn dweud: “Mae’n rhaid i mi garu fy mrodyr, ond does dim rhaid imi eu hoffi.” Os ydyn ni’n meddwl yn y  ffordd honno, dydyn ni ddim yn dilyn cyngor Paul, pan ddywedodd: “Goddef beiau eich gilydd mewn cariad.” (Effesiaid 4:2) Ni ddywedodd Paul y dylwn ni oddef ein gilydd yn unig, ond y dylen ni wneud hynny “mewn cariad.” Mae ’na wahaniaeth. Mae pob math o bobl i’w gweld yn ein cynulleidfaoedd, ac mae Jehofa wedi denu pob un ohonyn nhw ato. (Ioan 6:44) Felly, mae’n rhaid ei fod yn gweld llawer o resymau da dros eu caru. Os ydy ein brodyr a’n chwiorydd yn deilwng o gariad Duw, sut gallwn ni ddweud nad ydyn nhw’n deilwng o’n cariad ni? Dylwn ni fod yn awyddus i’w caru nhw fel mae Jehofa eisiau inni ei wneud.—1 Ioan 4:20, 21.

PRYD BYDD Y GOFFADWRIAETH OLAF?

15. Sut rydyn ni’n gwybod y bydd ’na Goffadwriaeth olaf?

15 Un diwrnod, byddwn ni’n mynd i’r Goffadwriaeth am y tro olaf. Sut rydyn ni’n gwybod? Ynglŷn â’r Goffadwriaeth, dywedodd Paul wrth Gristnogion eneiniog: “Byddwch yn cyhoeddi ystyr marwolaeth yr Arglwydd nes iddo ddod yn ôl eto.” (1 Corinthiaid 11:26) Yn ei broffwydoliaeth amser y diwedd, siaradodd Iesu am ei ddyfodiad. Wrth sôn am y gorthrymder mawr a fydd yn dod yn fuan, dywedodd: “Yna bydd arwydd i’w weld yn yr awyr yn rhybuddio fod Mab y Dyn ar fin dod, a bydd pob llwyth o bobl ar y ddaear yn galaru. Bydd pawb yn fy ngweld i, Mab y Dyn, yn dod ar gymylau’r awyr gyda grym ac ysblander mawr. Bydd utgorn yn canu a bydd Duw yn anfon ei angylion i gasglu’r rhai mae wedi eu dewis o bob rhan o’r byd.” (Mathew 24:29-31) Bydd Iesu’n casglu’r rhai mae wedi eu dewis wrth iddo gymryd gweddill yr eneiniog sydd ar ôl ar y ddaear i’r nefoedd. Bydd hynny’n digwydd ar ôl i’r gorthrymder mawr ddechrau ond cyn rhyfel Armagedon. Yn y rhyfel hwnnw, bydd Iesu, a’r 144,000, yn ymladd yn erbyn brenhinoedd y ddaear ac yn ennill. (Datguddiad 17:12-14) Y Goffadwriaeth cyn i Iesu “ddod” i gasglu’r eneiniog fydd yr un olaf erioed.

16. Pam rwyt ti’n benderfynol o fynychu’r Goffadwriaeth eleni?

16 Bydda’n benderfynol o fod yn bresennol yn y Goffadwriaeth ar 31 Mawrth 2018. A gofynna i Jehofa dy helpu di i wneud dy ran er mwyn i’w bobl aros yn unedig. (Darllen Salm 133:1, BCND.) Un diwrnod, byddwn ni’n mynd i’r Goffadwriaeth am y tro olaf. Yn y cyfamser, gad inni ddangos bod yr undod gwerthfawr sydd gennyn ni bob blwyddyn yn y Goffadwriaeth yn bwysig iawn inni.