Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r isddewislen

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Cymraeg

Y Tŵr Gwylio—Rhifyn Astudio  |  Ionawr 2018

Pa Fath o Gariad Sy’n Dod â Gwir Hapusrwydd?

Pa Fath o Gariad Sy’n Dod â Gwir Hapusrwydd?

“Mae’r bobl sydd â’r ARGLWYDD yn Dduw iddyn nhw wedi’u bendithio’n fawr!”—SALM 144:15.

CANEUON: 111, 109

1. Pam mae’r cyfnod rydyn ni’n byw ynddo yn wahanol i unrhyw adeg arall?

RYDYN ni’n byw mewn cyfnod sy’n hollol wahanol i unrhyw adeg arall yn hanes dyn. Mae Jehofa’n casglu tyrfa fawr “o bob cenedl, llwyth, hil ac iaith,” yn union fel y rhagfynegodd y Beibl. Maen nhw’n “genedl fawr” o dros wyth miliwn o bobl hapus sy’n “ei wasanaethu . . . ddydd a nos.” (Datguddiad 7:9, 15; Eseia 60:22) Heddiw, mae mwy o bobl yn dod i garu Duw a’u cymdogion nag erioed.

2. Pa gariad anghywir sydd gan bobl sydd ddim yn ffrindiau i Dduw? (Gweler y llun agoriadol.)

2 Wedi dweud hynny, rhagfynegodd y Beibl y byddai pobl sydd ddim yn ffrindiau i Dduw yn dangos math anghywir o gariad yn ein dyddiau ni, cariad sy’n hunanol. Ysgrifennodd yr apostol Paul y byddai pobl yn y dyddiau diwethaf yn “byw i’w plesio nhw eu hunain,” yn “byw er mwyn gwneud arian,” ac “yn caru pleser yn lle caru Duw.” (2 Timotheus 3:1-4) Mae’r cariad hunanol hwn yn groes i gariad tuag at Dduw. Yn wahanol i’r disgwyl, dydy ceisio pethau hunanol  ddim yn gwneud rhywun yn hapus. Yn hytrach, mae’n creu byd hunanol ac yn gwneud bywyd yn anodd i bawb.

3. Beth fyddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon, a pham?

3 Roedd yr apostol Paul yn gwybod y byddai cariad hunanol yn dod yn gyffredin iawn ac y byddai’n beryglus i Gristnogion. Felly, roedd eisiau iddyn nhw osgoi pobl a oedd yn dangos cariad hunanol. (2 Timotheus 3:5) Ond, nid yw’n bosib inni dorri cysylltiad â’r bobl hyn yn gyfan gwbl. Felly, beth allwn ni ei wneud i’n hamddiffyn ein hunain rhag agweddau drwg ac i blesio Jehofa, y Duw cariadus? Gad inni weld y gwahaniaeth rhwng y cariad mae Duw eisiau inni ei ddangos a’r cariad sy’n cael ei ddisgrifio yn 2 Timotheus 3:2-4. Yna, byddwn ninnau’n gallu edrych arnon ni ein hunain a gweld sut gallwn ni ddangos y math o gariad a fydd yn ein gwneud ni’n wirioneddol hapus.

CARIAD TUAG AT DDUW NEU GARIAD HUNANOL?

4. Pam nad yw teimlo rhywfaint o gariad tuag aton ni ein hunain yn anghywir?

4 Ysgrifennodd Paul: “Bydd pobl yn byw i’w plesio nhw eu hunain” Felly, ydy ein caru ein hunain yn anghywir? Nac ydy, mae’n naturiol ac yn angenrheidiol. Dyna sut cawson ni ein dylunio gan Jehofa. Dywedodd Iesu: “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun.” (Marc 12:31) Yn wir, dydyn ni ddim yn gallu caru eraill os nad ydyn ni’n ein caru ein hunain. Hefyd, mae’r Beibl yn dweud wrthyn ni: “Dyna sut ddylai gwŷr garu eu gwragedd—fel eu cyrff eu hunain! Mae’r gŵr sy’n caru ei wraig yn ei garu ei hun! Dydy pobl ddim yn casáu eu cyrff eu hunain—maen nhw’n eu bwydo nhw a gofalu amdanyn nhw.” (Effesiaid 5:28, 29) Yn amlwg felly, dylen ni deimlo rhywfaint o gariad tuag aton ni ein hunain.

5. Sut byddi di’n disgrifio pobl sy’n eu caru eu hunain ormod?

5 Dydy’r cariad rydyn ni’n darllen amdano yn 2 Timotheus 3:2 ddim yn iach. Mae’n hunanol. Os bydd rhywun yn ei garu ei hun ormod, mae’n meddwl mwy ohono’i hun nag sydd angen. (Darllen Rhufeiniaid 12:3.) Mae’n gofalu amdano’i hun o flaen pawb arall. Pan fydd pethau’n mynd ar chwâl, mae’n rhoi’r bai ar bobl eraill yn hytrach nag arno ef ei hun. Mae un cyfeirlyfr am y Beibl yn cymharu person o’r fath â draenog sy’n ei rolio ei hun yn bêl i’w gadw ei hun yn gynnes ond yn dangos ei bigau i bawb arall. Dydy pobl felly ddim yn wirioneddol hapus.

6. Pa ganlyniadau da sy’n dod pan ydyn ni’n caru Duw?

6 Mae rhai ysgolheigion yn credu bod Paul wedi sôn am gariad hunanol yn gyntaf oherwydd y mae’n cynhyrchu’r tueddiadau drwg y soniodd Paul amdanyn nhw nesaf. I’r gwrthwyneb, mae’r math o gariad y mae Duw eisiau inni ei ddangos yn meithrin rhinweddau da. Mae’n gysylltiedig â llawenydd, heddwch dwfn, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffydd, addfwynder, a hunanreolaeth. (Galatiaid 5:22, 23) Ysgrifennodd y salmydd: “Mae’r bobl sydd â’r ARGLWYDD yn Dduw iddyn nhw wedi’u bendithio’n fawr!” (Salm 144:15) Mae Jehofa yn Dduw hapus, ac mae ei bobl yn hapus hefyd. Ar ben hynny, mae gweision Jehofa’n  hapus oherwydd eu bod nhw’n rhoi i bobl eraill.—Actau 20:35.

Sut gallwn ni osgoi ein caru ein hunain? (Gweler paragraff 7)

7. Pa gwestiynau fydd yn ein helpu i feddwl am ein cariad tuag at Dduw?

7 Sut gallwn ni wybod a ydy ein cariad tuag aton ni ein hunain yn mynd yn gryfach na’n cariad tuag at Dduw? Meddylia am y cyngor doeth hwn: “Peidiwch bod am y gorau i fod yn bwysig, nac yn llawn ohonoch chi’ch hunain. Byddwch yn ostyngedig, a pheidio meddwl eich bod chi’n well na phobl eraill. Meddyliwch am bobl eraill gyntaf, yn lle dim ond meddwl amdanoch chi’ch hunain.” (Philipiaid 2:3, 4) Gallwn ofyn i ni’n hunain: ‘Ydw i’n gwrando ar y cyngor hwn? Ydw i’n trio gwneud beth mae Duw eisiau imi ei wneud? Ydw i’n chwilio am ffyrdd i helpu eraill yn y gynulleidfa ac yn y weinidogaeth?’ Dydy hi ddim bob amser yn hawdd inni roi ein hamser a’n hegni. Efallai bydd hynny’n golygu gweithio’n galed ac aberthu rhai pethau rydyn ni’n eu mwynhau. Ond, ni all unrhyw beth ein gwneud ni’n hapusach na gwybod ein bod ni’n plesio Penarglwydd y bydysawd!

8. Beth mae rhai Cristnogion wedi ei wneud oherwydd eu cariad tuag at Dduw?

8 Oherwydd eu cariad tuag Dduw a’u dymuniad i ehangu eu gwasanaeth iddo, mae rhai Cristnogion wedi aberthu gyrfaoedd a fyddai wedi eu gwneud nhw’n gyfoethog iawn. Dewisodd Ericka, sy’n ddoctor, arloesi yn hytrach na chanolbwyntio ar ei gyrfa feddygol. Mae hi a’i gŵr wedi gallu gwasanaethu mewn sawl gwlad. Mae hi’n dweud: “Mae’r llawer o brofiadau rydyn ni wedi eu cael yn y maes ieithoedd tramor, yn ogystal â’r ffrindiau rydyn ni wedi eu gwneud, wedi cyfoethogi ein bywyd.” Mae Ericka yn  dal i weithio fel doctor, ond mae’n defnyddio’r rhan fwyaf o’i hamser a’i hegni yn dysgu pobl am Jehofa ac yn helpu ei brodyr a’i chwiorydd. Mae hi’n dweud bod hyn yn dod â “gwir hapusrwydd a bodlonrwydd.”

CYFOETH YN Y NEFOEDD NEU AR Y DDAEAR?

9. Pam na fydd rhywun sy’n caru arian byth yn hapus?

9 Ysgrifennodd Paul y byddai pobl “yn byw er mwyn gwneud arian.” Rai blynyddoedd yn ôl, roedd arloeswr yn Iwerddon yn siarad â dyn arall am Dduw. Dyma’r dyn yn agor ei waled, yn dal arian papur yn ei law, ac yn dweud: “Dyma fy nuw i!” Mae llawer o bobl yn teimlo fel ’na, er na fyddan nhw efallai’n cyfaddef hynny. Maen nhw’n caru arian a’r pethau mae arian yn eu prynu. Ond, mae’r Beibl yn rhybuddio: “Dydy rhywun sydd ag obsesiwn am arian byth yn fodlon fod ganddo ddigon; na’r un sy’n caru cyfoeth yn hapus gyda’i enillion.” (Pregethwr 5:10) Dydy person sy’n caru arian byth yn teimlo bodlonrwydd. Y mae’n wastad eisiau mwy ac yn treulio ei fywyd yn ceisio arian. Mae hyn yn “achosi pob math o loes a galar.”—1 Timotheus 6:9, 10.

10. Beth mae’r Beibl yn ei ddweud am gyfoeth a thlodi?

10 Wrth gwrs, mae angen arian ar bob un ohonon ni. Mae’n rhoi mesur o ddiogelwch inni. (Pregethwr 7:12) Ond, a allwn ni fod yn hapus os oes gennyn ni jest digon ar gyfer ein hanghenion sylfaenol? Gallwn! (Darllen Pregethwr 5:12.) Ysgrifennodd Agwr fab Iace: “Paid rhoi tlodi na chyfoeth i mi, ond rho ddigon o fwyd i mi bob dydd.” Hawdd yw deall pam nad oedd y dyn yma eisiau bod yn dlawd. Dywedodd nad oedd eisiau cael ei demtio i ddwyn, oherwydd byddai hynny’n dod â gwarth ar Dduw. Ond pam nad oedd eisiau bod yn gyfoethog? Ysgrifennodd: “Cadw fi rhag teimlo fod popeth gen i, ac yna dy wrthod di, a dweud, ‘Pwy ydy’r ARGLWYDD?’” (Diarhebion 30:8, 9) Mae’n debyg dy fod ti’n adnabod pobl sy’n ymddiried mewn arian yn hytrach nag yn Nuw.

11. Beth ddywedodd Iesu am arian?

11 Ni all rhywun sy’n caru arian blesio Duw. Dywedodd Iesu: “Does neb yn gallu gweithio i ddau feistr gwahanol ar yr un pryd. Mae un yn siŵr o gael y flaenoriaeth ar draul y llall. Allwch chi ddim bod yn was i Dduw ac i arian ar yr un pryd.” Dywedodd hefyd: “Peidiwch casglu trysorau i chi’ch hunain yn y byd yma. Mae gwyfyn a rhwd yn gallu eu difetha, ac mae lladron yn gallu dod â’u dwyn. Casglwch drysorau i chi’ch hunain yn y nefoedd—all gwyfyn a rhwd ddifetha dim byd yno, a does dim lladron yno i ddwyn dim byd.”—Mathew 6:19, 20, 24.

12. Sut gall bywyd syml ein helpu i wasanaethu Duw? Rho esiampl.

12 Mae llawer o weision Jehofa yn ceisio symleiddio eu bywyd. Maen nhw wedi darganfod bod gwneud hynny yn rhoi mwy o amser iddyn nhw dreulio yng ngwasanaeth Jehofa ac yn eu gwneud nhw’n hapusach hefyd. Gwerthodd Jack, sy’n byw yn yr Unol Daleithiau, ei dŷ mawr a’i fusnes er mwyn arloesi gyda’i wraig. Mae’n esbonio: “Roedd yn anodd aberthu ein tŷ hyfryd a’n heiddo yn y wlad.” Ond, am flynyddoedd roedd yn dod adref yn teimlo’n rhwystredig  oherwydd problemau yn y gweithle. Mae’n dweud: “Roedd fy ngwraig, sy’n arloesi, yn wastad yn hapus. Byddai hi’n dweud, ‘Dw i’n gweithio i’r Person gorau erioed!’ Oherwydd fy mod i bellach yn arloesi hefyd, rydyn ni’n dau yn gweithio i’r un Person, Jehofa.”

‘Ydy’r ffordd rydw i’n byw yn dangos fy mod i’n credu beth mae’r Beibl yn ei ddweud am arian?’

Sut gallwn ni osgoi caru arian? (Gweler paragraff 13)

13. Beth all ein helpu i adolygu ein hagwedd tuag at arian?

13 Wrth inni adolygu ein hagwedd tuag at arian, mae’n rhaid inni fod yn onest a gofyn i ni’n hunain: ‘Ydy’r ffordd rydw i’n byw yn dangos fy mod i’n credu beth mae’r Beibl yn ei ddweud am arian? Ydy gwneud arian yn bwysicach i mi na phopeth arall? Ydy pethau materol yn bwysicach i mi na fy mherthynas â Jehofa a phobl eraill? Ydw i’n wir yn credu y bydd Jehofa yn darparu’r pethau sydd eu hangen arnaf?’ Gallwn fod yn sicr na fydd Jehofa byth yn siomi’r rhai sy’n ymddiried ynddo!—Mathew 6:33.

YDYN NI’N CARU JEHOFA NEU BLESER?

14. Beth ydy’r agwedd gytbwys tuag at bleser?

14 Hefyd, rhagfynegodd y Beibl y byddai pobl yn y dyddiau diwethaf “yn caru pleser.” Rydyn ni eisoes yn gwybod nad oes unrhyw beth yn bod ar gael agwedd gytbwys tuag aton ni ein hunain a thuag at arian, ac yn yr un modd, does dim byd yn bod ar fwynhau bywyd mewn ffordd gytbwys. Mae rhai yn credu na ddylen nhw gael unrhyw bleserau, ond nid dyna y mae Jehofa eisiau inni. Mae’r Beibl yn annog gweision ffyddlon Duw: “Dos, mwynha dy fwyd ac yfa dy win yn llawen!”—Pregethwr 9:7.

15. Beth mae “caru pleser” yn ei olygu?

15 Mae 2 Timotheus 3:4 yn sôn am bobl sy’n caru pleser ac yn gadael Duw allan o’u bywydau. Sylwa, nid yw’r adnod yn dweud y byddai pobl yn caru pleser yn fwy na charu Duw. Byddai hynny’n golygu eu bod nhw’n caru Duw dipyn bach. Mae’r adnod yn dweud “yn lle” Duw. Yn ôl un ysgolhaig, dydy’r adnod hon “yn sicr ddim yn golygu eu bod nhw hefyd yn caru Duw i ryw raddau. Mae’n golygu nad ydyn nhw’n caru Duw o gwbl.” Mae hyn yn rhybudd difrifol i bobl sy’n caru pleser. Mae’r Beibl yn dweud bod pobl sy’n caru pleser yn meddwl am ddim byd arall ond pleser.—Luc 8:14.

16, 17. Pa esiampl osododd Iesu ynglŷn â phleserau?

16 Dangosodd Iesu beth mae’n ei olygu i fod yn gytbwys o ran pleser. Fe aeth i wledd briodas ac i barti mawr. (Ioan 2:1-10; Luc 5:29) Yn y briodas, doedd ’na ddim digon o win, felly gwnaeth Iesu wyrth a throi’r dŵr yn win. Ar achlysur arall, pan oedd pobl yn beirniadu Iesu am fwyta ac yfed, fe wnaeth yn hollol eglur nad oedd y bobl hynny’n gytbwys.—Luc 7:33-36.

17 Ond, nid pleser oedd y peth pwysicaf ym mywyd Iesu. Fe roddodd Jehofa yn gyntaf a gwnaeth bopeth a allai i helpu eraill. Roedd yn fodlon marw mewn ffordd erchyll ar stanc er mwyn achub dynolryw. Dywedodd Iesu wrth y  bobl a oedd eisiau ei ddilyn: “Pan fydd pobl yn eich sarhau chi, a’ch erlid, ac yn dweud pethau drwg amdanoch chi am eich bod yn perthyn i mi, dych chi wedi’ch bendithio’n fawr! Byddwch yn llawen! Mwynhewch er gwaetha’r cwbl, achos mae gan Dduw yn y nefoedd wobr fawr i chi. Cofiwch fod y proffwydi oedd yn byw ers talwm wedi cael eu herlid yn union yr un fath!”—Mathew 5:11, 12.

Sut gallwn ni osgoi caru pleser? (Gweler paragraff 18)

18. Pa gwestiynau fydd yn ein helpu i weld faint rydyn ni’n caru pleser?

18 Beth fydd yn ein helpu i weld faint rydyn ni’n caru pleser? Gallwn ofyn i ni’n hunain: ‘Ydy adloniant yn fwy pwysig imi na’r cyfarfodydd a’r weinidogaeth? Ydw i’n fodlon aberthu rhai pethau rydw i’n eu mwynhau oherwydd fy mod i eisiau gwasanaethu Duw? Pan ydw i’n dewis adloniant, ydw i’n ystyried beth fydd Jehofa’n ei feddwl am fy newisiadau?’ Oherwydd ein bod ni’n caru Duw ac eisiau iddo fod yn hapus, rydyn ni’n ofalus i osgoi’r pethau sydd yn amlwg yn ddrwg, ond hefyd y pethau sydd efallai yn mynd i’w siomi.—Darllen Mathew 22:37, 38.

SUT I FOD YN HAPUS

19. Pwy sydd ddim yn gallu bod yn wirioneddol hapus?

19 Mae byd Satan wedi achosi i bobl ddioddef am tua 6,000 o flynyddoedd. Nawr, yn ystod dyddiau olaf y system hon, mae’r ddaear yn llawn pobl sy’n canolbwyntio arnyn nhw eu hunain, ar arian, ac ar bleser. Maen nhw’n meddwl am beth allan nhw ei gael ac yn rhoi blaenoriaeth i’w chwantau. Ond, ni all pobl o’r fath fod yn wirioneddol hapus! Ar y llaw arall, mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r un mae Duw Jacob yn ei helpu wedi ei fendithio’n fawr, yr un sy’n dibynnu ar yr ARGLWYDD ei Dduw.”—Salm 146:5.

20. Sut mae dy gariad tuag at Dduw wedi dy wneud di’n hapus?

20 Mae gweision Jehofa yn ei wir garu, mae llawer o bobl ychwanegol yn dod i’w adnabod a’i garu bob blwyddyn. Mae hynny’n profi bod Teyrnas Dduw yn rheoli, ac yn fuan, fe fydd yn dod â bendithion na allwn ni eu dychmygu! Pan ydyn ni’n gwneud beth mae Jehofa eisiau inni ei wneud, rydyn ni’n gwneud iddo deimlo’n hapus, ac mae hynny’n dod â llawenydd i ni. Bydd y rhai sy’n caru Jehofa yn llawen am byth! Yn yr erthygl nesaf, byddwn ni’n trafod rhai o’r tueddiadau drwg sy’n dod o ganlyniad i gariad hunanol. Wedyn, byddwn yn gweld sut maen nhw’n mynd yn groes i rinweddau da gweision Jehofa.